Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Tywydd Oer Oeri yn annaearol-yr ydoedd Er adwyth dinystriol; Her ias y rhew oesol, Yn ei far ddaeth ar fy ol. O  Mona May Lloyd Gwyryr yn llawn rhagorion—yw Mona Ddymunol o galon; Tystia'i gwedd fod hedd i hon, Ac iechyd bochau cochion. —o— Anerchiad Priodasol Ar ol gorchfygu'r Kaiser,— Yr adyn drwg ei lun; Bendithion anmhrisiadwy Sy'n dod i ami i un; Mi glywais am un bachgen Rhagorol iawn, yn siwr, Sydd wedi penderfynu I Annie Maud gael gwr. Afonydd gloewon Cymru Gydunant yn yr aig, Ac felly ffrydiau cariad Yn mynwes gwr a gwraig; Ein dymuniadau goreu O'r gorllewinol fyd! Chwareuant fel eryrod 0 gylch eich anedd glyd! EDWARD JONES, Cambria, Wis. -:0:- Hyder y Credadyn o Iesu trugarog, Fy Arglwydd a'm Duw, Rho i'm dy fenditfiion, I'm cadw yn fyw; Hwy lonant fy nghalon, Hwy ddaliant fy mhen Yn wyneb pob adfyd A gyfyd is nen.. Pan gasglo y cymyl Nes duo y nen, Heb haul yn yr entrych, Na seren uwchben, Daw goleu o'r orsedd I loni fy mron, A llaw fawr drugarog I'm dal uwchlaw'r don. k Y PARCH. THEO. DA VIES. Or Niwi ilr Nef 'Rwy'n myn'd, fy nhad a mam, I. wlad na ddof yn ol, 'Rol teithio Ilawer cam Dros lawer bryn a ddol; 'Rwy'f wedi blino'n lan, Fy nerth sydd yn gwanhau; Mae afon o fy mlaen, A niwl o'm cylch yn cau! Tu hwnt i'r Mynydd Du 'Rwy'n gwel'd rhyw hyfryd wlad, A thuag ati hi 'Rwy'n myn'd, fy mam a 'nhad, 'Rwy'f wedi colli'r ffordd, Fy ffryndiau sydd ar goll; A minau yn y nos Yn chwilio am danynt oil. Ond nid oes un a ddaw I'm cwrdd yr ochr hyn, Ond mae yr ochr draw Yn llawn o engyl gwyn; Ac fel yn gwneyd i gyd Na chaf fi unrhyw gam; 'Rwy'n myn'd i'r bythol fyd- Ffarwel, fy nhad a mam! Mae afon o fy mlaen, 'Rwy'n clywed swn y don; 'Rwy'n gwel'd y rhai sy'n byw Tu hwnt i ffrydiau hon; Mae melus hun yn dod, 'Rol dydd o dudded maith, A minau'n teimlo fod Gorphwysfa ar ben y daith. I groesi i'r ochr draw Nid OQS ond megys cam; 'Rwy'n myn'd i'r byd a ddaw- Ffarwel, ffarwel, fy mam! WATCYN WYN. (0 "Gerddi'r Mynydd Du") Profiad Shoni'r Halier yn Ffrainc I (Yn nhafodiaith Cwm Rhondda) 'Roedd pawb yn adnabod Shoni— Mab Betsan a Shams Ty Fry- Ar gyfrif ei sel dros anrhydedd y cor Anfarwolodd y Gilfach Ddu. Pan y dychwelodd am dro o Ffrainc, v I'w gwrdd yr aeth modur y plas, A llanwyd Neuadd y Gilfach Ddu Gan fechgyn y creithiau glas. Pan alwyd ar Shoni i siarad, Cododd y dorf ar ei thraed, A chroeso teilyngach ni chafodd neb Ddychwelodd o faes y gwaed. "On i ddim weti bryddwyto," Meddai Shoni gan edrych yn syn, "Am gal shwd bresant bach net gita chi, A hed shwd reception a hyn. "W i ddim rhw lawar o spowtwr, Cheso i ddim o'r gift of the gab, Ishta cas rhai 6n cyd-withwrs, Ac ishta cas Dai, pwr dab. "Fe Hewn pe ta fa yma, Fe weta fe'r stori'n boleit, Odd Dai, i chi'n gwpod, yn scolar da, A spowtan odd i unig ddeleit. "Ishta. i chi gyd yn gwpod Fe liston ni'n dou ar y start, A fuo ni ddim shiffad cyn lando yn Ffrainc, Ma John Bull amball dro yn lied smart. "Os gita chi ddim dirnatath Am y picil sy ar y wlad, Ma'r cwbwl ishta twll rwbesh, A phopath mor hyllad a brad. "Lica chi tast ar uffarn Saith twymach na'r Dardanels? Croeswch y Shannal i wlad y French I ganol y slwdj a'r shells. "Un creulon ofnatw yw rhyfal, A ma'r hewl sha Berlin yn un hir, Ond cretwch chi fi, fe fydd raid i Fritz Yn y diwedd ddodi 'drad yn y tir. "Fe startws i ffordd acha gallop, Ond fe stagws yn waff yn y ffos, Ma fa'n stablan shew, on q yn mwdjid dim, Ma fa ishta hen iar yn y tos. "Odd a'n ddicon gwell gwr na'r French- man On' bai am John Bull, os dim dowt; Y fe ddotws sprag yn i wheel a, A fe ddotith iddo'r knockout.. "Fe welws shew o'r bois yr angyllon Fu'n wmladd yn Mons gita ni, A fe welas inna angylion hed,- Angylion y Red Cross walas t "A diolch i Dduw am danyn' nhw i gyd, Ma nhw'n dynar, dewr a dinam, Ond y ffeina a'r biwra gwrddas i- Odd hi'n whilia r'un iaith a mam. "Annghofia i byth mo honi, 'Rwy'n i gweled hi'r fynyd hon, A'r bachan listws 'r un dwetydd a fi Yn marw a'i ben ar 'i bron. "Weta i ddim llawar yn rhacor— Pan gwrddas i weti'n a hi, Odd hi'n planu biota ar feddrod Dai, A bedd sowldiwr y gatar ddu. "Bois, pidwchiwhilia am gwpla Cyn cwmpla'r Kisar a'i griw, Ond pitshwn miwn nes cal whara teg I bawb ishta'i giddyl i fyw." I Pentre. Rhondda. MILWYN. I Pentre, Rhondda. MILV%ryN.

I Y DIWEDDAR RUSSEL JONES,…

Advertising

[No title]

Y DDIWEDDAR MRS. MARGARET…

PRIODAS YN TORONTO, CANADAI

IY DDIWEDDAR MRS. DAVID R.…

Advertising

[No title]

I"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…

Advertising