Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

ADGOFION!

News
Cite
Share

ADGOFION .I Gan T. J. L Yn fy nodiadau blaenorol, gwnes gry- bwylliad am Treharris, Mynwent y Crynwyr. Feallai mai dyddorol i am- ryw o ddarllenwyr y "Drych" fydd ychydig o hanes dechreuad y dref a fu am rai blynyddoedd yn enwog, o her- wydd y pyllau dyfnion a agorwyd yno, pa rai sydd yn agos i 800 o latheni o ddyfnder, ac yn amser eu hagoriad, y rhai dyfnaf yn Nghymru. Fel arwydd o barch i Mr. Harris, un o brif aelod- au'r cwmni, enwyd hwy "The Harris Deep Navigation Colliery"; ac am yr un rheswm enwyd y lie yn Treharris; a chan ei fod yntau o linach hen deulu o Grynwyr, dewisodd enwi rai o'i brif heolydd mewn parchus goffadwriaeth am rai o enwogion y sect hono, set Fox St., Penn St., Fell St., &c. Nis gwn yn sicr pa bryd y dechreuwyd suddo y pyllau hyn, ond yn y flwyddyn 1879 y dechreuwyd codi glo. Yr oedd dydd yr agoriad yn un a hir gofir gan y rhai oedd yn dystion i'r olygfa, pan aeth Mrs. Robert Beith, priod Mr. Beith, y chief engineer, yn nghyd ag amryw o'r swyddogion, i lawr, a chanddynt doraeth o flodau amryw- iog, pa rai a osodwyd gan Mrs. Beith yn addurniad drefnus ar ben y dram lawn ag oedd i hysbysu agoriad y pyllau en- wog. Heblaw aelodau'r cwmni ag oedd- ynt yn bresenol, daeth amryw o gyfeill- ion Mr. Harris gydag ef o Lundain i fod yn dystion i'r amgylchiad, a mawr y syndod a amlygwyd ganddynt yn yr hyn a welsant. Profodd Mr. Harris ei hun yn fon- eddwr yn mhob ystyr, o herwydd ni chollodd olwg ar angenion y gweithwyr tuag at eu cysuron, tu allan i'w oruch- wylion; felly trefnwyd iddynt fwynhau eu horiau hamddenol mewn modd ad- loniadol ac adeiladol, trwy agor coffi- tavern, lie yr ymgasglai'r dynion, ieu- ainc yn oriau'r hwyr, lie y gallesid cael coffi ac amrywiaeth o bethau bwytadwy am ychydig geiniogau, neu fyned i'r reading room, lie yr oedd digonedd o lyfrau ar wahanol bynciau; neu os myn- ent, i chwareu chess, checkers neu dominoes. Yr oedd yno hefyd ddigon o dalent gerddorol, offerynol ac adrodd- iadol i gynal cwrdd llenyddol bron bob ns Sadwrn yn yr assembly room, a hir y. cofia y rhai a fwynhawyd y cyrddau hyn yr amser da gafwyd yn nglyn a'r coffi-tafarn. Yr oedd hefyd wr a'i wraig ag oedd Mr. Harris wedi eu cyflogi i ymdroi yn mhlith y trigolion fel math o genadon, neu "Christian comforters," i ymweled a'r cleifion a'r rhai oedd yn dyoddef effeithiau y damweiniau a ddygwyddai yn ami, ond gan mai Season o Lundain oedd y bobl barchus hyn, ac yn ddyeithr i arferion y bobl oeddynt yn dyfod i gyffyrddiad a hwy, ni ddangoswyd idd- ynt y parch a gawsant pe yn Gymry; ond edmygwyd teimlad caredig Mr. Harris tuag at y teuluoedd, y rhai oedd yn ei wasanaeth. Mr. Thomas J. Evans, neu, yn wir, y Parch. T. J. Evans, gan iddo gael ei ordeinio yn weinidog ar eglwys y Brith- dir, tra yn oruchwyliwr ar byllau y Fochriw, oedd yn oruchwyliwr yn Nhre- harris, ac er mai Bedyddiwr oedd, casglwyd o'i amgylch ddynion profiadol perthynol i bob enwad, a'r Methodist- laid.oedd y cyntaf i godi capel yn y Ile. Trwy garedigrwydd y frawdoliaeth yma, cynaliwyd cyfarfodydd neillduol gan amryw o'r enwadau yn y capel hwn, fel y lie mwyaf cyfleus. Yma am yr unig tro y gwelais ac y clywais yr enwog Robyn Ddu Eryri yn traddodi darlith. Cofiaf ei fod yn ymddangos yn fethedig gan henaint. Y Bedyddwyr Seisnig oedd y nesaf i agor capel yno, ac yr oedd ganddynt eglwys weithgar a llewyrchus; y bobl ieuainc yn enwog am eu cyfarfodydd adroddiadol a llen- yddol o bob math. Tua'r un adeg, agorwyd vestri gan yr Annibynwyr yn DreLewis, lie yr oedd y boblogaeth yn cynyddu yn gyf- lym, ac yn fuan ar ol hyn, agorwyd ves- tri hefyd yn Dreharris, ond er's blyn- yddoedd mae ganddynt gapel hardd yn dwyn yr enw Bethania. Cydaddolai'i- Bedyddwyr Cymreig am dymor a'r frawdoliaeth yn hen eglwys, enwog y Berthlwyd, ac yr oedd ar y pryd o dan weimtdogaeth y Parch. E. Jones (Ior- werth Ddu), Maesteg yn awr, ond nid hir y buont cyn awyddu am sefydlu achos yn Nhreharris. Felly y bu, a chynaliwyd eu cyfar- fodydd yn y "long room" perthynol i'r gwest^ar Fox Street, ac er fod tua deugai? mlynedd wedi myned heibio wedi y mudiad hwn, nis gallaf bender- fynu achos y fath frys ar ran y brodyr da hyny i ymadael a'r hen eglwys nod- edig yn Mherthlwyd, a'i gweinidog, yr hwn oedd eisoes wedi enwogi ei hunan fel meistr y gynulleidfa. Edrydd hanes amryw o hen eglwysi Cymru gydag anwyldeb tuag at ryw hen ysgubor neu dy anedd fel y lie y'u ganwyd, ac er fod Pen Mawr yr Eglwys wedi addaw bod "lie bynag fyddo ond dau neu dri," ymddengys fel tro an- ngharedig i'w gwahodd i'r ystafell He yr oedd arogl y diodydd meddwol yn gwrthryfela yn fynych yn erbyn yr arogl-darth peraidd" yn ngweddiau yr addolwyr. Ond nid -hir fu'r brawdol- iaeth hon cyn codi vestri gyfforddus, ond cyn gorphen yr adeilad, ymwelwyd a'r gymydogaeth gan ystorm erchyll, a chwythwyd y to yn gorfforol i'r pant wrth ochr y rheilffordd ger Haw, ond yn mhen ychydig amser gorphenwyd y vestri, a chafwyd cyfarfodydd agoriadol hwylus. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parc'hn. Mona Jones (Plymouth, Pa., yn awr), yr hwn oedd ar y pryd yn new- ydd olynydd i Mathetes yn Rhymni, a'r hen batriarch, Benjamin Evans, Cas tellnedd; tebyg fod yno eraill yn pre- gethu, ond ni chlywais ond y ddau a enwyd. Yn mhen ychydig amser, cod- wyd capel hardd sydd yn anrhydedd i'r eglwys a'r dref, yn dwyn yr enw Bryn* hyfryd, a'r eglwys yn hynod o lwydd- ianus dan weinidogaeth y Parch. W. Jones. Bum yn bresenol yn un o'i gyf- arfodydd agoriadol, pan oedd y diwedd- ar Barch. Gomer Lewis, Abertawe, a'r Parch. Winkes, olynydd Dr. Griffiths yn Bethania, y Bedyddwyr Seisneg yn Nghaerdydd, yn pregethu. Dr. Winkes oedd gweinidog y cyn- Faer Jones, yr hwn hefyd oedd yn un o gwmni yr "Harris Navigation," a thrwy hyny, mae yn debyg, y gwahoddwyd y Doctor i roddi pregeth Seisneg. Testyn Dr. Winkes oedd, "Dirgelwch yr Ar- glwydd sydd gyda y rhai a'i hofnant Ef." Cafwyd pregeth rhagorol o ddy- lanwadol, gallem feddwl, a chofiaf yn dda rai o'i sylwadau, yn dangos y gyf- rinach rhwng y credadyn a'i Dad nefol sydd yn peri iddo fod yn llawen mewn gorthrymderau, yr hyn sydd yn anes- boniadwy ond i'r rhai a'i hofnant Ef. Ymadawodd y Doctor yn union wedi y bregeth, yr hon, mae yn debyg, oedd rhy faith i foddio Gomer, yr hwn oedd i'w ddylyn, o herwydd pan esgynodd i'r areithfa, dywedodd yn o sarug, "Oni bae fod y Sais yna yn gorfod dala'r tren, cheswn i ddim pnegethu o gwbl"; yr hyn a barodd chwerthiniad cyffredin- ol yn mhlith y Cymry. 1

I LANSFORD, PA. ,

[No title]

IY DIWEDDAR JOHN EVAN THOMAS,I…

[No title]

Y DIWEDDAR OWEN O. JONES,…

I BRISTOL, MINN.

Advertising

PWLPUD Y DRYCH

NESQUEHONING, PA.

[No title]

Advertising

rPAUL YN OL E. P. D.