Hide Articles List

2 articles on this Page

N - - - -r CAPEL ALS, LLANELLI.…

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.

News
Cite
Share

LLYTHYRAU AT FY NGHYD- WLADWYR. IvlA'TliYR 9. AXNWYIV MR. A MRS. THOMAS, Llongyiarchat chwi ar eich penderfyniad i roi ysgol dda i'ch dau blentyn, Dewi ac Olwen. Erbyn hyn y maent wedi bod flwyddyn yn yr Ysgol Ganolraddcl. Sylwaf gyda phleser mawr eicli bod -vn dal i sia,rad N (? eich bod yn dal i siarad y Gynuacg-a'r Gym- raeg yn unig a hv\ vnt ar yr aelwyd ond dywed- wch i mi, beth ar wvneb y ddaear achcscdd i chwi ddewis iddynt gymryd y Ffrangeg fel iaith i'w hastudi) yn hytrach na'r Gymraeg ? Gwnaethoch gamsyniad dybryd ac yr wyf yn ofni mai camsyniadau rhieni Cymreig o'cli bath chwi sydd, i raddau mawr, yn gyfrifcl am v ffaith mai oddeutu un o bob tri (er y deffrcad mawr gymrodd le yn y mater yn y blynyddau diweddaf) o blant Cymru sydd vn astudio'r Gymraeg yn yr ysgolion canolraddol, a bod oddeutu chwarter ysgolion canolraddol Cymru heb lyfr Cymraeg yn eu llyfrgelloedd. Yr wyf wedi bod yn ceisio meddwl yn ddifrifol beth all fod y rhesymau dros eich dewisiad. Taflais o'm'meddwl ar unwaith y posibilrwydd eich bod yn credu fod. eich plant wrth ddysgu ychydig o'r Ffrangeg yn codi gradd yn uwch na'r bobl na wyddant ddim am yr iaith. Y mae gennyf ormod o feddwl o'ch syrnwyr cyffrediu cryf ac o'ch atgasrwydd at benwendid o'r fath yna i gredu am foment mai dyna eich rheswm. ⢠Gallwn fod yn eithaf sicr pan ddaw ein bechgyn adref o Ffrainc, wedi bod 3110 am flwyddyn neu ddwy, a chael gafael go lew ar yr iaith, y rhoddir taw am byth ar y plant balch a dichwaeth hynny geisiant ddaugos i'r anwybodus eu bnd yn medru parablu ychydig frawddegau o iaith arall. 0 bosibl eich bod yn meddwl i Dewi dreulio ei fywyd ym myd masnach, ac yn barnu y bydd y Ffrangeg yn fwy o werth iddo na'r Gymraeg yn y byd masnachol. Peidiwch a thwyllo eich hunain os yw Dewi yn mynd i dreulio ei fywyd yng Nghymru, gallwcli fod. yn hdlcl sicr yn eich meddwl y bydd gwybodaeth dda o'r Gymraeg ddengwaith 3-11 fwy o werth iddo mewn masnach na gwybodaeth o'r Ffrangeg. Y mae Iddewon Caerdydd yn sylweddoli hynny ac nid oes neb yn fwy awyddus na hwy i'w plant gymryd man- tais ar y eyfle i ddA'sgu'r Gymraeg yn yr ysgolion. Wrth gwrs, os yw Dewi yn bwriadu bod yn ysgrifennydd estronol yn un o swyddfeydd mas- nachol mawr Caerdydd neu Abertawe, fe fydd yn rhaid iddo ddysgu'r Ffrangeg. Ond peidiwch meddwl y bydd tair neu bedair blynedd o astudio'r iaith yn yr ysgol sirol yn ddigon hynny. Nid oes yr un masnachwr cyfrifol yn ddigon fiol i ymddiried llythyrau pwysig i fachgen sydd wedi dysgu ei Ffrangeg yn yr ysgol yn unig. Fe fydd yn rhaid iddo fynd i Ffrainc am flwyddyn neu ddwy ac yr wyf am i chwi ddeall beth clyga hynny i fachgen ieuanc o Gymru. Y mae llu o'n bechgyn yiio yn awr, ond y maent gyda'i gilydd, a'n eaplaniaid a'r Y.M.C.A. yn cadw golwg arnynt. Ond os a'ch mab chwi yno, fe fydd wrtho ei hun, ac ynghanol temtasiynau. Yr wyf yn anfodlon iawn i farnu dim ar Ffraine ar hyn o bryd. Y mae i'r genedl rinweddau mawrion mae wedi ymladd lawer tro dros y gwan yn erbyn y cryf. ac fe gyll ei gwaed goreu yn awr yn brwydro dros ryddid a chyfiawnder. Ond y mae yn deg i chwi wybod, w er mwyn eich plant, fod y syniadau goleddir yno ar foes a chrefydd yn wahanol iawn i'n syniadau ni. Rhoddaf felly i chwi rai dyfyniadau o lyfr, sef France in the Twentieth Cent-ury, gan W. L. George (Alston Rivers, Ltd.), wedi ei ysgrifennu gan Ffrancwr sydd wedi byw y rhan fwyaf o'i fywyd yn Ffraine, ac sydd yn ysgrifennu er mwyn codi syniad Prydain am bobl Ffrainc. Fe ga'ch mab ei demtio yn arw yn foesol a chrefyddol, caiiys Moral purity, as we under- stand the term, is practically unknown among French bachelors-' (tudal. 35T) tra y dywedir am yr Eglwysâ' The Church is dying dying hard, but surely Another generation and those that were devout will be agnostics