Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MORIAH, BEDLINOG.

News
Cite
Share

MORIAH, BEDLINOG. Ymadawiad Giveinidog.—Br syndod mawr a siomedigaeth flin i'r eglwys ym Moriah, gwnaeth y Parch T. J. Jones, ei pharchus weinidog, yn hysbys y Saboth o'r blaen ei fod wedi derbyn gwahoddiad i yrasefydtu yn yr Unol Daleithiau, a'i fod hefyd wedi penderfynu mynd yng nghyfeiriad yr alwad i'r tuhwnt i'r Werydd. Deallwn ei fod wedi derbyn rhagor nag un gwahoddiad, ac yn arbennig un oddi- wrth eglwys sydd gyda'r gryfaf a'r barchusaf o eglwysi Cymreig y Gorllewin. Llongyfarchwn ef yn galonnog iawn yn llwyddo i ennill serch mewn ffordd mor ddistaw, heb ddim ond y son sydd am ei lwyddiant, ac am dano yntau fel cymeriad, gweithiwr a phregethwr. Mawr fydd y llawenydd yn ddiau pan gyrhaedda ef at y son sydd am dano-pan y gwelir ac y clywir ef ei hun, ac y ca'r briodas ei selio Dymunwn iddo ef a'i briod hawddgar y llwydd- iant a haeddant y tuhwnt i'r llyn. Boddlawn a fyddo iddynt fynd drosto mewn tawelwch Cydymdeimlwn hefyd a'r eglwys ym Moriah wrth orfod gollwng ei gafael o un oedd mor ddwfn yn ei serch, a'i pharch tuag ato mor fawr. Ei harwain a gaffo eto gan yr un ysbryd doeth a da yn y dyfodol.

ITELERAU RHESYMOL HE DOW CH.

I Bryn Seion, Pencoed.

I CASTELLNEDD A'R CYLCH.

[No title]

Family Notices

Advertising

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.