Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
m Drlpcb., A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. i,osrued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is eailsc to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the Brttiah Dependencies. It is the recognised National Organ of the Welsh People.
Y PECHOD GWREIDDIOL. I
Y PECHOD GWREIDDIOL. I Gan Plas Gwyn. William Blake a ddywedodd "Y mae pobl na sylwant o gwbl ar natur," a dywed un hanesydd i John Calfin dreulio ei oes yn gyfan heb wneyd sylw o fath yn y byd o brydferthwch a rhamantusrwydd natur, ac yn enwedig o odidogrwydd gweledfeydd Geneva a'r amgylchoedd. Yr oedd wedi ei lyncu i fyny gan yr arfaeth, etholedig- aeth, cwymp dyn, priodoleddau yr Anweledig a'r Anamgyffredadwy, erchylldera J. uffern ac amgylchiadau a dygwyddiadau teyrnas y Diafol. Yr oedd ar hyd ei oes ddychweledig yn hunan-alltudiedig o'r byd a'r bywyd presenol. Bu hyn yn anfantais fawr iddo fel duwinydd ac athronydd. Saf- odd ar ei ffordd i efrydu pechod a chy- frifoldeb. Hyn barodd iddo fod mor galed ar ddyn;. wnaeth iddo' gyfrif pechod Adda i'w hil druenus, yn lie pechod ei hil i Adda; ac a barodd iddo gyfyngu y drwg oil i ddyn yn lie ei Vii sylfaenol i natur ac i fywyd ei hun. Ond i ddychwelyd at natur. Mewn llyfr dyddorol iawn a welsom yn ddiweddar, soniai yr awdwr yn ddi- fyr iawn am enaid y pren. "I'r cyff- redin," ebe barddes o nod, nid yw y pren ond coed tan," i'r bardd ac fe ddylai fod i bob dyn meddylgar, ac yn enwedig i'r duwinydd, y mae yn cyn- wys elfenau dynol. Y mae bywyd o'i ddechreu yn rhagawgrymu dyfodiad y dyn. Y mae Duw wedi rhoddi yn y coed a'r llysiau allu bywydol a phriod- oleddau a addfedant yn y bywyd dyn- 01. Deuant yn agos i ni yn y ffaith eu bod yn rhywiau fel dyn; ac ebe un arall "O'r braidd y gallwn ymgadw rhag son am eu carwriaeth." Ceir y naill bren yn wryw a'r llall yn fenyw, ac nis gall y pren ddwyn ffrwyth ond drwy gludiad yr elfen ffrwythlonol o'r naill i'r llall mewn ffyrdd cyfriniol. Darwin sylwodd gyntaf ar hyn, ac y mae ganddo efe ymdriniaeth ddyddor- 01 iawn ar hyn, na wyddai y byd blaenbrol y peth nesaf i ddim am dano. Fe sylwa pawb fod y fath bethau ai phlant-goed a plilant-lysiau (planig- ion), ac mor debyg i blan t dynion yd- ynt! Ebe un yn farddonol iawn, "Trees love, marry and have wedding robes, and have feasts of honey and flowers;" a thebyg, oni bae eu 'bod yn gaeth i'r pridd, yr aent ar eu mis mel, fel yr a meibion a merched dynion. Pe gwyddem ni lawer mwy am natur, ni fuasai ein golygiadau duwinyddot mor annaturiol ac anmrwd. Wrth olrhain pechod oddi uchod yn He oddi-isod, aethom i bob eithaf am- ryfusedd. Gwna Bergson lawer o In- tuition (canfyddiaeth neu wybydd- iaeth), sef y gallu i wybod drwy weled neu deimlo, yn hytrach na thrwy ym- resymu. Cawn yn mhlith dynion re- symwyr da, ond resymasant a rhesym- ant bethau afresymol iawn, fel y cawn ddynion drwy orfyw yn niweidio a dyfetha eu bywyd. Pe y dychwelem yn ol at draed natur, caem lawer o wy- bodaeth fuddiol, a gywirai lawer ar ein duwinyddiaeth uwchanianol ac afresymol. Plant natur ydym eto, a rhaid i'n dysgeidiaeth fod yn seiliedig ar natur. Y mae ein duwinyddiaeth hyd yma wedi bod yn rhy annghysyllt- iol a'n natur a'n proflad. Ond i ddod yn ol eto at ein brodyr, y pren a'r llysieuyn. Cof genym ddarllen am ryw lysieuydd a fwriadai ysgrifenu llyfr dan y peniad, "Byw- graffiad y Coed, eu Llawenydd a'u Gofidiau," ac mor amlwg yw fod eu gyrfa, fel eiddo dyn, yn un o fyw a marw! A phwy na chanfu y peryglon a'r ofnau a amgylcha y byd llysieuol. Pe bae gan y pren a'r llysieuyn ymwy- byddiaeth, hwy fyddent mewn ofn y dydd, a dychryn y nos. Y dydd o'r blaen, gwelsom yn y "Drych" am bla o elynion y iblewyn glas-y bywyd llys- ieuol-yn fyddin gref fel y German- iaid yn Awst yn ymosod ar Belgium, yn bygwth rhanbarth o Dalaeth Wash- ington, a gorfu i'r amaethwyr gloddio gwarchffosydd a gwrthgloddiau i'w cadw yn 01, ac aethant ati yn ddioed ac yn egniol, yn hytrach na mabwys- iadu cynllun W. J. Bryan, o heddwch am flwyddyn, i benderfynu ar ffyrdd, i ddyogelu heddwch. Ni ellir roi ym- ddiriedaeth ar geiliogod y rhedyn fwy nag ar haid o Germaniaid. Pe buasai y byd llysieuol yn Washington yn ym- wybodol, tebyg y teimlai fel pobl Bel- gium a Gogledd Ffrainc yn wyneb ym- osodiad y pla rheibus, a byddai yn debyg o briodoli y mudiad dinystriol i ryw Gaisar o geiliog y rhedyn yn eu I harwain. Ond y mae y manfilod a'r haintfodau hyn yn bethau cyffredin yn bygwth y byd llysieuol. Nid oes ffrwythyn na iblodeuyn, na deilen, na gwelltyn nad yw yn agored i ryw ddinystrydd neu gilydd. Os y torir afal bochgoch ar ei draws, damwain yw na fydd o'i fewn ddiafl o ryw fath o bryfyn yn byw ar ei goluddion; a chofier mai; pryf yr afal yw; brodor o'r byd afal- aidd. Nid ymfudwyr yw y pryfaid hyn, eithr hanant o'r sylwedd y maent yn byw ynddo. Edrycher dan geseil- mu y dail; edrycher i fynwesau y blodau; chwilier i risgl y pren; treidd- ier i galon y goederi, a cheir y pryfaid hyn yn ymgartrefu yno. Gyda phob chwiliad y ceir chwilen. Ceir pryfyn a llwgr yn yr afal. Ie, ond ebe y dyn, tynu at y siwgr y maent. Nage, yn, wir; ceir yr hyn a elwir yn bryfyn y wynionyn; ac nis gallai hwnw fyw yn yr afal, oblegid brodor o'r wynionyn I yw. Y mae i bob ffrwythyn ei chwilen ei hun, yn, frodorol o hono; yn y fetysen siwgr fel yn y bytaten; yn y ddeilen dybaco fel y grawnswp. Hana rhyw fath o chwilen neu ibryfyn o bob ffrwyth, deilen neu wreiddyn. Nid oes ffrwythyn na dalen na gwreiddyn yn rhy chwerw i ryw ddiafl o chwilen neu bryfyn wneyd ei lety yno! Nid yw y ffrwythyn iachaf yn ddyo- gel rhag y gelyn drwg hwn, oblegid ymosodant ar y tomato, yn bictiwr o iechyd, ac eto dywedir y pydra ei ddail ac y syrth y planigyn yn swp mewn wythnos. Y mae drygau fel hyn yn y byd llysieuol sydd yn fwy andwyol na'r fasnach feddwol neu rhyfel; ac y mae eraill a ddifrodant feusydd yn debyg i fel y gwna y geri neu y pla bywbonig yn mhlith dynion. Y modd- ion a ddefnyddia natur i waredu y byd llysieuol rhag y plaau hyn yw yr adar y rhai a gedwir drwy y dydd yn dy- fetha y pryfaid; ond nid yw y feddyg- iniaeth hon yn ddigonol i foddio yr amaethwr a'r garddwr, oblegid defn- yddiant fferylliaeth gyda gwahanol beirianau ac offer taenellol i effeithio yn fwy dinystriol arnynt. Cymwysir cangen o ddysgeidiaeth a ch'ymwysa mintai fawr o chwilwyr eu j doniau yn barhaus i gynorthwyo yr adar yn y gwaith o ddyfetha gelynion y byd llysieuol. Gwelsom yn ddi- weddar gyfrol drwchus yn ymwneyd a'r gwaith gwaredol hwn o amddiffyn j y byd llysieuol rhag plaau y chwilen, y gwyfyn, y pilai, a'r bwg o bob rhyw- ogaeth a phob gradd o felldigedig- i rwydd. Ac fel yr awgrymasom eisoes, pa; beth fyddai teimlad a phrofiad y byd llysieuol pe yn ymwybodol fel y mae dyn yn ymwybodol? Ai ni theimlai. fod rhywbeth fel pechod wrth wraidd peryglon, gofidiau ac afiechydon bywyd y pren a'r llysieuyn? Pa fodd y teim-1 lai a pha beth fyddai profiad gwrysgen y bytaten neu wlyddyn y tomato yn cymeryd salwch heddyw ac yn marw yfory o glefyd dyeithr, yn duo drwydd- ynt, fel yn pydru gan gancr, ac yn trengu yn mhen yr wythnos? A briodolent hwy farwolaeth i gwymp rhyw Adda o lysieuyn rywbryd yn y cynfyd? Ac, yn siwr, at ni weddient am waredwr i'w hachub rhag corff y farwolaeth a'i blinai? Mor briodol y dywedaswn uchod fod gyrfa y pren a'r llysieuyn yn yrfa o fyw a marw!
[No title]
Dyma ddywed un Esgob Seisnig: "Mae pob llythyr a ddaw i mi o'r ffos- ydd a'r gwersyilfeydd yn dangos fod cymeriadau ein dynion ieuainc yn cael eu dwyshau a'u cryfhau drwy fod dy- gwyddiadau y deng mis diweddaf wedi gwneyd iddynt feddwl drostynt eu hunain. A dyna yw profiad llawer heb law fy hun." Dywed Caplan un o Ysbytai'r Groes Goch, lie mae 2,000 o ddynion: "Nid wyf wedi cyfarfod a dim engreifftiau lie yr oedd ffydd gref- yddol neb o'r dynion wedi cael ei dy- fetha gan eu dyoddefiadau hwy eu hunain neu a welsant o ddyoddefiadau eraill. Eithr, yn hollol i'r g-wrth- wyneb. Gwelir ynddynt fwy o ddifrif- wch ac o feddylgarwch."
IWIL CAERWYNI ETO.
I WIL CAERWYNI ETO. I Gan Maurice C. Roberts, New York. I Rhyfedd fel y mae y Cymro (?) hwn yn beiddio dangos el wyneb ath- rodgar heb wrid na chywilydd ar glawr y "Drych;" ymorchesta yn ei ffieidd-dra, ac esiampl nodedig yw o un o'r bobl hyny ag y "mae eu gogon- iant yn eu cywilydd." Dywed fy mod i yn beryglus i'r gwirionedd am fy mod yn ysgrifenu mewn "dull boneddigaidd ac es- mwyth." Hynod iawn, yr oeddwn i yn meddwl fy mod wedi ymdrin ag ef mewn modd sarug ddigon. Ond ni waeth am hyny, fe saif y gwirionedd yr un mor gadarn yn wyneb lledneis- rwydd ag y gwna yn wyneb sarug- rwydd a bryntni. A dyma gyhuddiad anwireddus y mae yn ddwyn yn fy erbyn mewn dull hamddenol a diniwed, megys. Dywed: "Un ochr geir gan M. C. R. Yn ei ysgrif am Mai 20fed, dywed fod llu- aws o wledydd y byd wedi bod yn er- fyn am gael eu denbyn o dan aden amddiffynol Prydain. Ond ni ddywed pa wledydd, na pha bryd yr ymgrymas- ant o flaen 'brenines y byd,' a chael eu gwrthod gan ei mawrhydri." Edryc:h eto Wil, a chanfyddi dy fed yn dwyn camdystiolaeth noeth, canys cyfeirio yr oeddwn i yn y dyfyniad a nodir uchod at yr hyn a ysgrifenais ychydig wythnosau ya flaenorol i'r "Drych," yn mha lythyr yr wyf yn enw! y gwa- hanol wledydd hyny bob yn un un, gan nodi y dydd a'r mis a'r flwyddyn yn nglyn a .pho'ù dygwyddiad, a man- ylion eraill o a'^yddordeb. Drwg geT,- yf nad yw y llythyr nei'ildu*^l hwnw wrth law genyf, fel y gallwyf roddi dyddiad ei ymddangosiad. Ond gallwn feddwl fod Wil yn dysgwyl i mi ail adrodd fy Ilythyrau yn gyflawn, a'u cadw yn y golwg yn barhaus fel pe byddent hysbysiadau masnachol. Yr wyf fl yn ddigon boddlawn i hyny hefyd, os gwna efe sefyll yn gyfrifol am y gost i berchenog y "Drych." Eto dywed Wil: "Nid oes gan Bry- dain fodfedd o'r ddaear, ond yr hyn a ladrataodd." A gofyna wedi hyny mor blentynaidd: "Pa fodd yr aeth tiriogaeth Prydain yn eang os nad trwy ladrad a thywallt gwaed?" Dy- lasai Wil fod yn gwybod hanesiaeth yn llawer amgenach na hyn yna, cyn cymeryd mewn llaw addysgu darllen- wyr y "Drych" mewn pwnc nad yw yn gwybod dim am dano. Pa fodd bynag, yr wyf yn foddlawn rhoddi byr ateb- iad i'w ofyniad. Fe aeth tiriogaeth Prydain yn eang, yn benaf, trwy ddar- ganfyddiad, ymohwiliad a thrafnid- iaeth. Hefyd daeth rhanau i'w medd- iant trwy wirfodd ewyllys cyfran fawr, neu yr oil o'r boblogaeth. A gwir fod rhanau eraill wedi dod i'w meddiant trwy frwydro, fel ag y daeth yr Israeliaid i feddiant o wlad Canaan. Gorchfygodd* y Saeson yr hen Brydein- iaid trwyi gymorth Prydeiniaid a'u bradychodd. A gorchfygwyd y Saeson. gan y Normaniaid gyda chymorth y Daniaid. A gwir yw y gellid dweyd am bob cenedl ar wyneb y ddaear, nad oes ganddynt fodfedd o'r ddaear ond yr hyn a ladratasant, fel y dywed Wil am Brydain. Yr oedd pob gwlad yn cael ei phreswylio yn flaenorol gan ryw nifer o frodcrion Indiaidd, canibalaidd gwar neu anwaraidd, boed fel ag y bo. A phan y mae gallu mwy gwaraidd yn dod o amgylch ac yn rhoddi i wlad lywodraethiad, yr hyn nad oedd gan- ddi o'r blaen, neu o leiaf un well nag oedd ganddi o'r blaen; mae yn gwneyd gwaith da a buddiol, gan atal y bobl i ladd a thraflyncu eu gilydd fel y gwna y 'Mexicaniaid y dyddiau hyn. A hyn sydd yn bwysig i ni ei ystyr- ied, sef pa fodd y daliodd Prydain ei gafael yn yr holl wledydd dan ei choron, tra mae rhai galluoedd eraill wedi colli yn mron yr oil o'u tiriog- aetliau ? Y mae y rheswm am hyny yn hollol wybyddus i bawb ond Wil Caer- wyni a'i gyfeillion, sef fod Prydain wedi llwyddo yn hyn trwy enill serch ac ymddiriedaeth y bobloedd dan ei gofal, gan roddi iddynt lywodraethiad rhyddfrydol a daionus. Dyna i ti, Wil, rywbeth gwerth i ti ei gofio; dyro fe yn dy getyn ac ysmyga ef wrth dy hamdden. Dywed Wil hefyd: "Fod M. C. R. yn derbyn adroddiad y iSais am dano ei hun yn unig." Anwiredd eto Wil, oblegid bum yn ofalus iawn i ochelyd y peth hwn. Druan o honot, mae dy lythyr mor gam a cholwyddog fel ag i'w wneyd yn ddirmygus, a hollol an-j haeddianol o sylw ond yn unig fel y mae yr ysgerbwd mwyaf ffiaidd yn haeddu cael ei hyrddio o wydd dynol- ryw i fangre y purdan a difancoll- J rwydd. Y mae gwr o Ellmyn yma yn New York, heb fod neppell oddiwrthyf, sydd yn fwy hyawdl yn ei gondemniad o ryfelgarwyr Germani a'u holl ys- gelerderau na neb y gwn i am dano o unrhyw genedl. Yr oefli yn fy mhre- swylfod dro yn ol ac ad oddai am ys- gelerderau ofnadwy y", wyddai am danynt. Mae yn enen^ol o'r wlad hono, ac y mae ei berthy: asau yn byw yno yn bresenol. Tybiwyf mai y fedd- yginiaeth oreu i Wil fyddai dod i gyf- arfyddiad personol a'r gwr hwn, os ydyw ar dir posiblrwydd am adferiad o'i glefyd gwahanglwyfus. Y mae Wil druan yn aros yn amyn- eddgaram "oleuni" ar y pwnc. Y mae megys yn dysgwyl y bydd i'r diafol ryw ddydd wneyd cyfaddefiad I gofidus o'i ddiffyg santoiddrwydd a dynoldeb! Hyd y dygwydd hyny, eled y bobloedd wrth y canoedd o filoedd i ddystryw, a gadawer i'r miliynau ruddfan ac wylofain, a myrddiynau eraill i ymdrybaeddu yn eu gwaed, ac yn ngwaed eu gilydd heb obaith am ymwared na llewyrch o gysur. Ac os trenga cyfiawnder a diflanu o'r byd, pa waeth, mae Wil yn dawol, yn mygu ei sigaret, mewn tangnefedd, yn dys- gwyl am "oleuni" Tebyg ei fod yn tynu cysur neill- duol oddiwrth y newydd diweddaraf, sef fod ei santeiddrwydd y Pab o Rufain yn teithio yn yr un cwch ag ef! Pe buasai Wil yn Ellmynwr ac yn byw yn yr Almaen, ni feiddiai ddweyd gair o gondemniad ar ei wlad a'i bobl, a byddai y rhyddid a fwynha yn America neu yn Mhrydain yn beth hollol ddyeithr ac anmhosibl iddo. Nid yw y b-olb I a wnant y fath gam- ddefnydd o ryddid yn deilwng i fwyn- hau rhyddid, eu lie priodol ydyw mewn gwlad lie nad oes ryddid barn na chydwybod na'u llafar; oblegid maent bob amser yn rhoddi eu dylan- wad a'u holl allu ar yr ochr sydd yn torfynyglu rhyddid, ac yn tra dyrchafu y gormeswyr creulawn gan dalu eu I haddoliad a'u defosiwn o blald yr hyn sydd wrthnysig, afresymol no annuw- iol. t
NODIADAU CERDDOROL. t
NODIADAU CERDDOROL. t Gan Peter Edwards, Mus. Bac. (Pedr I Alaw). Cor Meibion y Gwent.—Ychydig amser yn ol yr oedd boneddiges, cy- mydog i mi, yn son am y derbyniad brwdfrydig gafodd y cor hwn yn Des Moines-ei chartref. Yr ydoedd wedi darllen mai cor o Gymru ydoedd, a'i dymuniad oedd ei glywed y tro nesaf y deuai i'r rhanbarth hon, ond, och! deallaf fod nifer o'r aelodau yn nghyd a'r arweinydd, wedi 'boodi gyd- a'r "Lusitania" anffodus, a bellach ni cheir clywed y "Gwent Singers" mwy- ach. Os cafwyd gan Germani yr ystor werthfawrocaf o gerddoriaeth, y mae wedi ysbeiliolr byd Cymreig o wasan- aeth cor ydoedd yn anrhydedd iddi, ond os lladdwyd cantorion Cymreig ni laddwyd y gan na'i hysbryd! Brahms. Y mae Mr. Jenkins braidd yn llawdrwm ar y cyfansoddwr hwn, yn y "Cerddor." Er yn edmyg- wr o lawer o'i waith, dywed fod rhyw lyffethair ar ranau o hono nas ceir yn ngwaith y mawrion eraill-nid ydyw yn "ymdaith yn amlder ei rym" megys, eithr yn rhyw deimlo ei draed dano cyn eu gosod ar lawr yn gadarn a sef- ydlog. Y mae hyn yn golygu fod Brahms yn awyddu dweyd rhywbeth, ond yn methu a'i ddweyd yn iawn! Beethoven.—Y mae y cyfaill Jen- kins yn llawdrwm hefyd ar Beethoven fel cyfansoddwr i leisiau. Dywed: "Wrth wrandaw ami i gorawd yn ngwaith Beethoven, y rhai ydynt wedi eu hysgrifenu lawer yn rhy uchel, meddyliem fel y condemnid y pethau hyn gan y critics mewn unrhyw gerdd- or adnabyddus; ac onid yw'n drueni fod y lluaws yn cael eu camarwain gan yr ysgrif en wyr hyn? Yr oedd y rhan olaf o'r "Ninth Symphony" yn boenus o uchel." | John Ambrose Lloyd.—Can mlyn- edd i'r mis presenol ganwyd y cerddor hwn, sef ar y 14eg o Fehefin, 1815«, yn y Wyddgrug, sir Fflint, G. C., a bu farw yn Lerpwl ar y 14eg o Fedi, 1874, yn 59 mlwydd oed. Y mae yn weddus i ni gyfeirio at y cerddor hwn ar ei ganmlwyddiant, canys ni wnaeth unrhyw gerddor Cymreig fwy yn ei ddydd, ac yn ol ei allu, i wella safon ein cerddoriaeth. Yn ddiameu efe yd- oedd ein Pantycelyn yn myd y gan. Ail fab ydoedd i Enoch Lloyd, cabinet maker, yr hwn hefyd oedd yn breg- ethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr. Yn Lerpwl arferai fyned gyda'i f rawd Isaac i eglwys St. David. Wedi hyny mynychai gapel Brunswick Street, ac wedi hyny gapel Bedford 'St., ond gwnaeth ei gartref yn nghapel yr An- nibynwyr Cymreig yn Great Crosshall St. Derbyniwyd ef yn aelod yno gan yr anfarwol Barch. William Williams o'r Wern. Yr oedd y diweddar Barch. William Ambrose, Porthmadog, yn gefnder i Ambrose Lloyd, ac yn gyd- aelod ag ef yn eglwys y Tabernacl. Wedi hyny symudodd i gapel newydd Salem, Brownlow Hill, lie y bu yn ar- wain y canu ac yn aelod gweithgar o'r eglwys hyd ei ymadawiad, yn 1850. Yma y dechreuodd y cyfeillgarwch gwresog a fodolai rhyngddo a'i diw- eddar Hiraethog—un o ganlyniadau pa un fu cyhoeddiad "Aberth Mol- iant," yn 1873. Bu am rai blynyddau yn athraw yn y Mechanics Institute Lerpwl, ond rhoddodd ei swydd i fyny yn 1849 o herwydd afiechvd. Yn ei flynyddau di- weddaf yr ydoedd yn gynrychiolydd masnachol yn Ngogledd Cymru i ffirm o grocers perthynol i Lerpwl. Ymbri- ododd yn y flwyddyn 1839 gyda! Cath- erine Evans o Lerpwl, a bu iddynt 11 o blant, sef chwech o feibion a phump o ferched. Bu yn byw' yn Nghonwy am tua blwyddyn, ond o ddiffyg cyf- leusderau addysg i'w blant, symudodd 1 Gaer (Chester), ac oddiyno aeth i Rhyl'-yn y flwyddyn 1864. Bu yn ffyddlawn yn yr eglwys Annibynol Seisnig ydoedd o "dan ofal y Parch. Aaron Francis (Aaron Mochnant). Yn ystod ei drigiad yn Rhyl cyf- Iwynwyd iddo dysteb o ddau cant o bunau (mil o ddoleri), fel arwydd o barch ac edmygedd. Yn y flwyddyn 1874 cymerodd fordaith i Alexandria gyda'r gobaith o dderbyn adgyfnerth- iad corfforol, ond gwaethygodd ar y daith, a dychwelodd i Lerpwl wedi gwanhau yn ddirfawr. Bu farw, fel y nodwyd eisoes, yn mis Medi 1874- mis y cynauaf. Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn y Necropolis, Low Hill, Lerpwl. Dyogel dweyd am Ambrose Lloyd, os gwywodd ei gorff yn y ddae- ar nad yw ei gerddoriaeth yn wyw! Nis gwyr hono am auaf: arogl y gwanwyn, yr haf a'r egjwggl sydd ar- ni drwy y blynyddau. Rhaid, gan hyny, fod y gwr hwn wedi ei ysbryd- oli i'w waith; ac y mae awel ei gan wedi helpu i arwain llaweroedd o add- olwyr i gyfeiriad y nefoedd—i'r ar- dal hyfryd lie yr aeth ef o'u blaen. Bydd genyf ragor i'w ddweyd am dano a'i waith yn y llith nesaf. J. H. Roberts.—Blasus iawn ydyw nodialau y cerddor hwn ar gynganedd yn y "Cerddor." Dylai y rhai ieuanc eu hastudio. "Swyn y Nos" ydyw teitl cydgan yn y "Cerddor" o waith John Davies, Treorci, D. C. Y mae yn ddernyn melodus, canadwy, heb fod yn neillduol darawiadoL Gallesid gwella y geiriau Saesonig i'r gydgan. Syl- wer ar a ganlyn:- 0 how peaceful, 0 how charming, In the calm and holy night; Which the spirit-world is hailing From the confines of the night. Buasai "Is the calm" &c., yn well; a phaham y defnyddir y gair "night" i odli gvda "night?" Ar y tudalen olaf ceir "From the seas of mind divine." Nid oes lie i fwy nag un mor o fedd- wl dwyfol! Gwn y defnyddir "mor- oedd o iachawdwriaeth" mewn e.myn- Cymreig. Siomedig ydyw diweddglo y gerdd- oriaeth-mewn unseiniau—ar y geir- iau "Round about the throne of love." Credaf mai gwell o lawer fuasai cyng- anedd yma, ond "rhydd i bawb ei farn."
POBL Y CYMYLAU. 1
POBL Y CYMYLAU. 1 Gan Sem Puw. I Ysywaeth, y mae eu rhif yn fawr, a'u dylanwad yn heintus. Trigant mewn cwmwl, crwydrant i'r niwloedd, a holant am fynwentydd! Eiddil yw eu gobaith, cloff yw eu ffydd, ac ys- beidiol eu gorfoledd. I'r bobl hyn, an- ami y bydd y ffurfafen yn glir, y byd yn ddedwydd, a dynion yn dda. Baich yw bywyd iddynt, ffug yw ei lawen- ydd, a sorod ei ffafrau. Bron na ddy- wedwn mai dyfais rhyw feudwy gor- phwyllog, neu werinos hygoel yr hen fyd, yw'r nefoedd el hun i'r bobl hyn. Rhyw un 'ty galar' mawr, eang, a sobrddwys yw'r cread i'r bodau yma, heb gan na miri rhwng ei fagwyrydd o'r naill flwyddyn i'r llall. Iddynt hwy dim ond Dyffryn ibacca yw holl Iwybrau'r ddynoliaeth, ac nid yw pen y daith namyn siom a rhith. A fuoch chwi yn eu cwmni erioed? Dyna benyd i ysbryd hoenfyw ac enaid i brwdanus. Y maent o'n cwmpas yn ddyddiol, a'u hocheneidiau'n fwy cys- tuddiol nag erioed. Ac nid yw rhyfel y Cyfandir ond yn gwneyd pethau'in j waeth o lawer. Ewch am dro gyda hwy. Dewiswch un o lwybrau para- dwysaidd Dyffryn Clwyd. Cerddwch drwy ddol o feillion, neu oedwch i wrando cathl mwyalch. Soniwch am (liriondeb yr haf. Adroddwch rai o gwpledau Dafydd Ap Gwilym, neu canmolwch 'Lyfr Adar' Richard Mor- gan, Llanarmon. Ond cofiwch un peth: peidiwch dysgwyl brwdfrydedd,, dyddordeb, na sirioldeb. Pobl y cymylau ydynt! Neu, os raynwch, pobl y nos a'r niwl, y tywyllwch a'r dyfnder. Cerdded fel pe mewn cyn- hebrwng a wnai'r bobl hyn hyd yn oed ar ddaear wynfydedig Dyffryn Clwyd. Ni welsant rosyn erioed, ac os y gwelpant un, fe'i paslwyd mor ddi-daro a phe'n pasio tywarchen neu glawdd. Ofer fu odlau bronfraith i'r dynion hyn-nid oes iddynt gyfath- rach a llonder neu asbri. Clywed bronfraith, wir, a hwythau mewn gwylnos! pe dygwyddai i un o hon- ynt glywed y lleisiwr perorol hwn, fe safai seren ar ei gwib, a cheid gweled mawrion y byd yn teithio ddydd a nos i chwilio am y gwr. Pobl y cymylau! Tybed a ddaeth rhai o ddarllenwyr y Ilithoedd hyn i, gysylltiad a hwy. Do, yn sicr, yn en- wedig er's pan dorodd y rhyfel allan. Ni raid cerdded yn mhell cyn dod ar eu traws, ac nid oes angen ymenydd dysglaer iawn i'w hadnabod chwaith. Y mae'r 'cwmwl' yn eu dynodi. Nid 'cwmwl gwyn' mo hono, yn ddios, ac nid un porffor neu felynaur, ran hyny. Un 'du' ydyw, a du iawn, hefyd-y math hwnw o gwmwl na welid bai ynoch yn ameu mai ysbrydion drwg sy'n ei fynwes. Ar fynwes hwn, o bosibl, y magwyd hwy, ac yn ei freich- iau, y mae lie i ofni, y tynant yr anadl ddiweddaf. Hwn yw eu cerbyd ar rai o deithiau bywyd. Ni allant symud hebddo; y mae'n rhan o honynt. Rhowch hwy yn nghanol bagad o blant hwyliog a hapus ar nawn o Fai neu Mehefin, a dyna'r 'cwmwl' yn dy- fetha'r cyfan. Canlynwch hwy i wledd neu bleserdaitb, a bydd cysgod- lon y 'cwmwl' ar y danteithion neu'r golygfeydd. Dyma'r bobl sy'n blino ac yn poen- ydio cymdeithas yn y dyddiau trallod- us hyn. Y mae digon o 'gymylau' yn hanes dynolryw heddyw, heb i'r dos- barth yma a feidrolion gynull rhagor i hofran fel Zeppelins hwyrol yn awyr y byd. Angen mawr dynoliaeth hedd- yw yw mwy o Bobl yr Haul, a llai o Bobl y Cymylau. Gresyn, fel y syl- wais eisoes, luosoced yw'r dosbarth diweddaf. A barnu safle'n teyrnas a'n hymerodraeth oddiwrth vmddyddan- ion a chasgliadau'r ocheneidwyr hyn, gallesid tybio fod cwymp anadferadwy Prydain ar y trothwy, a choncwest anfarwol yr Ellmyn ar ddod. Drwy acenion eu lleisiau clywir swn march y Caisar yn gweryru wrth borth Plas Buckingham, a gorfoledd cnawdol ei fab lladronllyd wrth reibio ac ysglyfio' trysorau'r West End. Nid oes dim yn iawn at y symlddyn mwyaf yn y rhengoedd. Yr Almaen sy'n gwneyd y gorchestion; Ffrainc a Phrydain sy'n stymblo ac yn cyfeiliorni. Arwyr yr holl ornestau yw Hindenburg a Von Kluck; llymrigion a phrentKiaid yw Syr John French a'r Cadfridog Joffre. Ar diroedd yr Almaen yn unig y ty- wyna'r haul; niwl a gwyll ofchuddia Ffrainc a Phrydain. Gan amlaf, pobl heb ddim arall i'w wneyd ond beirniadu a grwgnach yw pobl y cymylau—segurwyr parchus, hepianwyr boneddig, a breuddwydwyr dawnus. Petai'r awenau yn eu dwy- law hwy gallasant roddi'r byd yn ei le oddiar soffa glustogaidd, neu wely manblu! Cynlluniant symudiadau milwrol fuasent yn synu'r oesau mewn caban haf neu barlwr cysurus! Dyma annghredinwyr ac atheistiaid diwedd- araf yr oes. Annghredant yr arwein- wyr: gwadant y llywiawdwyr, a chod- ant allor o'u dychmygion i'r duw nid adwaenir! Nid rhyfedd mai'r 'cymyl- au' yw eu trigfod. Y mae'r sawl wel annhrefn a thrueni yn mhobmAn ond yn ei fynwes ei hun yn sicr o fod yn y 'cwmwl' cyn bo hir. Druan o bobl y cymylau. Nid rhyw fyd hapus iawn yw hwn iddynt. Y mae'n dryfrith o annghysonderau, yn ysig gan groesau, ac yn llawn o fedd- au. Byr yw eu gorfoledd, fel eiddo'r annuwiol. Dyma'r bobl gollodd law- enydd bywyd drwy esgueluso'i ddyled-' swyddau. Aethant i fusnesa i faterion eu cymydogion, a gadael eu 'haelwyd' eu hun i ymdaro fel y mynai. Meddyl- iodd y bobl hyn fod siarad yn hyawdl yn fwy gwasanaethgar na gweithio'n ddiwyd, a thynu allan linyn mesur yn fwy amserol na chario dryll a thrin cledd. A chynyddodd y 'cymylau'! Y fynyd y tybia dyn mai'r ffordd i fod yn fawr ac enwog yw beio llithriadau eraill, ac ameu dilysrwydd ei gyd- frawd, fe dywylla'r haul, cilia'r glesni, a phrysura'r 'cymylau.' Nid oes angen pobl fel hyn ar y ddaear heddyw. Y mae yn ein plith ormod o weddwon ac amddifaid, dolur- iau ac ingoedd, siom a chaledi, heb i rwgnachwyr a phruddglwyfwyr o'r fath ychwanegu dim at ein blinfyd. Eirt hangen ni yn y dyddiau hyn yw pobl yr heulwen a'r awyr las—pobl all felysu bywyd, lloni calon, a rhoi ymylon arian i gymylau gwgus. Hawddamor i'r cymwynaswyr hyn; wfft i'r lleill. Haws i'r byd gario'i groes os bydd rhywrai o'i gydfforddol- ion yn canu neu'n gwenu yn ei ymyl. Dyma gwmni ag y carai ami bererin siomedig a gofidus fod ynddo heddyw. A da yw meddwl a chofio y gallwn ni, os dymunwn, chwyddo'r cwmni, a* sirioli'r byd drwy hyny.—O'r "Faner,"
IY SAIS A'R CYMRO.
I Y SAIS A'R CYMRO. I Gan Herr Offa. I HI. Mae darllen awdwyr Seisnig am greulonder y Saeson at y Cymry yn codi fy ngwallt ar fy mhen ac yn cyn- yrfu fy ysbryd o'm mewn. Fel hyn y dywed un: "Robert of Belesme slew the Welsh like sheep, conquered them, enslaved them, and flayed them with nails of iron." Dyna gastiau y Saeson tua 1094, a chof gwan sydd gan y Cymro nas gall gofio am y fath an- fadwaith os yn gwybod; ac os nad yn gwybod dylai fod yn ddystaw hyd nes gwybod. Eto: "A few daring adventurers accompanied theiNorman Lord Kemeys into Cardigan, where land might be had for the winning by any one who would wage war on the Welsh." Ond dywed Pennant-twrch a Maurice C. Roberts mai amddiffyn eu hunain mae y Saeson bob amser pan yn ymosod ar eu gelynion. A fu anwiredd mwy di- esgus erioed ar ddalenau papyr new- ydd? A "megys yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon ac a fydd yn dra- gywydd," os na wna y Kaiser neu rywun arall newid lliw y croen a brychni blew y llewpard. Onid oes yna ddeddf ansymudadwy yn dal cysylltiad a gwflad neu genedl yn ogystal ag a'r unigolyn, "Pa beth bynag a hauo dyn hyny hefyd a fed efe." Onid ydyw symudiadau milwrol yr oes yn aw- grymu fod Lloegr yn talu yn ol mewn rhan i Gyfiawnder am y gwaed dini- wed a dywalltodd trwy y canrifoedd a'r creulonder yn mha un y mae wedi gorfoleddu. Beth pe darllenid un ad- nod fechan fel hyn: "Gwna yn llawen, genedl ieuanc, yn dy ieuenctyd, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid, ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oil." Mae y gwaed dieuog a dywalltwyd i'r ddaear yn galw am gyfiawnder; mae y genedl sydd wedi bwydo a phesgi ar esgyrn a chnawd diniwed ryw dro i fyned yn ysglyfaeth i gyffelyb ysbryd ac amcan. Fod Lloegr yn awr yn talu yn ol am y drwg a wnaeth, yn dyoddef am y camwri a wnaeth, yn tywallt gwaed ei chalon am y gwaed diniwed a dywalltodd hi sydd lawer mwy rhe- symol i gredu na phroffwydoliaeth y bardd-bregethwr Gwernogle a choll- farniadau cefnogwyr Cymreig John I Bwl. Yn wir, mae rhesymau digonol dros gredu mai hi yw y Butain y sonir am dani yn llyfr y Dadguddiad. Fodd bynag, nid oes dim eto wedi dyfod i fyny yn fwy llwyr na hi o'r darluniad hwnw. Ysglyfaethodd hi; mae hi yn awr yn cael ei hysglyfaethu. Dywedir wrthym yn barhaus mai ymrafaelio a'u gilydd yr oedd y Cymry, ac na ddangosasant erioed eu hunain yn alluog i ofalu am eu buddion eu hunain. Pe hyny yn wir, ond nid ydyw, nid oedd gan Lloegr na'r un wla.d arall hawl i gymeryd mantais arnynt, ond erioed rywfodd mae yna ryw Gymry wedi pleidio y Seison a- bradychu eu cenedl eu hun. Gwnant hyny yn ein dyddiau ni a chyhuddant ni o fradychu ein gwlad. Nid oes genym wlad ond gwlad ein mabwys- iad, ac nid oes iddynt hwythau chwaith wlad, a'r cyfan a gant yw llusgo wrth gynffon y llew. Yn yr hen amser fel yn awr yr oedd y Sais diegwyddor gyda ei Iwgr wobrwyau yn denu ac yn swyno dosbarth an- nghenedlgarol o'r Cymry i wrthwyn- ebu Cymry a pleidio y Saeson. Rhaid mai anwybodaeth sydd yn peri peth fel hyn. Ni fu pobl fwy dewr na'r hen Gymry ar wyneb daear, ond coll- asant eu gwlad a'u rhyddid trwy frad- ychwyr Cymreig yn ymuno a'r Saeson. Y rhai hyn sydd yn dywedyd wrthym mai "gwylltion, anwaraidd ac anfoea- ol oedd ein cyndeidiau dewrion." Y creaduriaid hyn a'u hepil sydd wedi