Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

SCHENECTADY. NEW YORK. I

rPORTLAND A SEATTLE. j

I "Rhydd I Bob Meddwt el Fam…

News
Cite
Share

I "Rhydd I Bob Meddwt el Fam ac I Bob Barn el Llafar." Lief o'r Badell! "F'olaf air" yw gair gwirionâac hyll- Gwallter a'i len-nodion; (dod Try bardd "Swar'bahkti" i'r bon A'i chwil lith dan "ochl" weithion!! PRY' LLWYD. Asio Iaith. Mri. Gol.; Ysgrifenais y penillion a ganlyn ar ol darllen gofyniad Shon y Dyrnwr i guradiaid ac Archesgob yr O. N., a neb yn atejb: Mae llawer un o'r rhai'n ar daen Yn rhoi "yn mlaen" fel hyn "ymlaen;" Ond nid oes un o'r rhai'n mor ffol A rhoi "yn ol" fel hyn "ynol!" Ni cheir neb, unrhyw ddydd o'r mis, Yn rhoi "yn is" fel hyn "ynis;" Nac un erioed, gwna Iw, myn duwch! Yn rhoi "yn uwch" fel hyn "ynuwch!" Fe ddysga hyn i bob dyn plaen Na ddylid asio'r gair "ymlaen," Heb asio eraill sydd ar ol, Sef yw "ynis," "ynuwch," "ynol." Mae drwg mewn dechreu mynd o le, A dyna ddryga ddaer a ne; Os rhoi "ymlaen," bydd dyn o'i ben Osnawnaasiodae'ranen! CARWR CYSONDEB. Chwech o Ofvniadau. Mri. Gol.: Dymunaf osod y gofyn- iadau canlynol o flaen Wil Caerwyni (ac aelodau eraill y C. G.): 1. A fuasai yn well i Ysgotland, y Werddon a Chymru fod wedi cadw eu hannibyniaeth? 2. A gymeradwyech chwi i Gymry heddyw yn yr argyfwng ofnadwy pre- senol godi mewn gwrthryfel yn erbyn Lloegr? 3. Gan fod mor ychydig (?) o Seis- on fyn ol eich haeriad mynych chwi) yn amddiffyn eu gwlad, a'r rhai hyny yn "llwfriaid," a farnech chwi y gall- ai Cymru enill ei hannibyniaeth yn awr? 4. A gymeradwywch chwi gynllun ynfyd Gwaen y Gwiail i'r Cymry yn awr godi yn erbyn Lloegr? 5. Gan eich bod chwi o'r dechreu yn erbyn Prydain, a garech chwi i Germani orchfygu, a glanio yn Mhry- dain, a'i thrin fel y triniodd Belgium? 6. A gredwch chwi y byddai llyw- odraeth Germani yn rhagoriaeth ar y llywodraeth sydd yn Mhrydain hedd- yw? Gan eich 'bod yn ysgrifenii ar hyn er's rhai misoedd bellach, dysgwyliaf i chwi ateb yr uchod yn syth, heb ym- droi mewn ffordd yn y fbyd. CYMRO GWLADGAROL. At Shon Caerbran: Syr: Dymuna Wil Caerwyni dalu ei warogaeth i chwi yn yr ysbryd mwyaf Cymroaidd. Mae swn cariad calon Cymro yn eich geiriau yn y "Drych." Carai Wil hefyd eich hysbysu ei fod wedi bod droiau lawer yn ninas fawr a. phrydferth Wilwaukee, brenines glan y llyn, a thrigo ynddi ddyddiau lawer amryw weithiau. Mwynhaodd ei hun yn fawr bob tro. Cyfododd cyfeillgar- wch rhyngddo a rhai o'r dinasyddion mwyaf parchus a bery hyd ag y pery -cof, ond ni chafodd gymaint a glasaid o gwrw enwog y ddinas na, mor bell ag y mae ef yn gwybod, siarad gair ag Ellmyn tra yno. Byddwch wych! WIL CAERWYNI. Y Ddwv 0. Anwyl Olygwyr (Annwyl Olyggwyr): Pan yn ystyried (a mi'n 'styried) yn ddiweddar pa un pedd oreu (prun oedd ore)", yr O. N. ai 0 y "Drych," aeth i fy nghalon (i 'nghalon) ysgrif- enu (scrifennu) yn fyr (yn fyrr) yr ysgrif (yr yscrif) hon i chwi (ichwi). Nid fy nghyntaf (nghyntaf),na fy olaf (f'olaf) yw hon, a fy amcan (f'amcan) yw dangos y ddwy 0 gyda'u gilydd (gyda'i gilydd!), fel y gwelo y dar- llenvdd (y gwelo'r darllennydd) pa un sydd oreu (prun sy' ore). Credaf fod 0 y "Drych" yn ddestlus- ach nag yw yr O. N. o "thestlusach;" a dymunaf gael ymguddio dan gochl (ochl) hyn o enw. Y DDWY 0. At Tietectif. Galwyd fy sylw at ymofyniad am Wil Caerwyni, a ymddangosodd yn y "Drych," beth amser yn ol. Dywedai yr ymofynydd fod Wil wedi symud i Wilwaukee a'i fod wedi gadael ei gyd- gynulliad ei hun yn y capel Cymraeg, &c. Tybiaf y gall fod Detectif wedi gwneyd camgymeriad, ac mae y lie mwyaf tebygol i ddod o hyd i Wil yn awr ydyw y North Sea mewn submar- ine yn dysgwyl dychweliad rhai o'r llongau rhyfel Cymreig sydd hyd lan- au y llyn yma. Nid wyf yn tybio fod y Detectif yn petruso nemawr am ddyogelwch Wil, ond mai gadael y dydgvnulliad Cym- reig sydd yn ei flino. Gallwn dybio mai da fuasai ganddo i wr o syniadau ac athrylith Wil ymadael, er mwyn iddo ef gael cyfle i ddod i'r goleuni. Cyngorwn y Detectif hwn i Ibeidio rhoddi ei hun i ffwrdd a gadael i ddar- llenwyr y "Drych" wybod fod ym- adawiad yr un Wil yn blino cymaint arno. GWYLIEDYDD. ThHTTtI),1 TIT fi rclwv^d Iesll, Mri. Gol.: Gan fy mod eisoes wedi dwyn -allan o'r Beibl brawfion o ddyn- dod yr Arglwydd Iesu, dymunaf ych- ydig ofod y tro hwn i ddwyn allan 9'r un ffynonell, brawfion o'i Dduwdod, fel y canlyn: "Yn y dechreuad yr oedd y gair, a'r gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y gair" (loan 1: 6). "Trwyddo ef y crewyd Ipob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear. yn welekdig ac anweledigâpob dim a grewyd trwy- ddo ef ac erddo ef, ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd sefyll" (Col. 1: 16, 17). "Yr hwn. ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch a Duw" (Phil. 2: 6). "Y Duw cadarn. Tad tragywyddoldeb" (Es. 9: 6). "Ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswyllo yn gorphorol" (Col. 2: 9). Ofer yw vmhelaethu (darllener y Beibl am ragor. iSvlwer mor fanwl mae y Beibl yn cadw y Duw a'r dyn ar wahan, gan osod y naill a'r llall, yn y cyfnod y perthyn iddo. Y gair oedd gyda Duw. a Duw oedd y gair. yn un cyfnod. Y gair wedi ei wneuthur yn gnawd gan drigo yn ein plith ni, yn y cyfnod arall (loan 1: 14). Tad tragywyddoldeb yn un cyfnod; Mab y dyn yn y cyfnod arall; Duw cadarn yn un cyfnod; dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau a'i ddbdi yn y preselb, yn y cyfnod arall (Luc 2: 12). Brenin y gogoniant, yn un cyfnod; dirmygedig a diystyraf o'r gwyr, yn y cyfnod arall. Yr hwn wyf fyw yn un cyfnod, ac a fum farw yn y cyfnod arall. Bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd- ef yn un cyfnod; heb le i roddi ei ben i lawr yn y cyfnod arall. Dyna ychydig Feibl i brofi y Duw a'r dyn heb gymorth y Trindodiaid a'r Undodiaid; credoau y rhai yr ym- orffwys Morfryn arnynt yn Rhif 19 o'r "Drych. O'm rhan fy hun nid wyf yn vmddi- bynu ar ddim yn nghylch y pethau hyn ond y Beibl. Yr wyf yn teimlo fel yr hen weinitiog, pan ofynwyd iddo gan wageddwr, "Mr. B., do you really believe the story of Jonah and the whale?" "Sure, I do, my boy, be- cause my Bible says so, and if my Bible said that Jonah swallowed the whale, I would believe it." Felly fin- au, yr wyf yn credu y pethau hyn am fod fv Meibl yn eu dywedvd, a phe dy- wedai fy Meibl fod yn angenrheidiol cymeryd y Duwdod a'r dyndod, a'r cvfnodau, perthynol iddynt, a chy- mysgu y cwbl yn un pen.twr er mwyn dwyn allan o'r pentwr v Duw-ddyn, buaswn yn credu hyny hefyd, ond gan nad yw ar gael yno, yr wyf yn ei wrth- od, gan ofyn pardwn- ein doctoriaid duwinyddol am fy mhlentyneidd- rwydd, ys dywed Morfryn am danaf yn Rhif 19 o'r "Drych." Nid wyf hyd yma wedi i-hoct-di syniad na barn o'm heiddo fy hun yn y "Drych," ond yr wvf yn teimlo chwant i roddi ychydig eiriau, sef fy mod yn ystyied y gair dwbl. "Duw-ddvn," vn snrhad ac yn g-hledd ar ei Dduwdod a'i ddvndod. Beibl i mi. Terfynaf- v tro hwn eto gyda chyng- or Crist Iesu, "Chwiliwch yr Ysgryth- yrau." gvfeillion ieuainc. a gofalwch am ddy'lvn eu dysgeidiaeth yn hytrac.h na dysgeidiaeth dynion sydd wedi tarddu, a dod i lawr o ganrifoedd tvwyll Cristionogaeth. Ymogelwoh rhasr dallu eich meddwl ganddynt, fel y dallwyd fi am yr haner can mlynedd cyntaf o'm hoes. Elgin, 111. D. P7?ICE. G-olenni or v r-siâNewvdd. Mri. Gol.: Caniatewch i mi longyf- arch a rhoddi teyrnged o ddiolch i Mary Jones, o Philadelphia, am ei llythyr o dan y penawd uchod a gy- hoeddwyd yn y "Drych" Mai y 5ed. Mae rheswm neillduol dros fy mod wedi oedi gyhyd cyn dadgan fy medd- wl ar y pwnc hwn. Mae Mary Jones yn ei llythyr yn sefyll megys 'glad- iator' yn ffrynt y fyddin ar ran y gwir- ionedd. Syn yw meddwl fel y mae gwyr o Gymru, a synach fyth fod rhai gweinidogion a phregethwyr o'r en- wadau Protestanaidd ac efengylaidd yn plygu eu gliniau o fiaen y Butain Fawr o Rufain, gan ganu moliant i'w haelioni tuag at ei 'Hoffeiriaid.' Ie, yn sicr: Iliw a dysgleirdeb yr aur sydd yn swyno serch a defosiwn y bobl Ilyn. Mawr a gogoneddus yw Y.Ilo aur yn eu golwg; ac nid yw cyfrif dim gyda hwy fod y Babaeth yn mathru dan draed wirioneddau pwysicaf yr Ys- grythyrau, yn dyrchafu deddfau a rheolau dynol uwchlaw deddfau a dys- geidiaeth Crist, ac yn annghymera- dwyo darlleniad v Beibl gan y werin rhag iddynt ganfod y gwirionedd, yr hwn sydd yn eu condemnio hwy. Nid yw o un pwys yn eu golwg fod yr offeiriadon Pabaidd yn gan gwaeth na'r Phariseaid yn y camwedd o lwvr- fwyta tai gwragedd gweddwon er boddio eu blys a'u trachwant annuw- iol. Nid yw o un pwys ganddynt hwy fod Eglwys Rhufain yn rhoi ei holl ddylanwad ar waith i amddiffyn a chymeradwyo ei hoffeiriadau hyd yn nod pan ybyion t wedi cael eu profi yn euog o lofruddiaeth yn yr agwedd erchvllaf arno. Nid yw o un pwys ganddynt hwy fod gweithrediadau dieflig yr Inquisition yn cael eu hys- tyried megys cangen o ddefosiwn o'r radd fwyaf cysegredig gan yr eglwys Babaidd hyd y dydd hwn. Mae y prawfion o'r cyhuddiadau hyn yn lleng ac yn anwadadwy, fel y mae yn hysbys i !bob dyn deallus, ac nad yw wedi cael ei gaethiwo o fewn crafangau y bwystfil. Son am bum cant o ddoleri y flwyddyn fel tal gre- synus i bregethwr yr Efengyl! Digon gwir ei fod felly, os yw y pregethwr yn un teilwng a gonest. Ond os ydyw yn coleddu syniadau annynol, an- naturiol, ac annuwiol fel eiddo y Pab- addolwyr, gallwn ddweyd yn ddibetrus fod ei gyflog yn llawn pum cant o ddoleri yn fwy na'i haeddiant. Gwel- af fod un a eilw ei hunan yn Llw yn arweinydd ar y Ho addolwyr hyn; eto yn rhodio yn ngwisg efengylwyr tang- nefedd! Ond, gwarchod ni, gwyliwch rhagddo, oblegid mae yn berthynas agos i'r llew hwnw sydd yn rhodio oddi amgylch gan geisio y neb a allo ei lyncu. MAURICE C. ROBERTS. I

WTLKES-BARRE, PA.I

Holiad. am G-vmrn

CASGLIAD Y CAN MIL. ! 1i