Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
BRENINIAETH - PA MOR GOSTUS…
BRENINIAETH PA MOR GOSTUS YDYW. Un o amcanion blaenaf rhyw nifer bychan ystwrllyd o'r Radicaliaid yw diraddio sefyd- liadau y wlad hon, ac yn neillduol felly yr Orsedd. Ac ni chollant un eyfletisti-a i ddwyn eu hamcan i ben. Pell iawn ydyw y wlad yn gyffredinol o wrandaw arnynt, er hyny gwnant beth drwg, yn benaf drwy geisio creu anfoddog- rwydd y n meddyliati y lluaws aty rhai sydd mewn awdurdod. Ein hamcan yn yr erthygl hon yw dangos pa mor ddisail yw y cyhuddiad a wnant fod y trethdalwr yn dioddef yn dost yn herwydd y baich a osodir arno i gynnal y Freniniaeth, ac y dylid ei ysgafnhau. Dyma oedd 8wm a sylwedd araith Mabon yn y Senedd yn y ddadl ar y Rhoddion Breiniol yn ddiweddar. Wrth ddweyd fod y Frenines a'i theulu yn byw ar gefn y wlad angho6ai mai ccfnau glowyr y Rhondda a'i codasai ef i'r Senedd, ac a'i cynnalia yno eto i edliw y peth, a dangos ei ffolineb yn y fargen. Er mwyn -gweled yn iawn pa fodd y saif pethau gadewch i ni chwilio i mewn i'r costau a delir at gynnal y Teulu Breninol. Dyma fel y safant y tro lkeso,f Derbynia Y Frenines (yn ol gweitbred 1837) A3M,000 13 o'r Teulu Breninol. 152,000 Ychwanegiad at btant Tywysog Cymrn 36,000 Cyflog Rhaglaw y Werddon 20,000 A593,000 O'r swm hwn rbaid tynn aUan werth Tir y Goron, yr hwn gynt oedd ym meddiant y Goron, ond a roddwyd i fyny gan y Frenines ar ei hesgyn- iud i'r orsedd £ 396,000 Tr hyn a edy i'w dala gan y treth- dalwyr y swm o £ 197,000 Myn rhai Radicaliaid genym gredu na pherthynai Tir y Goron i'w Mawrhydi y Frenines. Mewn atebiad i hyn nid oes eisieu oud cyfeirio at y Ddeddf a wnaed y flwyddyn gynta-f ac a ddiwygiwyd yr ail flwyddyn o'i theyrnasiad, yr hon a addefa y ffaith yn bendant fod taliadau etifeddiaethol yn Lloegr, Ysgotland, a'r Werddon yn perthyn i'w mawrhydi, a'i bod yn eu gosod at wasanaeth y Senedd, gan lwyr gredu y darperir yn ddigonol at gynnal anrhydedd ac urddas y Goron. Fe welir felly fod y swm o yn agos i bedwar can mil wedi ei roddi i fyny gan y Frenines pan ddaeth i'r orsedd, er ei bod yn meddu hawl berffaith iddo. Gadewch i ni yn awr edrych o'n deutu a chymmharu ein treuliau ni yn y wlad hon ag eiddo gwledydd eraill. GERMANI.—Cyfrifir bod y symiau a roddir i'r Ymherawdwr at ei gadwraeth ef a'i deulu yn cyrhaedd uwchlaw chwe can mil o bunnau, heb son am yr arian a dderbynia oddiwrth ystadau, castelli, fforestydd, &c. RHWSSIA.—Amcan-gyfrifwyd yn swyddogol rai blynyddau yn ol tod cyllid y goron yn cyrhaedd i ddwy filiwn o bunnau. Mae tir y goron yn cynnwys dros filiwn o filldiroedd ysgwar o dir diwylliedig, a fforestydd, heblaw y mwnau aur, a'r mwnan eraill yn Siberia, y rhai oil a ystyrir yn eiddo i'r teulu fo ar yr orsedd. AWSTRIA.—Cyrhaedda treuliau breninol yn y wlad hon i saith cant, saith deg a phump o liloedd o bunnau, hanner yr hyn a delir gan Awstria, a'r hanner arall gan Hungari. ITALI.-Derbynia brenin Itali, yn gyfnewid am ystadoedd a roddes i fyny y swm o chwe cant a deunaw o filoedd o bunnau. YSPAEN.-Caniateir i'r goron a pherthyn- asau y brenin diweddaf y swm blynyddol o bedwar can mil o bunnau. Twitei.-Nid ydys yn gwybod pa faint yw incwm y Sultan, ond credir y cyrhaedda o filiwn i ddwy filiwn y flwyddyn. Mae y symiau hyn, y rhai a gymmerwyd o'r ffynnonellau swyddogol goreu yn bossibl, yn ddigonol i ddangos fod Coron Lloegr, o'i chym- mharu ag eiddo gwledydd eraill, yn llai costus i fesur mawr. Fe ddywed rhywrai, efallai, Gwir ei bod yn llai costus na Choronau y gwledydd a enwch, ond Unbenaethau yw y rhai hyny, ac y mae Unbenaeth yn gostus bdbartiser. Y maent ya gwneyd pethau yn well mewn gwledydd He mae Gwerin-lywodraeth, yn Ffrainc ac yn America er engraifffe." O'r goreu ni a gymmharwn ein treuliau ni ag eiddoy ddwy wlad hono eto. Yn y ddwy y mae y llywodraeth yng nghynnrychiolwyr y bobl, a saif yr arlywydd- ion a'r aelodau taledig yn lie y Goron a'r Senedd rad a geir yn y wlad bon. FFRAINC.—Mae treuliau penadurol Ffrainc fel y canlyn :— Cyflog yr Arlywydd ^524,000 Treoliao Tenluol ]2,000 310 o Seneddwyr yn ol £ 600 yr un 184,000 1M o Ddirprwywyr yn ol JE860 y fiwyddyn, au treuliau. 286,600 A506,OW YR UlfOL DALAETHAU. Gellir dangos treuliau y ffurf lywodraeth Werinawl yn yr Unol Dalaethau fel yma Cyflog yr Arlywydd ( £ 10,000) a'r swm o AS.000 a ganiateir heblaw. 415,000 Cyflog yr ls-arlywydd 1,600 70 o Seneddwyr yn ol £ 1,025 y flwyddyn 77,900 325 o gyirorychiolwyr yn ol £1,026 y flwyddyn 333,125 Cyflogau Llywodraeth wyr Talaethol 34,800 Cyflogau 6,148 o aelodau Deddfwr- iaethau Gwladwriaethol (amcan- gyfrif) 491,600 .£954,025 Yn Ffrainc yn ogystal ag yn yr America y mae yn perthyn i aelodau Deddfwrol freintiau mewn cyssylltiad a theithio ar draul y Llywodraeth, ac heblaw hyny fe delir aelodau fyddont ar Gommissiwn Breiniol, tra ni thelir yr un o'r aelodau fo ar Gommissiwn dan y Llywodraeth yn y wlad hon. Yn awr rhoddwn y ffigyrau uchod mewn taflen er mwyn i'r darllenydd allu eu cymmharu yn gyfleus a'u gilydd Y Deyrnas Gyfunol Y,197,000 Yspaen 400,000 Ffrainc 506,000 Germani 600,000 Itali 618,000 Awstria V 775,000 Yr Unol Dalaethau 954,025 Twrci (dyweder) I,f00,000 Rhwssia 2,000,000 Fe welir oddiwrth y ffigyrau iichod na rydd t5 Gwerin-lywodraeth ddim sicrwydd y ceir gweinyddiaeth cyfraith a threfn yn rhad, a bod traul y Weriniaeth yn Ffrainc yn gym- maint arall, a thraul Gweriniaeth America gymmaint bum gwaith a thraul yr Unbenaeth sydd genym yn y wlad hon. Gan hyny ar dir cynnildeb yn unig, heb son am ddim arall, fe ddylai y rhai hyny a waeddant i lawr a'r Goron," ac "i fyny a Gweriniaeth," ddangos pa ryw fantais a ddeilliai pe mabwysiedid eu syniadau a'u damcaniaethau gan y bob!. Os nad allant wneuthur hyn, byddai yn gallach iddynt gau eu penau ac ymattal oddiwrth gynhyrfu y wlad ac ennill poblogrwydd trwy 3 eu gwaith yn ceisio diraddio y ffurf-lywodraeth ardderchog sydd genym, a phentyru dirmyg ar g Teulu Breninol fel y gwnant.
EIN PERTHYNASAU TRAMOR.
EIN PERTHYNASAU TRAMOR. Rhoddesyr Arddangosfa Lyngesawlagafwyd ddydd Sadwrn yr wythnos ddiweddaf gyfleus- tra i ni ddeall cryn lawer am danom ein hunain. Yr oedd yn olygfa ardderchog. Yr oedd o ddyddordeb i'w gweled gan ei bod yn dwyn ger ein bron engreifftiau o'r pwerau amddiffynol sydd genym. Y mae amddiffyn- iad y wlad yn bwnc y dylid siarad am dano o bryd i bryd. Dangosai yr olygfa a gafwyd yn Spithead pa beth ydym wedi wneuthur ttmg at amddittyn ein hunain, ac ym mha bethau yr ydyqi yn rhy esgeulus. Ond os yw yn dda i ni yn y modi hwn weled cyd-gasgliad o'n galluoedd llyngesawl, fe fyddai yn dda hefyd i wledydd eraill ddeall yn iawn am danynt, a dealt ein bod yn amcanu dal gafael yn y dyfodol yn ymherodraeth y mor fel ag yr ydym wedi gwaeyd yn y gorphenol. Peth arall, fe fyddai yn but-ion i'n cyfeillion mewn gwahanol wledydd ddeall pa'ryw gynnorthwy a allem roddi iddynt mewn achos o gyfyngder. Fe welodd Ymherawdwr Germani ai lygaid ei hun beth oedd ein galluoedd, a pha mor barod ydym i gyflawni ammodau y cytundebau a wnaethom a gwahanol wledydd, cyflawni y rhai, fel y cyfeiriai Arglwydd Salisbury yn ei araith yn Nby Arglwydd Faer Llundain, yr wythnos ddiweddaf, ydyw un o amcanion blaenaf y Weinyddiaeth bresennol. Fe ddichon y tybia rhai nad yw ymweliad Ymherawdwr Germani a'n glanau o unrhyw bwys neillduol. Ond nis gellir iawn ddeall pwysigrwydd ym. weliadau o'r fath hyn heb edrych i mewn i hanes ein cyssylltiadau ni a gwledydd eraill. Mae y syniad ar gerdded ein bod am gym- meryd meddiant o Ynys Creta, a gwnaeth y Prifweinidog yn dda i ddangos nad ydym o gwbl yn chwennych hyny. Nid oedd yn llai eglur ychwaith ar gwestiwn yr Aipht, ac am y rhwymau sydd arnom i'w hamddiffyn rhag pob gelyn, tramor neu gartrefol. Yr atebiad goreu i'r rhai a ddywedant eu bod yn bryd i ni ymadael a'r Aipht yw pwyntio at waith y Dervisiaid yn myned yn eu blaen. Nid yw y gwleidyddwr Flourens yn ei erthygl yn y New Review yn cyffwrdd o gwbl a phwnc yr Aipht. Y mae syniadau y gwleidyddwr hwnw yn cynnrychioli Ilawer o'r rhai a goleddir mewn amryw wledydd ar y Cyfandir, ond syniadau cyfeiliornus ydynt. Nid ydym ni yn amcanu at ddim ond heddwch, a thuag at gyrhaedd hyny rhaid i Germani, Awstria, Itali a ninnau ddeall ein gilydd. Yr ydym yn awyddus i fod ar delerau da hefyd a Ffrainc, ac ni bydd i ddim fyned rhyngom ond gwaith Ffrainc ei hun. Fe ddylai y wlad hono wybod ein bod yn gweled i ba gyfeiriad y mae ei pholisi yng nglyn a'r Alfft yn myned. Nid oes dim mwy hunan-garol na'i gwaith yno, ac nid oes modd ei chyfiawnhan. Yr ydym wedi rboddi cryn help i Ffrainc cyn yn awr. Yn wir nid oes eisieu myned yn nes yn ol na phedair blynedd ar ddeg cyn cael engraifft o'n caredigrwydd, a bychan o beth ynddi ydyw ein beichio yn bresennol yn y gwaith a wnawn yn yr Aipht. Y gwir yw y mae Ffrainc yn weddol gryf yn awr, ac yn anghofio ei bunan. Nid oes un wlad yn Ewrop ar feddwl yr hon y mae llai o at-graff yn aros ac wedi cael gwersi mor galed. Ond nid yw heddwch j Ewrop, fodd yn y byd mewn perygl. Y peth goreu a all Ffrainc wneuthur yw cyflawni yr ammodau sydd yn ei rhwymo hi fel ninnau yn y wlad hono. Y mae Lloegr nid yn unig yn dysgwyl i bob un o'u dynion eu bun i wneutbur ei ddyledswydd, ond hefyd yn dysgwyl i bob gwlad fod yn ffyddlon i'w gair a'i haddewid.
"Y FRENINES A CHYMRU."
"Y FRENINES A CHYMRU." Dyma benawd i erthygl hir yn y Faner Awst 7. Dywedir ynddi y bwriada clerigwyr esgobaeth Llanelwy gyflwyno an- erchiad i'w Mawrhydi ar ei hymweliad a Gogledd Cymru, ond nas gwel y gweinidogion Ymneillduol eu ffordd yn glir i wneyd yr un peth. Ym rahhth dyldodau eraill ceir a ganlyn :—" Ni bydd clerigwyr esgobaeth Llanelwy ond yn cyflawni eu dyledswydd wrth gyflwyno anerchiad iddi. Ymweliad ydyw hwn a delir a gwahanol ranau yr esgobaeth hon a'r frenhines, fel y dywedwyd, ydyw pen yr eglwys y perthynant iddi. Nid yw hyn ond arferiad cyffredin is-swyddogion a deiliaid, pan y bydd eu pen' yn talu ym- weliad a'u gororau. Yn rhinwedd perthynas yr Eglwys a'r goron y derbyniant hwy eu degymau; a chyfreithiau y deyrnas sydd wedi eu galluogi i ormesu drwy y blynyddoedd ar gydwybodau ac amgylchiadau amaethwyr Ymneillduol y Dywysogaeth. Nid rhyfedd, gan hyny, yw, fod clerigwyr esgobaeth Llanelwy yn parotoi anerchiad i'w Mawrhydi ar ei hymweliad a'r esgobaeth." Yr ydys wedi dangos drosodd a throsodd drachefn ar ba dir y mae y Freiiines yn ben i'r Eglwys. Y mae yn ben iddi fel y mae yn ben i bob sefydliad arall yn y wlad hon. Ni byddai yn benaeth yn y wlad pe byddai rhyw awdur- dod arall yn uwch na hi. Ni ddichon i ddwy lywodraeth gydfodoli yn yr un wlad. Heblaw hyn, oni wyr golygydd y Faner fod y Frenines yn gymmaint o "ben" i Gorph y Methodistiad ag yw i'r Eglwys ei bun ? Ai nid oes dim gweithredoedd cyfreithiol yn perthyn i'r Methodistiaid, ac i bob enwad arall sydd genym ? Stamp a delw pwy sydd ar y rhai hyny, ni a hoffem wybod! Yr ydym yn synu fod Mr Gee yn meddu cymmaint o wyneb fel ag i roddi argraff ffugiol ar feddyliau ei ddar- llenwyr yn y dyfyniad uchod. Y mae yn dweyd y gwir ond nid yr holl wir. Ni a hoffem wybod yn rhinwedd pa berthynas y mae y Faner yn gallu derbyn ei thai am ei hysbysiadau a phob arian arall a ddaw i mewn iddi 1 Onid trwy awdurdod cyfraith y gwna hi yr oil ag a wna ( itietn yw y gytraith ond awdurdod y Goron 1 Ac onid cynnrychioli y gyfraith hono a wna y Frenines 1 Gan hyny wrth ommedd talu gwarogaeth ddyladwy i'w Mawrhydi, ni wna y Faner ond dangos i ammharch i awdurdod cyfraith Prydain Fawr, ac ymrestru gyda'r set hono sydd yn gwaeddi yn erbyn pob trefn ac awdurdod yma a thu draw i gulfor Saufc Sior. Pell ydym o feddwl fod Mr Gee yn cyn- nrychioli yspryd a theimlad mwyafrif ei ddar- llenwyr yn yr ysgrif y eyfeiriwn atti; ac y mae y Faner yn debyg o golli yn fwy nag a ennilla o'i herwydd. Yr ydym yn gobeithio, ac yn wir yn credu fod ugeinial1 o bregethwyr yr hen Gorph a'r Enwadau ereill yn esgol:aeth Llanelwy yn llawn mor awyddus a'r clerigwyr i ddangos eu parch i Ben Coronog y Deyrnas.
ADDYSG GREFYDDOL.
ADDYSG GREFYDDOL. Wrth feirniadu ysgrif "Perison" yn y Celt- o'r hon y dyfynasom yn helaeth yn ddiweddar- sylwa gohebydd yn y newyddiadur hwnw am Awst 2, fel y canlyo Tybia eraill y dylai gweinidogion gyflawni y gwaith hwn (cyfranu Addysg Grefyddol). Wel, dylent os gallant; ond os na allant, gwell fyddai i'r eglw^a gyflogi dynion medrus, fel ysgolfeistri y wlad, i wneyd y gwaith gorbwysig hwn, yn gysson ag egwyddorion Ymneillduaeth." Yr ydym orun farn yn union a'r "eraill T cvfeirir attrnt vn v drfvniad nehnd-v dvlai fill .1 W -1 -.1 J "p "gweimdegion gyflawni y gwaith." I babeth y maent da 1 Paham y telir cyflogau iddynt* os na wna.nt 1 Paham y gorweddant fel y ci yn y preseb—yn rhwystr i eraill, ac heb ei wneyd eu hunain ? Beth sydd yn eu lluddias i gyflawni y gwaith ? Ai anallu meddyliol I Dyn catwo ni 1 nage-oherwydd oni ddywedir wrthyui mai hwynthwy ydyw hufen talent Cymru. Ai diffyg amser ? Wel fe all fod rhywbeth yn hyny. Oherwydd y mae gan rai o honynt gymmaint a phregeth neu ddwy yr wythnos i barotoi erbyn y Sul. Heblaw hyny y maent, gorph ac enaid, mor ddiwyd gyda gwleidyddiaeth fel nad oes ganddynt yn amI, amser i wneyd y bregeth, heb ond ei chrybwyll ? ar gyfer y Sul. Nis gallwn gymmeradwyo y sylw arall ei bod yn ddymunol cyflogi yr ysgolfeistri i wneyd y gwaith." Gwir eu bod hwy yn anfeidrol gymmhwysach i'w wneyd na 95 y. cant o'r gweinidogion, ond oni thybir fod ganddynt hwy ddigon o waith yn barod 1 Oni welir fod ysgolfeistriaid y wlad yn gweithio yn galetach ddeg o weithiau na'r gweinidog ar gyfartaledd ? Yn sicr y maent. Nid gorchwyl hawdd yw i ddyn o feddwl llawn a bywiog gadwyno ei hun ddydd ar ol dydd at yr un cylch undonog o waith, a phlygu at safon isel y dysgybl mewn elfenau gwybodaeth drwy yr wytbnos. Ac fe welir hyny yn amlwg yn y darpariadau a geir yn y Ddeddf Addysg yng nglyn a'r amser y rhaid i'r ysgol fod yn agored. Awgrym ffol, ac annynol yn wir, ydyw i'r ysgolfeistriaid ddefnyddio eu horiau hamddenol yn y rhai y Ilaesant eu bwau i wneuthur y gwaith a syrthia mor naturiol i ran y gweini- dogion. Fel y mae yn dygwydd bod y mae y gyfraith yn erbyn i'r ysgolfeistr gymmeryd arno unrhyw waith am yr bwn y derbynia dal tra byddo yn ysgolfeistr. Trown i'r ochr arall-y-- ma,6 rhai 11 gweini- dogion yn gwneyd y gwaith o gyfranu addysg grefyddol. Mewn cannoedd o ysgoliou yr Eglwys-ysgolion Cenedlaethol-fe welir gweinidogion yr Eglwys bob dydd y bo'r ysgol yn agored wrthi yn ddyfal yn gwreiddio a chadarnhau meddyliau y plant mewn pethau crefyddol drwy ystod yr amser a ganiata'r gyfraith mor rwgnachlyd iddynt. A'r unig dal, Duw a'i gwyr, a dderbyniant yn ami (yng Nghymru yn neillduol), yw eu llosgnodi fel ymyrwyr a phroselytwyr. Pa hyd yr erys pethau fel hyn 1 Pa hyd y caiff rhagfarn ddall ein harwain, a rheswm ei droi o'r neilldu. Yr ydym fel pe yn gweled arwyddion weithiau bod y rhod yn troi ac amser gwell i wawrio ar Gymru, ac y mae yn llawn bryd iddi.
|SIR ABERTEIFI.I
SIR ABERTEIFI. Dyma farn y Faner fach am Awat 3 ar ragolygon sir Aberteifi. Mae y Faner yn siarad gydag awdurdod a theilynga sylw pawb Yr unig beth a ofnwn ynglyn a Cheredigion, od oes gwir yn yr adroddiad am at-faeth Iarll Lisburne, ydyw i'r Rhyddfrydwyr fyned i ymdeimlo yn ormodol o'u nertb, a I diystyru y gelyn cyfrwys sydd yn myned i ymosod arnynt. Er's rhai miaoedd, bellach, y mae Toriaeth y sir fel pe wedi adfywiocau ac nia gellir gwadu nad ydyw yn gweithio ym mhob dull dichonadwy gyda'r unig amcan o geisio adfeddiannu y tir a gollodd. Bydd yr iarll yn sicr o fod yn ymgeisydd cryf." Mae cyfnewidiad mawr wedi dyfod dros feddwl y sir yn ystod y tair blynedd diweddaf a pheidied neb svnu na welir Lisbnrne vn ei chynnrychioli y tro nesaf. Mae y sir ac yntau, y naill 3m deilwng o'r Hall. Ydyw, y mae Ceidwadaeth sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin wedi adfywiocau, ac fe gryfha y bywyd newydd a fedda yn fwy. fwy. Da y gwyr y Faner fod y gwirionedd sydd mewn Toriaeth yn cynnwys elfenau peryglus i'w llwyddiant hi, am hyny y mae fel y rhai drwg yn ofni ac yn erynu." -SION BWL.
" YMGOM DAFYDD." -----..-
YMGOM DAFYDD." [AT EI HAWDWR.] SYR, —Diolch i chwi fel llenor medrus am wneyd sylw o'm hysgrif goegaidd," oblegyd anaml y mae dynion mawr yn gwneyd sylw o fabanod. Dywedasoch "nad pawb yn ardal Pencader sydd yn deilwng o'r enw dynion, yn enwedig y rhai hyny ag ydynt erioed wedi ymrestru ar lyfr mawr Titotaliaeth." Pen- cader, wyla a galara, ymwisga mewn sachlian a Iludw, am i ti gael dy ddarostwng gymmaint gan y dynion hyny sydd wedi ymrestru ym myddin dirwest. Ond yn ol eich ymresymiad chwi, y mae cynneddfau a galluoedd preswyl- wyr yr ardal yr un mor isel, yn enwedig y rhai hyny sydd a'u henwau ar lyfr Eglwys St. Mair, ac ar lyfr y Capel Annibynol yn y lie' Pa beth, tybed, sydd yn iselhau dyn wrth ddod yn aelod o gymdeithas ddirwestol, mwy na phan y daw yn aelod o ryw gyfundeb crefyddol 1 Dywedwch fy mod yn anwybodus o'r Seisoneg ac o'r Bibl. Cyfaddefaf fy an- wybodaeth, ond, chwareuteg, babi ydwyf, a gallaf, gobeithio, maes o law, ddysgu, ac os gwelwch yn dda, syr, cymmeraf wers genych bob wythnos yn y cyfryw bethau, a byddaf ddiolchgar am dani. Cyfeiriwch at ryw frawddeg anrammadegol o'm heiddo; os gwelwch yn dda astudiwch yr englyn canlynol o waith Caledfryn- Os gellant ddyfeisio gwallan-gofrestr, Neu gyfrif man feiau. Ehodreswyr, rhigymwyr gau, Ni ddaliant ar feddyliau. Dywedasoch, fod rhyw duedd mewn babanod i gael Ilyfrau yn eu dwylo ym mhell cyn y byddont yn medru eu deall, yn enwedig os bydd pictwrau ynddynt. Dywed hen air- Fel ei hiin trby,-a arall." Ac y mae pawb sydd yn hoff o bictwrau gwenoliaid, rhodau nyddu, &c., yn credu fod pawb ereill fel eu hunain. Ac felly hawdd y gellwch chwi a Pegi faddeu i mi am hoffi gweled y cyfryw. Yr ydych yn ceisio barnu fy mhroffes; cofiwch yr ymadNdd-" A pha farn y barnoch y'ch bernir." Diammheu mai fy anallu i siarad ydyw yr achos nad ydych wedi fy neall mewn cyssylltiad a "chreu y ddiod feddwol yn ei flurf bresennol." Treiwch eto, y mae ynoch allu annrhaethol. Dywedaf fod Paul o dan ddwyfol ysbrydoliaeth pan yn gorchymyn i Timotheus ymarfer ychydig win, ond cofiwch mai er mwyn ei gylla" y gwnaeth hyny. Mae'r meddyg lawer tro yn rhoddi ychydig lattddnum i'r claf, ond pe rhoddai lawer gwnai ^n ol pob tebyg ei ladd. Yr ydych yn orselog aroa Ysgrythyr i brofi eich pwnc. Felly mionau. Bu llawer o'r fath yn y byd o'r blaen. M*e llawer o ddadleu wedi bod ar Etholedig- aeth," II Y Bedydd," a'r 11 Drindod a'r Undod," 6olly mae Jlawer o Ysgrythyr wedi ei defnyddio gan bob plaid, ond er hyny hyd heddyw y mae y pynciau heb eu setlo 1 foddlonrwydd. Felly ar ddirweafc. Yr ydych chwi yn gredwr mawr mewn coniac, a minnau mewn dwfr. Gyda golwg ar fusnes Lot, yr ydwyf yn credu fod pobpeth wedi ei gofnodi yn yr Ysgrythyr, un a'i ynte i'w hefelychu, neu i'w gochelyd, ac os na a ydyw hanes Lot i'w ochelyd, y mae i'w 'efelychu. Rhoddwch ddiolch i Pegi am addaw tegan i mi. Gwelaf fy mod yn ei ffafr, a diammheu genyf y caf ryw ddydd fy mabwys- iadu i'w theulu, ac felly gobeithiaf gael ambell i ddracht.—Yr eiddoch, JONATHAN. [Diolch i Dafydd a Jonathan. Yr ydym o'r farn fod darllenwyr Y JOURNAL yn barod i weled pob u o honynt yn gwneyd ei exit-ar y pwnc (fe ymddengys i ni) annyddorol sydd don sylw ganddynt.—Y GOL.]
! GELLI AUR.
GELLI AUR. MAE "0 Amgylch y Byd," yr hwn a ym- ddengys yng ngholofnau Seisnig Y JOURNAL yn gymmeradwy iawn yn y gymmydogaeth hon. CAFODD Ysgol Sul yr Eglwys ei phleaerdsith jflynyddol dydd Sadwrn y 27fed o Orphenaf. Yr oedd yn ddiwrnod hyfryd, a mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol. Nos Fercher diweddaf anrhegwyd Miss Caroline Falkener a phwrs yn cynnwys X7 12s. 6c. am ei ffyddlondeb gyda'r harmonium a'r diwrnod canlynol ymunodd y foneddiges mewn glan briodas a Mr Joseph, ysgolfeistr y lie. Treuliant eu mis gwyn yn y Brif-ddinas — MEILWCH.
PENCADER.
PENCADER. Ysgrifena Un o'r Ardal" i ddweyd fod a rlifi pobl yng nghymmydogaeth Pencader yn fwy parod i gynnaloyfarfod politicaidd hag i fyned i wylnos; a thyna y casgliad ócIjIiarl-th y ffiiith iod crefydd wedi myned yn fsel yn y lie. Awgryma hyn y gofyniad-Pa un y mwyaf pwysig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg-cyfarfod gwleidyddol neu wylnos 1
TREGARON.
TREGARON. Y Sul diweddaf cefais yr hyfrydwch a'r pleser mwyaf 0 dalu ymweliad a hen dre fy ngenedigaeth. Yn ol fy arfer aethum i'r Eglwys, ond daeth hiraeth mawr arnaf ar ol yr hen Ficer Hughes, a'r hen Eglwys a'r adddau uchel, y rhai nid ydynt i'w gweled heddyw. Ond i wneyd i fyny am hyn cefais y pleser mawr 0 glywed yr hen frawd J. P. Rees yn arwain y canu, ac yn wir yr oedd yno ganu mewn gwirionedd. Hoffwn yn fawr pe byddai holl Eglwysi Cymru yr un fath. Yr oedd yno gynnulleidfaoedd inawrion trwy y dydd a phob un yn cymmeryd rhan yn y gwasanaeth heb gymmhorth un offeryn cerdd. Cawsom bregethau da ac yn llawn synwyr gan y Parch. Thomas Phillips, y Ficer, yr hwn sydd yn wir egniol dros yr Eglwys. Yr oedd yn cael ei gynnorthwyo yn y darllen gan Mr P. Rees, o Ysgol Rammadegol Ystrad- meorig. Yn ddiammheu y mae amser da i ddod ar Eglwys Caron. Hir oes a llwyddiant i'r parchus ficer yw dymuniad llawer heblaw CG Y FlNTAN.
nYSTRAD MEURIG.
nYSTRAD MEURIG. Cyfranwyd y gwobrwyon arferol yn ysgol y lie uchod ar ddiwedd tymmhor yr haf ddydd Mercher, Gorph. 31fed. Dywedodd y Prif Athraw—y Parch. John Jones, M.A.—fod gwaith y flwyddyn wedi rhoddi pob boddlon- rwydd iddo. Yr oedd y clasurolion wedi cyrhaedd eu safon arferol, a'r Seisneg yn dangos gofal a diwydrywdd. O'r hen ysgol- heigion y rhai a gawsent y sylw mwyaf yn ystod y flwyddyn, y rhai hyn oeddynt:— Vernon Stanley Jones, yr hwn a ennillodd yqgoloriaeth yng Ngholeg Eton Mr William Williams, yr ysgolor blaenaf am y flwyddyn yng Ngholeg Llanbedr; Mr John Edward Williams, yr hwn a gyrhaeddasai y graddau o MJ.R.C.S., L.R.C.P.; a Mr David Williams, yrjjwn a wnaed yn M.R.O.S. Dosparthwyd •gwobrwyon i'r ysgolheigion canlynol:-V. S. Jones, Daniel Jones, Joseph Morgan, W. Foster Jones, a Richard Jones. Y ddau a gawsant wobrwyon mewn rhifyddeg oeddynt Joseph Morgan a W. S. Williams; mewn hanesiaeth a'r iaith Seisnig, Abram Jones. Dywedai Mr Charles Harris, B.A., yr athraw cyiinolthwyol, yr hwn sydd ar fin ymadael, ei bod wedi rboddi pleser mawr iddo i gyfranu addysg yn hen ysgol Ystrad Menrig, clod yr hon oedd ym mhell ac agos. Teimlai y bech- gyn yn ofidus wrth golli Mr Harris. Yn ystod ei arosiad byr yn y lie yr oedd wedi helpu i ffurfio canghen o Gymdeichas Ddir- westol yr Eglwys, yr hon sydd a golwg lewyrchus ami. Yr oedd yn llaw fedrus hefyd gyda chwareu cricet, a gwnaeth lawer i hyrwyddo lies yr ysgol yn foesol a meddyliol.
LLANLLWNI.
LLANLLWNI. Dydd Mawrth yr wythnos i'r diweddaf yr oedd deiliadon newyddion Mr J. P. V. Pryse, Bwlchbychan, yn talu eu rhenti. I'w bodd- lonrwydd cyffredinol dywedodd y cai pob tenant ei le am yr un rhent ag o'r blaen. Rhoddwyd ciniaw rhagorol ar yr achlysur. Dangosodd Mr Pryse y tenantiaid dros ei fferm, yr hon sydd yn werth ei gweled. Yn ddiau teimlad pawb a wyddant yw fod Mr Pryse, Bwlchbychan, yn gwella fel y mae yn myned yn ei flaen mewn dyddiau, a dymunant hir oes iddo.
[No title]
ATHRYLITH, fel yr haul ar y deial, a rydd i'r galon ddynol ei chysgod yn ogystal a'i goleuni.
BYRION.
BYRION. Bu llifogydd echrydus yn Japan y mis cyn hwn. YMLEDA haint y pytatws yn gyflym yn y Werddon. YB oedd 83,340 o wallgofiaid yn Lloegr ddechreu y flwyddyn hon. GWELL yw cau y ffenestri mewn ystorm o fellt a tharanau. CYRHAEDDODD Ymherawdwr Germani i'r wlad hon ddydd Iau diweddaf. FE dybir mai pum mlynedd ar hugain ar gyfartaledd yw hyd oes dernyn 0 arian. GELLIR danfon llytbyr yn awr o amgylch y byd mewn naw a thriugain o ddyddiau. CYNNALIWYD Eisteddfod Llandeilo ddydd Llun. Llanelly aeth a'r brif wobr am ganu. I WELLA y wich wach ar esgidiau dylid sogno y gwadsau mewn olew had llin. FE gyfrifir fod dau mwy o oledd yn y twr sydd yng Nghastell Caerphili na thwr Pisa. NID yw Mr Gladstone byth yn cymmeryd te oni bydd wedi ei wneuthur gan ei wraig. DYWHDIB fod Ysgotland ar y cyfan yn sychach na Lloegr, a Lloegr na'r Werddon. CYHOBDDWYD Eisteddfod Genedlaethol1890 ym Mangor fawr yn Arfon y Llun diweddaf. DYWEDIB gan ohebydd yn y New York Times fod y rhyfel yn Hayti yn fwy o gigydd-dra na dim arall. GWARIA pob un naw swllt ar gyfartaledd am lyfrau, cyfnodolion a newyddiaduron yn, y wlad hon. RHYDD boneddwr o'r enw Mr David Evans L50 o ysgoloriaeth i Ysgol Rammadegol Brycheiniog. MAE oddeutu deuddeg miliwn yn ennill eu bywioliaeth wrth eu deng ewin" yn y wlad hon. CYRHAEDDODD treth yr incwm y pwynt isaf yn 1874-5 pan yr oedd yn ddwy geiniog y bunt. Y DYWYSOGES LOUISE yw y seithfed wedi y Gorchfygiad Normanaidd a briododd un o'r deiliaid. DARLLEXWYD Bil Addysg Ganolraddol yng Nghymru yr ail waith yn y Senedd nos Fawrth yr wythnos hon. Bu farw merch yn ddiweddar yn Birming- ham oherwydd rhwymo ei gwasg yn rhy dyn fel ag i rwystro i'r gwaed gylchredeg. EISTEDDA Mrs Harriet Beecher Stowe, awdures "Caban F'ewytbyr Twm," am oriau yn canu ei hoff emynau. AR y Fainc Esgobol yn y wlad hon fe eistedda deuddeg sydd yn llwyr ymatlalwyr oddiwrth ddiodydd alcoholaidd. ANAML y ceir achos o Ddarfodedigaeth mewn plant: y mae yn fwyaf cyffredin rhwng 25 a 30. Y MOTTO ar sel Cynghor Sirol Penfro yw, Mewn undeb mae nerth." Nid ydys wedi clywed pa un ai Saesneg ai Cymraeg yw. Y blaenaf sydd yn taro oreu yn y Little England beyond Wales." DAW Cincinnatti yn fwy parchus o'r Sul fel yr heneiddia. Mae y Maer wedi gorchymyn i'r polis i roddi y gyfraith mewn grym yn erbyn pawb a wnant unrhyw waith nad oes gwir angen am dano. DYDD Mawrth diweddaf yr oedd cynghaws gan Mr J. Gibson, golygydd a pherchenog y Cambrian News, Aberystwyth, yn erbyn golygydd y Goleuad, am y tybiai fod yr olaf wedi ei ysglandrio. Cafodd Mr Gibson .£50 a'r costau am ei drafferth. CYFARFUODD cynnrychiolwyr glofeistri Dur- ham a'r mwnwyr yng Nghastellnewydd ar Dain yr wythnos ddiweddaf i ystyried pwnc y cyflogau. Wedi siarad am hir amser cynnyg- iodd y meistriaid godiad o 10 y cant. Y mae y glowyr yn gofyn am 20 y cant. CYMMERADWYIR Gwasanaeth Claddu neill- duol gan Esgob St. Albans i'w arfer wrth gladdu rhai heb eu bedyddio. Arferwyd ef ychydig amser yn ol yn angladd un o warden- iaid plwyf Coggeshall, yr hwn nid oedd wedi ei fedyddio. FE greodd Dr. Parry, y cerddor, olygfa yn Eisteddfod Towyn, Meirionydd, ddydd Llun yr wythnos hon. Gofynid iddo siarad yn yr iaith fain er mwyn hwylusdod 11 ein gohebwyr arbenig," ond gommeddodd. Wedi beirniadaeth hir yn Gymraeg gwnaeth a hi yr un fath a Thalhairn a'i Greadigaeth er ys talwm yn y Berffro-ei rhwygo yn yfflon. Wrth reswm nis gallesid gadael i hyn basio yn ddisylw. Gwnaed sylwadau ar y peth, a chydiodd y Doctor yn ei het ac allan ag ef. Y MAE Prif Gwnstabl swydd Caerlleon-gawr wedi cyhoeddi rhybudd rhag penaduriaid drwe. llawer o ba rai sydd ar dreigl ar hyn o bryd. Maent wedi eu gwneuthur mor gywrain fel nas gellir braidd gwahaniaethu rhyngddynt a rhai da. Seiniant yn debyg i aur ac y maent o fewn i ychydig yr un bwysau a'r penaduriaid cyfreithlawu. Yr unig ffordd i'w gwahaniaethu yw drwy graffu ar y llythyren "a" yn Victoria, yr hon sydd allan o'i lie, neu islaw y llinell. Daw yr arian drwg yma oddiwrth haid o ddynion cyfrwys-ddrwg. Dylid bod yn ochelgar iawn yn erbyn rhai o'r dynion sydd wedi cyrhaedd y deyrnas. CYMMERODD prawf Elizabeth L&nden le yr wythnos ddiweddaf. Cyhuddid hi o lotgi tafod ei mab a phocer coch. Gofynasai y garchares i un o'i chymmydogion pa fodd i wella ei mab o'r arferiad o ddweyd celwydd, a dywedwyd wrthi am losgi ei dafod a phocer poeth. Gwnaeth yn ol y cyfarwyddyd, yr hwn a roddwyd mewn cellwair, a thynwyd dynion i'r lie gan ysgrecbfeydd y crotyn. Yn ffodus ni chafodd ei safn ei llosgi yn ddrwg. Dywedodd gwr y ddyr.es nad oedd neb yn gofidio mwy am y tro na'i wraig, a gorchymyn- wyd iddi ddyfod i dderbyn ei dedfryd pan ofynid am dani gan y Llys. DARGANFUWYD ogof yn agos i ffrydiau French Creek, yn Reading, Pennsylvania. Oddimewniddiyroedd ysgerbwd a photelwerdd wrth ei ymyl. Yn y botel yr oedd llythyr at Miss Virginia Randolph, Richmond, Virginia. Yr oedd yr ysgrifenwr—Arthur L. Carrington —gyda Washington yn Valley Forge yn 1778. Torwyd y cyssylltiad rhwng cwmni a aethai allan mewn ymchwil am ymborth a chorph y fyddin, ac ymguddiodd Carrington yn yr ogof. Taniodd y gelyn amryw ergydion at y gwiad- garwr, a chyffrodd un o'r bwledau garreg fawr yr hon a gwympodd ar enau yr ogof gan ei garcharu oddi fewn. A dyna fu ei ddiwedd a'i lythyr oedd y llawysgrif, yn cynnwys cy- faddefiad o gariad digyfnewid. Ym monwent Richmond fe geir y beddargraff canlynol- "Bu farw wedi tori ei chalon, ar y laf o Fawrth, 1780, Virginia Randolph, yn 21 mlwydd a naw diwrnod oed."
EIN PENLLYWYDD.
EIN PENLLYWYDD. Gweddw unig ddianair—yw Banon Y benaf deyrn-gadair; Ag Angbrist ni wna gyoghrair Mewn cred, na gweithrea, na gair. Prif aerefl pob rhyw fawreaa geiriau Ragorant mewn sylwedd; Teyrnasa trwy hynawsedd, [ Ar ei gwlad mae arogl hedd. Arwyddair hon yw rhyddid—i bawb oil Heb y bai o erlid; Un gall y w; ni thriga llid Yn ei hanian gynhenid. Llywydda, nodda'u addas—ei gwerin A'i gwyr mawr 0 urddas; Y ""11 gryf yn rbwymyn gras, BboecI ami ffafr y Dayrnas. I PENKHTN FIKOD.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar Briodas y Capt. Boydell Croton, Llwyndewi, Llaugadog, a Mn Elizabeth Bowland, yn ddi. weddar o Gwynfe. Boneddwr a ban addien--a unwyd Dan wousu Ir nof lawen I Efe yn dda gyda gwfa A ddewiaodd ei asen. Haelfrydig foneddiges-a gafodd :¡ :0: t Yn gu Efa gynnes; I( Boed yn rhwydd bob llwydd a lies I eneinnio eu hanes. r. priodas nrddaaol-eiddanaf 1 Ddaioni gwastado], Tirionwych fywyd rhinol A mwynhad heb ddim yn ol. GWILTM DTFI.
LLUN FY NGHARIAD.
LLUN FY NGHARIAD. ) Ar len fe gaf wir luniad—o Olwen [ Fy anwylaf gariad t Rhyw fynych gip-edrychiad Ami fyth, rof, rian fad! .1 Gwyneb yr eneth geinwen—angylaidd Wna 'ngbalon yn lIawen I I Eres wawr! llun aerea wen I Mor ddèll mae ar ddalen I OwE. WTN.
CEILIOG Y COED.
CEILIOG Y COED. Un gwiwlan yw'r coed geiliog—a'i liwos Hardd lewyrch godidog; Per yw cin y glan ei Clog Yng nghanol coed canghenog. OwEN Wry.
Y CANARY.
Y CANARY. Can wiwrwydd y canary-wna Ionawr Yn wanwyn dioedni; Berw mrwl bar ymboli- Auaf oer. ai haf yw hi P TIILO.
At Olygydd Y JOURNAL.
T frenines a't-feget-es Fel dwy gares o'r un gran." DAFIS CASTKLL HnvBL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yr ydym wedi darllen llawer yn ddiweddar am briodas y Dywysoges Louise o Gymru (rhad Duw fo arni!) ag Iarll Fife (bendith ar ei ben !) ac am y mawredd a'r godidawgrwydd a ddangoswyd ar ddydd eu priodas, ac am yr uchelwyr oeddynt yn bresen- nol ar yr achlysur—gwyr blaenaf y Deyrnas mewn Ilan a llys-ac am yr Archesgob a'r gwyr uchel-urddog eraill a gymmerent ran yn y Gwasanaeth Priodi. Yr oedd mawredd daear yn cyrhaedd ei bwynt eithaf yn hyn oil, mae yn ddiau genyf. Yr oeddwn i ar y diwrnod hwnw yn dygwydd bod mewn cymmydogaeth wledig, ac aethum i mewn i'r fonwent yn y He. Fel y dygwyddai yr oedd priodas yn cymmeryd lie yno hefyd oddeutu yr un amser a phan yr unid y Dywysoges a'r Iarll yng Nghapel Palas Buckingham. Aethum i mewn i'r Eglwys ac yr oeddwn yn llygad-dyst o'r gweithrediadau a chlywais y Gwasanaeth Priodi yn cael ei ddarllen, a gwelais y par ieuanc yn ymadael oddiwrth yr allor yn wr ac yn wraig. Meddyliais rhyngwyf a mi fy hun-wel dyma beth yw cydraddoldeb. Yr un gwasanaeth, syniwn, a aethpwyd drwyddo wrth briodi y Dywysoges Louise ag Iarll Fife heddyw ag yr aethpwyd drwyddo wrth briodi John Jones a Jane Davies yn Llan Ni wnaethpwyd dim gwahaniaeth rhwng boneddig a gwreng. Onid yw hyn yn gydraddoldeb 1 Oni ddyr- chafwyd John a Jane i'r un llwyfan a Louise a Fife-onid yr un gwasanaeth, yn yr un geiriau, a gawsant, ac onid ymadawsant ill deuoedd wedi eu bendithio a'r un fendith ? Dyma beth ydyw cydraddoldeb, a gwerin- lywodraeth yn eu perffeithrwydd a'a pryd- ferthwch, a rhad Duw fo arni, meddai eich gostyngedig was, HEN BERERIN. [Mae Hen Bererin" yn llygad ei le, a chollir golwg ar y pwnc cryf hwn yng ngbym- meriad yr Eglwys Genedlaethol, nid yn unig gan ein gwrthwynebwyr ar Iwyfanau Dadgya- sylltiad, ond hefyd genym ni ein hunain. Un o'r rhagoriaethau hyny a berthyn i'r Eglwys ydyw. Nid oes dim o hono i'w gael ym mhlith ein brodyr Yinneillduol.-Y GoL.)
LLAFAR GWLAD.
LLAFAR GWLAD. At Olygydd Y JOURNAL. STR,—Gair ym mhellach yng nglyn a "Llafar Gwlad." Am Llangynog yn sir Frycheiniog dywedir- Llangynog newynog noeth, Gwae i'r ci a'i gwelo dranoetb." Am Llanycrwys a Cbaio yn sir Gaerfyrddin fe red y gair- Caio goch, bastynau helyg, Lie mae'r bechgyn cas gwenwynig." 11 Llanyorwys, blodau'r yw, Lie mae'r bechgyn goreu'n byw." Os derbyniol, cewch ychwaneg.—Yr eiddoch, D. D. [Derbyniol iawn.—Y GOL.]
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. DIBNW.—Rhoddwch wybod teimlad y ferch i ni cyn oyhoeddi y pennillion. AP DEWI DAWKL."—Ni bnasai yn ddianrhydedd i'r Dewi Dawel" y oyfeiriwoh atto fod wedi ysgrifenu y llytbyr. Nis gwyddem ni fod enwau o'r fath yn patent. Gyrwch rywbeth eto. YxGom DAFYDD."—Fe genfydd Mr John Titus y nodyn sydd ar ol yr ysgrif yn dwyn cyssylltiad a'r "Ymgom" yn y rhifyn hwn, ac nid oes eisieu dweyd y eh wan eg na "hanner gair i gall."