Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y PARCH. D. CHARLES DAYIES,…

News
Cite
Share

Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M. A. GA.N CELYDDON, SCRANTON, PA. I. Gwallt y pen yn ymdeneuo, Trwyn bwaog, talcen glan, Trwchus farf heb orphen britho, Llygaid adlewyrchent dan; Pabell ddestlus, llaw wen fechan, Llais clir swynol-mwyn-nid cryf, Gwelem yn ei arddull eiriau Urddas troediad myfyr hyf. II. Mor feistrolgar oedd yn pyncio Nodau dyfnaf natur dyn; Clywem yn ei frawddeg effro Fiwsig meddwl Duw ei hun; Dadrys dyrys bynciau ydoedd, Llusern Duw oleua'i droed, Goleu gwell ar ffyrdd y nefoedd Ni rodd neb i ni erioed. III. Melus ydoedd eistedd dano, Gwrando ar ei eiriau mel, A phob gair oedd wedi'i lwytho A gwirionedd gyda sel; D. Charles Davies—craffus fyfyr, Clir ddeonglydd, cenad hedd; Gorphen wnaeth ei oes o lafur— Y mae yntau yn y bedd. IV. Pan mae'r cewri wedi cefnu, Goraf gewri boreu f' oes, Pwy a'm beia am alaru A gruddfanu dan fy loes? Buont i mi yn symbyliad Pan yn ieuanc iawn fy ngwedd; Boed fy mywyd fel eu rhodiad, Boed fy niwedd fel eu hedd. -0 I

YR EISTEDDFOD A'R GYMItA.EG.

D. R. LLOYD A GWALCH EBRILL.

[No title]

TRO TEW F WLAD Y TATWS,i

Advertising

GWERINWYR PENNSYLVANIA.

Y PARCH. HENRV PRITCHARD.