Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

SUDDO AGERLONG

TRWY FFENESTR 6, Y SAITHI…

Advertising

BWLCH ABERGLASLYN .

News
Cite
Share

BWLCH ABERGLASLYN (0 AWDL). Frenhinfwlch yr Eryri, A phorth hardd i'w pharthau hi. Fwlch anian gorfalch weni-i enaid Ymofynion 11 difri; Fan alltog; pwy fu'n hollti Dy gaerog dwr, dy greig di? Ys sobr hanes y bryniau-dry yn fud I'r hen fwlch di-wenau; Arw borth! Cyfoed a'r bau, Ydyw balch dad y bylchau. ) Ei oed a'i gelf nis dwed gwr,— A Duw ydyw ei awdwr. # • Fwlch y nos, oleunos lan,— Adwy hedd i fyd dyddan, Arddunedd eyfareddol, A dyn gwan, a Duw'n ei gol. Ond fel i lan ddyddanu-y meudwy, Mudan, na char wenu, Y lwyslon, gain IAslyn gu, Dery don i'w drydanu. Rhed dau fad leuad lewyrch, A'neidyr aur yn ei drych. Ys y bont, beunes y Bwlch, Ddihafal ooron ddifwlch. Llethol aruthredd llwythog-wna o'i threm Uthr ramant awyrog; A bedd y corbwll cuddiog, Rhwng erehwynau creigiau crog. Y rhaeadr yn orhyawdl A gan ei fawreddog awdl. Fwlch y wawr; nefolwych iaith—yr adar, Odwych, sy'n swyn perffaith; A llyma yw,-cawell maith 0 berorol bur araith A'r bore, o'r byw arawd, Ga wresog gu roeso gwawd. Orion ddydd! Arlunydd ddel, Gyda'i baent, gyda'i bwyntel; Gan hudol iaith, gan dyawdl wedd, Ymerys gan y mawredd! Yna, beiddia drem beiddiol-y gwr ewn Am uthr greig wybrenol; ( Yn llyw egwan llewygol, Adre' yn hurt 'e dry'n ol. Yma daeth yr ymdeithydd-o chwilio Arucheledd gwledydd; A chan drem, ochenaid rydd Gar rai i gamp ei Greydd. Difraw ddyn difarddoniaeth,—nid edwyn Ond adwy tramwyaeth; A Duw, mewn ofnadwyaeth, Yn ei gwydd, nis deil yn gaeth. Tra chreig uwchlaw yn llawen Yma byth, chwardd am .ei ben. Yn ddiofal, bro'n ddifwlch, Heibio a—heb wel'd y Bwlch Fwlch. amlwg; y golwg ga.' Rhyw lewygfawr olygfa. Y Duw aruthr, i'r dwyrain—gorwgus, Wel mewn creigiau milain; A goror y mor mirain Yn glws rhwng traethellau glain. Dwys iawn y bau,—'does yn bod Olwg o Gantre'r Gwaelod. Tra'r Traeth Mawr, orawr eirian-a rhyfalci Drefi Madog wychlan, Yn emog glir; a'u mwg glan Mal eirioes gymyl arian. Fwlch Hanes; gorfalch honiad,—a'i beraidd Barabl i draddodiad Chwedlau beirdd, henfeirdd rhinfad Addefir fedd i'w fro fad. I Nanmor, hwn o unman,—yn ei fro Ddena'i fryd awenlan A'i enaid yno'i hunan I Luniai'n glws englynion glan. LInn y Bwlch, a'r ddillyn bau, Agweddir o'i gywyddau. Orhyawdl jr, wleb yr Eon jr-y chwimwth Ddychymyg wel weitnioii, 0 gor y creigiau geirwon, Heriol wyr Ervri Ion. Ystiryd Rhodri, a'i asbri,—wel yn dan, A Glyn-dwr uchelfri Pwy faidd frad? Pwy faedda fri Dewr arwyr tud Eryri ? Yno yn gwylio gwe'id—arwriaefch, Eryron mewn glewdid, 0 z! 0 fryd llym, ar frad a 11 id, Yn cau dyrnau cadernid. Caledfalch deyrnfwlch olodfyw, A gwylfa erch, cdi-gelf yw. Yma gwel dyehymvg waed, A dur y Brython dewrwaed I Yn troi y lie trwy y Hid Yn oraddwvn Fwlch Rhyddid. Yn iach, yr awrhon. deyrnfwlch Eryri, Erch gilwg anian, i grych glogwyni; Byw acw aros « feib y cewri Yn asbri dilyth i'w hysbrydoli I ddial brad, arddel bri—ardderchog Y dewrion enwog fu'n darian inni. —CYBI.

BLAS OERAIDD AR, BLESERAU.

[No title]

Advertising

CYNGOR CRICCIETH

MAGNESIA FOR DYSPEPTICS .

Y GWEITHIWR. _-*

Advertising

YMRESThU. 40

Gall YFORY fod yn RHY HWYR…

[No title]

[No title]

Advertising

BRAWDLYS SIR GAERNARFON

-----------EWYLLYSIAU RHYFEDD…

Advertising