Hide Articles List

2 articles on this Page

FFERMDY PHYLIP. J

News
Cite
Share

FFERMDY PHYLIP. J NID FFUG-CHWEDL. jf f* qak MOEL TRA HEN, CYFIEITHYDD "Y BANKNOTE COLLEDIG," &c., &c. Penod II. Yr oedd pythefnos neu debyg wedi rhedeg heibio pan y deffrodd Llanogwy un bore gan newydd a ddisgynasai i'w mysg fel ergyd o drydan: fod Ben Phylip ac Angharad wedi myned a phriodi. Daethant i hyn heb gydsyniad (a defnyddio geiriau y Squeiar) gweinidogion na meistri. 'Doedd gan Ben neb i ymgynghori sg ef, oblegid nis gallai dysgwyl iddo roddi ufudd-dod i'w frawd; ac yr oedd Augharad wedi gofyn i Mrs. Vycban, ac yr oedd Mrs. Vychan wedi gwithod rhoi ei hwyneb o du y seremoni, er na ddarfu iddi yo weithredol gerdded i'r eglwys i'w gwahardd. Ar ol cymeryd pleserdaith o dair wythnos i gadw'r 'melfis' i fyny, daeth y priodfab a'r briodferch yn ol i Lanogwy. Gwrthododd Fferm Pbylip ea cymeryd i mewn; a dywed- odd Rhydderch Phylip, yr hwn oedd yn ddig ofnadwy wrtb ei frawd, 'gan iddo wneud ei wely, mai felly y byddai raid iddo orwedd smo,' yr hyn sydd yn gerydd ddigon cyfleus, ac a arferir yn ami. 'Mae Ben yn waeth na phlentyn,' cwynai Rhydderch wrth y Squeiar, ei oslef yn galet- ach nsc arfer, a'i ddull yn oerach. 'Mae wedi myn'd a phriodi y ddynes ieuanc yma- yr hon nad yw ei gydraddâac yn awr 'does ganddo ddim cartref i'w roddi iddi. A oedd ef yn tybied y derbyniem ni ef yn ol acw?- a hithau yr uo moddi Mae wedi actio fel ynfyd.' 'Ni fyn Mrs. VychaD wneud dim byd a hwy,' dychwelai Squeiar M Irles: 'ac y mae Vychan o'r Garth yn gynddeiriog.' ''Dyw Vychan o'r Garth ddim yn ffwl. Trwy ei fod yn ddyn o eiddo, with gwrs mae yn meddwl y syrthiant yn ol arno ef.' Yr hyn a fawr ofnai Rhydderch ei hunan. Yn y cyfamser cymerodd Ben lety costfawr (os gellir yn gyfiawn cymhwyso y gair at unrhyw ystafell yn Llanogwy), a gyrai ei wraig aUan bob dydd yn y cerbyd bycban yr arferid edrych arno bolj amser yn Ffcrmdy Phylip fel ei eiddo ei hun. Yr oedd Ben yn llawn o arian yn awr, oblegid yr oedd wedi cynilo peth; ond nis gallai fyned yn mlaen a byw arnynt am byth. Ar ol amryw ymweliadau &'i frawd, cytunodd Rhydderch i drosglwyddo dros fil o bunau iddo; nid oedd yn swm rhy fawr o gwbl, ac ystyried fod Ben wedi rhoddi ei wasanaeth iddo, fel yr oedd, am nifer o flynyddau yn unig am gael ei gadw fel boneddwr ac 'extra' fel arian poced. Nid a'i mil o bunau yn mhell iawn gyda'r fath fferm ag y bu Ben yn arfer k hi, ac a ddymunai gael, a phenderfyn- odd ymfudo i'r America. Yr oedd Mrs. Vyehan (galwai y Squeiar bi yn wirion weithiau) bron yn wyllt pan y clybu hyn. Dygodd hi all an o'i thymer gyda naid. Gan felldigo y briodas wrthryfelgar, aeth yn syth at Ben i ddadlea ag ef. 'Ond 'nawr, pa'm rhaid i chwi roi eich hun i'r ystad anhapus hon1' gofynai Ben, ar ol iddo wrando yr hyn oedd ganddi i'w ddweyd. 'Anwyl Mrs. Yychan, da chwi, gwnewch ollwng i mewn dipyn o synwyr cyffredin i'ch menydd. 'Dw'i ddim yn cymeryd Angharad i'r 'ochr arall i'r byd,' fel y dywedwcb, ond i America. Nid yw ond yn uuig ychydig ddyddiau o fordaith. Tramorwyr estronol! Dim o gwbl. Mae'r bobl yno, a siarad yn gyffredin, yn gydwladwyr i ni. Ein hiaith ni a siaredir ganddynt; ac y mae eu cyfreith- iau, mi gredaf, rywbeth yn debyg i'n rhai ninau.' 'Yr un fath yn gymhwys fuasai i chwi fod filiynau o filldiroedd oddiyma, a siarad yn ymarfero),' gruddfanai Mr. Yychan. 'Bydd Angbarad wedi ei cholli gymaint i mi yno a phe buasai yn un o'r pegynau. Hi yw fy unig ferch, Ben Pbylip, ac ni fu erioed i ffwrdd oddiwrtbyf; bydd ymwahanu a hi fel ymwahanu A bywyd.' 'Mae'n bur ddrwg genyf,' ebai Ben druan, yr hwnoeid fel benyw pan y gwneid unrhyw apel at ei deimladau. 'Cydfyw a chwi? Na, ni wnai hyny mo'r tro; ond, diolch i chwi yr un fath am eich cynygiad. Ni wnai dim fy ngorfodi i wasgu arnoch yn y ffordd yna: a phe bawn yn gallu gwneud hyny, \"e'n torid ni allan yn fuan iawn gan eich mab Meurig pan y dychwelai. Rhaid i mi gael cartref fy hun, er mwyn Anghprad yn gystal ag er mwyn fy hunan; a gwn y gallaf wneud byny yn America. Gellir cael tir yno am hen gan; gwneir ffortiwn yno mewn dim amser. Y tebygrwydJ ydyw, cyn yr a haner dwsin o fl wyddi eto dros ein penau, y dygaf Anghsrad adref i chwi yn wraig gyfoethog, ac yna cawn setlo i lawr yma am y gweddill o'n hoes.' 'Does gyda ni ddim lie i ddilyn yn mlaen y dadleuon a'r ymresymiadau-y rhai a barhasant am wythnos neu ddwy. Ond ni esgorasant ar ddim newydd. Haws fuasai i Ben droi'r post na throi opiniynau Mrs. Vychan, ac ni waeth fuasai iddi hithau geisio troi'r haul na'i atal ef i ymfudo. Ni edrychai y plwyf arni o gwbl fel dyfais ddiamcan. Gallai Ben gario yn mlaen yn bnrion os dodai ei bechod paiod i amgylchu, diogi, heibio, ac os na adawai i'r Yanciod ei 'wneud.' Felly hwyliodd Ben Phylip ac Angharad ei wraig i Efrog Newydd, tra yr oedd Mrs. V ychan yn anghymeradwyo y cynllun mewn ysbryd a geiriau chwerw, ac yn gwrthod cymeryd ei chysuro ar bob cyfrif. < Aeth pum' mlynedd heibio. Du gwraig 19 Meurig Vychan farw, gan adael iddo eneth fechan, a daeth yn ei 01 gyda'r plentyn i dy ei fam: ond nid oes a fyno hyn a ni. Deuai llythyr oddiwrth yr ymfudwyr yn awr ac yn y man, ond nid yn ami yn ystod y tair blynedd cyntaf. Ysgrifenai Ben i Ffermdy 0 y Phylip^ Angharad at wraig y ficer, Mr. Rogers, gyda'r hon yr oedd wedi bod ar delerau cyfeillgar. Ond ni roddai yr un o'r llythyrau rbyw lawer o liapusrwydd yn nghylch materion parsonol; llenwid hwynt gan mwyaf a desgrifiadau o'r wlad newydd, ei dulliau a'i harferion, ac yn enwedig ei gwyb- aid pigog, y rhai ar y cyntaf a yrasant Mrs. Angharad Phylip bron yn wallgof. Cesglid nad oedd Ben yn llwyddo. Ymddangosent eu bod ar y 'move' yn barhaus, yn crwydro o le i le, gan wneud Efrog Newydd fel math o ganolbwynt i ddychwelyd iddo yn achlysurol. Am y ddwy flynedd ddiweddaf nid oedd yr un llytbyr o gwbl wedi cael ei dderbyn, ac yr oedd yn fiater o gwestiwn gan lawer pa un a oedd Ben druan a'i -vraig ddim wedi cwympo allan o'r byd. Yn nghanol yr ansicrwydd hwn, bu Rhydderch Phylip, yr hwn a fu yn gwaelu yn raddol am rai misoedd, farw. Ac i fedd- iant Ben, ps oedd ef eto mewn bodolaeth, y disgynai eiddo y Phylipiaid. Yr oedd ewyllys yr 'Hen Phylip' yn un ryfedd. Trosglwyddai Fferm Phylip, gyda phobpeth perthynol iddi, y da byw, y tasa" y cnydaur y dodrefn, a'r cyfan a allasai arni neu ynddi, i'w fab Rbyddereb, ac i fab hynaf Rhydderch ar ei ol. Os na adawa* Rhydderch yr un mab, yna yr oedd i fyned t Ben (gyda phobpeth a allasai fod arni fel o r blaen), ac felly yn mlaen i fab Ben. Ond os na buasai gan yr un o honynt fab, an i Bell ffrw o flaen Rhydderch-yn fyr, os na buassi yr un etifedd gwryw yn fyw, yna gallai Rhydderch wneud a'r eiddo fel y gwelai yn dda. Fel y gallai Ben dan gyffelyb amgylch- iadau. Canlyniad yr ewyllys ryfedd hon oedd, fod Ben, os yn fyw, i ddyfod i feddiant o'r fferm a'r oil oedd arni. Os oedd gan Ben fab, neu os caffai fab, rhaid iddi ddisgyn i'r mab hwnw, os nad oedd ganddo, yr oedd yr eiddo yn gwbl iddo ei hun. Ond ni wyddid a oedd Ben yn fyw; ac yn yr amheuaeth gwnaeth Rhydderch ewyllys amodol, yn trosglwyddo y cyfan i'w wraig a'i ferched. Dywedid fod yr amddifadrwydd hwn o fab wedi bod am bir yn ddraenen barhaus a sefydlog yn esgidiau Rhydderch Phylip, ei fod wedi gweddio am un, haf a gauaf. Ond yn awr, pwy oedd i dd'od o hyd i Ben? Sut y gallai yr ysgutorion adael iddo gael gwybod am ei lwc ddal Nid oedd y Squeiar, yr hwn oedd yn un o honynt, yn siarad am ddim arall. Anfonwyd llythyr at gynrycb- iolwyr Ben yn Efrog Newydd, Melchisedec Ward a'i Gwm., ac ychwaneg ni ellid gwneud. y (I'w barhau).

LLITH ARTHUR Y FORD GRON.