Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Paid byth a bod yn rhy eithafol. Mae ifawd ffwl yn anffawd iddo. 1'r hwn a fyno fyned i gyfraith y mae naw peth yn angenrheidiol:—Llawer o arian, llawer o amynedd, achos da, cyf- reithiwr da, dadleuydd da, tystion da, rheithwyr da, barnwr da, a lwc dda.
. Nodiadau Personol.
Nodiadau Personol. Y coron-fardd Ben Davies, Pantteg, a gipiodd y Gadair yr wythnos ddiweddaf yn Llandudno. Rhagorol, wir; nid ydyw Independia wedi bod ar ol eleni eto. Enillodd y Parch. D. Lewis (Dewi Medi), Llanelli, wobr bwysig arall yno. Mae y Parch. J. D. Jones, Elim, Caer- fyrddin, wedi derbyn galwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Abercanaid, Merthyr. Os mai ateb yn gadarnhaol y bydd, caiff Elim a'r cylchoedd, a thref Myrddin, golled fawr ar ei ol. Pregethwyd pregeth yn llawn o'r tan Cymreig yn Ngholeg Caerfyrddin yr wythnos ddiweddaf, o flaen aelodau y Bwrdd Presbyteraidd ac ereill, gan y Parch. John Griffiths, Wern, Aberafon. Dyma'r bregeth Gymraeg gyntaf a dra- ddodwyd o flaen y Bwrdd Presbyteraidd er pan sefydlwyd y Coleg yn y lie. Bellach, bydd rhaid cael pregeih Gym- raeg gan un o'r myfyrwyr bob blwyddyn o flaen y Bwrdd hwn. Yr wythnos ddiweddaf, yn Nghaer- dydd, unwyd mewn glan briodas y Parch. Edward Morgans, Castellnedd, a Miss Maria Eoberts, merch Edward Roberts, gynt o Oroesoswallt. Y mae yn dda gan lawer mai cor gwledig Builth aeth a'r llawryf eleni yn Eisteddfod fawr Llandudno. Mae y Parch. W. C. Perry, Brightling- sea, Essex, wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad a gafodd oddiwrth eglwys Anni- bynol Richmond Road, Oaerdydd, fel ol- ynydd y Parch. Austen Jenkins, yr hwn gafodd y swydd o Gofrestrydd y Coleg. Y mae 280 mlynedd i'r wythnos hon er pan y bu farw Esgob Bangor—y Parch. Henry Rowlands, D.D. Brodor o Arfon ydoedd. Fe'i ganwyd yn y flwyddyn 1551. Yr oedd yn hynod am ei ryddfrydigrwydd a'i garedigrwydd gyda phob achos o deilyngdod. Bydd yn dda gan holl dderbynwyr y CELT ddeall fod y Parch. D. S. Davies, y golygydd ffyddlon, yn graddol wella. Bu am ychydig ddyddiau yn nw'r y mor (chwedl pobl dda Caerfyrddin), a gwnaeth hyny ddaioni nid bychan iddo. Yr oedd y Parch. H. Seiriol Williams, Casllwchwr, yn pregethu yn nghyfarfod- ydd blynyddol y Tabernacl, Llanelli, wythnos i'r Sul diweddaf, gyda Davies, Llandilo, a Tawelfryn Thomas, Groes- wen. Clywsom fod myn'd ar y pregethu yno. Y mae y Sais-anturiaethwr enwog, Mr H. M. Stanley, A.S., yn gorwedd yn beryglus wael yn Llundain, yn dyoddef oddiwrth enynfa y cylla. Cyfarfyddodd pwyllgorblynjddol cyff- redinol Coleg Annibynol Caerfyrddin yn Neuadd y Coleg dydd Iau diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr Morgan Evans, Y.H., Oakford. Yr oedd yr ystafell yn orlawn o wemidogion, pregethwyr, a lleygwyr: ni chafwyd pwyllgor lluosoc- ach er's llawer blwyddyn. O'r un ar ugain oedd yn eefyu arholiad am dder- byniad i mewn eleni, derbyniwyd naw. Oadeirydd y pwyllgor am y flwyddyn 1896 9" yw y Parch. W. Davies, Llan- dilo. ac y mae efe yn enwog am gadw trefn.
Adlais o'r Gogledd.
Adlais o'r Gogledd. GAN ADLEF. I Llandudno y tyrai y Cymry gwlad- garol ar hyd yr wythnos ddiweddaf ar gyfer yr wyl genedlaethol. Yno hefyd yr elai Adlef bob cymercin gaffai. Ar lwyfan yr Eisteddfod yn gwau drwy eu gilydd, er nad yn cymysgu rhyw lawer, gwelid arglwyddi, barwniaid, a chylch breiniol y beirdd—the privileged sixty, yr arch-dderwydd, yr arch-ddiorseddwr, ac arch-ddiffynwr yr Orsedd, yr aruthr Morien (?); y pencerdd, yr alawydd, a'r telynor Eosia, Cynhedydd, a Brodes Dar; Penllyn, a Peris, a loan Canoldref, a lluaws ereill "rhy faith ihenwi"— chwedl criw o Aberteifi. 0 blith cymaint o bethau da gaed yno. y gamp yw dethol rhywfaint i fwrdd y CELT. Yn y brif gystadleuaeth gorawl, Builth aeth a'r wobr; yn yr ail gystadleuaeth, Cor Ffestiniog aeth a hi; a'r Corau Merched, Birkenhead ganodd oreu, a Llundain yn ail. Yn y Corau Meibion rhanwyd y wobrflaenaf rhwng Ffestiniog a'r Porth, a dyfarnwyd yr ail wobr i Abertawe. Yn yr ail gynyg y noson hono am y cwpan i'r arweinydd, Cor Ffestiniog aeth a hi o drwch blewyn gwallt a thipyn bach. Deallwn fod Syr John Puleston, ar awgrym y beirniaid, yn myned i anrhegu Mr Taliesyn Hop- kins, arweinydd cor y Porth a chwpan arall gan mor glos oedd y ddau gor i'w gilydd. Dau Ben sydd, Ben y cerddor a Ben y bardd. Yr oedd y ddau yn Llandudno yr wythnos ddiweddaf. Ben y cerddor fu yn y cyngherdd, a nen y bardd roed yn y gadair. Braidd yn llaw-drwm, meddir, ydoedd Dyfed yn ei feirniadaeth ar y pymtheg pryddest a'r awdl oedd yn y gystadleuaeth. Ond dvlid cofio mai "Tu hwnt i'r lien" oedd y testun, a chryn orchest yw myned y tu hwnt i'r lien hyd yn nod mewn pryddest i'r gadair, a hwyrach mai nid yn yr un tu hwnt" a'r beirdd yr oedd y beirniaid pan yn clorianu. Modd bynag, y mae lie i len pur drwchus rhwng y ddau waith, barddoni a beirniadu. Nid oedd neb yn deilwng ar vr arwr- gerdd "Llewelyn Fawr." Trueni na buasai un yn rhagor wedi treio. Hwyr- ach y buasai y degfed yn llwyddianus. Naw oedd yn y glorian, a naw gaed yn brin. Dychmygwn glywed yr ymgeis- .9 wyr siomedig am y goron dydd Gwener yn tystio yn ngeiriau yr anfarwol Wil- liams o Gastellnewydd gynt, Aed coronau'r byd i'r sawl a'u caro; coron, coron, coron y gogoniant i mi mwy. Y bardd Elfyn fu yn llwyddianus ar y beddargraffacar yr awdl, "Clwydfardd." Mewn arch-adeiladwaith am y cynllun goreu o ysgoldy elfenol un G. D. Roberts, o Bangor, aeth a'r wobr. Evan Roberts, Mantle House, Bangor, ddyfarnwyd yn oreu am gynllun Rhes o dai gweith- wyr." Ymddengys dinas Bangor yn addawol am arch-adeiladwyr at y dyf- odol. Af a gormod o ofod y CELT i roi rhagor o fanylion yr Eisteddfod yr wythnos hon. Cafwyd papyrau dyddorol, buddiol ac awgrymiadol iawn gan amryw yn Dghyf- arfodydd Cymdeithas y Cymmrodorion. Urddwyd llu o feirdd, ofyddion a cherdd. orion newydd yn y Dyffryn Difyr yn nglyn a'r Orsedd. Pasiwyd gan Gymdeithas yr Eistedd- fod dwy o reolau newyddion pwysfawr i'r beirdd gymeryd nodiad o honynt. Penderfynwyd cyhoeddi yn gyfrol hardd casgliad Mr Ashton o weithiau Iolo Goch. Cynygiwyd gwobr o .£50 at y flwyddyn nasaf am y casgliad goreu o weithiau Tudur Aled. Ac yn ben ar waith y Gymdeitnas, pasiwyd i anrhegu y Dywysoges Maud yn ngwyneb ei phri- odas agoshaol, a modrwy briodasol o aur breintiedig Cymru. Uchelwyr grasol! bydded hysbys i chwi erbyn eich cyfar- fyddiad nesaf na fydd gan eich gostyng- edig wasanaethwr, y priodfab Adlef, ddim gwrthwynebiad i chwi roi cyffelyb anrheg i'w dywysoges yntau. Hwfa Mon fu yn cynal cyrddau ar- benig yn Llandudno y Sul diweddaf; Moesenfab yn Penrhynside; a Watcyn Wyn a'r wraig yn Ngholwyn; y gwein- idog, druan, oedd adref yn Ngholwyn Bay; felly, fu dim speciality yn nglyn a'r oedfaon yno. Yn Mrawdlysoedd Chwarterol Mon, Arfon, a Meirion y tro diweddaf. men- yg gwynion oedd trefn y gwaith. Dau garcharor oedd yn Maldwyn hefyd, a'u rhyddhau gadd y rhai hyny. Go dda, siroedd y Gogledd, y tro yma eilwaith. Testyn gwerth ymffrostio ynddo hefyd yw O'r miloedd fu yn cyrchu i'r wyl genedlaethol yr wythnos ddiweddaf nad oes son fod neb o honynt wedi gwarth. ruddo eu cenedl drwy feddwdod ac af- reoleidd-dra,—neb beth bynag wedi bod o flaen y fainc. Dylaswn fod wedi nodi mai seindorf y "Besses o' th' Barn aeth a'r brif wobr y Sadwrn, a seindorf Widnes yn ail. Syrthio trwodd wnaeth mesur dwfr Corfforaeth Caer yn un o Bwyllgorau Ty y Cyffredin diwedd yr wythnos ddi- weddaf. Aeth etholiad Cyngor Plwyfol Tre- cynon, Maldwyn, yn ofer drwy afreol- eidd-dra yn nglyn a'r etholiad, sef gwaith cadeirydd yCwrdd Plwyfol yn gwrthod caniatad i un oedd yn bresenol i arfer ei hawl fel etholwr. Purion peth fyddai gwneud i'r Tori cyndyn hwnw dalu holl gostau yr ail etholiad raid gael yno. Mr Osmond Williams (Deudraeth) ddewiswyd yn gadeirydd C. S. Meirjon yn lie Dr E. Jones. Penodwyd ficer Dolwyddolen yn un o athrawon Coleg Dewi Sant. Dechreua ar ei waith yn Medi nesaf. D. S. Dakin (Annibynwr) enillodd un o ysgoloriaethau Pierce ( £ 50) yn ngholeg duwinyddol y Bala ar derfyn y tymhor presenol.
. 0 Gwm Rhondda.
0 Gwm Rhondda. GAN FAB JESSE. TENNYSON SMITH.—Mae'r gwr hwn wedi bod yn creu gryn gyffro yn y Cwm yr wythnosau diweddaf, drwy ei waith yn cynal cyfarfodydd poblogaidd o blaid Dirwest. Diau ei fod wedi gwneud gwaith mawr, ac y mae ei ymweliad wedi bod yn fendithiol iawn i achos sobrwydd yn y wlad Ond paham nad all dynion fel hyn fod dipyn yn fwy doethyn nglyn a'r cwestiwn ? Beth sydd eisieu iddynt drin a thrafod personau a allant fod mor gyd- wybodol eu barn a hwythau ? A beth yw'r ysfa sydd arnynt i olchi dillad budron yr eglwysi yn ngolwg y byd, ac mewn cyfarfodydd cymysg o natur y rhai a gynaliwyd gan Mr Tennyson Smith ? Dywedai ei fod yn aelod o Car's Lane Chapel, Birmingham, a'r peth a redai drwy fy meddwl wrth ei wrando oedd—A ddywedodd efe wrth ddiacon- iaid Carr's Lane yn eu gwynebau yr hyn a ddywedai am danynt yn eu cefnau yn Cwm Rhondda P Gallasai wneudlIawer mwy o ddaioni pe gwy buasai yn well beth i'w ddweyd, a beth i beidio dweyd. DR. CLIFFORD.—Breintiwyd tref Pont- ypridd a phresenoldeb a gwasanaeth y pregethwr-areithiwr gwladgarol a brwd- frydig hwn, a gwnaeth y dref a'r cylch- oedd yn fawr o'r fraint, trwy ddyfod yn gryf a Iluosog i'w mwynhau a'i gwerth- fawrogi, Y Bil Addysg, bid siwr, oedd y prif fater, a'i unig fater hefyd, o ran hyny. Ychydig amser cyn hyny bu Mr Macnamara yn areithio ar yr un cwes- tiwn. a chafwyd goleuni i'n rhyfeddu ganddo ar rai o dywyll-leoedd" y mesur; ac yr oedd hyny yn peri fod anerchiad y Doctor yn cael ei brisio yn well o lawer. Ond er byred y eyfrwng rhwng y ddau ymweliad, yr oedd tynged yr Education Bill wedi ei setlo yn y cyf- amser, a'i fywyd wedi myned yn aberth i ragfarn, a thrais, a thrachwant ei gefnogwyr ef ei hun. Fel mai chwipio ceffyl marw mewn effaith oedd yr ar- eithwyr yn nghyfarfod Dr Clifford. Ond eto, gwir yw y gair fod eisieu cadw'r cwestiwn yn fyw 6 ran ei agweddion an- nheg a chwerylgar o hyd gerbron y wlad. Y tebygolrwydd yw nad yw brwydrfawr addysg wedi ei hymladd-mai feeler oedd y mesur annhymig diweddaf-ond nad yw'r gyflafan erchyll nepell oddiwrthym. EGLWYSI GWEIGION.—Ychydig yw eu nifer yn awr yn y Cwm, hyny yw, yn mysg yr Annibynwyr. Ond mae'r ych- ydig sydd yn weigion yn ychydig go bwysig, ar y cyfan. Dyna Carmel, Tre- herbert, er enghraifft. Bu Mr Rees yma am flynyddoedd lawer yn gwneud gwaith mawr, ac y mae wedi bod yn foddion i adeiladu eglwys gref a gweith- gar. Un o elfenau llwyddiant Carmel ("a siarad yn ddynol") ydyw Mr M. O. Jones, ysgolfeistr. Un o'r bechgyn goreu, mwyaf teyrngarol a ffyddlon i'w weinidog, i'w enwad, i Ymneillduaeth, ae i grefydd, ydyw "M.O." a'r un a wisgodd esgid erioed. Dyna hen eglwys y Cymer drachefn. Maent wedi bod yn adnewyddu'r capel, ac yn awr, clywais eu bod yn llygadu am weinidog. Ai tybed y cyll Cyfundeb Gorllewinol Mor- ganwg un o'i bechgyn glewaf, ac y cipia'r Cyfundeb Dwyroiniol ef ? Mae'n rhaid i eglwys y Cymer setlo cwestiwn y gwin yn fwy terfynol a boddhaol yn eu plith eu hunain cyn y dylent gael gweinidog byth. Pa bryd y mae Tre- rhondda yn meddwl dod i wel'd lygad yn llygad eto? Na ddigaloned er y siomedigaethau blaenorol, oblegyd mae cystal pysg yn y mor ag a ddaliwyd." Ond clywais ei bod yn ymysgwyd, ac yn edrych dros goryn y mynydd i 'Berdar. Sweet 'Berdar! ATDYNIADAU. — Wel, mae Tywysog Cymru wedi dod ac wedi myn'd, o'r di- wedd. Tynodd filoeddobobl i'w weledi ac i weled y parotoadau a wnaed ar ei gyfer. Aeth niferoedd anghredadwy 0 Gwm Rhondda. nid yn unig i Gaerdydd, eithr i Aberystwyth hefyd. I ba betb yr aethoch allan i'w weled ? Dyn wedi ei wisgo a dillad esmwyth oedd hwn, a dyn yn cael byd da, helaethwych beunydd, ar bwrd y wlad. Golygfa ddymunol, onide ? Mae Radicaliaeth yn eitha.' iacb yn ein Cwm ni, ond pe gwelech wyr, gwragedd, a phlant y Rhondda yn tyru i lawr i Gaerdydd i wel'd y "Prince," chwi gredctsech taw Saeson a Thoriaid gwallgof yw'r brodorion yma bob Ull- Tref ofnadwy am ei thylodi a'i thrueni yw Oaerdydd, ond gwariwyd dros dair mil o bunau ar addurniadau nad oedd gwir wasanaeth i fod iddynt ond am datf o oriau Tegan drud yw Royalty. At,