Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Braslun o Hanes Eglwys Annibynol…

News
Cite
Share

Braslun o Hanes Eglwys Anni- bynol Craig-y-berth Lwyd, GER MYNWENT Y CRYNWYR, YN NGHYD A'I GWEINIDOG AETH. Ond i ddychwelyd. Y Parch E. Jenkins, Salem, fu yn gofalu am gymun- deb Li ban us am y blynyddoedd cyntaf. Yn nechreu haf y flwyddyn 1841, rhodd- wyd g&lwad unfrydol i'r Parch E. Davies, Aber, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Argl- wydd. Cydsyniodd a'u cais. Symudodd i'r ardal, a dechreuodd ar ei weinidog- aeth gydagarddeliad mawr. Dihunwyd yr ardalwyr, ac ymdyrent i wrandaw y genadwri, a chipid pentewyn nawr ac eilwaith megys o'r cyneuedig dan." Yn nechreu y flwyddyn 1842, daeth tuag ugain i "ymofyn am le yn y ty, ac enw yn niysg y rhai a gen wit." Yr oedd yr ftohos yn Uewyrchus, ac yn llwyddianus, ac aeth y capel, fel yr oedd, yn rhy gytyng iddyut. I gyfarfod yr angen rhoddwyd oriel (gallery) ynddo, a naw o gorau (seat8) newyddiou. Tan ddaeth y capel yn barod, ail agorwyd ef yn mis Mai, 1843. Pregethodd ar yr achlysur, y Parch Thomas, Troedyrhiw; Evans, Oymmer Jones, Penybont Jones, Bethesda; Griffiths, Llandarren; Owens, Sour, Merthyr; Rees, Groeswen; Thomas, Aduiam, Merthyr; D. Davies, Taf. fychan; Jones, Rhydri; a Powell, Caer- dydd. Aeth pethau yn mlaen yn gysur- us, gydag ychydig lwyddiant cynyddol yn barhaus, hyd y flwyddyn 1848, pryd yr ymadawodd Mr Davies, y gweinidog, am yr "Onll vVyn." Yr oedd yr eglwys J'll rbifo 72 pan ymadawodd Mr Davies. Yn mhen ysbaid o amser rhoddwyd gal wad daer i'r Parch J. Thomas, Beth- lehem, Swydd Gaerfyrddin, i ddod i'vr hugeilIo. Cydsyniodd a'u cais, a dech- reuodd ar ei waith yn mis Gorpenhaf, yn y flwyddyn 1849. Yn uiwedd y flwyddyn 1849, a dechreu y flwyddyn 1^^), bu II wyddiant mawr ar grefydd, ae^chwanegwyd ugeiniau at nifer yr eg- hvys. Yu y flwyddyn ganlynol, sef 1851, ychwauegwyd amryw at niferyr eglwys ond yny llwyddyn 1858 bucynydd mawr. ^erbyniwyd da a ar bymtheg yr an Sab- ^ath. hrbyn. hyn, yr oedd y ty wedi 1llyned vn' rhy fach eto. A'r bobl a Waeddent, fel meibion y prophwydi gynt, He yr hwn ydym yn trigo ynddo ger ty fron di syda rhy gyfyng i ni (2 ■oren vi. 1); ac yn ateb iddyut daeth yr ccho Helaetha le dy babell, ac estyna Sortynau dy breswylfeydd; nac atal, (jy raffau, a sicrha dy hoelion," < Canys ti a tlori allan ar y llaw ddehau, iC, ar y Haw aswy (Esa. liv. 2, 3.). Ac y bu. Adeiladwyd ty newydd di- edd y flwyddyn 1858 a dechreu y jWyddyn 18o9, yn mesar 44 wrth 33 o c ^"oedfeddi rhwng y muriau Cafodd yr en dy wneud y tro hyd nes y gorphen- ya y newydd. Y na gwnaed yr hen yn y y ysgol, a dau dy byw. Awd i'r ty ^ro cyntaf, Sabbath, Mai yr J Pry(i y pregethodd y Parch S'ftjJ' ma8> y gweinidog, oddiwrth y u aQ'—'A mi a anrhydeddaf dy fy gogoniant", (Esa. Ix. 7.). Dydd Llun ydd Ma wrth canlynol, cynaliwyd cy- farfodydd agoriadol Libanus newydd—y ty presenol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parcbn-Davies, Tai- hirion; Williams, Capcoch Jones, Machen Jones, Rhydri; Price, Aber- dar Mathews, Castellnedd Thomas, Tresimwn; Davies, Soar, Aberdar; Davies, Owmaman Jones, Caerdydd Davies, Aberaman; Morgans, Llwyni; a Williams, Gwernllwyn. Mae yr uchod i gyd ond un wedi gadael eu gwaith am eu gwobr yn y nef. Y Parch J. Davies, Taihirion, yw yr unig UELO honynt sydd yn fyw eto. Mae y Parch Joshua Thomas, gweinidog parchus yr eglwys am chwech mlynedd ar hugain, yntau wedi myned. Claddwyd ef ger y capel. Efe yw yr unig weini- dog sydd yn gorwedd yn nghladdfa Libanus. Bu farw yr 2il ddydd o fis Medi, 1875, yu 72 mlwydd oed. Pre- getbwyd yn ei angladd gan y Parch Dr T. Rees, Abertawe, oddiwrth y geiriau —" Ac wedi y pefchau byn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd," &c. (Jos. xxiv. 29). Mae ei wraig a'i fab, bellach, yn huno yn yr un bedd ag ef. Heddwch i'w llwch. Mae tri chy- farfod chwarterol wedi eu cynal yn Libanus. Y cyntaf yn Mai, 1844 yr ail yn Mai, 1852; a'r trydydd yn Mai, 1876. Bu'r gymanfa yma, hefyd, yn y flwydd- yn 1847. Y gweinidog nesaf yma yn Libanus oedd y Parch G. Wiliiams, Seion, Abercanaid, gynt. Dechreuodd yn ei faes newydd, Mehefin, 1876, a pba,rhaodd i lafurio ynddo hyd Gorphen- af, 1886, pryd y cyfyngodd ei lafur i eglwys y Tabernacl, Treliarris, yn unig. Mae Libanus wedi agor ei ddorau yn ol gorchymyn, ac wedi derbyn lluoedd i me Nn, ac wedi gollwng lluoedd allan hefyd. Libanus yw mam eglwys Eben- ezer, Trelewis, a mamgu. Tabernacl, Trelewis. Yn mis Mawrtb, 1868, gofynodd rhai o aelodau Libanus gania- tad i gychwyn Ysgol Sabbathol yn Heol Penygroes, Trelewis, a chaniatawyd y cais yn ewyllysgar. Cychwynwyd ar 1 unwaith yn nhy Mr Jacob Jenkins. Yr aelodau redd yn bresenol y Sabbath cyntaf oeddynt—Mr Jacob Jenkins a Mrs Mary Jenkins (gwr a gwraig y ty), a Mesach, Mary ac Elizabeth Jenkins (plant yr uchod). Yi oedd y pump yn aelodau yn Libanus. Cynorthwywyd hwynt gan Mr Rees Edwards a Miss Janet "Williams (Shoned Ton Teiliwr), y rhai oeddynt yn aelodau yn Craig-y-Fargoed. Dechreu- wyd yr ysgol drwy ddarllen a gweddio gan Mr R. Evans, a diweddwyd trwy weddi gan Mr J. Jenkins, y Sabbath cyntaf. Yr oedd nifer yr ysgolheigion yn ddeg ar ugain y Sabbath cyntaf. Yr ail Sabbath daeth Mr Ebenezer John a Mr John Griffiths i fyny o Libanus i'w cynorthwyo. Y Sabbath hwn, gwnaed swyddogion, Mr Ebenezer John yn arol- ygwr, Mr Mesach Jenkins yn ysgrifen- ydd, a Mr Jacob Jenkins yn drysorydd. Aed yn mlaen yn gysurus, a chynyddodd yr ysgol i dri ugain heb fod yn hir. Cynaliwyd hi yn Heol Penygroes am bedair mlynedd, pryd y symudodd Mr Jenkins i fyw i Fynwent y Crynwyiy a symudwyd yr ysgol i Bontsquire a chyn- aliwyd hi yno eilwaitham tua phum mlyn- j edd. Rhoddodd Mr Thomas Williams oi I dy yn agored i'r rhai nad oeddynt yn medru darllen, a Mr John Jones ei dy yn agored i'r rhai yn medru. Yr oedd y ddau gyfaill uchod yn garedig iawn i'r "achos da," er nad oeddynt yn ddys- gyblion proffesedig o Grist. Pan aeth Mr Mesach Jenkins ffwrdd i Australia, yn mis Mawrbh. 1875, gwnaed Mr John Jones yn ysgrifenydd yn ei Ie. Bll'r ddau yn ffyddlawn iawn. Erbyn hyn teimlai Libanus ei bod ynddyledswydd arni i adeiladu ysgoldy yn Nhrelewis at wasan- aeth crefydd, ac felly y bu. Ymddiried. wyd y gwaith o'i hadeilaau i frawd o'r eglwys, sef Mr William Jones. Wedi ei gorphen, symudwyd yr Ysgol Sabbathol iddi. Buwyd yn cynal y cyfarfodydd wythnosol a Sabbathol am beth amser ynddi,ond yncyrcbu i Libanus ar Sabbath cymundeb. Wedi tori ei chysylltiad a Libanus, ymgyplysodd cangen Trelewis a Phenuel, Nelson, o dan ofal y brawd ieuanc, anwyl a gobeithiol, y Parch Griffith Rees. Sefydlwyd ef ar gangen Trelewis Ebrill y bymthegfed, 1881, a bu yn ffyddlon a gweitbgar hyd ei fedd cynar. Bu farw lonawr y ddeuddegfed, 1882. Addysgwyd ef yn Athrofa Aber- honddn. Mae yn Nhrelewis gapel tlws er's blynyddoedd bellach. Agorwyd ef Chwefror y 3ydd, 1889. Ei enw yw Ebenezer, o barch i'w hen frawd Ebenezer John, un o sylfaenwyr yr eglwys, ac sydd o hyd yn fyw ac yn ffyddlon gyda'r acbos. Eglwys Trelewis yw mam eglwys y Tabernacl,Treharris, aLibanusei mamgu. Y gweinidog nesaf i gymeryd gofal Libanus oedd y Parch D. Phillips, Taber- aacl, Treharris. Derbyniodd alwad oddi- wrthi Medi, 1889, yn dymuno arno i ofalu am dani gyda gofalu am y Tabernacl. Cydsyniodd, a bu yn gofalu am danynt byd Gorphenaf, 1894. Rhoddodd Mr ¡ Phillips ei gofal i fyny, ac wele Libanus yn weddw eto. Ond er fod y gweision yn gadael, mas Duw ynaros. Er heb fugail gweledig, nid yw Sion 11 heb neb yn ei cheisio." Mae'r tan dwyfol yn llosgi yn barhaus ar allor Libanus, a dywedwn yn ngeiriau yr hen brydydd- "0 na ddeuai'r hen awelou Deimlwyd yn y dycldiau gynt, Ac anadlu ar y dyffryn, Fel y teimlwn nerth yjgwynt." &c. ;,9 Gobeithio mai felly y bydd, ac y cawn weled Libanus yn ysgwyd ei chedrwyd d o dan y dylauwad dwyfol, a'r gymydog- aeth yn cael ei hachub. fPw barlbau.)

. Llanybyther.

Bwrdd y Lienor.