Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

^uIinnJI■RWI«■■■■!»II BARRY…

THE VACANT LIVING OF CADOXTON-BARRY.

BARRY DOCK MAN SENT TO PRISON…

"A YDYW'R EISTEDDFOD YN WERTH…

News
Cite
Share

"A YDYW'R EISTEDDFOD YN WERTH El CHYNALr In the July number oi the Welsh national magazine, Y Geninen," appears an outspoken and trenchant article on the subject of Is the National Eisteddfod Worth the Cost of Mainte- nance?" from the pen of the Rev J. Puleston Jones, M.A., whose opinion is strongly in the negative, and he pleads for an early reformation. In the course of his article, Mr Jones states Nid cablu urddas, pa fodd bynnag, ydyw'r amcan wrth gydnabod fod y fath drael a'r fath lafur yn fyr o ateb y diben yr ymgymerir a hwynt er ei fwyn,—nid deffro aniddigrwydd at y pethau sydd, ond cynhyrfu am ddiwygiad buan. Os aeth yr Eisteddfod, er gwaethaf ei charedigion, yn beth na fwriadwyd iddi fod, ac os collodd hi trwy hynny'r ddawn i fod y peth a ddylasai, gadewch iddi, a chodweh rywbeth arall yn ei lie. Na, ni wnawn ni mo hynny chwaith,-ni wnawn mo hono, am y rheswm syml ei bod hi 'n rhy dda i adael iddi, ac yn rhy fyw i beidio gwneud defnydd o honi. Ond cyn y ceir diwygiad a gyfyd y sefydliad i fuddioldeb boddhaol, rhaid aildrefnu'r Eisteddfod o'r b6n. Y mae ei henw hi 'n tynnu pobl ynghyd mewn ffordd na allai dim arall. A'r ymholiad ydyw, Beth a wnawn ni fel cenedl i gael ein gwyl flynyddol yn un werth ei ebadw ? Gwelais, flynyddoedd yn ol, ysgrif ar yr Eisteddfod, nid wyf yn coflo gan bwy, a ddechreuai trwy ddywedyd mai tair awdurdod oedd yn trin y sefydliad, yr Orsedd, Cymdeithas yr Eisteddfod, a'r Pwyllgor Lleol. Dvna gymaint ag wyf yn ei gofio o'r ysgrif. Nis gwn a oes un ameer gydym- gynghori rhwng y cylchoedd hyn. Nid llawer, mi dybygaf. Pa un bynnag am hynny, gwyr pawb mai gan un o'r tri (pwyllgor y lie) y mae'r awdurdod ymarferol: hwnnw sy'n parotoi taflen y testynau a thaflen y cvfarfodydd. Beth yw'r canlyniad? Onid hyn—trefnu'r Eisteddfod o'i dechreu i'w diwedd yn y modd y bydd hi debycaf o dalu i bobl y lie sy'n ei chroesawu ? Nid beio yr ydys, ond dweud mai fel hyn y mae. Y mae'n iawn i'r dynion a osodir ar y pwyllgorau hyn wneud eu goreu dros ei tref er mwyn hynny yr etholwyd hwy: ac o'u safle hwy, nid oes fai arnynt gadw hynny mewn golwg. Ond y cwestiwn yw, Ai gosod budd y lie y bo'r Eistedd- fod ynddo yn flaenaf, a gwaith yr Eisteddfod yn ail, ydyw'r ffordd i godi'r Eisteddfod i effeithiol- rwydd? Swm y cwbl, ynte, ydyw, fod tua saith awr yn y dydd, o ddyddiau'r Eisteddfod, yn myn'd at y pethau a'i gwnant hi 'n boblogaidd, a rhyw awr neu awr a hanner yn y dydd at y pethau a'i gwnant hi 'n fuddiol. A ydyw cyfarfod fel yna yn werth y drael o'i gynnal ? Dyna'r fel y trinir taflen yr Eisteddfod. Er gwaethaf y driniaeth, y mae'r Eisteddfod yn tial i dynnu allan rai o ddoniau disgleiriaf y genedl. Nid gwiw gwadu nad oes llawer mwy wedi ei ysgrifennu o herwydd bod yr Eisteddfod na phe buasem hebddi. Ond, atolwg, bath a wna'r Eisteddfod a'r traethodau a'r caniadau, wedi eu cael? Eu cyhoeddi gyda'u gilydd, y gwych a'r gwael, blith draplith a dyna, fel rheol, y cwbl a wneir. Y mae, bid siwr, ambell i lyfr gwych wedi dyfod allan ar wahan, ami i bryddest, ac ami i awdl hefyd ond ychydig iawn mewn cymhariaeth i'r defnyddiau gwych a gladdwyd, i bob pwrpas ymarferol, ym mhentwr blynyddol cynyrchion yr Eisteddfod. Tybed, mewn difrif, fod yr un eisteddfod leol, na'r un cyfarfod llenyddol mewn gwlad, yn ol ei faint, yn gwneuthur llai o wasanaeth na'r Eisteddfod fawr Y mae weithian dros gant oed. Yng nghorff y ganrif hi a droes ddigon o arian, er cofio a chyfrif y troion y bu hi 'n golled ariannol, hi a droes ddigon o arian, er hynny, i weddnewid Ilenydd- iaeth Cymru trwyddi draw Arwydd obeithiol yw, fod yr Eisteddfod, hitbau, yn yr ugain mlynedd diweddaf,—wel, er pan ddechreu- wyd cyhoeddi ei chynyrchion,-wedi troi o ddifrif ar wella. Iddi bi, debyg, yr ydym i ddiolch am lyfrau y Proffeswr Lloyd ar Hanes Cymru, ac "Hanes Llenyddiaeth Gymreig" Ashton. Yn ddiweddarach fyth y mae hi wedi troi ei sylw at len gwerin. Eto, er yr argoelion yma o doriad gwawr, bydd dyled lenyddol y ganrif ddiweddaf yn drymach lawer i bersonau, a chymdeithasau bychain, nag i'r sefydliad a ddylasai fod ar y blaen. Yn y ganrif newydd yr ydys yn disgwyl petbau pur fawr oddiwrth gymdeithas gradd- edigion PrifyBgol Cymru ond bydd digon o waith i'r Ei&teddfod hefyd, ond iddi hi adnabod ei braint ac ymaflyd ynddi. Pa beth ydyw'r feddyginiaeth t Yn flaenaf dim, cael y brif awdurdod o law y pwyllgor Ileol, a'i rhoddi i ryw bwyllgor sefydlog. Fe ddisgynai'r gwaith yn naturiol, naill ai i Gymdeithas yr Eisteddfod, neu i'r Orsedd, nen ynte i gyfnniad 1 o'r ddwy. Eithr i bwy bynnag yr ymddiriedir y gwaith o ddiwygio'r Eisteddfod, debyg y bydd raid cael cydweithrediad y ddau allu hyn,-yr Orsedd a Chymdeithas yr Eistedd- fod,-i rhoddi'r ymddiried a phe gwnai y ddau allu hyn a'u gilydci na chai umhyw dref mo'r Eisteddfod Genedlaethol ar ol hyn a hyn o i flynyddoedd, na fyddai foddlon i roi Ilawer mwy o law yn nhrefniadau'r wyl i ryw gorff sefydlog nag a roddir yn awr, byddai'r diwygiad wedi dechreu. Un ddadl a altai dueddu'r pwyllgor lleol i dderbyn amod fel yma ydyw, y ceid felly gadw elw'r naill flwyddyn i gyfarfod a cholled un arall, fel y bo i'r blynyddoedd breision borthi rbywfaint ar y blynyddoedd culion. Wrth beidio a bod mwy yn gyfarfod poblogaidd i rai'n chwennych difyrwcb, hi gynyddai'n ddir- fawr yn ei phoblogrwydd gyda'r doabarth sy'n caru addysg er ei mwyn ei hunan ac fe dalai y rheiny am eu lie yr un fath a'r lleill. Doi'r Eisteddfod Genedlaetbol yn gynhullfa i lenorion a cherddorion ac ysgolheigion o bob gradd, lie y mae llawer o honynt, ar hyn o bryd, yn ddibris o honi neu yn esgeulus o ddyfod iddi. Ond rhaid i'r Eisteddfod, yn y lIe nesaf, foddloni am flynydd- oedd i fod yn gymbarol dlawd ac amhoblogaidd, onid e ni ddiwygir byth mo honi. Yn ddiweddaf, a chyn bwysiced a dim a enwyd, dylid dilyn awgrym y Proffeswr Rhys—rhoddi llawer mwy o le i'r cymdeithasau sy'a ymgynnull yng nghysgod yr Eisteddfod. O'm rhan i, mi rown y bore'n groew iddynb hwy, a gadael rhyw awr o naw dan ddeg, fel y gwneir yrwan, i seremoniau'r Orsedd. Byddai haner awr wedi un. neu ddau, yn eithaf digon buan i ddechreu'r prif gyfarfod a gellid ei ddibennu, heb dynnu o hono ddim gwir werthfawr, rhwng pedwar a phump. Wedi blynyddoedd o ymdrech a thlodi cymariaethol byddai gan yr Eisteddfod yn ei gwedd newydd arian i'w troi heibio. Hi allai godi yn ei gwobrau ac yn ei cbyflogau. Hi allai gyhoeddi cynyrchion goreu'r cystadlu blynyddol mewn ffurf y prynid hwy gan y 11ie.ws, ar y naill law, ac, ar y Haw arall, gyhoeddi llyfrau at wasanaeth efrydwyr, llyfrau na cheid byth elw o'u cyhoeddi mewn un pes, ac na chyhoeddid mo honynfc byth trwy antur pereonol. Maddeued caredigion yr Eisteddfod, ym mysg y rhai y dymunwn innau fy nghyfrif, i mi am ysgrifennu mor naillochrog. Eisiau oedd arnaf alw sylw at ddiwygiadau a farnwn i yn llwyr angenrheidiol. Y mae'n fwy na thebyg i mi wneuthur ami i gamgymeriad, yn codi'n bennaf o'm hanghynefindra yn hanes y sefydliad eithr credu yr wyf fod llawer yr un farn a mi am y llwybr y rhaid ei gymeryd i gael pethau i'w lie.

[No title]

LEAPT OUT OF BED.

QUOITS: BARRY V. TON

ICAUGHT RED-HANDED AT BARRY…