Hide Articles List

11 articles on this Page

TY R CYFFRSDIN.—DYDD IAV.…

News
Cite
Share

TY R CYFFRSDIN.—DYDD IAV. I Cymerodd y Llefarydd ci gadair am ychydig I -fynvdau c\ n pcdwar. DEISEDAU. I Cyflwynodd Mr Bright ddeiseb oddiwrth gyiar- fod treiol yn Birmingham,, dan lvwyddiaeth y Maer, yn ymbil ar y Ty i wrthod y bleidlais o chwe railiwn o bunau, ar y sail y byddai ) n faich ar y bobl ac yn berydus i hcddwch Ewrop. Cyflwynwvd deiscbau i'r un perwyl gan Mr Pease o Bishop Auckland, Hartlepool, a lleoedd eraill: gan Mr M'Laren o g., farfod eyhoeddua a gyv.aliwyd yn Edinburgh; gan Mr Maedonald oddiwrth drigiaiiwyr yn Yorkshire ac ardal y Tees; gaii Mr Trevelyan oddiwrth drigolion Hawick; a chan Mr Whitwell oddiwrth gytarfod cyhoeddus ya Kendal. T TRI YMERAWDWIL A THWNC Y DWYRAIN. Rhoddodd Dr. Kenealy ryhydd y byddai iddo ef, tranoeth, ofyn i Ganghellydd y Trysorlys a gafodd ei sylw ef ei dynu at erthygl yn y Daily Newt, yu difynu o bapyryn Paris, ac a allai efe (Canghellydd y Trysorlys) roddi eglurhad ar y geiriau Y mae y cyd- ddealltwriaeth rhwng y tri "merawdwr wedi cael ei gwbl adsefydlu, gyda'r amcan o beuder- fynu pwnc y Dwyrain," &c. Y BLEIDLA 8 RYFEL. I Mr E. Jenkins a roddodd rybydd y byddai iddo I ef, tranoeth, ofyn i Ganghellydd y Trysotlys a oedd rhyw gyfran o'r chwe miliwn wedi cael ei I gwario eisoes, ac os felly, pa faint. Erbyn hyn yr oedd Y T'I: YN OltLAWN. I Teimlai pawb fod pwysigrwydd angerddol yn nghlyn a'r ddadl a ddisgwylid. Synai Uaweroedd fod Mr Gladstone yn absenol o feinciau blaen yr Wrthblaid. Ar ol trafod amryw fan bethau, galwodd Mr Ashley sylw at ryw ohebiaeth a fu rhwng MR. GLADSTONE A MARSIANDWB OUOBUAIDD. Seiliodd Mr F. Ashley ei sylwaditu ar baragraph oedti weli ymddangos yn y Daily News ddydd Mercher, yn cyfe'rio at ohebiaeth swyddogol ar fcwnc rhyw lythyrau a basiodd cydrhwhg Mr Gladstone a Mr Negropontis, marsiandydd Groeg- aidd, a gofynodd a oedd y fath ohebiaethau n "bodoli, ac os oeddynt; a f) ddai rhyw wrthwyneb- iad i'w dodi ar y bwrdd.ger bron y Ty. Syr Stafford Nortlr-ote a atebodd nad oedd ef -wetli gweled yr ohebiaeth, ond na fyddai gdnddo unrhyw wtthwynebiad Vw do li al" y bwrdd. Mewn atebiad i Mr Chaplin Ivwpdodd Cang- liellydd y Trysorlys nad oedd 1,1,draeth wedi caul unrhyw hysbysrwyddyn nghki-. u ycadoedinci. Yr oedd y Rwsiaid yn myned yu mUien yn nghy- ioiriad y De, ond tuu pha le, nid oedd un hysbys- iwvdd. Y SLEIDLAIS AM CHWE MILIWN 0 HUNAU. Pan gyui giwyd ar fod 1 r ly ymlturho yn bwyll- got: adgyflenwadol, Mr Forster a gyfododd, yii ughanol cymeradwyaeth yr Wrthblaid, i gynyg gwelliant ar y bleidlais arianol a ofynid gan y Llywodraeth. Seiliai ei wclliant yn debyg i'r hyn a ganlynGan nad oedd neb wedi troseddu ar yr omodau o anmhleidgarwch Prydeinig a rodd- wyd i lawr gan y Llywodraeth, a chan nad oedd y Ty yvedi derb-, n un math o hysbysrwydd i gyflawn- hau ymwadiad a'r eyfryw anmhleidgarwch ar ran Lloegr, nad yw yn canfod un rlieswin digonol i gyflawnhau ymwadiad a'r llinell hono o anochraeth a heddweh, na thros ychwanegu at feichiau y bobl trwy bleidleisio eyflenwadau arianol afreidiol. Traddododd Mr Forster araeth a, barhaodd am dros awr a lianer, gan ymwadu a phob amean ar ei ran ei hun, na'r Wrthblaid, i omedd rhoddi cyf- lenwadau aiianol i'r llywodraeth yn mhob peth a ellid ei brofi yn angenrheidiol. Darllenodd a beirniadodd y telerau heddwch, gan ddangos nad oedd dim ynddynt yn cyfiawnhau y bleidlais a geisid. Cafwyd cythrwtl Toriaidd a hollol on- weddus PAN Y SONIOBD AM SERVIA. Wrth ganfod hyny, dywedodd Mr Forster fod yn amlwg nad oedd Servia yn boblogaidd yn mhlith cefnogwyr y Weinyddiaeth (Cymeradwyaeth gan y Gweinidogion). Byddai yn dda iddynt astudio hanesServia (cymeradwyaeth ganyr Wrthblaid)-i weled pa beth oedd y dylanwadau a barodd i'r Serviaid dori hen amodftu-amodau ag y buasai ein henaflaid ninau yn mynu eu tori pe buasent yn yr un sefyllfa ag yr oedd y Serviaid ynddi (cymeradwyaeth). Pa wedd bynag, nid oedd y fiaith fod Servia yn boblogaidd yn ddigon i gyflawnhau pleidletis rhyfelawg. Yaa aeth 3 bon- eddwr gwir anrhydeddus yn mlaen i drafod am yr hyn y sonid am dano, sef DAROSTYNGlAD LLOKOIt. Ond, yn ei farn ef, fe fyddai i Loegr gael ei dar- ostwng mewn gwirionedd os yr elai hi i gynadledd gyda darn o bapur yn cynrychioli pleidlais arianol wedi ei chael trwy ffug. Nid oedd, ebe fe, ond ymejnydd yn unig a allasai ddyfei&io y fath,ffug bleidlais, sef yr un ymenydd ag oedd wedi cyn- llunio fErwyno nchelgais Rwsia yn yr India trwy greu teitl ymerodrol gwag a dibwrpas. Nid oedd neb ond y Prifweinidog presenol a allasai feddwl am y fath beth (cymeradwyaeth yr wrthblaid ac 0 0!" gan y Toriaid). Yr uedd pob gallu yn j ,byd yn gwybod y bu asai Lloegr yn caniatau, nid ,chwemiliwxi, ondtrigianmiliwn-(clywch, clywch) --os byddai hyny yn angenrheidiol, ond ni fyddai iddynt roddi chwe mil at ryfel afreidiol. Gyda Rolwg ar wneyd y bleidlais arianol yn HLEll>LAlS 0 YMDDIKIED, .,efe a ofynodd a oeddynt am wneyd hon yn bleid- lais o ymddiried yn y dyfodol ar sail y gorphenol ? (cjMeradwyMth a chwerthiniad 'gau yr Wrth- bl ). A oedd rhywbeth yn ymddygiad diweddar yUywodraeth yn cadarnhau y fath ymddiried ? (Clywch. clywch). A oedd ymddiried yn y gor- chymyn a ddanfonwyd allan ddydd Mercher di- weddaf-(elyweh, clywoh)-yr hyn a allasai yn hawdd daflu y wlad yma i gauol rhyfel—(clywch, ,clywcb)-ynte a oedd ymddiried i'w roddi yn y Llywodraeth oedd wedi galw y gorchymyn yn ol oherwydd fod ei Llysgenhadydd wedi gwneyd camgymeriad-camgymeriad hynod o ffodiis (clywch, clywoh)-caingymeriad ag oedd yn peri iddo ef (Mr Forster) er y tro cyntaf er's talm deimlo yn falch fod ei hen gyfaillMr Layard yn Llysgenhadydd yn Nghaercystenyn. EnynWyd brwdfrvdedd y Toriaid drachefn pan ofynodd Mr Forster pa un o'r Gweinidogion oedd i garl y prawf hwn o ymddiried. Torwyd alan i fanllefain enw Arglwydd Beaconsfleld, ond derbyniwyd enw Iarll Derby gyda dis-tawrwydd ac oerfelgarwch. Mr Cross a neidiodd i fyny i ateb Mr Forster1 Protestijdd yn erbyn galw y bleidlais yn bleidlais o vmddiried, gan roddi esboniad cyflelyb i'r hyn a roddasid eisoes gan Gangbellydd y Trysorlys, tief fod y Llywodraeth yn gofyn am swm ponodol o arian, gan ymddiried yn y Ty i'w gadael i'w g.d ael il w gwario fel y gwelont yn orou gyda r hyderna chaent eu gwario i ddibenion anymunol. Siaradodd yr Ysgrifenydd mewn arddull hollol wahanolir eiddo ei hun. Yr oedd yn fywiog, yn herfeiddiol, ac yn anwedd[us aniryw weitbitill-hollol anheilwdg « aelod o Gyfringynghor ei Mawrhydi. Wrth son am yr areithiau a draddodasid o'r tu allan i'r Ty, daeaodd fod yppryd celwydd ar led, "yr hyn a "f0*nhvrfodd yr wrthblaid i waeddi am ida?o alw y au hyny yn 01. Yna, pan dderbyniwyd g?da ???adwyaeth ei ddadganiad y byddai i Ewsia fSftiAwymo wrthBr.?oll871,efe drodd? ol 1871, efe a drodd at ShbWd gan ofyn, "Ai dyna yr oil sydd ^L««>h i'w ddywedyd am eich cyfcillion y Rws- Anffhtmeradwy aeth nes y bu raid iddo gymedroli i ei iaitb, ae yna. gadawyd iddo fyned yn mlaen gyda'i ddadl, baich yr hyn ydoedd, tra yr oedd yr heddwch yn cael el oedi yr oedd y Rwsiaidyn myned yn mlaen gyda'u conowest. Ae ar derfyn araeth faith a chynhyrfus, efe a wadodd fod dwy biftid yn y Llywodiaeth, sef plaid am heddwch a phlaid am ryfel, ac mai uiiig amcan y Llywodraeth ■ oedd cael heddwch pendanti diagel, a pharhaol. Syr Wilfrid Lawson a ddilynodd yr Ysgrifenydd Cartrefol, gydag araeth for, yp ystod pa un y dywedodd y byddai iddo 6fddefnyddio pob ftordd ag yr oedd rheolau y Ty yn eu oa.niatau er gwrth- wynebu a dymchwelyd y cais mwyaf annheg ae ynfyd a wnaed erioed gan unrhyw Weinidog qyfrifol dros y Goron. Er ei bod yn awr giniaw, a'r Ty, mewn canlyniad, yn haner gwag, llwydd- odd Syr Wilfrid, fel arfer, fgyfranu bywiogrwydd i'r ddadl. Yr oedd rhai o'i darawiadau yn hynod o hapus. Rhoddwn esiampl neu ddwy :—Yn ol 0 .= Canghellydd y Tf?sorlys nos Lun, efe (Syr Wilfrid) a gasglai mai ,eýmaint oedd ar y Cang- hellydd ei eisiau ydoedd dangos eu hanan. Yr oedd amo eisiau gallu dweyd Nid oes arnom eisieu ewffto, Ond, myn gafr! os cwfflo wnawn, Meddwn longau, meddwn ddynion, Swrn o arian hefyd gawn. (Chwertliiniad). Yr oedd rhywbeth yn dra isel yn y meddylddrych yma am chwe' miliwn o bunnau. Pe byddai i ddyn ysgwyd cleddyf yn ei wyneb, efe a'i galwai yn hergi; os ysgydwai ei ddwrn yn ei wyneb, efe a'i galwai yn fwli; os ysgydwai ei bwrs yn ei wyneb, efe a'i galwai yn mob (cymerad- wyaeth a chwerthiniad). Ac os byddai iddynt roddi yr arian hyn oherwydd y rheswm a gafwyd gan Gaughellydd y Trysorlys, fe'u gelwid o hyn allan yn snobyddion holl Ewrop (cymeradwyaeth). Gan fod F awr giniaw wedi ddod, ni chafod,l Syr Wilfrid ond ychydig i'w wrandaw, ac yr oedd y Ty agoSYIl wag pan barhawyd y ddadl gan II r Hardcastle, Mr Laiug, Syr John Hay, Mr E. Noel, &c. Ond, am chwarter wedi deg, CYFODODD JIIB BRIGHT. Y mae pawb, gwrthwynebwyr yn gystal a chefn- ogwyr, gelynion yn gystal ag edmygwyr yr aelod gwir anrhydeddus dros Birmingham, yn cyfaddef mai hon oedd un o areithiau goreu ei oes. Fel: y sylwasom eisoes, yr oedd y Ty agos yn wag er ys meityn; ond, pan daenwyd y gair o ystafell i ystafeli ac o lobi i lobi fod Mr Bright ar ei draed, rhuthrai yraelodau i'r Ty i'w glywed, ac yn mhen ychydig amser yr oedd y lie yn orlawn. Dechreu- odd Mr Bright ei araeth trwy ddyweyd nad oedd yn ei fwriad ef i wneyd unrhyw ymosodiad ar y Llywodraeth, er eu bod, er's misoedd, wedi bod yn euog a ansefydlogrwydd dybryd, ac wedi cyf- lawni camgymeriadau peryglus. Ond yr oeddynt wedi cael llawer o demtasiynau gan eu cefnogwyr eu hunain, ac yr oedd yu gryn glod iddynt nad osddynt wedi cymeryd eu camarwain gan ^loerig- rwydd r.iigwvllt y Vail Mall Gazette, nac ychwaith gan yr hyn y gellid goddef iddo ei alw, er mwyn cynghanedd, yn dtlirium tremens y Daily Telegraph. Creodd Mr Bright hwyl fawr gyda'i ddesgriflad o ddirprwywyr y Sultan, y rhai, ebe fe, nas gellid cael hyd iddynt yn unman. Yr oedd eu Llywod- raeth wedi pellebru atynt, ond nid oedd llais na neb yn ateb, er eu bod wedi gohebu a'u gwragedd, y rhai oedd, ebe Mr Bright, rhwng cromfachau, yu Llywodraeth ag yr oedd y Tyrcod hynyn ei ddeall yn dda. Wrth geryddu Syr Stafford Northcote am ei araeth ddideimlad nos Lun, dywedodd yr aieitliydd mai arfer gwleidyddion Prydeinig hyd yn hyn oedd dangos cydymdeimlad a phobloedd a gwledydd a fyddent yn cael eu gorthrymu. Ar hyny gwaeddodd aelod o du y Weinyddiaeth Beth am Poland ?'' Mor gyflym a mellten-ae yn hollol fyrfyfyr,—atebwyd ef gan Mr Bright fel y canlyn:—"Mae hyn yn berffaith wir am Poland (elywch, clywch). Pan oeddwn i yn hogyn, yr oedd pob enaid byw yn Lloegr, cyn belled ag y gallaf fi gofio darllen neu glywed, yngalaru oher- wydd y trychineb a ddilynodd i ran Poland. Y mae Uinellau yn dyfod i fy nghof sydd wedi aros yno o'r pryd hwnw hyd y foment lion- A Pholand sydd yn gwel'd ei meibion dewraf, Ei blaenion, ei goreuon, a'i gwrolaf, Yn oer ar lawr yn gorwedd yn eu gwaed, Tra'n marw wrth weddio dros eu gwlad." (cymeradwyaeth dirfawr o bob ochr o'r Ty). Yna aeth y boneddwr gwir anrhydeddus yn mlaen i gondemnio yr eiddigedd a goleddid at Rwsia gan rai pobl yn y wlad hon, a dirgymhellodd y Lly- wodraeth i beidio taflu ei chleddyf i'r glorian ar adeg pan yr oedd yr ymrafaelwyr ar fedr gweinio eu cleddyfau hwy. Arglwydd Sandon a gyfododd i ateb Mr Bright, a pharhawyd y ddadl gan Mr Herschell a Mr Green, ae ar gynygiad Mr Trevelyan, cafodd ei gohirio hyd dranoeth.

ITY'R CYFFREDIN.—DYDD GWENER.…

I_TY'R CYFFREDIN.-DYDD LLVN.…

[No title]

[No title]

TY'R ARGLW YDDI. —DYDD IAV,…

1-TY'R ARGLWYDDI.-DYDD GWENER.I

TY'R ARGLWYDDI.—DYDD LLUN.I

Y GYLLELL tN NGHYMRU. -1

Ifrirhro ofr Dflrtttto-

Advertising