Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

OYMDEITHASF A - - OENARFON.…

News
Cite
Share

OYMDEITHASF A OENARFON. Awst 19, 20, 21, JBfi. Cymedrolwr-Parch. GBIFFITH HUGHES, MEYRU. Cynhaliwyd Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfin- aidd am Ogledd Cymru yr wythnos hon, ar y dyddiau a nodir uchod, yn Ngbaernarfon, a chaf. wyd, fel aiferol, y cynulliadau cyboeddus y poblogaidd, a chyfeisteddfodau dylanwadul a cby- surus. Fel hyn yr adroddir yn y "Drysorfa Y s. brydol" am y Gymdeitbasfa a gynhaliwyd yn Nghaernarion, Hydref laf a'r 2.1, 1794:Hou oedd y Gymdeithasta gyntaf a fu yn nhref Caer- narfon. Cafwyd llawer o lonyddwch a cbymorth i lefaru yn gyhoeddus i'r dyrfa iwyaf liosog a wel- wyd erioed yo Ngwynedd ar y cyfryw achos. Ac mae y" dda genym oinau allu dywedyd, ymhen yo agos i wyth deg o flynyddau ar ol hyny, nad Y IV cynulliadau y Methodistiaid yn Ngbaernarfon wedi dirywio mewn rhifna dylanwad, nacychwaith, ni a obeithiwn, yn y lies a'r buddioldeb sydd yn deillio o honynt i gorfi y bobl a'u mynychant. DYDD LLUN. Am chwech o'r gloch nos Lun, a tbrachefn am naw, bore dydd Mawrth, yn Vestry Room capel Moriab, cyfarfu Cyfcisteddfod y Capelau, Mr. Jacob Jones, Bala, cynullydd. Yn y cyfarfodydd hyn iboddodd Mr. Abel SimDer eglurhad helaetha manwl ar y weithred Seneddol newydd er diogeliad ein capelau, sef y Charitable Trustees Incorporation Act. Yn ystod yr ail eisteddiad, gofynid a roddid cenad i gynrychiolwyr y wasg fod yn bresenol, ac atebwyd nad oedd yn gyfreithlawn i reportio un. rhyw un o'r cyfeisteddfodau, ond yn umg y cylar- fodvdd cyboeddus. DYDD MAWRTH. Am unarddeg boreu dydd Mawrth, yn Monah, cytarfu Cyfeisteddfod yr Achosion Seisnig, yr hwn a gyfarfu drachefn am haner awr wedi pump. 'Am baner awr wedi 11,. boreu dydd Mawrth, a thracheln, ar ddiwedd y cyfarfod ddau o'r gloch, cylarfu y cyfeisteddlod a benodwyd yn Nghym. deitbisfa Amlwch i ystyried y drefn o ddewis Diaconiaid. Am 2, yn Moriah, ac am haner awr wedi 6, yn Silob, cyfarfu cyfeisteddtod y Gymdeithasfa, pryd yr oedd y cynrycbiolwyr canlynol o'r siroedd yn bresenol Mon-Parchn. James Donne J. Pritchard, Am. Iweh Mri. R. Hughes, Bodowyr, a 0. Pritchard Ty'nllan. Arfon-Parchn. D. Morris; W, Herbert; Mri. T. Lewis, a W. Jones, Clwtybont. Lleyn ac Eifionydd-Parch. H. Hughes, Gellidara; Mri. R. Rowlands, Porthmadog, a H. J. Williams, Four. croeses. Dinbych-Parchn, R. Roberts, Abergele; W. Morris, Rbuddlan Mri. John Roberts, Foxhall, ac R. Hughes, Rhyl. Ffimt-Parch. John Davies, Nerquis Mr. George, Bodffari, DwyrainMeirionydd Parch. William Williams, Corwen, a Mr. J. Davies, Gwddelwern. Gorllewin Meirionydd- Parch. D. Davies. Abermaw Mri. Thoma, Jones, Corris, a Wm. Williams, Ivy House, Dolgellau. Trefaldwyn (Uchaf)—Parch. Robert Roberts, Dol- anog; a Mr. T. F. Roberts, Llanidloes. Trefaldwyn (Issf;-Parch, T. J. Wheldon, B.A. Liverpool— Parchn. 0. Thomas; J. Hughes R. Lumley; Mri. David Lewis; John Jones, a David Roberts. Man- chester neb. Henaduriaeth Lancashire, &c.- Parchn. Robert Thomas Edward Jerman a Mr. Peter Williams. Henaduriaeth TrefaldwynParch. T. J. Wheldon, B.A. DYDD MERCHER. Cyfarfod y. Diaconiaid, Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn nghapel Engedi, am 10 o'r gloch, pryd yr etholwyd R Davies, Ysw., A.S, yn llywydd, a Mr. R. Rowlands, Porthmadog, yn ysgrifenydd. Wedi galw enwau y cynrychiol. wyr, gofynwyd a oedd unrhyw genadwri o'r siroedd. Atebwyd nad oedd. Mr. Thomas Lewis, Bangor, a ddymunai alw sylw at y cyfarfod Seisnig oedd i gymeryd lie yn yr hwyr i dderbyn y cenhadon o Loegr ac Iwerddon—y priodoldeb o ddewis llywydd, gan fod Llywydd y Gymdeithasfa i fod yn Uywyddu mewn cyfarfod arall. Deisyfwyd ar Mr. Davies, A.S., gymeryd y llywyddiaeth ond gan iddo ef sierhau nad allai fod yn bresenol, dewiswyd D. Lewis, Ysw., Liverpool, gydag unfrydedd. Mr. Lewis, yn mhellach, a alwodd sylw at erthygl a ymddangosodd yn y rhifyn diweddaf o'r GOLEUAD, yn crybwyll na chyhoeddwyd cyfrifon y Gymdeith- asfa, ac yn awgrymu y priodoldeb iddynt o hyn allan gael eu hargraffu. Mae yn hysbys, neu fe ddylai fod yn hysbys, fod y cyfrifon hyn yn cael eu hauditio a'u dullen bob blwyddyn yn y Gymdeithasfa, ac fe wnaed hyny eleni. Ond y mae yn gwestiwn a fyddai yn ddoeth eu hargraffu mewn cysylltiad a'r cylchlythyr, neu wneyd rhyw grybwylliad eu bod yn cael eu dar. llen a'u hauditio, neu rywbeth i'r perwyl yna. Mr. R. Rowlands a ddywedai ei bod yn arferol o wneyd crybwylliad yn y cylchlythyr, ond na wnaed hyny y tro diweddaf. Feallai nad oedd hyny yn fwriadol, ond diau mai wrth ddrws yr ysgrifenydd yr oeddy ddyledswydd o wneyd y crybwylliad yn sefyll. Y Llywydd :-Mae yn dda fod ein sylw yn cael ei alw at hyn. Yr oedd ef yn teimlo fod amrj wgwest- iynau yn cael eu trafod yn y GOLEUAD ag y byddai yn ddoetbacb peidio, a rhai pethau mewn cyhoedd- IA4 ag yr edrychid arno fel yn perthyn yn fwy neill. duol i'r Cyfundeb yn cael eu dweyd all wneyd mwy 0 ddrwg nag o les. Mr. Roger Evans (a ddymunai wneyd yn hysbys fod pob item yn cael eu darllen a'u hauditio ac nad oedd ef yn talu dim fel trycorydd. nad oedd yn cael ei orchymyn gan y Gymdeitbasfa. Mr. Thomas Lewis :-Ai ni ellid gwneyd byn ? Tybier fod y cyfrifon yn cael eu darllen a u hauditio —fod hyny yn cael ei hyebysu yn y cylchlythyr. JNid oeddym wedi eu hauditio cyn y cyfarfod diweadat a gynhaliwyd yn Amlwch ond fe wnaed hyny ar ol hyny, a chafwyd pob item yn berffaith gywir. Y Llywydd :-Dyna yr achos, gan hyny, paham na wnaed sylw o hyny yn y cylchlythyr. Mr. Roger Evans :—Nage nid oedd yr ysgriferf- ydd ei hun yn bresenol-dyna yr achos. ? Mr. R. Rowlands Dylid deall nad oes un cy- sylltiad uniongyrchol rhwng y GOLEUAD a'r Corn. Mae yn wir fod y cyfranddalwyr agos i gyd yn ael- odau o'r Cyfundeb, ond papyr perthynol i Gymru ydyw, ac ni ddylid disgwyl iddo fod yn dynerach wrth yr enwad hwn mwy na rhyw enwad arall. Os caiff ei recognizio gan y Gymdeithasfa, yua pub peth yn iawn, ac y mae gan y Gymdeithasfa hawl i'w alw i gyfrif am yr hyn a ymddengys ynddo. Ar gynygiad Mr. Thomas Lewis, ac eiliad Mr. Peter Williams, penderfynwyd dodi yn y cylch- j lytbyr fod y cyfrifon wedi eu hauditio a'u darllen fel arferol, a'u cael yn gywir. Dygodd Mr. David Roberts, Liverpool, ymlaen genadwri o bwyllgor dyled y capelau, ac anogid rhoddi swm neillduol at.dreuliadau Mr. Simner mewn cysylltiad a'r mater hwn. Y Llywydd a ddywedodd ei fod ef yn gwybod mwy nag a allai braidd neb arall yn y cyfarfod fod yn gwybod am lafur a thrafierth Mr. Simner gyda hyn o orchwyl. Fel aelod Seneddol yr oedd yn gallu sylwi arno yn ei symudiadau yn y T £ Yr oedd yn glynu wrth yr aelodau fel gelen (chwerthin), ac ni adawai lonydd iddynt hyd nes cael yr hyn a ofynai. Yr oedd canoedd o deeds wedi myned trwy ei ddwylaw, ae yr oedd yn gwneyd notes o'r oil agos; ac yr oedd hyn, ynghyd a llafur arall n Ld oes gan neb yr un diraadaetb am dano, yn ddiderfyn. Penderfynwyd talu i Mr. Simner 20p. at ei draul teithio am y tair Cymanfa ddiweddaf. Penderfynwyd fod y pwyllgor mewn cysylltiad a Fund y Pregethwyr i gyfarfod yn Rhyl, am 2 o'r gloch, Taehwedd 12. Y Llywydd a ddywedai mewn cysylltiad a hyn fod rheolau Fund y Pregethwyr i sefyll fel ar brawf am bum' mlynedd, pryd ag y gellid eu cymeryd i y,tyriaeth drachefn, a'u cyfnewid os gwelid yn angenrheidiol yn niwedd yr amser hwnw. Y mae rhyw bethau yn rheolau Mfln yn wahanol i reolau y Fund gyffredinol ag y byddai ynddymunol i'r brodyr a benodwyd i ystyried y cwestiwn hwn gymeryd i ystyriaeth yr adeg y byddent yn cyfarfod yn Rhyl. Mr. R. Rowlands a alwai sylw at Fwrdd v Gym- deithasfa. Dywedai Mr. Rowlands fod Cymanfa Mehefin yn wastad yn cael ei chymeryd i fyny gan achosion y Gymdeithasfa Gartrefol. Awgrymai i f y priodoldeb o flurfio cyfeiateddfod i ystyried y mater- ion a ddygir ymlaen ar ran y Gymdeithas, cyn eu gwneyd yn gyhoeddus, ac hefyd i wneyd adroddiad. Mr. E. Griffith, Dolgellau, a sylwai ei fod yn teimlo yn gymwys yr un fath a Mr. Rowlands. Yr oeddynt yn fotio llawer o arian i lawer o leoedd, ac heb gael un report am danynt o gwbl. Y Trysorydd (Mr. Roberts, Llanidloes), a ddywed- ai ei fod yntau yn teimlo y diffyg, ac feallai mai dyma yr achos fod y siroedd mor hwyrfrydig i gyf- ranu at yr achos hwn. Mr. P. Williams a ddymunai adgofio y cyfarfod fod cenhadon yn cael eu penodi gan y Gymdeithasfa i ymweled a'r gwahanol orsafoedd, a'u bod hwy yn gwneyd adroddiad o'r lleoedd hyny cyn fotio arian. Y Llywydd A fyddant hwy yn cyhoedUi ad- roddiad ? Mr. Williams —Byddant fel rheol bob amser cyn Cymanfa Mehefin. Mr. Rowlands-Ond er yr adroddiad y mae lliaws o fanau heb yr un adroddiad am danynt, ac eto rhoddir grants i'r lleoedd hyny. Hefyd y mae y cyfeillion a nodir yn gyffredin yn interested, ac yn dyfod eu hunain o'r Goror. Mr. P. Williams-Mr. Roger Evans a Mr. Thos. Lewis oeddynt un flwyddyn. Mr. Roger Evans a ddywedai ei fod yntau yn teimlo yn gyffelyb, ac ofnai fod y Trysorydd yn talu mwy o arian nag oedd yn dod i law. Mr. Thomas Lewis :—Rhaid bod rhyw annrhefn mawr yn rhywle a nodai Mr. Lewis eugreifftiau pan yr oedd cynrychiolwyr y siroedd yn cael en out-votio ar bron bob cynygiad o bwys. Dyma paham y penderfynodd y cyfeillion o Arfon anfon dim ond haner y rhodd arferol. Y ffaith ydoedd, fod arian yn cael eu votio nid yn ol teilyngdod yr achos, ond yn olgwydnwch y nebfyddo yn gofyn am yr arian. Y Trysorydd a ofnai i ddrwg gael ei wneyd with geisio gwneyd da. Cydnabyddai anmherffeithrwydd y trefniadau, a pha beth dynol sydd yn berffait,h ? Yr oedd gwaith mawr wedi ac yn cael ei wneyd yn y Goror, ae yr oedd yn atolygu pa beth bynag a ddy- wedid ac a wneid yna-ac yr oedd yn cyfaddef fod angen am ddiwygiad ond yr oedd yn atolygu na fyddai iddynt lesteirio y gwaith da oedd yn cael ei ddwyn ymlaen. Apeliai at eu natur dda yn fwy nag at eu deall, hyd nes y gellid perffeithio y trefniadau yn well. Y Llywydd a gefnogai apeiiad a tbeird]ad,da Mr. Roberts; a dywedai ei fod ef yn cobeithio mai teimlad, da a barodd alw sylw y diaconiaid at y mter hwn. Mr. Rowlands a ddywedai mai dyna ydoedd yr amcan, a weddyliai mai gwell fyddai cynyg fod pwyllgor o frodyr i gymeryd hyn i ystyriaeth y Gymanfa nesaf, Mr. P. Williams a ddywedai fod yn dda ganddo weled t6n y cyfarfod yn myned y ffordd yna, ac adroddai ei brofiad ei hun mewn cysylltiad 4g achosion yn y loror-y Ilafur oedd yn cael ei gymeryd gyda hwynt, a'r Uwyddiant hefyd, o dan fendith Duw, oedd wedi dilyn eu hymdrechiadau. Yr oedd yn llawenydd iddynt ddeall fod pedwar o'r gorsafoedd, fel yr hyzbyawyd yn Amlwch, yn awr wedi dyfod yn hunan-gynhaliol. Wedi peth siarad, penderfynwyd cyflwyno y mater i ofal pwyllgor yr Achosion Seisnig sydd i ymgyfarfod yn Rhyl-Mr, R. Rowlands yn gynull- ydd. Dymnnodd Mr. Jacob Jones, Bala, alw sylw y cyfarfod at yr angenrheidrwyud am gael argraffiad o'r Constitutional Deed allan mor fuan ac y byddo modd, gan y byddai hyny yn fantais neillduol i benderfynu yn y gwahanol Gyfarfodydd Misol gyda golwg ar y cwestiwn a ddygir ger eu bron, ynglýn ag ystyried y priodoldeb 0 fabwysiadu darpariadau y Charitable Trustees Incorporation Act, 1872. Wedi ychydig ymddiddan ar yr achos, awgrymodd Mr. D. Roberts, Liverpool, yn cael ei gefnogi gan Mr. T. Lewis, Bangor-penderfynwyd cael argraffiad o bum' cant o'r Constitutional Deed, hyd y gellir i fod yr un blyg a'r Cyffes Ffydd, fee., sydd i ddyfod allan yn unol a phenderfyniad y Gymanfa Gyffredinol. Cyfarfod y Pregethwyr. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn Moriah, am 10 o'r gloch, pryd y dechreuwyd gan y Parch. R. Hughes, Conwy. Y mater a gynygiwyd fel testyn ymddiddan yd. oedd, Pregethu effeithiol." Sylwai y Llywydd (y Parch. G. Hughes) fod rhyw ddiffygion yn rhywle, onide na byddai y pregethu nor aneffeithiol ag y mae. Beth yw y diifygion hyny? Hwyrach nad y w y pregethu yn gwneyd dim drwg, ond nid ydyw yn ddigon nerthol i achosi llawer o dda. Y Parch. 0. Thomas Yr oedd yn dda ganddo i'r mater hwn gael ei ddwyn dan sylw. Y mae llawer o bregethu, a llawer o bregethu aneffeithiol. Yehydig iawn sydd yn cael eu dychwelyd. Gall y pregethwr ddweyd agos bob nos Sul, Yn ofer y llaturiais, yn ofer ae am ddim y treuliais fy nerth." Wrth i ni edrych i'r Bibl, y mae yn bnr sier fod rhyw bregethu ag y mae yn ei natur i gynyrcliu effeitbiau acliubol. Dywedir am yr Apostolion iddynt "lefaru felly, fel y credodd lliaws mawr," "A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt; a nifer mawr a gredodd, ae a drodd at yr Arglwydd." "Ni bu ein hefengyl ni tuag atoch chwi mewn gair yn unig, eithr mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glan, ac mewn sicrwydd mawr;" hyny yw, yr efengyl fel yr oedd yn cael ei gosod allan yn y Weinidogaeth. Y mae arnom ninau angen rhyw nerth yn y weinidogaeth, rhyw sicrwydd mawr' yn meddwl y pregethwr ei hunan. Ond cael hyny, fe fydd i'r gwrandawyr ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr (fel y mae yn wir) yn air Duw." Dyna ydoedd t6n gweinidogaeth yr apostol. Yr oedd Paul yn diolch i'r Duw mawr am eglurhau arogledd ei wybodaeth trwyddo ef ymhob lie, ac am ei fod yn waktad yn peri iddo orucliafiaeth yn Nghriit. Tybiai y buasai Paul yn anfoddlawn pe buasai yn traddodi cymaint ag un bregeth heb arwydd fod rhywun wedi d'erbyn lies, neu fod rhyw un wedi ei aehub. Buasai yn ymholi, Pa beth a wnaethum ? ymha beth y peoh- ais ? neu, beth a wnaethoch chwi ? Buasai Paul yn teimlo fel yna pe buasai ond un bregeth yn aneffeith- iol. Ond gyda ni, yr anefteithioldeb yw y rheol, a'r Uwyddiant yn eithriad, ïe, yn eithriad pur anfynych. Wei, pa beth sydd i'w wneyd ? Nid nerth lIais, nid nerth dawn, nid unrhyw nerth o'r fath yna sydd yn eisiau. Rhywbeth pur wahanol yw y nerth yr ydym ni yn son am dano. Un peth sydd yn angenrheidiol ydyw argyhoeddiad dwfn yn meddwl y pregethwr ei hunan fod yr hyn sydd ganddo i'w draddodi o flaen ei wrandawyr yn beth am eu bywyd. Dylai deimlo wrth fyfyrio, wrth barotoi ei bregeth, wrth esgyn i'r pwlpud, ac yn y pwlpud. Dyma beth am fywyd y bobl; y mae eu hiachawdwriaeth dros byth yn ym- ddibynu ar yr hyn yr wyf fi yn ei lefaru os metha hyn, nid oes dim arall ar eu cyfer; dyma beth olaf y Duw mawr er eu hachubiaeth. Byddai yn dda pe teimlem fel yna bob amser pan yn esgyn i'r pwlpud. Os bydd teimlad fel yna yn y galon ar y pryd, y mae y pregethu yn siwr o gynyrchu rhyw effaith. Ond Os bydd y gwirionedd heb gydio yn meddwl y pre- gethwr ei hun, os na bydd ef yn meddu sicrwydd mawr yn ei ysbryd ei hun, y mae y pregethu yn hollol aneffeithiol ar feddyliau y gwrandawyr tra y mae pregethwr arall gyda llai o ddawn, ic yn bur ddiffyg; iol o rai eymhwysderau, a rhyw awdurdod yn ei weinidogaeth, nes y mae y gwrandawyr yn teimlo eu bod yn derbyn budd, Ond cael mwy o hynyna yn ein heneidiau ein bunain, fe fydd y ddelw yna ar ein pregethau. Byddai dda pe gallem rywfodd deimlo y nerth yna yn y gwiriouedd ei hunan fel gwirionedd Duw. Y Parch. John Davies, Nerquis, a ddywedodd y byddai efe yn holi ei hunan, A oeddamcan yn yr liyn y bu yn ceisio ei ddweyd ? Adroddai hanesyn am y diweddar Barch. John Hughes, o Liverpool, pan yn wr ieuanc o 20 i 22 oed, i ryw un o'r gwrandawyr ddweyd am dano, Y mae y dyn ieuanc yna yn pre- gethu fel pe bai o ddifrif am ein hachub, ac yn gweddio am i ni gael trugaredd. Y Parch. W. Morris, Rhuddlan, a goffaodd eirian Paul o lfaen Agrippa, "geiriau gwirionedd a sobr- wydd yr wyf fi yn eu hadrodd." Y mae traetho chwedlau yn lie y gwirionedd yn beth arswydus, ae ni ddylid traetbu y gwirionedd ond yn ddifrifol, 0 argyhoeddiad o'i fawredd, a phrofiad o bono.