Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

MANCHESfER.

News
Cite
Share

MANCHESfER. Yn y capelau Cymreig y dyddiau hyn y mae arwydd amlw»; fod cyfeillion yn Ngbymru yn mwynhau presenoldeb ac arian eu cyfeillion o Man- chester, ac yn rboddi yn gyfoewid iddynt olygfeydd rhamantus eu gwlad, a rhyddid iddynt anadlu i'w bysgyteiut awyr bur Gwlad y Bryniau, a thrwy byny estyn iechyd i'w cnawd ac adloniad i'w henaid. Y mae cyfnewid golygfeydd yn sicr o beri adnewyddiad i'r corft ac i'r enaid, ac y mae cyf- newid awyr am dro, hyd yn nod pe byddai yr awyr newydd yn fwy afiacb, yn sicr o beri gwell- iaut i bobl weiniaid. Rbywbeth newydd yw y cyfan yr ymofynir am dano o'r bron y dyddiau hyn, ac y mae cyfleusderau y rheilflyrdd mor liosog fel y mae y tlotaf yn gallu newid golygfeydd- rhagorlraint a gyfyngid i'r cyfoetbogion 30 mlyn- edd yn ol. Nid oes gan y Cymry yn Ngbymru fawr o ddirnadaeth am y cyrchu sydd oddiyma i'r wlad a glanau y moroedd y dyddiau a'r wythnosau hyn. Pe na bai ond un o bob cant yn myned allan bob wythnos, byddai hyny oddeutu wyth mil o bobl yn myned allan bob wythnos o Manchester yn unig. Ond y aiae y Cwmniau Rheilffyrdd am gymeryd mantais ar yr amseroedd, a chan lod pris pob peth o'r bron yn codi, maent hwythau am godi pris y teitbio yn nechreu y mis nesaf, ac felly o angenrheidrwydd cyfyngir ar fanteision y gweith- lwn i deithio er mwyn ei iechyd. Lied ddwl ydyw hi y dyddiau hyn gyda'r achos- ion crefyddol; dim neillduol, oddieitbr ein bod yn clywed o bell swn traed bugail arall, a thipyn o ymysgwyd i barotoi i weithio yn y dyfodol. Dyma dasg un o'r Ysgolion Sabbothol yma wedi ei dori allan yn barod, ac yn atgraffedig ar hand-bill, a dicbon y bydd yn ddyddorol i lawer o ddarllenwyr y GOLEUAD weled pa beth y mae eu brodyr yn Lloegr yn ei wneyd. Dyma sydd ar y papyryn sydd o'n blaen Materion i'r aelodau i lafurio ynddynt o Awst 18, 1872, hyd Rhagfyr 29, 1872, a rhodJir gwobrau i'r rhai Uwyddianus. 1. Dysgu allan y 'Khodd Mam.' 2. Dysgu allan 1 Cor. xv. 3. Dysgu allan yr Hyfforddwr' o ddechreu pen. xv. hyd ddiwedd y llyfr. 4. Arholiad ar Hanes Daniel. 5. Dysgu allan yr 'Hyffurddwr,' o ddechreu pen. x. i ddiwedd y llyfr. 6. Arholiad ar 1 Cor. xv. 7. Traethawd, yn Gymraeg neu Seisnig ar Y cynllun goreu i efrydu y Bibl a bod ^yn hyddysg ynddo; yn ei banesiaetb a'i athrawiaethau," 8. ?'fraeth. awd, yn Gymraeg neu Saesneg, ar "Swper yr Ar- glwydd ei sefydliad, ei amoan, V cymhwysderau ang- emheidiol i gytranogi o hono, a'r perygl o gyfranogi yn annheilwng. D. S. -Nid oes cysylltiad rhwng y inaterion a'u gilydd; oblegid byny gall unrhyw un lafurio mewn un, neu yr oil o'r testynau perthynol i'w ddosbarth ef. Fe wel y cyfarwydd fod arncan yn y papyr yna i gael yr ieuenctyd i lafurio mewn dan bwnc pwysig, Swper yr Arglwydd," a'r "Adgyfodiad." Dywedir fod yr ieuenctid crefyddol yn fyrach eu gwybodaeth yu Swper yr Arglwydd nag ydoedd eu rhieni. Ac y mae pwnc yr adgyfodiad yn cael haner ei wadu gan ieuenetyd Cymreig. Y mae ysbryd yr oes hon yn etfeitbio ar y cylchoedd cref- yddol hefyd. Ameu pob peth yw tuedd yr oes hon; ac un o'r pethau mwyaf niweidiol a damniol yw ameu gwirionedd datguddiedig. Clywsom ieuenetyd mewn Ysgolion Sabbothol Cymreig yn dweyd nad oedd yn credu fod yr adgytodiad yn gnhebgorol angenrheidiol er iachawdwriaeth. Gan y bydd hanes y Gymdeithasfa yn eich rhifyn hwn, ni a ymataiiwn ar hyn.-Gohebydd. „

GWRECSAM.

PORTHMADOG.

SASIWN PLANT GWYDDELWERN.

Advertising

DYDD DU BARTHOLOMEUS.-