Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLEYN AO EIFIONYDD A'R FUGEILIAETH.

News
Cite
Share

LLEYN AO EIFIONYDD A'R FUGEILIAETH. Syr,—Mae yn llawenydd genym weled yr actios da yma yn myned ymlaen gyda'r fath Iwyddiant yn y rhan hon o'r wlad. Buasid yn meddwl, a chy- meryd un olvvg ar bethau, mai dyma y dalaeth olaf yn y byd Methodistaidd a faasai yn ymgymsryd ä diwygiad o'r fath, gan fod y Cyfarfod Misol, gan mwyaf, yn cael ei wneyd i fyny o hen weinidogicn, ac fel y cyfryw, yn naturiol iddynt deimlo rhyw an- wyldeb at yr hen drefn, ac atgasedd. at y newydd. Fedd bynag, mae yn hyfryd genym ddweyd nad fel yna y mae pethau yn Nghyfartod Misol Lleyn ac Eifionydd. Yr hen weinidogion ydynt y rhai mwyaf zelog am gael eglwysi o dan ofal bugeiliaid, yn en. wedig yr eglwysi gweiniaid. Maeit gyda hyn yn ddau ddosbarth. Tra y dadleua y naill am gael bugeiliaid yn gyntaf ar yr eglwysi gweiniaid, eeweh y llall yn dadieu fod llawn cymaint o'r un angen ar yr eglwysi cryfion fel y mae mor angenrheidiol i Jong fawr gael eadben, os nad mwy felly, a Hong feohan. Ac yr ydym yn rhwym o gydnabod fod llawer iawn o wir yn yr ystyr hon. Byddwn ar rai prydiau yn gofyn yn ddifrifol i ni ein hunain, ae hwyracli i ambell gyfaill, beth sydd i'w feddwl o lawer o'n heglwysi, sydd yn rhifo canoedd mewn nifer, ond heb fugeiliaid ? Yn wir, yr ydym yn barnu y dylai dau neu odri fugeiliaid fod ar ambell nglwys, neu ynte wneyd llawer un yn ddwy, ac ambelfun 'yn dair. Ond nid yw y dadleuon am y mawr a'r bychan, y cryf a'r gwan, yn gadael y gwaith yn ei unfan yn Lleyn ac Eifionydd. Mae yn enili tir yn barhaus, ac ni welsom erioed y mater yn cael cymaint o ystyriaeth a chwareu teg ac yn y Cyfarfod Misol diweddaf. Ond y gofyniatl fydd yn ymgynyg i,ii meddwl ar brydiau yayw, beth sydd i'w feddwl o'r eglwysi hyny y rhai na fynant neb i'w bugeilio-yr eglwysi sydd wedi bod am yr ugain neu y deng- mlynedd-ar-hugain diweddaf fel y maent yn bresen- ol ? Yr ydym yn ofni mai wrth ddrws y swyddoc- ion eglwysig y gorwedd y cyfrifoldeb. Kid ydym yn gwybod am un eglwys, os bydd y swyddogion yn unfryd-unfarn ar unrhyw bwnc, nad yw yr egtwys hono ar unwaith mewn cariad yn ymdoddi i'r un teimlad a phenderfyniad. Hefyd, mae yr amserau hyn yn gyfnod lied ddifrifol ar ein gwlad, yn enwed- ig gyda golwg ar y genedl sydd yn codi. Ni fu erioed fwy o ystrywiau a diehellion yn cael eu dyfeisio, a'u barter tuag at ddwyn ei. plant oddiarnoni. Daeth hyn yn amlwg iawn i'r golwg, yn ddiweddar gyda phwnc Addyg, a pharhant yn y golwg yn barhaus. Un o elfenau hanfodol y fugeiliaeth ydyw, egwyddori y genedl sydd yn codi mewn crefydd bur, a'u cadarnhau yn yr hen egwyddorion y darfu eu harddel gostio cymaint a ddioddef ac erledigaeth i'" tadau, ond a werthir yn hynod isel y dyddiau hyn gan ambell Judat. 0 resyn na fyddai yn hosibl argraffu yn ddwfn ar feddyliau yr eglwysi yr angen- rheidrwydd mawr sydd arnynt am y fath arolygiaeth, pe buasai ond yn unig er mwyn diogelu y plant. Alae y lleoedd y mae bugeiliaid ynllafnrio yn bur amlwg. Mae yr "achos" yn y manau hyny yn ym- ddangos yn gryf a chynyddol ac os daw ymosodiad arnynt—os daw eorwynt i ehwythu—mae eu gwraidd yn treiddio yn ddyfnach ddyfnach. Frodyr anwyl. er mwyn Methodistiaeth, er mwyn Ymneillduaeth, ond yn benaf er mwyn purdeb a Ilwyddiant eglwys Iesu Grist, na foddlonwch heb fugeiliaeth eglwysig, a hyny ar unwaith. Nid pobl i wneyd yr holl waith ydynt. ond rhai i weithio eu hunain, ac i roddi pobl eraill i weithio. Dadl egwan ryfeddol i'n tyb ni yw hono, "y dylai fod gan bob dyn ieuanc o bregethwr ryw grefft neu fusness heblaw pregetbu." Os nad ydynt yn deilwng i adael y grefft yn llwyr, ni ddylent eu gadael o gwbl. Mae dynion yn ymneillduo i grefft, ac y mae dynion yn cael eu neillduo i waith yr Arglwydd. Yr ydym yn cofio i ni ofyn unwaith i'r diweddar Barchedig David Jones, Treborth, paham y rhoddes y shop i fyny, "0," meddai yntau, "Un ai shop neu efengyl am dani." Yr eiddoch, &c., YMNEILLDUWR. [Tra y mae defnyddio ffngenwau yn fanteisiol i syniad- au ysgrifenwyr giiel eu derbyn neu eu gwrthod, yn aniiibynol ar y neb fyddo yn eu traethu, y mae weith- iau yn dra anfanteisiol. Os ymddengys llythyr yn adlewyrchn rhywbeth ar bregethwr, odid na thybia y pregethwyr yn y fan mai gwaith rhywun heb fod yn bregethwr ydyw ac or, bydd rhywnn yn taflu rhyw- beth at flaenoriaid, credant hwvthau, ond orlid, ar unwaith mai rhyw bregethwr fydd ar y bai. Fel hyn, y mae perygl i'r naill ddosbarth fyned yn erbyn y llall. Dichon hefyd y byddai ysgrifenwyr yn fwy gwyliadwrns pe byddai raid iddynt roi eu hcnwan adiiabyddus wrth eu gwaith. Pan fyddo dyn yn ys, grifenu dan ffugenw, tynwn ein pin trwy lawer o bethan y cawsai en dweyd dan ei enw. Ysgrifenwyd y llythyr uchod gan flaenor; ac mor bell/a^ y gwydJ- om ni, yr ydym yn credu, pe ct m irid pleidlais, y ceid fod dau flaenor am bob pregetlwr yn ffafrlOll fugen iaeth eglwysig, pe gwyddent sut y gallent ei chael. -GaL.]

RHYDDFRYDIGRWYDD SCOTLAND…

IDAMWAIN OFIDUS.--I

Advertising

I Y BALOT DAN BRAWF.

Y NOS WAITH GYNTAF 0 DAN Y…

Advertising