Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
GWYRTHIAU GAN ESGOB WEDI MARW.
News
Cite
Share
GWYRTHIAU GAN ESGOB WEDI MARW. Mae gohebydd y Daily News yn Rhufain yn rhoddi hanes amgylchiad hynod a gymerodd le yn Torre del Greco, tref yn agos i'r ddinas hono, yr hwn sydd yn dangos pa mor ddwfn ydyw yr ofer. goeledd sydd yn tiynu o dan ddylanwad y Babaeth yo y lie y mae wedi bod yn teyrnasu trwy y blyn- yddoedd mewn llawn rwysg. Ychydig yn ol, bu Esgob Ischia, yr hwn oedd yn irodor o'r lie, farw. Yn ystod ei waeledd, yn ei ddyddiau olal, yr oedd teimladau y boblogaeth tuag ato wedi dyfod i'r golwg yn gryf trwy ei gyhoeddi yn sant. Pan fu farw, dodwyd ei gorff i orwedd am ysbaid yn yr eg- lwys, ac oddiyno ar y 5ed cyfisol, dygwyd et; gan dyrla fawr, i'w gladdu yn y gladdta gyhoeddus. Ond yr oedd hygoeledd ei wraridawyr a'i ganlyn. wyr gynt wedi tynghedu y corff i driniaeth tarbar- aidd cyn y cyrbaeddai ei orphwysfan olaf. Cyn i'r rhai a gludent yr elor gyda'r corlf fyned trwy borth y fynwent, gwelid cenhadon yn rhedeg o gyftiriad y dref, ac yn hysbysu i'r dorf oedd yn dilyn yr angladd, fod yr esgob marw yn cyfiawni gwyrthiau. Yr oedd, meddent, ddynclollyn Sorrento wedi ei wneyd yn alluog i gerdded yr oedd un arall nad oedd er's blynyddau wedi gallu symud ond gyda baglau, yn awr, wedi taflu y cynorthwyon amrosgo hyny yinaith, acyn rhodio'n rhydd a heinyf; ac yr oedd gweinydd ieuanc hefyd, yn un o dai eyhoeddtis y dret, yr hwn oedd fud, wedi cael ei ddwyn i lelaru, a llawer o bethau cyfielyb. "Gwyrtb! gwyrth! gwyrth!" oedd y gair a godai oddiwrth y dyrfa gytlrous ar ol elywed hyn. Rhwystrwyd yr elor. gludwyr rhag myned trwy borth y fynwent, trodd y dorf ei hwyneb yn ol, a dygwyd y corff marw eil- waith i Torre del Greco; ae fel y dygid ef dracbe!n i'r eglwys, bloeddiai y dorl yn wallgofus Dygwch allan y cleifion," "Dygweh allan yr heintus," "Dygwch allan y rhai y sydd yn gorwedd dan y parlys." Ar hyd y ffordd trwy yr heolydd, gwaedd- ai y dorf ar y trigolion i ddwyn allan eu cleifion, er mwyn iddynt gael cyfranogi o rinweddau gwyrth- iol yr esgob marw. O'r diwedd cyrhaeddodd y corff i'r eglwys; torwyd i lawr y groes fawr addi- ar yr allor; ac yn ei lie gosodwyd y marw. Yr oedd y trancedig wedi ei wisgo yn ei ddillad esgob- ol, ond diflanodd y rhai hyn ymaith yn fuan. Darfu i'r werin, yn y grediniaeth fod galluoedd gwyrthiol y sant marw yn treiddio trwy bob edefyn o'i wisg- oedd, gydruthro am yr arch, ac fel gwailgofiaid ym- rysonent am ddarn o'r wisg a rwygid ymaith. Mor awyddus oedd pawb am ryw gymaint o'r crair gwerthfawr, fel yr oedd corff truan yr esgob yn tuan yn gwbl noeth. Yr oedd yr offeiriad, yn eg- lwys yr hwn y gwelwyd yr holl olygfa, ar ol gwneyd ei holl egni i argyhoeddi y dorf o'u hyn- fydrwydd, wedi meddvyl o'r diwedj mai y peth doethaf fuasai iddo sierhau ei ddfogelwch ei hun trwy ddiane. Yn y cyfamser yroedd ynad y dref, a'r maer, gyda chwmni o wyr arfog wedi dyfod i'r He i geisio adferu trefn. Ond yr oedd eu holl ym- drech yn ofer. Mae efe yn gwneyd gwyrthiau! mae yn.gwneyd gwyrthiau t" llelai y dorf. Yn ofer y ceisiai yr urddasolion eglwysig adferu treln. Ar hyn esgynai un i'r pwlpud, acheisiaiegluro i'rbobl fod oes y gwyrthiau wedi myned heibio. YIl ol pob tebyg buasai wedi gortod talu yn ddrud am y fiith hysbysiad beiddgar oni buasai i dinciadau cyf- lym a disymwth y glocta dynu sylw y dorf, yr hon a ruthrodd i'r heol i wybod yr achos. Cymerwyd mantais ar hyn i gau a bolltio'r drysau, a chyn hir yr oedd ewmni digon cryf o filwyr wedi eu dwyn i'r lie i rwystro adnewyddiad yi olygta, a chafotid co ft marw yr esgob lonydd. Dynia beth yw cyttwr pobl a ddygwyd i fyny o dan nawdd uniongyrchol Bglwys Rhufain, ae o dan addysg Jesuitaidd yn ei fiurf burai; yn ol syniad y Babaeth am burdeb.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y LLEW, Y RHWYD, A'B LLYOODEN."—Eratal wyllt a ffug,aetb, y wae perchenog Bals¡tm of Aniseed Pow- well,' wedi ei osod o dan angenrheidrwydd i ddetnyJuio yr arwyddair uchod i'w fasuach, a bydd iddo ymddang- ■ so hyn allan ar bob potel fydd yn bur, a byddpwy bynag a'i hefdycba yn agored i ddirwy neu garcliar. Mae y llythyr canlynol yn dwyn tystiolaeth i riuweddau iaohaol y cySeri hwn: Gwnfa,? ei Mawrhydi, N et- ley,' Wick, Glanau Gogledd Ddwyreiniol Scotland, Medi 7, 1868.-Anwyl Syr,-Wedi bod yn dioddef" dan anwyd trwm, yr hwn a achosodd i mi lawer nos- waithddigwsg.cynghorwyd fi gau ei arglwyddiaethIarll Caithness, 1 wneyd prawf ar eich Balsam of Aniseed,' a galiaf eieh sierhau i mi deimlo gwellM gyda'r ddogn gyntaf, a hyny heb un rhwystr gyda'm gorchwyiion; a chan i'r botelaid lechan gyntaf roddi i mi i;leh: ad lJwyr, mae genyf yr ymddiried mwyaf wrth ei chyflwyno i sylw y cyhoedd. Yr eiddoch yn barclius, W. ?eU, H. M. G. B. 'N?tley.t Mr. p?U. Parotoir a gwerthir gan Thomas Powell, 16, Blackfriara Road, Llundain; a gwerthir hefyd gan gyfferwyr trwy yr holl fyd. Mewn potelau Is. lie. a 2s. 3c. yr tn- Gofyuwcham Balsam of Aniseed Powell.'
[No title]
News
Cite
Share
mewn gwahanol gyfeiriadau. Dengys hyn ryw gymaint o ogwydd i ddychwelyd eto at syn- iadau mwy ysbrydol. Ymddengys i Stanley gael cyfarfod hynod o boblogaidd-Ymerawd- wr ae Ymerodres Ffrainc a'r Tywysog yn bresenol, heblaw prif ddaearyddwyr y deyrnas. Y mae yn siaradwr rhwydd a. difyr, yn ogystal ag yn antuviaethwr. Cafodd dderbyn- iad hynod o frwdfrydig. Daeth Deddf newydd y Tafarndai i weith- rediad am y waith gyntaf ddydd Sadwrn di- weddaf. Danfonwyd yr heddgeidwaid gyda thafleni argraffedig i'r boll dafarndai, yn dang- os pa adeg yr oeddynt i agor ac i gau. Dy- wedir fod effeithiau y can cynar nos Sadwrn, a'r lleibad yn yr oriau agored ar y Sabbath i'w weled yn amlwg iawn, yn y trefydd yn enwed- ig. Ysgrifena gohebwyr atom i ddweyd yr effeithiau da a gafodd ar LiverpooJ, Swan sea) Gwrecsam, ac amryw fanan eraill. Credwn y bydd y tafarnwyr goreu o'i phlaid, ac y bydd pawb sydd yn caru lieddwch a chymydogaeth dda, nosweithiau tawel a Sabbothau hyfryd, yn llawenychu yn ddirfawr ynddi. Treuliodd Arglwydd Tenterden, Syr Roun- dell Palmer a Dr. Bernard, y Sabbath diwedd- af ar ymweliad a Dr. Merle D'Aubigne, yr hanesydd eglwysig enwog yn Monstier. Deng- ys hyn gymaint yn rhyddach ydyw dynion oddicartref na chartref. Byddai i bendefig gydnabod gweinidog tu allan i gylch yr Eg'- lwys Sefydledig yn y wlad hon yn cael ei ys- tyriedynddiraddiadarno,ondmedr y rhai hyn roddi parch i'r hwn y mae parch yn ddy- ledus yn ddigon pell oddicartref. Y mae Brenin Spaen yn parhau i ymdeithio drwy ei wlad, ac yn cael ei dderbyn gyda brwdfrydedd mawr. Dywedid wrtho yn uu man fod cais i gael ei wneyd am ei fywyd, ac fel atebiad i hyny aeth yntau yn ddiamddiffyn wrtho ei hun drwy heolydd y dret. Y mae y fath arddangosiad o wroldeb yn taro ei lofrudd- wyr arfog a braw. Mr. Stanley, yn ddiameu, ydyw prif arwr y cyfarfodydd mawrion y dyddiau hyn, er fod Tichborne yn boblogaidd angbyffredin. Yn y Gymdeithas Brydeinig yn Brighton, ar ei ol ef yr oedd y tyru. Ond ymddengys nad yw ei fwyniant yntau heb ddail surion. Rhoddid gwledd iddo ddydd Sadwrn diweddaf, gan Brighton, pryd yr oedd rhan fawr o'r enwo- ion oedd yn aros yn y dref ar y pryd yn bresen- ol. Aethpobpeth ymlaen yn hapus, hyd yn agos i'r diwedd, pan gyfododd Mr. Stanley i ddychwelyd diolchgarwch am yr anrhydedd. Yr oedd yn adrodd rhai hanesion difyr am ei gyfathrach a Livingstone, pan y canfu ryw dri neu bedwar yn chwerthin yn anghrediniol am ei ben. Cyffrodd hyny ef i'r fath raddau, fel y torodd ei araith yn fer, cymerodd ei het, ac allan ag ef; ac ymhen ychydig amser torodd y cwmni i fyny. Ymddangosai braidd yn groen-deneu, rhaid addef; ond y gwiryw fod y Saeson yn ddigon eiddigus o hono, a rhai papyrau sydd yn gwybod pobpeth fel y Satur- day Review, wedi bod yn taflu amheuaeth ar y cwbl o'r dechreu. Yr oedd pawb yn y cyfarfod crvbwylledig yn ofidus iawn oherwyddy dio-- wydd.ad oddieithr dau neu dri, Wrth adolygu "The Life qf St. lIleriaslt, I Bishop and Confessora Cornish Drama," dywed y Spectator am yr wythnos ddivveddaf, Darganfyddwyd y Ddrama hon oddeutu tair blynedd yn ol ymhlith llaw-ysgrifau Mr. Hen- II gwrt, gan Mr. Wynne o Beniarth." Nid oes gannebhawIichwerthinambenSaisnaot ameu ei anffaeledigrwydd ond y mae hyny yn ddigon anhawdd hefyd pan welom adolygydd dysgedig fel y Spectator yn ysgrifenu Mr. Hengwrt." Mae y Mark Lane Express, tra yn awyddus i gadw ei urddas fel prophwyd masnachol rhag dweyd gormod, yn awgrymu fod yn debyg iawn y cymer codiad le eto yn y farchnad, ac y bydd pris yr ýd yn uwcb 0 dJpyn nag y bu. Cymer ofal i ddweyd fod y cynyrch yn ymddi- I bynu i raddau mawr ar y tywydd, a bod golwg obeithiol ar y cnydau yn Germani, Belgium, a Ffrainc. Ameangyfrif y codiad yn Lloegr a ddyry i lawr yw rhywbeth o swllt i ddau swllt ycbwarter; ond, meddai yr oracl hwn, "Yr ydym yn ofni y bydd ditfyg mawr yn y cnyd- au yn Lloegr, ond gydcJ. thywydd teg a chy- northwy tramor ni raid ofni unrhyw brinder hyd amser y cynhauaf. Ar yr un pryd, y mae pris llafur mor ansicr, llafurwyr mor brin ac an- nibynol fel y mae yn anhawdd dyfalu i sicr- wydd pa foddy dibena pethau." Yr ydym yn gweled fod y llafurwyr mewn rhai partbau am- aethyddol o'r wlad yn hawlio cyflogau afresym- ol am eu llafur yn adeg y cynhanaf, ac mewn auirywiol fanau mae y milwyr yn troi allan o'u gorsafoedd ac yn cynorthwyo yr amaethwyr i gael yr ydau i ddiddosrwydd. Pfir hyn beth cynwrf ymysg y llafurwyr, ac y mae terfysg wedi tori allan mewn amrywiol fanau mewn canlyniad. Mae yn dyfod yn gwestiwn pwys- ig i amaethwyr y dyddiau hyn, gyda gofyn am lafur o'r trefydd mawrion, ynghyda'r ymfud- iaeth dibaid sydd yn cymeryd lie i'r Unol Dal- eithiau a'r Trefedigaethau, pa beth i'w wneyd yn ngwyneb yr arngylchiadau. Os gellir ymddibynu ar adroddiad a ddaeth gyda'r pellebyr o Washington, yr hwn a wneir meddir, ar adroddiad Ysgrifenydd y Comisiwn Prydeinig ac Americanaidd yn Washington, mae ugain o'r achosion addygir yn erbyn Brydain gan America, wedi ou penderfynu, ac o'r cyfanswm a ofynid yn yr achosion hyn mae yr hyn a ddyfarnwyd i'w talu yn llai na thri y cant. Dywedir fod nifer fawr o achosiou yn aros i'w penderfynu yn eisteddiad y Cyfiafar- eddwyr am Medi. Disgwylir y bydd i ryw- beth gael ei gyhoeddi yn swyddogol am weith- rediadau y Llys yn fuan. Yn olnewyddion o Spaen, ofnir fod y wlad ansefydlog hono ar fin helynt arall. Dywedir fod y Carlistiaid, mewn undeb a phleidwyr y Frenhines ddiweddar, Isabella, yn cynllonio gwrthryfel eto gydu'r amcan o ddymchwelyd y Llywodraeth. Mae Belfast wedi bod yn safle i olygfeydd givarthus y dyddiau diweddaf. Yr oedd'dydd lau y lOfedvn$dydd gwyl eyffredinol gan y Pabyddion, yr hwn a dreuliasant yn y Gttwaer- Ynys mewn gorymdaith fel ai-fer bob blwydd- yn. Daethant i wrthdarawiad â'r rhai a alw- ant eu hunain yn Brotestaniaid, ond a adna- byddir yn well wrth yr enw Orangemen, ac aeth yn ymladdfeydci rhyngddynt. Parhaodd y rhai hyn i gael eu badnewyddu am ddiwr- nodiau, HC i gynyddu. Galwyd yr heddgeid- waid yno o bol) parth o'r wlad, ynghyd a chat- rodau o filwyr, nes ymddangosai y dref fel gwersjllfa filwrol derfysglyd. Er pobpeth, methid a chadw y ddwy blaid rhag' ymosod ar eu gilydd, a bu raid i'r heddgeidwaid a'r mil- wyr ddefnyddio eu cleddyfau a'u bidogau amryw weithiau i'w gwahanu. Clwyfwyd ugeiniau o bob! yn beryglus, ac ofnid fod llawer wedi eu clwyfo yn farwol. Parhaodd y terfysg hyd ddydd Mawrth, pryd y rhoddwyd ef i lawr gan bresenoldeb corff cryf o filwyr yn unig.