Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nid yw y llafurwr amaethyddol wedi ei ang- hofio yn hollol, yn ngbanol symudiadau pwysig eraill. Ymddengysfod yn awr o leiaf 150,000 o lafurwyr yn pertbyn i'r undeb. Mewn rhai sir- oedd y mae mil, mewn eraill ddwyfil neu dair, ae yn Norfolk y mae ugain mil yn perthyn i'r undeb a fFurfiwyd yn ddiweddar yn eu plith. Bu tair strike yn Swydd Warwick, un yn Dorset, ac un yn Worcester, a throwyd y Uafurwyr allan yn Swydd Rhvdychain. Ond yn y cwbl cynorthwy- wyd y dynion gan yr Undeb Cenedlaethol, a'r canlyniad fu ddarfod i'r gweithwyr ymhob achos lwyddo yn eu cais. Codwyd y cyflogau swllt neu ddau ymhob sir, ac mewn rhai lleoedd bedwar swllt yr wythnos.
[No title]
News
Cite
Share
Ar ryw ystyr nid oes fawr o gysur yn y dydd- iau byn i'r rhai a bleidiant Gymdeithas Heddwch. 0 fewn y deng mlynedd diweddaf y mae y rhyfeloedd gyda'r mwyaf gwaedlyd a ddigwydd- odd er dechreuad y byd wedi cymeryd lie. Ni fu erioed gymaint o wario ar fyddinoedd a Uyngesoadd ag sydd yn awr; ac nid oes odid wlad yn Ewrop nad yw pob gwr ieuanc o'i mewn yn cael ei gymhwyso i fod yn filwr. Y mae pob cenedl fel pe byddai wedi rhoddi ei bryd ar feith- rin ei byddin, Ond nid yw ein cydwladwr dewr -dewra,ch, yr ydym yn credu, nag odid un o fil o'r rhai a elwir felly-Henry Richard, fel pe byddai mewn un modd yn digaloni. A ymlaen mor ddiysgog a phe na byddai dim oil yn dig- wydd. Rhoddodd drwsfa dost i'r ysljryd rhyfel- gar yn y Senedd y nos o'r blaen; ae y mae wedi rhoddi rhybudd y bydd iddo ddwyn ymlaen ei gynygiad am gyflafareddiad cyd-genedlaethol yn yr eisteddiad nesaf. Y llynedd eafodd gefnog- aeth y Cymdeithasfaoedd, Cyfarfodydd Misol, Cynadleddau a Chymanfaofedd" trwy Gymru a Lloegr i'w g'nygiad. Yn awr y mae yn cymeryd taith trwy yr Iwerddon i gynal cyfarfodydd mawrion mewn gwahanol fanau. A'r hyn sydd braidd yn rhyfedd yw fod teimlad cryf o blaid cpflafareddiad yn ffynu yn Nghymdeithasfaoedd y Gweithwyr. Os bernir dynion wrth eu ffrwyth- au, ac nid wrth eu teitlau, yr ydym yn ofni weithiau rhag fod IIawer o'r gweithwyr a gyfrifir yn awr yn anffyddwyr, yn ymddwyn yn y peth hwn yn fwy teilwng o egwyddorion Tywysog Tangnefedd na rhywrai sydd yn gwneyd mawr drwst o'u proffes o hono, ac ar yr un pryd yn caru yfed iechyd da'r fyddin, heb byth gyfeirio at amser gwell,
[No title]
News
Cite
Share
Y fath gyfnewidiad y mae ychydig amser yn ei wneyd, Er's tipyn yii ol yr oedd y Parch. Stephen Edward Gladstone, ail fab y Prifweinid- og, yn gurad yn un o eglwysi Llundain. Yn awr, trwy farwolaeth ei ewythr, y mae wedi cael bywoliaeth Penarlfig, yr hon sydd yn werth oddeutu 3000p. yn y flwyddyn, ac yn rhodd Syr Stephen Glynn, brawd-yn-nghyfraith y Prifwein- idog. Nid yw y gwr parchedig eto ond wyth-ar- hugain oed er hyny, heb na gwaith na thrafferth, ae heb gymaint a gofyn gair i'r plwyfolion, y mae wedi ei godi dros ben yr holl nffeiriaid yn yr Es- gobaeth, a'i osod yn un o'r bywoliaethau brasaf yn y deyrnas. Gallasai curad tlawd ddioddef llawer pe buasai gobaith iddo gael He gwell trwy byny ond perthynasau galluog ydyw y ffordd i ddyrchafiad yn yr Eglwys.
[No title]
News
Cite
Share
Dygwyd amryw gwynion am dori amod priodas gerbron y brawdlysoedd yn ddiweddar, a dywedir fod yr achosion hyn yn amlhau. Mewn rhai o'r achosion hyn cafodd yr achwynyddion sryn lawer o arian fel iawn. Cafodd geneth ieuanc, 25 oed, yn agos i Sheffield, 500p. ac un arall, 30 oed, yn byw yn Bedford, 850p.; ond methodd un arall yn Wem-merch ieuanc, 25 oed, yn erbyn gwr gweddw, 42-a chael dim ond digon i gario I costau'r gyfraith.
[No title]
News
Cite
Share
Dywedir fod Napoleon y Cyntaf wedi rhoddi gorchymyn unwaith i arf-wneuthurwr am wasgod ddur a fyddai yn ddiogelwch iddo rhag bwledau a phan ddaeth y gwneuthurwr â hi iddo, gorch- ynrtnodd iddo ei gwisgo, a thaniodd lawddryll arno, er mwyn i'r gwneuthurwr gael ei pbrofi yn gyntaf am ei gorff ei hun. Yn gyMyb y gellir dywedyd y digwyddodd i Mr. Childers yr wyth- nos ddiweddaf, Oddeutu deuddeng mlynedd yn ol'dychwelwyd ef ir Senedd dros Pontefract fel pleidydd y Balot. Enillodd yntau glust y Senedd, a gwnaeth argraff ddwfn arni trwy ara,th a draddododd y pryd hwnw yn mhlaid y mesur. Ac fel y mae yn rhyfedd, efe oeJd y cyntafi fyned dan ddeddf y Balot wedi iddi basio. Terfynodd yr etholiad trwy iddo gael mwyafhf o 80 ar Arg wydd Pollington. Ymddengys y mwyafnf yn fychan, a rhoddir eyfrifam dano mewn amryw ffyrdd. Nid oedd un mater o bwys mawr ger bron y:r etholwyr, ac felly safodd 724 o etholwyr heb bleidleisio. Yr oedd y dull o ethol hefyd yn newydd; ac y mae y tafarnwyr wedi digio drwyddynt am i'r Weinyddiaeth ymyraeth â'u masnacli. Rhydd hyn i fesur gyfrif am y mwyaf- rif bychan. Daeth amgylchiad i'r golwg yngtyn a'r etholiad hwn sydd yn dangos leied o bwys sydd i'w roddi ar broffes llanciau pendefigaidd pan eisiau myned i'r Senedd. Dyn ieuanc wyth ar hugain oed yw Arglwydd Pollington; ac yn 1868, ymddengys fod ei dad, larll Mexborough, wedi digio wrth Arglwydd Derby, blaenor y Toriaid, am rywbeth, ac wedi gwneyd i'w fab addaw peidio ei gefnogi. Ar y pryd, yr oedd aelod Toriaidd yn eistedd dros Pontefract gyda Mr. Childers. Ysgrifenodd Pollington at Child- ers i gynyg ymuno &g ef i droi y Tori dros y drws, gan ddweyd ei fod yn bleidiwr i Weinydd- iaeth Mr. Gladstone, i ddadsefydliad yr Eglwya Wyddelig, &c., ac yn awgrymu y carai gael rhyw swydd dan y Llywodraclli. Gwrthododd Child. ers y cynygiad, ac yn awr y llJC y Radical ieuanc wedi dyfod allan yn ei ddillad ei hun, yn Don pluog. Prin y mae pob llanc yn werth aberthu bywioliaeth er ei fwyn. Bu yn ddadl frwd yn y Conference Wesleyaidd ddiwedd yr wythnos ddiweddaf ar Addysg. Cynygiodd y Parch. W. Arthur-un o'r gweinid- ogion Wesleyaidd blaenaf- benderfyniad yn datgan barn y Gynhadledd y dylai ysgolion en- wadol gael eu toddi mor fuan ag y gellir i ysgol. ion anenwadol gyda'r Bibl-;mewn jjair, rhywbeth yn bur debyg i'r penderfyniad y daethpwyd iddo, trwy gyfryngiad Dr. Edwards a'r diweddar Mr. Morgans, o'r Dyffryn, yn Nghynhadledd Addysg Aberystwyth. Cynygiodd y Parch. W. Shaw benderfyniad gwrthwynebol, yn datgan eu bod yn aros fel cyfundeb wrth eu harfer fiaenorol hyd oni welid pa beth fyddai y gwelliantau a addaw. odd Mr. Forster eu dwyn i mewa i Ddeddf Addysg y flwyddyn nesaf. Bu dadleu brwd iawn o bob ochr, a therfynodd y ewbl trwy i'r Gynhadledd basio penderfyniad yn penodi pwyllgor i ymgyfarfod cyn agoriad y Senedd i ystyried yr holt achos. Y mae yn hawdd gweled, fel y dywedodd Arglwydd Derby y nos o'r blaen, nas gall Deddf Addysg aros yn hir fel y mae. Rhaid cael gwared yn ddioed o adran 25, gwneyd y ddeddf yn orfodol dros yr holl wlad, a chael rhyw foddion cyffredinol i gael yr holl blant i'r ysgolion. Dechreuodd y Gymdeitbas Brydeinig er hyrwyddo Gwyddoniaeth ar ei gwaith yn Brighton ddydd Mercber, y 14eg. Y mae ei heisteddiadau wedi bod yn hynod yn benaf ar gyfrif dau beth: araeth agoriadol y Llywydd -Dr. Carpenter; a phresenoldeb Mr. Stanley, darganfyddydd Dr. Livingstone. Tueddiad ci-yf gwyddonwyr yr oes hon ydyw dyrcbafll defnydd, a chlodfori deddfau. Anturiodd Dr. Carpenter ddweyd gair o blaid y meddwl sydd yn alluog i wneyd y fath ddarganfyddiadau
Y CYNWYSIAD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWYSIAD. I Nodiadau Wythnosol 1,2 Gwyrthiau gan Esgob wedi marw 2 Gnhebiaethau 3 Y Balot ar brawf 3 Y Noswaith gyntaf o dan y Mesur Trwyddedu 3 Newyddjon Eglwysig. 4 Cyfarfodydd Misol 4 Dr. Edwards, a'r sefydliad gweinidog yn ) 4 Gwyddelwern, Sir Feirionydd ) Terfysg m'lwr yn Belfast 5 Y Gymdeithas Brydeinig I. 5, 6 Newyddiim Ciymreig 6, 7 Maniun, Dyddanion, &c. 7 Ficer Caernarfon a'r Methodistiaid. 8 Dydd du Bartholomew 8, 9 Manchester, Gwrecsam, a Porthmadog 9 Cymdeithasfa Caernarfon .10-12 Genedigaethau, Priudasau, a Marwolaethau. 12 Marchnadoedd, 12 Hyshysiadau 13—16
[No title]
News
Cite
Share
Nis gellir dweyd ei bod yn hufen byd ar Guradiaid Eglwys Loegr. Ysgrifena un o hon- ynt i'r newyddiaduron i ddweyd hyny, ac i hys- bysu hefyd paham y mae cynifer o honynt yn dwyn y groes mewn distawrwydd. Os cwynant fod eu cyflogau yn fychain, cyfrifir hwy yn arian- gar; am hyny rhaid iddynt ddwyn y eywilydd o fod mewn dyled. Os cant eu gorthrymu gan eu huwcbafiaid, rhaid iddynt fod yn ddistaw, gan nad o'r dwyrain nae o'r dehau y daw dyrcbafiad, ond oddiar law y rhai sydd yn eu gorthrymu. Nid oes gan y Curadiaid, sydd yn rhifo miloedd, na Uais na barn yn y Confocas- iwn. Gall esgob alw yn ol drwydded curad heb reswm yn y byd. Tra y mae y Periglor a'r Ficer yn gallu gwneyd a fynont, rhaid i'r curad druan fod yn was i bawb. Ond gofala yntau dalu iddi pan ddaw ei dro ef i deyrnasu.