Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

- I CYMANFA ANNIBY^YVYR MON.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I CYMANFA ANNIBY^YVYR MON. 1 CYNNADLEDD Y CYFARFOD OHWARTEROL. I Cynhaliwyd y gynnadledd uchod yn Llanerchymedd Gorphenaf 30ain am ddeg o'r gloch. Llywydd, y Parch E. C. Davies. Wedi darllen cofnodion y cyfarfod diweddat cDYliirnhaii. nenderfvnwyd- 1. Fod y cyfarfod chwarterol nesat nv I gynal yn Bryngwran Tachwedd 9fed a'r 1 lOfed. 2. Cynygiwyd gan y Parch T. Evans, ac eiliwyd gan y Parch J. G. Jones, Cana, Fod y cyfarfod hwn yn taer anog yr eg- lwysi drwy y sir i arfer pob moddion gwoddus a chyfreithlawn er gwneyd yr Ysgol vn fwv etfeithiol, llwyddiaunus, ac "-J" ,JA" "J adeiladol; gan ddymuno adgofio y to sydd yn codi fod yr ymdrechion anrhydeddus oedd yn ffynu yn mhlith yr Anmbynwyr tuagac y selydliad hwn yn mnell o naen onwadau ereill yn galw arnom ninau gadw yn fyw set ac aiddgarwch ein tadau o biaia addysg Feiblaidd a chrefyddol." 3. Cynygiwyd gan Mr O. Thomas, N eu- add, ac eiliwyd gan y Parch W. Lloyd, Caergybi, "That this meeting begs to ex- press its sincere sympathy with the autho- rities of Aberystwyth University in the unforeseen and untoward trial which the institution has bsen called to undergo through the destruction by fire of a large portion of its edifice, trusting, nevertheless, that the discouraging event will only tend to evoke greater enthusiasm in favour of the pioneer University of Wales, and lead its friends and patrons to choose a more suitable site for the future home of the college. „ 4. Cynygiwyd gan H. Lewis, Ysw., Y.H., ac eiliwyd gan y Parch W. S. Roberts, Bod- edern, "Ein bod yn dyinuno dwyn ger bron Meistri Hughes a'i Fab, cyhoeddwyr llyirau Tonau ac Emynau Stephen a Jones, y teimiadcryf sydd yn eglwysi Annibynol y wlad o'r priodoldeb i'r cynulleidfaoedd gael y l'yfrau uchod am yr un pris ag y gwerthir hwy i lyfrwerthwyr, gan y teimlwn y byddai hyny yn fantais i'r canu yn ein plith, gystal ag i'r cyhoeddwyr, am y prynid mwy 0 r llyfrau pe y ceid hwy am y pris hwnw." 5. Cynygiwyd gan H. Lewis, Ysw., Y.H., ac eiliwyd gan Mr H. Owen, Hafodonen, That this meeting desires to record the debt of gratitude the country owes to the Into. Liberal Government for the important measures which it passed in spite of so many unyielding and scrupulous obstacles; and also invites all who love order, progress, and liberty, to bear in mind at the approaching Genera). Election that it is of paramount importance to send to Parliament so strong a majority as will be able to sweep away the unseemly alliance formed by the exist- ing Government." 6. Darllenwyd llythyrau cymeradwyaeth i'r Parch O. M. Jenkyns, B.D., oddi wrth Gymanfa Talaeth Iowa, America, ac oddi wrth ei eglwys Old Man's Creek, yn y rhai y mawr ganmolid ein brawd am ci ffj ddlon- deb a'i ofal yn ngwahanol gylchoedd ei ddyledswyddau crefyddol tra yn ei mysg, a dangoswyd y cydymdeimlad mwyaf ag ef pan y cymcrwyd ymaith gan angeu ei anwyl briod mor ddirybudd. Yna cynyiwyd gan Mr H. Thomas, Beaumaris, ac eihwyd gan y Parch W. Lloyd, Ein bod gyda llawen- ydd mawr yn derbyn y Parch O. M. Jenkyus, B.D., i'n Cyfundeb, gan obeithio y bydd iddo ddyfodol o lwyddiant maith yn Llangefni a thrwy y wlad." 7. Darllenwyd 11 ythyr oddi wrth ysgrif- enydd Cymanfa Ddirwestol Jiwbili Gogledd Cymru, y Parch J. Eiddon Jones, yn yr hwn yr anogai ein Cyfundeb i gynorthwyo yr amcan teilwng o ddathlu y Jiwbili uchod, trwy anfon cynrychiolwyr o'r Cyfundeb i'r cyfarfod a gynhelir yn Nghaer- narfon, yn Medi nosaf, a phenodwyd y Parch E. C. Davies, Borth, a Mr Mckillop, M 8. Hystyswy(f gan y Parch W. Lloyd, fod y brawd Charles Davies wedi ei gymeradwyo i bregethu gan yr eglwys yn Tabernacle Newydd, Caergybi. 9. Etholwyd trwy y tugel, Owen Thomas, Clegyrog, yn llywydd y cyfarfod chwarterol am y flwyddyn ddyfodol. Yna dewiswyd y Parch J. S. Evans, Cemaes, yn ysgrifenydd, ac ail-otholwyd Mr W. Roberts yn drysor- ydd. A chynygiwyd yn wresog fod y Parch r. Evans, Amlwch, i barhau i ofalu am y Gymdeithas Genhadol yn y wlad, a'r hyn y cydsyniodd, ac ail-etholwyd pwyllgor y lleoedd gweiniaid am y flwyddyn ddyfodol. 10. Rhoddwyd cymeradwyaeth i'r brodyr canlynol i ymgeisio am dderbyniad i fewn i Athrofa y Bala, Mr J. Davies, Ffestiniog; R. W. Jones, i Penygroes; L. T. Jones, Ebenezer, a T. H. Jones, Ebenezer. Yr oedd y gynadledd yn dangos y teim- ladau goreu i gydweithredu gyda'r achos yn mhob peth ac fe obeithiwn y bydd y flwyddyn ddyfodol yr un mor lwyddiannus mewn undeb a ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith ag y bu y blynyddau diweddaf, a gwyddom oil fod y diolchgarweh gwresocaf yn deilwng i'n diweddar lywydd, y Parch E. C. Davies, am ei ddull trefnus ac amserol o ddwyn gerbron yr hyn a haeddai ein sylw. O. THOMAS (Ysg.). Y GYMANFA. Dcchreuwyd y gymanfa am ddau o'r gloch drwy ddarllen a gweddio gan y Parch W. S. Roberts, Bodedern. Cymerwy(I y gadair gan y Pareli W. Lloyd, Caergybi. Yna cynygiwyd gan y Parch T. Evans, ac eiliwyd gan Mr T. Hughes, Menai Bridge, fod y gymanfa i fod y flwyddyn nesaf yn Amlwch. i fod y flwyddyii nesaf yn Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch E. Cynffig Davies Ein bod fel cyfarfod yn teimlo yn ddwys yn wyneb ymaaawiad y gweinidog da i Iesu Grist— y Parch W. Nicholson, Lerpwl-oddi wrth ei waith at ei wobr, a'n bod yn datgan ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn eu trallod, ac a'r eglwys y perthynai iddi yn ei cholled." Eiliwyd ycynygiad gan y Parch It Williams (Hwfa Mon). Siaradwyd ar yr achlysur gan y Parchn. W. Lloyd, E. Herber Evans, D. Roberts, a Mr H. Lewis, Llew. elyn Lodge, mown gwir deimlad. Yna pasiwyd y penderfyniad drwy i bawb godi ar eu traed. Ar ol hyny, treuliwyd gweddill y prydnawn yn gyfeillach crefyddol pryd y cafwyd anerchiadau rhagorol gan y Parchn., O. Jones, Pwllheli W. Jenkins, Pentre- Abartawe D. Roberts, Gwrecsam O. M. Jenkins, B.D., E. Herber Evans. Yna ter- fynwyd drwy weddi wedi cael un o'r cyfeiUachau mwyaf dymunol a gawsom er- ioed. Moddion Cyhoeddus.-l'rydnawn Iauam 5.30 o'r gloch ar y maea. Dechreuwyd trwy ddarllen .a gweddio gan y Parch O. M. Jenkins, B.D. Pregethwyd gan y Parchn. O. Jones, Pwllheli, ae E. Herber Evans. Boreu drawoeth am 7 yn y boreu yn nghapel y Methodiaiaaid. Dechreuwyd yr oedfa gan Mr W. Owe os, Portdinorwic. Pregeth- ethwyd gaii y Parch T. Eynon Da vies Llundain, ae E. Herber Evans. Am 10 ar y maes. Dechreuwyd gan y Parch T. Evans, Amlwch. Pregethwyd gan y Parchn W. Jenkins, Peutre, Abertawe, a D. Rob- terts, Wrexham. Am 2 ar y maes. Dech- ir/suwyd gan y Pareb. J.. Donne, Llangefni. Pregethwyd gan y Parchn 0.. Jones, a T. Eyson Davies. Am 6 ar y maes. Dech- reuwyd gan Mr R. H. Owens, America. Pregethwyd gan y Parchn D. Roberts, a W. JtxMns. Oblegid amgylchiadau siom- wyd ni o ddau o'r cenhadon, set' y Parchn Williams, It-iydybont; a T. Nicholson; y blaenaf gaii afiechyd, a'r olaf o herwydd marwoi?eth ei anwyl frawd. BL hyn yn siomniant i ?annocdd, ond er y CSI'6D llwyddiant yn mhob ystyr fu y gymanfa. Mae'n amlwg iawn fod a fynai yr Arglvrydd a hi, y gweision yn derbj a north i dradd- I nivdi y genadwri fawr am y groes gyda dyl- SBWixd mawr, Hyderwn y bydd tfrwytJJ )m mn?n. H.f? YT oed4 "E" da ar 'v canu, y mae il,, b,d d{ raddan pell, gailem fedtwl, 1 arweinyd iaeth eglur H. Lewi Ysw., Boduder a ehor y lie. Teimlwn cin bod rel sn y wir ddy!edus i bob! Hauerchymedd ?n y dorbyni? tywysogaidd a ro?ant i'r gy? I I anfa. Cemaes. J. S. EVASS, Ysg. I

CORRIS. --...I

FRONCYSYLLTE. _. I

DATHLIAD Y CAN'MLWYDDIANTI…

AT LAFURWYR AMAETHYDDOL. I

[No title]

RHOS-Y-BOL.. i

LLANGEFNI.I - _ _ _ __ _ I

Advertising

LLANDDULAS. -'-I

LLANDUDNO. - I

CYNRYCHIOLAETH MKTLTLON. I

EISTEDDFOD GERDDOROLI CAERGYBI.

COR CYMREIG I LERPWL. j

[No title]

LLANFACHRAETH, MON. __1__.1

ABERDARON.I

... -.. PORTiIAETHWY. _, I

I -'ADWY'R CLAWDD.

IFFESTINIOG A'! HEL YTlo"…

RHOSLLAXERCHIITOOG. I

HUYTOX QUARRY I