Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I,, CANU YN IACH."

News
Cite
Share

I,, CANU YN IACH. Yn gymaint %bod ein cysylltiad golygyddol i'r Genedl Gymrtig, dan yr oruchwyliaeth bre- senol, yn terfynn gyda'r rhifyn hwn, nis gallwn gilio draw heb wneyd ein moes-grymiad, a A, chann" yn iach â'n darllenwyr. Wrth fwrw trem dros y blynyddau a,basiodd, y mae teiml- adau cymysglyd yn ein meddiannn. Y mae ami i gyfaill fn yn ein cynorthwyo mewn rhydd- ivoth a chin wedi myned oddi ar y chwareu- fwrdd am byth I Bwriadem unwaith adaeV > Adgof draethu ychydig o .,hanes gwyr ag y cawsom y fraint o'n hadwaen yn ein cysylltiad i'r wasg, ond nis gallwn ymgymeryd I hyn hediyw, h y daw egwyl rywbryd yn y dyfodol. Ond yn nglyn A hyn mae yn weddus iawn i ni gydnabod ffyddlondeb ein gohebwyr sydd yn aros "hyd y dydd hwn." Yr ydym weli derbyn cynorthwy sylweddol gan lenorion o bob enwad, a hyny am faith amser. Ni chaniateir i ni roddi eu henwan yma, neu buasem gyda'r pleser mwyaf yn gwneyd hyny Am y cyfryw gynorthwy, ac am bob cydynT deimlad a ddangoswyd tuag atom, derbynied ein cyfeillion yn Ne a Gogledd Cymru ein diolchgarwch mwyaf diffuant. Yn nghorph yr amser yr ydym wedi cael y fraint o wasanaethu ein cydwladwyr drwy gyfrwng y Genedl, amcanasom gyfiawni ein dyledswydd yn onest a ffyddlawn tuag at bob gradd a dosbarth. Yr oeddym yn llafurio o dan lawer o anfanteision yn aml-gydag adnoddau mwy helaeth, a staff fwy lluosog) gwyddom y gallesid gwneuthur y papyr, laWer pryd, yn fwy amrywiol ei gynwyp, ac 0 gymaint a hynyyn fwy dyddorol i bob dosbartli., Ond gwnaethom ein goreu, er nad oedd hwnw yn fynych i fyny a'n dysgwyliadau ein hunain. Ond y mae dsra; beth ag yr ydym yn teimlo hydcr gyda golwg arnynt. Credwn i ci yn ystod ein goruchwyliaeth gadw yn bur i egwyddorion pioffeseiig y Genedl: hefyd, yr ydymyncredu ddarfod ini gadw ton y papyr [jn gyfr/w fel na chafodd yr un moesolydd achos cyfiawn i gwyno o'i blcgid. Gallwn dystio yr un peth yn ddidoesgni am berchenogion y rapyr, a gwyddom iddynt lawer pryd aberthn budd- ianau bydol ar aUor eu penderfyniad diysgog i wasanaethn crefydd, moesoldeb, a dirwest, drwy yr adran hon o'r wasg Gymreig oedd yn eu meddiant. Ni fynem ymffrostio; ond cyfleswnf yn eithaf rhwydd fod yr ystyr- iaeth ddarfod i ni gadw hyn yn barhaus o flaen ein golwg yn troi yn elfea o gysur yn awr, pan y mae ein cysylltiad yn terfynu. Hawdd y gallasem yn ami chwyddo cylchrediad y Gcnedl drwy ollwng math neillduol o ysgrifeniadau- eithaf doniol yn en ft'ordd-i'w cholofnau, eithr gwrthodasom y oyfryw lwyddiant, rhag rhoddi achlysur i ddolurio meddyliau tyner, a rhoddi braich o gymhorth i fath o lenyddiaeth newyddiadurol sydd wedi bod mor farcbnadol yn ein gwlad. Tra yn ceisio gwylio yr eithaf- ion a enwyd, gwnaethom ymdrech deg i ochel rhag i'r ysgrifau fyned yn rhy ddof, marwaidd, a diafael. A barnu oddi wrth yr effeithiau lawer pryd, y mae i ni sail i gredu na fu y Genedl yn euog iawn o syrthni a chysgadrwydd. Er nad oeddym yn amoanu i'r ysgrifau, fel rheol, fod ya fath o "lwynogod Samson," eto mae angenrheidrwydd weithiau i roddi ambell i faes Philistaidd ar din Tra yn amcanu gwneuthnr daioni yn y ffordd hon, gwnaethom ambell i elyn; ond yr ydym wedi madden iddynt yn llwyr! a hyderwn eu bod hwythau yr un mor barod i ysgwyd llaw, ac, ys dywed y bardd,— Let the dead past bury it's dead." Bellach, yr ydym yn tewi, er mai gor- cliwyl annymunol yw dyweyd y gair "Ffarwel." Ond dyna yr ymadrodd raid fod ar ein gwefus heddyw. Mae trwst yr orchwyliaeth newydd yn disgyn ar ein clust 0 draw,— Ring In the new, ring out the old!" Ti, iasged y Golygydd! ffarwel Claddasom lawer traethawd hirfaith, a Ilawer gohebiaeth or-ddoniol yn dy waelodion, Cedwaist y gyf- rinach yn ardderchog. Buost o wasanaeth gwirioneddol. Chwith fydd genym dy golli. Ond dyna—ffarwel Ti, gadair y Gol.! Mawr yw dy urddas, a phSr fydd dy goffadwriaeth. Llawer awr a dreuliasom yn dy ddyfnderau yn darllea y go- hebiaethan, y Uyfran, a'r tunelli 0 farddoniaeth a anfonid i'r Genedl—" os yn deilwng." Melus fu ein cymdeithas. Wodi dyddiau o ddyeithr- wch i'r swyddfa, pan ddeuem yn ol, gallem ddywqpd gyda Mynyddog, fod U Yr hen gadair hithau Yn estyn ei breichiau, A bron a dweyd geiriau 0 gariad! Yn sicr, ni'th anghofiwn Ti fwrdd y Golygydd! Anwyl i'n teimlad wyt tithau. Baost yn gartrefle i ffrwyth ymenydd beirdd a llenorion ieuainc fyddai dan ystyriaeth." ArnattimeNin heddweh y gorweddai y llyfrau a'r cylcbgronau a anfonid i'w hadolygu, ac y mae yn aros ar dy wyneb rai pethau a gant en .trosglwyddo, yn ol Ilaw, i'r Weinyddiaeth uenf! Yn olaf, ond nid y Ueiaf, rhaid i ni gael dy- weyd gair bach am y dosbaith hwnw sydd mor hanfodol i swyddfa newyddiadur-y eysodwyr' Cawsom lawer 0 diriondeb oddi ar eu llaw, a hyny gydag ysgrifau y buasai yn gofyn Cristion i beidio rhegi uwch eu penau! Bodau gwas- anaethgar a doniol yw y cysodwyr; a ebofied gohebwyr bob amser mai mantais ddigymysg iddynt ydyw cael ysgrif mor lin a chlir ag y byddo modd. Yn iach, wyr y llythyrenau! Boed y nwydd derbyniol hwnw a elwir yn fat yn dyferu ar eich llwybrau. Dymunwn fawr lwydd i'r Genedl yn y dy- fodol. Excelsior!" ddylai fod y nod 0 hyd, a hyderwn y bydd iddi dori marc uwch yn nwylaw y gwyr galluog sydd i fod yn olynwyr i ni, nag a wnaeth o ddechreuad ei gyrfa hyd yn awr. Tdym, Jyn rhwymyn llenyddiaeth a brawdgarweh, Yr eiddoch vn bur. I B. D. ROWLAND (Anthropos), I I J. EVANS OWEN.

Y DIWEDDAR "J. R"

ADEILADAU CYHOEDDUS CAERNARFON.

Advertising

Y WASG GYMREIG AR DOSBARTH…

URDDASOLRWYDD G WASANAETH.