Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

ATEB Y PARCH JOHN MORGAN JONES.

News
Cite
Share

ATEB Y PARCH JOHN MORGAN JONES. CAN MR BERIAH EVANS. YR HEN TMNElLLllDWYR. Myn Mr John Morgan Jones i ni gredfl 7niai segurwyr yn ngwinllan uv llarg,lwyid ,Gead Ymneillduwyr Cymru, y iiedyudwvr a'r Annibynwyr, yn y dydciiau gynt, a bna crefydd yn cyflym ddiflanu o r tir pan god- odd Howell Harris a Daniel Rowlands i achuh ein gwlad rhag syrthio drachefn i dywyUwch moesol a chrelyddol. Seilia Mr John Morgan ei achos yn er- byn Yxuixeillduacth foreuol ar dair dad', Bei (1) gwahaniaethau athrawiaethol, (2)' absenoldeb yr ysbryd ymosodol, (3) lleihad yn infer yr eglwysi a r aelodau. Ar y pethau hyn dadleua Mr John Morgan Jones fod Ymneillduaeth yn Nghymiuj wedi dirywio, ei nerth wedi pallu, ad dy- lanwad er daioni wedi diflanu. Mewn cau lyniad, Dicdd efe, yr oedd cyflwr crefydd yn Nghymru yn isel iawn, y bobl yn rhvw haner paganiaid ac o'r cyflwr gresynus yma y daeth y M-nhodistiaid i adluO Cyin- ru, ac i chwythu anadl einices i gorff ei Hymneillduaeth. Dyna'r darlun a ddyry efe i ni. Gadewch i ni brofi ei ym- resymiad. Cymeraf ei ddadleuon i fyny bob yn un ao un. 1. Gwahaniaethau Athrawiaethol. Yr wyf yn cydnabod bodolaeth y rhai hyn, ond yr wyf yn dad leu naù ydynt o angen- rheidirwydd yn profi bodolaeth gwendid na dirywiad. Os oes grym o gwbl yn ym- resymiad Mr John Morgan Jones golyga mai yr ideal uchaf o fywyd crefyddol yw Eglwys na clieir byth sism ynddi, Wei, pa enwad, o'r holl enwadau Cristionogol, y mae lleiaf o sismau wedi bod o'i mewn ? Yr Eglwys Babaidd! Er's canrifoedd bellach, nid oes yr un sism wedi ei blino. Ai JT Eglwys Babaidd yw ideal Mr John Morgan Jones o fywyd vsbrydol mewn cyf- undrefn grefyddol ? Neu edrycher ar y cyfundrofnau y cafwyd gwahaniaethau athrawiaethol yn eu plith, Yn "Diwygwyr Cymru" olrheinir y modd y dablygodd Protestaniaeth i fod yn Buritaniaeth, a'r modd yr ymwahanodd y Puritaniaid i fod yn Fedyddwyr, Presbyteriaid, Anibynwyr, &c. Ai arwydd o ddirywiad, o gysgad- rwydd, o farweidd-dra, ynte o fywyd, ac yni, a dadblygiad oedd y sismau hyn? Sismatieaidd, yn ystyr Mr J. M. Jones o'r gair, yw'r Methodistiaid a'r Wesleyaid o Eglwys Loegr,— ai galluoedd wedi treulio en nerth allan yw y rhai hyn? "Ond," medd Mr John Morgan Jones yn mhellach, "pregethid athrawiaethau gwrth- wynebol o'r un pwlpud, a chondemniai'r naill bregethwr y Ihùl." Purion. Ond os yw hyn yn profi dirywiad a marweidd-dra, mae Methodistiaeth Galfinaidd yn farw er's llawer blwyddyn. Oni phregethodd John Eiias a John Jones Talsarn athraw- iaethau gwahanol o'r un pwlpud ? Oni phregethodd y Dr Thomas Charles Edwards a Dr Rees, Cefn, athrawiaethau gwahanol o'r un pwlpud? Oni phregetha Dr Cyn- ddylan Jones a Mr John Morgan Jones athrawiaethau gwahanol o'r un pwlpud? Os hwn yw'r maen prawf o ddirywiad a marweidd-dra, viia rhaid fod Methodist- iaeth, yu ol Mr John Morgan Jones, hefyd yu allu sydd wedi marw er ys talm! Ac os sonir am y naill weinidog yn condemnio'r LLa.ll, beth ddywedir pan wneir hynny nid mewn cyfarfod bychau, IIcoJ, ond yn y Gymdeithasfa Gyffredinol? Os yw Methodistiaeth Galfinaidd, ar waethaf y pjthau hyn, yn allu eryf, byw, gweithgar heddyw, yr oedd Ymneillduaeth Cymru, ar waethaf cvffelyb bethau, hefyd yn allu cryf, byw, a gweithgar 150 a 200 mlynedd yn ol! Nis gall Mr John • Morgan Jones wneud Methodistiaeth yn wyn ac Ymneilldaeth yn ddu, tra'r am- gylchiadau yr un fath yn y ddau! i. ir Ysbryd Ymosodol.—Haeriad noetl), heb rith o brawf, sydd gan Mr John M. Jones pan ddywed fod vsbryd ymosodol Ymneillduaeth Oymru wedi diflanu. Mwy na byny, mae digon o brofion fod yr ysbryd hwnw yn fyw iawn yn y cyfnod cyn y Diwygiad. Ceir lluaws o'r profion hynny yn "Diwygwyr Cymru." Dyma gyfnod gweithgarweh y Dissenting Deputies. Dyma'r cyfnod y cvnhyrfwyd holl wersyll Ymneillduaeth gan yr ymdrech i basio'r "Sism Bill" a amcanai eu difreinio. Dyma'r cyfnod y gorchymynodd Bedyddwyr Cvmrn gynnau dydd diolchgarwch drwy eu cenedl- aethau am symud o'r Argjwydd y Frenines Anne o'r byd hwn pan oedd hi am ail osod rhwymau caethiwed am danynt! Dyma'r cyfnod y tybiodd Ymneillduwyr y deyrnas ei bod yn ddyledswydd arnynt brofi eu nerth i'r awdurdodau trwy gasglu ystad- egaeth o rif eu cynulleidfaoedd a rhifedi yr etholwyr yn mhob sir a berthynent i'r Bed- yddwyr a'r Annibynwyr. Ac eto, medd MT John Morgan Jones, yngwyneb y ffeith- iau hyn-yr oedd yr ysbryd ymosodol wedi diflanu o'u lith, ac Ymneillduaeth yn oytlym farw or tir! 0 ddifrif, pa enw a ddylid ei gymhwyso at ddyn a fyn, yngwyneb y fath ffeithiau, wneyd haeriad mor ddisail er mwyn cario ei bwnc! 3. Rhif yr Eglwysi a'l Aelodau.—Lleihau oedd y rhai hyn, medd Mr John Morgan Jones. Cynhyddu oeddent, meddaf finnau. Pa un ohonom sy*n iawn ? Yn "Diwygwyr Cymru" yr wyf yn rhoi ystadegau a mapiau i ddangos mai cynhyddu yn gyson o flwydcfyn i flwyddyn yr oedd nerth Ym- neillduaeth. Nis gaU Mr John Morgan Jones brofi fy ystadegau na'r mapiau yn anghywir. Gan nas gall wneyd hynny geilw ar ddau ddosbarth o dystion i brofi, nid trwy ffigyrau na ffeithiau, ond trwy opiniynau, fod rhif yr eglwysi a'r aelodau yn lleihau, Y ddau ddosbarth hyn ydynt (a) Tystion ein dyddiau ni. (b) Tystion dyddiau'r Diwygiad. Cymerwn y ddau i ystyriaeth am enyd. (a) Tystion ein dydd- iau ni. Geilw y Parch John Thomas, D.D., Liverpool, yn dyst. Gwir fod Dr Thomas o'r farn mai dirywio yr oedd Ymneilldu- aeth y pryd hwnnw-on(I amlygiad o farn, ae nid mynegiad o ffeithiau ydoedd. Mwy na hynny, beiddiaf ddyweyd pe gosodid o flaen Dr Thomas y ffeithiau a'r ffigyrau a geir yn "Diwygwyr Cymr". traethai farn wahanol. Nid oedd y ffeithiau hyn yn hysbys iddo. Tybia Mr John Morgan Jones y rhaid i ddyn aros o'r un farn ar ol cael goleuni ag a ffurfiodd cyn cael goleuni., Dyna yn syml holl rym y rhan hon o'r ddadl. (b) Tvstion dyddiau'r Diwygiad. Mae tystiolaeth v rhai hyn yn bwysicacli. Griffith Jones, Llanddowror, yw'r prif dyst, a chydnabyddaf fod Griffith Jones yn piientio cyflwr foesol a chrefyddol Cymru mewn lliwiau tywyll. Ond pan gofiwn (1) Mai DiwyginT oedd! Griffith Jones, (2) Nad yw yn rhoi ffigyrau na ffeithiau ond yn amlygu ei farn neu ei argraff am gyflwr y wlad; (3) Fod y Di- wygiwr, yn mhob De9 a gwlad, o angen- Theidrwydd yn edrych ar ochr dywell y presenol, ae ar ochr oleu y d)-fodol-pan gofiwn, meddaf, y pethau hyn, yna gallu- ogir ni i iawn brisio gwir eff;iith y dystiol- aeth ar yr achos. Dywedaf yn ddibetrus nad yw tystiolaeth Griffith Jones, pan yn daiiunio ej-flwr moesol isel 6i ddyddiau ef,.j I 10 profi dim o haeriad Mr John Morgan Jones, nao yn gwanhau, yn y mesur lleiai, werth a chywirdeb yr yst&degaeth a geir yn "Diwygwyr Cymru." Os dywed efe fod barn Mr Griffith Jones, Llanddowror, am gyflwr moesol Cymru yn ei ddyddiau ef yn profi mai marw oedd Ymneillduaeth y pryd hwnw, yna, rhaid iddo hefyd ddyweyd fod y farn a draethwyd ar goedd gan Mr John Morgan Jones am gyflwr Methodistiaeth Galfinaidd yn ein dyddiau ninnau, yn profi fod Methodist- iaeth heddyw yn eyflym wyro tua?r bedd Cymereii anerchiad Mr John. Morgan Jones fel Llywydd y Gymdeithasfa Gyffred- inol yn Cusnewydd ddwy flynedd yn ol. Mae eto ar gael. Ni chaniat-a gofod i mi ei di- fynu yma. Ond os darllenir hi gwelir ei fod yn dwe-yd y pethau canlynol: -1. Mae mesur nerth >!(*'hodistia<?tji yw mesur nerth ei phwlpud. 2 Pod y pwlpud M«tlv odistaidd wedi dirywio llawer. 3. Tta mae pob agwedd arall o'r bywyd cenedlaetliol yn dangos nerth ac yni newydd, mai gwan- hau mae y Pwlplld Methodistaidd. 4. Fod Methodistiaeth yn colli ei gafael ar y werin. 5. Fod y werin yn troi at ddefodaeth Eg- lwys Loegr, neu yn troi eu cofnir bob modd- ion gras? 6. Mai achos hyn oll yw cyflwr isel crefydd ysbiydol yn yr eglwysi. 7. Fod yr eglwysi yn oer ac yn fydol. 8. Fod v weinidogaefch deithiol yn meithrin segur- dod yn y pwlpud, a phregethwyr yn ymddi- bynu ar yohydig bregethau. 9. Fod cnwd mawr o fethiantau ymlith y gweinidogion a godwyd yn y colegau. 10. Fod Ilawer o'r gweinidogion yn dilyn galwedigaethau byd- ol, gan roi dim ond oriau hamddenol at waith y pwlpud. Cofier mai nid myfi, ond Mr John Mor- gan Jones, sy'n dweyd y pethau hyn. Ceir hwynt oil, ao ychwaneg, yn oi araeth o'r gadair yn y Sasiwn Gyffredinol ddwy Ilyn- edd yn ol. Cydmarer hyn a desgrifiad Mr Griffith Jones o gyflwr Cymru yn ei ddydd- iau ef, a cheir gweled fod y darlun a dynnir gan Mr John Morgan Jones o gyflwr Meth- odistiaeth Cymru heddyw, a dweyd y lleiaf, lawn mor ddu a darlun urimtB Jones o gyr- lwr Cymru dros 150 mlynedd yn ol. A yd- ym felly i gasglu fod Methodistiaeth yr 150 mlynedd hyn wedi gwneyd dim ? A ydym i gasglu mai gallu sy'n marw ae yn cyflym ddi- flanu o'r tir ydyw ? Os ydym i wraiido ar re- symeg John Morgan Jones, rhaid i ni gredu fod Corff Methodistiaid Galfinaidd wedi mynd, a defnyddio ei eiriau ef, yn destyn sport i'r Philistiaid! "Gwell genyf," medd John Morgan Jones, "fil o weithiau wrando ar un dyst- iolaeth oddiwrth Griffith Jones nac ar holl ystadegau a mapiau "Diwygwyr Cymru." Wel, dichen ymhen 200 mlynedd arall y cyfvd rhyw Beriah Evans i ysgrifenu hanes Methodistiaeth diwedd y bedwaredd gan- rif ar bymtheg. Yn ei lyfr bydd y Beriah Evans hwnnw yn rhoi ystadegau a mapiau yii danges y gwaith ardderchog mae Methodistiaeth Galfinaidd yn wneud yn ein dyddiau ni. Ceir ganddo rif y capeli, J'r ysgoJd"j, y pregeUlwyr, y blaen- oriaid. yr aelodau, athrawon a deiliaid yr Ysgol Sul, y cyfraniadau godidog at gynal yr achos, ac at Gronfa yr Ugeinfed Ganrif P, dengys mor fyw ac mor weithgar yr oedd Methodistiaeth diwedd y bedwaredid ganrif ar bymtheg. Eithr cyfyd yn ei erbyn ef ryw John Morgan Jones arall, yr hwn a ddywetl fod cyflwr moesol Cymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yu isal; fod mwy o blant anghyfreithlon yn sir Fon nag yn un sir yn y deyrnas; fod golygfeydd gwarthus i'w gweled ar y trens liwyr nos Sadwrn i Lanberis a Ffestiniog, a rhai o gymoedd sir Forganwg,—ac yna dywed y rhaid fod Methodistiaeth wedi marw, a chrefydd wedi diflanu o'r tir yn y flwyddyn 1900. Os dengys neb iddo ystad- egau Methodistiaeth dywed yntau, "Gwell genyf fil o weithiau un dystiolaeth o eiddo Llywydd y GymdeithAfa na'r holl ystadeg- au, ac YUIl difyiina araeth Mr John Morgan Jones ddwy flynedd yn ol, a myn i'r byd gredu mai lleihau ac nid cynhyddu yr oedd rhifedi eglwysi ac aelodau y Methodistiaid yn niwadd y bedawredd ganrif ar bymtheg! Dichon y daw o hyd i rai o adroddiadau Forward Movement y Dr John Pugh,—ac yna daw i'r casgliad fod pob enwad a mud- iad crefyddol arall yn Nghymru wedi marw, ac mai John Pugh a'i gydweithwyr yn unig a gadwodd Gymru rhag troi yn ol yn un cyfangorff i fynwcs Eglwys Loegr, neu rhag syrthio yn ol i dywyllwch pagan- iaeth I Dyna effaith a chanlyniad teg ymresym- iad Mr John Morgan Jones. Mae'r naill mor wir a'r Hall. Os marw oedd Ymneilldu- aeth Cymru 200 mlvnedd yn ol, marw yw Methodistiaeth Cymru heddyw. Os byw a gweithgar a llwyddianus yw Methodist- iaeth Galfinaidd heddyw, byw a gweithgar a llwyddianus hefyd oedd y Bedyddwyr a'r Auibynwyr yn Xghymru cyn i'r Diwygiad mawr dori allan 160 mlynedd yn ol. Yn y nesaf ymdriniaf a'r ymosodiad anheilwng ar goffadwriaeth Dr Rees, Aber- tawe (lw barhau.)

Damwain Alaethus yn Agbaernarfon.

Dlgwydniad Blfrifol.

I ABERMAW

I BANGOR'

CAERNARFON >

FFESTINIOG I

BEDDQELBRTI - - -...I

Advertising

I PENRHYNDEUDRAETH I

IPWLLHELI_

Cynrychiolaeth Meirlonytfd.

Family Notices

CAERGYBI--I

LLNBCDROGh-.,.I - -_ _ ..…

PORTHMADOG.

ICan Pont y Foryd -i

! Danteithfwyd Dymuool yn…

I TREMADOG 1. " I

CRICCIETH-I