Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

OWEN DAYIES.

News
Cite
Share

OWEN DAYIES. YR AROLYGWR WESLEYAIDD CYN- TAF YN NGHYMR U. GAN Y PARCH W. HUGH EVANS (GWYLLT Y MYNYDD).. Owen Davies oedd enw yr Arolygwr cyn. taf oil a benodwyd i gylchdaith newydd Rhuthyn. Nid newydd, wrth gwrs, mo hyn. Ond y mae y ttaith yn hawlio i'w euw y lie nesaf i Dr Coke fel sefydlydd Trefnyddiaeth Wesleyaidd Gymreig. Ac nis gellir olrhain hyny o hanes y gwr da hwn o'i febyd hyd ei ddyfodiad i Ruthyn, yn Awst, lbOO, heb weled mai "Trwy ddir- gel ffyrdd mae'r Arglwydd lor yn dwyn ei waith i ben." Ychydig a wyddom 0 achau Owen Davies. Dywedir mai brodor o Lan- rhaiadr Mochnant oedd ei dad; ond ei fod ef wedi ei eni yn gwrecsam rywbryd yn y flwyddyn 1752. Brou na. ddywedem am dano ei fod, fel Melchisedec, "heb dad, heb fam, heb achau." Gwaharddodd ei dad iddo, pan yn fachgen, ddilyn ei dueddiad o fyned i wrando y Wesleyaid yn pregethu. Gwelwn felly ei fod mewn ystyr bwysig "heb dad." Nid oedd ei dad yn Wesley- ad: "'gau broffwydi" oedd pregethwyr yr enwad hwn yn ei gyfrif. Oasglwn, fodd bynag, ei fod yn Eglwyswr defosiynol, ae mai ei sel fel Egiwyswr a barodd iddo wahardd i'w fachgen fyned i wrando y Wesleyaid. Ni wnaeth y bachgen, y goreu o'i dymor ysgol. Yr oedd ganddo ormod o duedd at chwareu, a glynodd y tueddiad hwnw ynddo fel y tyfai i fyny. Yr oedd yn Ngwrecsam Seisonaeg a chwrw y pryd hwnw, fel, ysywaeth, ar ol hyny; ac hwyr- ach, fwy o Seisonaeg, yn ol eyfartaledd y boblogaeth, nag yn bresenol, neu o leiaf lai o Gymraeg. Er hyny yr oedd Owen Davies wedi dysgu Cymraeg, oblegid yr oedd efe yn alluog i siarad ychydig, a deall mwy, pan ddychwelodd i Gymru yn 4& oed, wedi bod am gyuifer o flynyddoedd yn mhell o gyrhaedd Cymry a Chymraeg. Ac yr ,oedd Owen Davies wedi dysgu yfed cwiw, ac yfed digon i feddwi, hefyd. Gwir iddo fod o dan argyhoeddiadau llymion fwy nag unwaith pan yn fachgen, a chafodd waredigaeth neillduol unwaith rhag colli ei fywyd, wedi cysgu yn ei feddwdod yn yr eira. Eithr ar y pryd, er iddo deimlo cy- wilydd am ei feddwdod, nid ystyriodd efe law yr Arglwydd. Efe a adawodd Wrecsam am Lundain, 1 yn wr ieuano bywiog, digrefyddjsgafnfryd, ond gydag adgofion yr oedd ynddynt gyf- addasder i gael gweithio arnynt gan ddy- lanwadaui ar ol hyny. Xis givyddom ei hanes yn y ddinas fawr; ond cawn ef cyn hir wedi symud i Brentford, He heb fod yn nepell ohoni, ac wedi cael gwaith gyda Wesleyad duwiol. Bu hyny y symudiad cyntaf yn lighwrs moddion ei ddycbweliad i'r ffordd iawn, er nad ymddangosai yn y dechreu yn symudiad umiongyrchoi. Nid oes genym ofod i fanyiu, er mor ddyddorol fuasai hyny. Wedi iddo am ryw gymaint o amser fod yn wrandawr rheol- I -1 11 1 -? aicict ac astua, gwanoaawya er gan ryw wr ieuanc i gvfarfod yn y Rhestr, ac er na theimlai gymelliad ar y pryd i ddyweyd, "Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd," efe a gydsyniodd a'r gwa- hoddiad. Ac er na bu efe am fisoedd yn brofiadol o'r cyfnewidiad mawr sydd yn ddechreuad. bywyd ysbrydbl, ni phallodd ei ffyddlondeb yn y cyfarfod. Ac mewn car- iad-wledd, pan yr adroddai rhywun y peniU sydd wedi ei Gymreigio: — "IachawdwT dynolryw Yn dioddef ar y groes, A thros dy enaid euog di Yn profi marwol loes," y gallodd efe "edrych ar Iesu," a'i dderbyn yn Waredwr iddo ef ei hun. Ac yn fuan ar 01 hyny cychwynodd lwybr a'i harwein- iodd i'r cylch uchel y gwelir ef yn nechreu ein hysgrif. Yr cedd, ei symudiad ar hyd. ddo yn sicr, ond nid yn gyflym. Yn gyn- taf, ni a'i cawn yn uu o ddosbarthao ym- welwyT a'r cleifion, ac yn cael ei fendithio yn ei waith. Yna ni a'i eawn yn ildio i bregethu, yn Ile un arall, yn Ngweithdv Mile End (Llundain), ac yn cael rhwydd- ineb i lefaru. Ac wedi iddo fod am dymor yn gweithio yn llwyddianus yn y cyleh hwuw clybu Wesley am dano, ac anfonodd Thomas Oliver ato i'w gymell i fyned yn "bregethwr teithiol" ar gylchdaith Rhyd- ychain. Eithr nid oedd ef y pryd hwnw yn barod i'r ymgymeriad. Yr oedd gan- ddo wraig-un o'r gwragedd mwyaf rhag- grol fel gwraig gweinidog, fel y profodd- ei hun ar ol hyny. Clywsom siarad uchel iawn am dani, dd.eugain mlynedd yn ol, gan rai a'i cofient yu dda. Yr adeg a nodwyd, modd bynag, ymddengys mai Mrs Davies yn benaf oedd yn anfoddlon wynebu ar y "gwaith teithiol." Parodd eu gwaith yn gwrthod giomedigaeth drom i Thomas Oliver, ac efe a siaradodd yn hallt wrthynt. Geiriau go galedion oedd, "na buasai yn rhyfeddu pe buasai Mrs Davies yn marw yn y tlotty, a'i gwr yn marw yn y carchar;" eithr dangosent mor ddwfn oedd argy- hoeddiad y siaradwr y dylasai Owen^Davies fyned i'r weinidogaeth. Effaith y geiriau oedd i Mrs Davies feddwl, a theimlo, nid oedd hi wedi gwneuthur yn iawn. • Yn fuan ar 01 Cyaadledd 1789 daeth i I Owen Davies gyHeusdra arall. Yr oedd I eisieu pregethwr i Fanceinion, ac anfonodd, Wesley Dr. Coke ato i ofyn a aethai efe y? Erbyu hyn yr cedd Owen Davies a'i ?g wed! bwrw y drant, ac Ylo yr aeth- ?a chawsant Hwyddyn lwyddianus a dedwydd. Blwyddyn, fel rheol, oedd ty mor arosiad gweinidog yn yr un gylchdaith yn y cyfnod hwnw. Ac felly yr oedd Owen Davies wedi cael profiad o amrai gylch- deithiau cyn ei ddyfodiad i Ruthyn; a'r flwyddyn eyn ei ddyfodiad yno efe oedd Cadeirvdd Taiaeth Cemyw. Yn y ffeithiau y cyftyrddwyd a hwynt uchod y mae amryw bethau yn awgrymu eyfadda.srwydd Owen Davies, a'i ddisgybliad, i'r gwaith oedd yn ei aros yn Nghymru. Y mae yn amlwg fod \Ye»ley yn meddwl yil uchel u huno. HI'1) hyny nid anfonasa. efe Oliver ato i w gyn- LLiI i dderbyn cylchdaith; ac yn sicr, weiti iddo wrthod unwaith, nid anfouasai efe Dr. Coke i ofyn iddc yr ail waith, yn enwedig at efe vn .vr priod 37 oed. Nid wrth ci big y prynai Wesley gyffylog. A gwelodd Owen Davits Wesleyaeth yn Llundain, a. chai- odd brofiad gweinidog uid yn unig yn Man- ceinion, Rhydyohaiu, Caer, a Bristol, ollll litlyd yn mhlith nwnwyr Cemyw, yn gys- tal ag mewn llcoedd eraill oedd yn wa- hanol iddynt oil, Gwelsom iddo gaol ei adnahyddiacti pjntaf o Grist yn Waredwr mewn Cariad- wiedd. Ac efe a ddygodd y Gariad-iviedd I Gymru, a bu y ihai a gynhaiwyd o dan ei arweiniad yn destyn siarad a diolch am genedlaeth. Efe a ddaeth i Gymru o ganol ciwygiad crefyddol mawr yn Nghernvw. A chyda'i brofiad yr oedd ei ced, erbyn hyn, yn ei ffafr. Edrychai y pregethwyr Cymreig aruo, cyn iddo fod yn 55 ood, fel "hen dad yn yr tfengvl. Yr oedd ei ymddangosiad boneddigaidd, ei wedd hawddgar, ei ym- (idygiad dirodres a chartrefol, ei ddifrif- wch, ei fywyd sanctaidd, yn dylahwadu yn fanteisiol yn mha. gylch bynag y byddai. Dywedasom fod y pregethwyr yn ei alw yn "hen dad," ao yr oeddynt yn ei garu a'i barchu, ac yn ymddiried ynddo fel tad ac yùtau yn teimlo ac yn ymddwyn tuag atynt hwythau yn y modd mwyaf tadol. Dichon ei fod yn tueddu at fod yn orhyder- us, ac iddo gael anfantais o'r herwydd. Ond, poed- a fo, nid oedd yn y cyrhaedd neb mor gymwys a'r bachgen a welsom yn gadael Gwrecsam yn wamal ac ysgafufryd, ond a ddychwelodd yno Awst 22ain, 1800, yn "Hen Weledydd," chwedl John Hughes— yn weinidog duiol, wedi cael blynvddoedd o brofiad, ie, nid oedd ar y ddaear, ar y pryd, neb mor gymwys ag ef i fod yn Ar- olygwr Cyffrediuol Wesleyaeth Gymreig yn adeg ei sefydliad. Daeth yr amser a daeth y dyn; ae j'r oodd Duw gydag ef.

Advertising

m-1 ii' - I lidDistawrwyddI…

YR HEN WR LLON. I

Howell Harris a John Wesley.

"Cymru" am Awst. I

iEl Ddyddiaa Olaf ar y DdaearI

GWYLIAU'R HAF.I

Arddangosfa Amaethyddol Lin-j…

Ymrysonfeydd Abersuch. I