Skip to main content
Hide Articles List

23 articles on this Page

I ABERMAW

Advertising

I BANGOR.-I

CARNARVON. I

Advertising

I LLANBERIS 1

Advertising

-MARCHNADOEDD. I

I -NEFYN

I LERPWL

ICYNGOR TREFOL CAERNARFON…

.DOLGELLAU

CRICCIETH.

MOELFRE. MON ---I

Advertising

CYNGHOR DOSBARTH TREFOL| CAERGYBI…

News
Cite
Share

CYNGHOR DOSBARTH TREFOL | CAERGYBI AG ARGLWYDD STANLEY. -1 Cyn haliwyd cyfarfod arbenig o'r Cynghor J uchod nos Fawrth, Mr Owen Hughes, Y.H., yn llywyddu, i'r dyben o gyfarfod Mr J. Rice Roberts, yr hwn oedd yn ymddangos dros Ar- glwydd Stanley i wneyd cais am ganiatad y Cynghor i gau y ffordd sydd yn arwain trwy goed Penrhos, oddiwrth Ty'ntywyn hyd at y Turnpike. Diolchai Mr J. Rice Roberts ar y decbreu i'r Cynghor ain ei gyfnrfod i wrandaw y cais, ac yna eglurodd yr hyn fuasai yn angenrheid- iol ei wneyd cyn y gellid can y ffordd. Yr I oedd yn rhaid cael caniatad y Cynghor Dos- barth, y Cynghor Plwyfol, a'r Frawdlys Chwarterol, fel ag yr oedd y gyfraith yn hyn- od ofalus i amddiffyn buddianau y cyhoedd. Gyda golwg ar y (fordd o dan sylw, nid yd- oedd o unrhyw ddefnydd yn fasnachol, a chan belled ag yr oedd ef yn gweled nid ydoedd yn cael ei detnyddio ond ychydig, fel nad yd- oedd yn yniarferol o unrhyw ddefnydd i'r cy- oedd, y rhai yr oedd y Cynghor yn gynrych- ioli, tra yr oedd rhyw g.?,maint drauI i'w cliadw. Dywedid na byddai yn unrhyw ang- hyfleusdra i'r cyhoedd pe caniateid y cais pre- senol. Nid ydoedd ef yn dyfod o'u blaen gyda dwylaw na llogell wag yn y mater. Yr oedd Arglwydd Stanley yn barod i gyfarfod y cyhoedd mewn ffordd ag a fyddai o fudd, r.id yn unig i drigolion Caergybi, ond hefyd i'r dosbarth cylcliynol. Mewn cysylltiad :t'r Ysgol GanoJradd)T oedd ei arglwyddiacth pi myned i wneyd cynygiad anrhydeddus, ond i'w gais gael ei ganiatau. Cynygiai roddi tir, gwerth (;00p. ynghyda rhodd o 200p tuagat yr ysgol. Ni byddai i'r achos orphen yn v fan yna, gan yn ddiamheu y byddai i'w ar- glwyddiaeth roddi i'r ysgol gynorthwy pell- ach yn y dyfodol. Yn awr y cwestiwn yd- oedd pa un a oedd yr hyn a gynygir yn ddigon 0 ad-daliad am yr hyn a ofynid oddiar oil llaw. Gobeithiai ef y "yddai iddynt ystyried y mater yn ddiduedd gyda golwg ar yr hyn a fyddai fwyaf o fudd i'r cyhoedd yr oeddynt yn wasanaethn. Gofynodd Dr Roland Williams a oedd gan- ddynt hwy rhyw awdurdod yn y mater. Atebodd Mr Lloyd Griffith (y clere) mewn un ystyr nad oedd ganddynt gan fod y ffordd y tix allan i gyleh y dosbarth, ond mewn ystvr arall yr oedd ganddynt fel eynrychiolwyr y cyhoedd yn y dref, y rhai oedd ganddynt hawl i gerdded y ffordd. Gofynai Mr T. Forcer Evans, Y.H., bpth oedd mesuriad y ffordd. Mewn atebiad dywedodd y clerc ei bod yn cynwys yn agos i hedair acer o dir. Mr Joseph Hall a ofynodd a fuasai yn deg rhoddi pedair acer am 800p, tra y gallasai ei gwerth fod yn 3000p. Sylwodd Mr J. Rice Roberts, mewn ateb- iad, mai nid eiddo personol iddynt ydoedd y ffordd-y cwbl oedd ganddynt oedd yr hawl i fyned ar hyd-ddi. Dr Fox Russell a sylwodd mai dyma yr unig le feddai y dref i blesera, ac yr oedd yn cael gwneyd defnydd helaeth ohoni. Ys- tyriai ef na buasent yn gwneyd eu dyIed- swydd i'r rhai oedd wedi eu hethol ar v Cyng- hor pe byddai iddynt roddi eu cydsyniad i gau y ffordd hon. Dr Roland Williams a gyfeiriodd at yr hyn a ddywedid yn y dref fod Arglwydd Stanley yn barod i agor ffordd arall o ffordd y Valley i Towyn Capel, a gofynai a oedd hyny yn fFaith. Atebodd Mr J. Rice Ro! >—ts nad oedd ganddo ef awdurdod i ddweyd dim ar y mater Mr Joseph Evans a ddywedodd pe buasai Mr Rice Roberts yn trigo yn Nghaergybi y buasai yn canfod mai hon ydoedd yr unig ffordd brydferth oedd ganddynt i fyned am dro ar hyd-ddi, a gwneid defnydd helaeth o honi. Yr oedd y dref hefyd yn cynvddu yn 67flym yn y cyfeiriad hwn, sef cyfeiriad Lon- don road a Kingsland, a gwerthfawrogai trig- olion y parthau hyny y ffordd yn fawr. An- fonent eu plant ar hyd-ddi a mwynhai y bobl ieuainc hi hefyd. Yr oedd weidi c;wl ci I ddweyd yn y dref pe buasai Arglwydd Stanley yn rhoddi y ddwy acer a gynygiai gan eu gor- chuddio ag aur, ni buasent yn ddigon o tial am y ffordd. Pe buasai yn rhoddi deng acer a lOOOp er gwneyd pare cyhoeddus, buasent yn debyg o gymeryd v peth i ystyriaeth. Yn anffodus yr oedd Arglwydd Stanley yn trigo oddiyma, ac ychydig ddyddordeb oedd yn gymeryd yn addysg a mwyniant plant, ac yn lies y dref, ac yn awr ceisiai ganddynt wneyd i ffwrdd a'u genedigaeth-fraint, er Ues ei balasdy ef. Dywedai y trethdalwyr na ddylid caniatau hyn o dan unrhyw amgylch- iad, ac awgryment ar fod cyfarfod cyhoeddus i'w gynhal i wrthdystio yn erbyn y cais. Ar gynygiad Cadben W. H. Edwards,Y.H., yn cael ei eilio gan Mr Joseph Evans pen- derfynwyd yn unfrydol i wrthod cydsynio a'r cais..

LLANRWST I

I Y "FOLLY POINT/'

¡NANTLLE. I

PORTHDINORWIG

[No title]

Advertising

t PENNAL