Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
ANERCHIADAU BARDDOL, j
ANERCHIADAU BARDDOL, j Dfaddodwyd yn nghyfartoa cynwyuu anerchiad goreuredig a chadwen aur i'r Parch A. J. Parry, Cafnmawr, ar ei ym- adawiad i'r America, Ebrill 30ain, 1894. Dyma ddoeth, goeth, bregethwr amry ddawn Mawreddog areithiwr Diamheu hyn,-dyma wr Heb ei ablaoh fel Beiblwr. Mono i dir Amerig-hyd donau Heb un dinystr gorddig A gaffo, heb deimlo dig—y mawr wynt, Ond tawel hynt dros lydan Atlantig. Cefnmawr. S. VALENTINE. I
MACHLUD YR HAUL.-.>.
MACHLUD YR HAUL. -.>. Odd' fyny o'i hardd faenor,m lewyrcn Gyflea hyd lwydfor; Coler aur yn c1oi'r oror,- Bhoi hwnw am wddw'r mor. Coleg Bala-Bangor. GWYLPA. j
ffEWYDDION CREFYDDOL. I
ffEWYDDION CREFYDDOL. I Gwelwn, yn ol y cyfnf a rydd y Parch R. H. Morgan, M.A., yn y Drysorfa" am y mis hwn, fod y swm o 6,310p mewn llaw o'r casgliad at Gronfa Coleg Duwinyddol y Bala. Dro yn ol ysgrifenodd y Prifathraw Dr Charles Edwards lythyr i'r Genedl Gym- reig," a pbapyreu ereill, i ddweyd y byddai raid iddo roddi i fyny yr anturiaeth o ddyfod a Chofiant i'w dad allan, oherwydd difater- weh cyfeillion yn gyru iddo hen lythyrau oeddynt wedi dderbyn oddiwrth wrthddrych y Cofiant. Ond ar anogaeth, ac oherwydd taerineb llawer o'i gyfeillion, y mae wedi penderfynu ail ymafael yn y gwaith. Cawn ei fod, wythuos i ddydd Sadwrn diwsddaf, wedi darllen cyfran helaeth o'r Cofiant i'r myfyrwyr. Bydd yn dda gan filoedd o Fethodistiaid glywed hyn. Yn Wolverhampton, y dydd o'r blaen, darfu i etbolwyr y Gwir Anrhydeddus H. H. Fowler, Ysgrifenydd yr India, gyflwyno iddo anerchiad wedi ei rwymo yn ysblenydd, fel arwydd o'u parch a'u hedmygedd 0 hono. Fel y gwyr ein darl!euwyr, y mae Mr Fowler yn aelod gyda'r cyfundeb Wesleyaidd, ac yn weithgar gyda holl waith yr achos mawr. Da genym ddeall ar awdurdod golygydd Y Fwyell," yn llaw Eglwysbach, fod y cylchrediad yn cynyddu bob mis, yn gymaint felly, fel y bwriedir helaethu y cylchgrawn yn mis Awst wyth o dudalenau. Fel hyn y dywed golygydd y Carnarvon Church Moiithly- Ywddengys fod y Weinyddiaeth yn fwy tebyg, ar hyn o bryd, i gael ei dadgysylltu a'i dadwaddoli nag ydyw yr Eglwys yn Nghymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd iddynt gadw yn nghyd hyd oui fydd ein Eisteddfod drosodd." Yr ydym yn cydolygu a chwi, barchus olygydd y Church Monthly," ae yn gobeithio y bydd i'r Weinyddiaeth bara wrth ei gilydd yn mhell ar ol Eisteddfod Caernarfon. Dywed yr un cylchgrawn fod llawer o hen bethau wedi dyfod i'r amlwg tra wrthi yn adgyweirio hen Eglwys Llanbeblig, ac yn eu pHth saith o hen coins arian er teyrnsiad Edward y Cyntaf ac Elizabeth, amryw hefyd o hen arian Rhufeinig amser Augustus Cesar a Nero. Cafwyd o hyd hefyd i "ddima Delyn" 1750. Ond, meddai y golygydd, nid ydyw y "crochan aur" wedi dyfod i'r e-olwir eto. RhaiJ i chwi gael allan, barchus lyg;dd, yn lie y mae p e a yr enfys," Dy_. lie y dywedai yr hen bobl y mae y "crochan aur," ac nid yn Eglwys Llan- beblig. Dechreua yr Eurgrawn Wesleyaidd eto y mis hwn gada'g ysgrif ddyddorol gan Mr Edward Hess, Machynlleth, ar "Lewys Glyn Dyi," Dyfynasom ddarnau helaeth o ysgrif mis Mai mewn rhifyn diweddar o'r Genedl." Carasem wneyd yr un peth y tro hwn, ond mae ein bwrdd yn llawn o gylchgronau y mis. Boddlonwn ar a gan- lyn Ar ol danfon yr ail bennod i'rwasg, derbyniais y manylion canlynol oddiwrth Tecwyn, Dinas Mawddwy, yn nghyleh Rhys or Cwm. Hen wladwr plaen oedd Rhys Jones, yn byw mewn fferm fechan o'r enw Llanymawddwy. Bu farw tna deugain mlynedd yn ol, a chladdwyd ef yn mynwent Llanymawddwy, oidan yr I' ywen werdd gaughenog' mewn llawn dyddiau ganddo ef yr oedd y llyfrgell fwyaf yn Mawddwy ar ddechreu y gaurif hon. Yr oedd yn chwil- iwr hynafiaethau diwyd, a chofiwr digwydd- iadau rhagorol, ac yn byw mewn cornel an- nghysbell yn Mawddwy, ac yn hel i'w fwthyn gwledig hanesion a gwybodaeth y Cymry a'u defion beth wmbreth. Gwelwyd yn ei gasgliad y rhan fwyaf o lyfrau yr unfed a'r eilfed ganrif ar bymtheg, a dechreu hon, megisilyfrau Edward Samuel, Elis Wyn, Morus Gyffin, a Roland Fychan, llyfrau gwerth eu darlleu oherwydd eu hiaith ystwyth a'u tuedd ymarferol. Gwyddai Rhys wahaniaeth rhwng us ac yd.Nid wyf yn gwybod iddo ysgrifenu llinell o ryddiaeth na barddoniaeth erioed, er fod ganddo law deg, brydferth a darllenadwy. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol Sul, ac yn cymeryd rhan yn moddion gweddi yn Bryc- coch, ac yn weddol gyson yn y mnddion. Yr oedd yn Armin ae yn Wesleyad selog a goleuedig. Nid wyf yn meddwl i Rhys druan gael fawr o bleser oddiwrth ei lyfrau a chrefydd. Byddai holl lenorion y Bala, Dolgellau, Mawddwy, ac eraill yn talu ym- weliad a Rhys, yn ei fwthyn bychan yn min y mynydd. Do, treuliodd y fath lenorion a Gwilym Lleyn, loan Pedr, D. S. Evans, Lewys Glyn Dyfi, Ab Ithel, a llu eraill ellid eu henw; lawer diwrnod yn nghwmni Rhys y Cwm. Byddai yn myned i Wrecsam, Amwythig, Bala a Dolgellau i ymofyn llyfrau, gan gerdded wrth fynd a dyfod. Byddai yn rhwymo llyfrau, ond digon an- nghelfydd ydoedd yn y gelfyddyd. Bu Lewys Glyn Dyfi yno hwer gwaith. Mwyn- hai y ddau gwmni eu gilydd yn fawr, yn ol tystiolaeth ei ferch, y, hon sydd eto yn fyw ac yn yr ardal." "Cred a buchedd" ydyw testyn y Parch John Griffith, a thraetha Mrs Myfanwy Ellis yn ddyddorus ar "Ferehed India." Yn nesaf cawn bapyr ar "Addysg Ymgeis- wyr am y Weinidogaeth, yr hwn a ddar- llenwyd gerbron Cynghor Wesleyaid Mon ae Arfon yn Mhorthdinorwig ddydd Mawrth y Sulgwyn gan Mr W. E. Davies, Beaumaris, mab i'r diweddar Dr William Davies, Caer- narfon, a mab ynghyfraith i'r diweddar Barch Samuel Davies, Bangor. Mr Davies oedd ysgrifenydd eisteddfod fythgofiadwy 1877, y gyntaf yn y Pavilion. Dylai pob ymgeisydd am y Weinidogaeth ddarllen papyr ein cyfaill diddan. Yn nesaf cawn Crefydd gan y Parch D. Morgan, ac wedi hyny bapur gan Mr W. E. Davies arall, sef o Ysgol y Bwrdd, Penisa'rwaen, ar Gwasan- aeth ein chwiorydd yn ein heglwysi." Cawn bersonau a phethau yn ddyddorol fel arfer gan "R.M. ao nis gallwn wneyd yn well na diweddu gyda dau benill swynol a malus" Cadfan 0! lean, mae d' enw'n felusach na'r mel, Tra'n loewon ddefnynau o'r diliau y del; A'r meddwl am danat, Waredwr y byd, Sy'n puro fy nghalon wrth lanw fy mryd. Troi'n hoen, wrth dy weled wna lludded y llawr, Nes gwneyd fy mlynyddoedd yn nefoedd yn awr: Nid ofnaf yr afon, ac wedi myn'd trwy, Rhyfeddaf Di, caraf Di, molaf Di mwy. Dochreua'r "Dysgedydd" gydag ysgrif alluog gan y Proff. J. M. Davies, M.A., Coleg bala-Bangor. Dilyuir gan y Parch H. Ivor Jones, Porthmadog, gyda Tsgrif I. a Rhagarweiniol ar Arloeswyr y Tir." "Wrth arloeswyr," medd yr awdwr, "y golygir y dynion hyny a barotoant ar gyfer yfodiad neu ymddangosiad rhywbeth mawr a phwysig. Yn nglyn a'r tir, er enghraifft, ?mav",Ypwysig,ydyweynyreh-yffrwyth. Gwyr yr amaethwyr yn dda nad oes cnwd toreithiog i'w gael ar y maes, heb yn mlaen- af barotoi y tir ar gyfer derbyn yr had. Yr un modd ynglyn a'r mwdwl, atnod cynyrch meddyliol tra gwerthfawr yn parotoi — gwrteithio'r meddwl; nis gall meddwl annysgybledig ddwyn ffrwyth o'r rhywogaeth uchaf. Yn gyffelyb yn y cylch ysbfydol. Yn yr yagrifau dan y penawd "Arloeswyr y tir," fwriedir anfon i'r Ddsgedydd," amcenir ymdrin a hanes ac a'r gwaith gyflawnwyd gan ddynion fuont yn ofterynol yn llaw yr Arglwydd er parotoi ar gyfer cyfnewidiadau a diwygiadau mawnon yn nglyn a'r grefydd Gristionogol. ( Fe wel y darllenydd beth i'w ddisgwyl o ysgnfell y Parch Ivor Jones. "Iechyd -I'd gan Mr Carno Jones eto y mis hwn, ac ysgrifena yn ddysgedig a dyddorol. Da odiaeth genym wel'd ysgrU oddiwith Mr W. J. Parry, Bethesda, wedi ei hysgrifenu ddydd Gwener y Groglith ar fwrdd yr R.M.S. Lovata ar gyfer Monte Video. Ei destyn ydyw "Gwybodaeth a chariad: gwybodaeth sydd yn chwyddo; eithr oajiad sydd yn adeiladn (l Cor. viii. 1). Bydd yn dda gan laweroedd o'i hen gyfeillion ei dar- llen, a. dymuawn ninaa iddo bob cysur a llwyddiant mewn gwlad estronol. Rhydd Tawelfrynini "Haner awr gyda Chymru Fu," a haner awr melus odiaeth ydyw yn rhifyn mis Mehefin, oblegid ei wron ydyw Joseph Thomas, Camo." Carem yn fawr pecaniatai gofod i ni ddifynu yn helaeth o'r ysgrif ragorol hoa. A rhaid cael rhoi ychydig, doed a ddelo:—" Y tro cyntaf i mi gael y fraint o glywed Joseph Thomas yn pregethu ydoedd ar agoriad capel nowydd y Methodistiaid yn Nghefnbrith-man i'w gofio mewn clasuriaeth Gymreig—yn agos i Glanygors, lie cafodd John Jones y porth- Mon, awdwr "Y Sesiwn yn Nghymru," "Yr hen amser gynt," a Die Shon Daf- ydd," ei ddwyn i fyny ae y gwelwyd Ed- ward Morus, Perthi Llwydion (amaethdy gerllaw), yn rhodio mewn rhydd-deb yn hualau heiyrn y mesurau caethion a cheid yno mewn lie o'r enw Tyddyn Bychan, — Yn fyglyd, ae yn hen gyfaglach," ys dywedai yntau. Bywiai hefyd un pre- gethwr cynorthwyol tra chymeradwy, taid i'r Parch David Jones (Druisyn), y gwein- idog Wesleyaidd adnabyddus, ac y mae argraph ar fy meddwl i dad yr Hybarch Dr Roberts (Dewi Ogwen), tywysog bardd- bregethwyr presenol y genedl, fod yn aneddu yma am ryw dymhor. A gwn yr esgusodir fi, cyn ymadaei a'r gymydogaeth,, i gyfeirio at Bias Hafod y Maidd, a'r digwyddiad cyffrous a gymerodd le yno er's triugain mlynedd a deg i fis Awst nesaf. Ar nos Sabboth, torodd tri lleidr i fewn trwy ffen- estr y gegin, wedi pardduo eu hwynebau. Yr oedd y gweision o dref. yn cynorthwyo mab y ty mewn ffermdy arall, gan ei bod yn amser y eynhauaf. Diangodd y ddwy for- wyn i'r nenlofift, gan dynu i fyny yr ysgol ar eu hol, gan adael yr hen amaethwr a'i wraig, gydag wyres fechan wyth oed, i ym- daraw goreu gallent gyda'r ysbeilwyr. Ym- osoiodd y tri ellyll nffernol yn greulawn ar yr hen bobl, nes oedd eu gwallt gwyn wedi ei liwio a gwaed, a bygythient y plentyn, os na pheidiai a chrio, y lladdent hithau. Hawlient arian, a chwilient bob cist a chwp- wrdd, heb gael llawer, heblaw yr hyn oedd yn llogell yr hen wr, a chyflawnder o fwyd- ydd a gadawsant o'u hol yn ystafell wely y teulu, er eu bod wedi bod yn ei hymyl yn chwilota ganwaitb, goron f,.wr a yrasai Jac Glan y gors o Lundain, un o'r rhai cyntaf a ddaethai o'r mint, yn anrheg i'w fodryb. Prysurodd yr helynt hwnw farwolaeth yr hea bobl, ond y mae yr wyres fechan (mam yr ysgrifenydd) wedi cael nerth gan Dduw i aros hyd heddyw. Saif ardal Cefnbrith rhwng dau bentref-manau ag y dylai pob Aunibynwr fod yn falch o honynt-Pentre. llynycymer, ,.ehentrevoelas, Ile mae gan yr enwad ddwy gynulleidfa gref o ddynion parohus a meddylgar, wedi dal eu tir, ac wedi enill yn nerth eu bwa a'u cleddyf. Pan groesais i ae eraill gyrion mynydd Hir- aethog dros bontydd y Rhuddfa a'r Alwen, i glywed Joseph Thomas yn Nghefnbrith, gan adael Hafod yr Elwy ar y dde, a Cheryg y Drudion ar yr aswy, yr oedd yn foreu haulfelyn tesog, adar y gwanwyn yn telyn- ori, a gofynwn i mi fy hunan, wrth glywed y nodau deusill yn gweu. yn tori ar ddys- tawrwydd fel chwerthiniad angel,- Pwy debyg'sai can'sai cog Mewn mawnog yn y mynydd." Ond at yr oodfa Ar ol i rywan snadna- byddus i mi ddechreu y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio, dacw hynafgwr, eiddil o gorff, llym ei drem, a boneddigaidd yr olwg, yn sefyll o'u blaen, gan godi ei destyn, a phregethodd yn hwylus a tharaw- iadol." Yna. dywed yr ysgrifenydd ychydig am Joseph Thomas, ei fod yn dafod-drwm, &c., ac y mae yn rhaid iddo gydnabod mai cawr o ddyn braf, cyhyrog, boddlon, oedd yr anfarwol Joseph Thomas. Carasem ddyfynu ychwaneg o hanes Joseph Thomas, ond y mae ysgrifenydd yr hanes wedi ein harwain i maes gyda'i farddoniaeth ddy- ddorus. Ond rhaid cael dweyd ystori fach yma am y trydydd tro y clywodd Tawelfryn Joseph Thomas: Yn y Bala, ar noson olaf y Gymanfa, y oefais i y trydydd cynyg ar Joseph Thomas yr oedd yno luaws o bregethwyr ardderchog yn yr wyl hono, ond nid wyf yn cofio yr un frawddeg na thestyn neb o'r enwogion ereill. Pregethid o'i flaen gan foneddwr trwsiadus, tal, teneu, tebyg ryfeddol yn ei bryd a'i wedd i Dr Newman Hall. A rhaid ei ganmol am wneyd i oreu; eto i gyd, oydnabyddwn iddo ladd mwy j arnoei hun nag ar y bobl. Y mae y capell y prE-gethai yno mor fawr, yn afrwydd i'r siaradwyr, ac yn cadw eceo, neu gareg ateb, i'r diben o boeiydio ryw ddosbarth arbenig o leiswyr. Wedi i'r Ilef geiriau fyned heibio a'r ystorm dawelu, heb fod neb ne- mawr gwell na gwaeth o'i herwydd- 'Does fawr o niwed mewn taranau, Y mellt distaw sydd yn Iladd "— dacw Joseph Thomas, y gwr fedrai wneyd mellt," ys dywedai Williams o'r Wern, yn ein hanerch, gan ddarllen gwyrth Petr yn nhy Cornelius fel yu destyn, a dywedodd yn chwareus wrth ddechreu,—'Dwy ddim yn mynd i waeddi llawer yma heno, mi dde- allaf fod gyda chwi glochydd yn y capel yma (gan gyfeirio at y gareg-ateb), Ond os na ddarfu i Joseph Thomas wa addi,hawdd fydd gan y darllenyddion gredu fod yno fwrdd llawn o basgedigion breision, a Iesu Grist yn cael y prif le yn y weinidogaeth." Disgwyliwn lawer haner awr melus gyda Thawelfryn mewn rhifynau dyfodol o'r "Dysgedydd'" Y mae ein gofod wedi mynd cyn i ni gael dweyd beth yw y dant- eithion sydd ar fwrdd y Golygydd, oblegid y mae ef ei hunan y mis hwn yn 6istedd wrth bon y bwrdd, a gofala gwr y ty bob amser am wledd i'r gwahoddedigion. Cawsom flas hefyd wrth ddarllen ysgrif y Parch John Hughes, Tanygrisiau, ar y Cyfarfod Gweddi Cenhadol," ac y mae Crybwyllion Enwadol" Per" bob miser yn flasus. Rhaid gadael nifer o gylchgronau eraill .Y.ll D 7 sydd ger ein bron, ac yn eu plith y Drys- orfa," Y Llusern," Y Fwyell," Y Groal," &c., y rhai gant syJw yn ein nesaf. I
0 EWY3 I B IWB. I
0 EWY3 I B IWB. I Beth yw Quinine Hitters Gwilym Evans ? fhysiijwriaBth lysieuol eawog. wjdi 9 aymyagu yn y modd mwy vf celfyddydpar ae yn cynwys elfauau g*eithgar y p if lyaiau moddygiMiieiho! a ddef jyddid yn Y gel.,ydiyd eJdygol. Pa lysiau yw y rhai hyny ? Quinine, Saraaparilla, Dunt y lIew, TAfant, Cyoikaw Burdock), a'r Crwynllys (Ge tian). Cynwy s Bitters hyn hefyd rintreddan ad- g'yfo» umryw thwrw A melua-ljHiau ereill, a'r oil wedi eu cyfart. yn y lath fodd ag i -icrha :yiwc tbredia I yr oil ohonynt, fel y maey meddytflyu IIwn yn awr yn canl ei gyd niabod yn FaddyKiniaelh Lysieuol BerSeith af yr oee." At ba inhwyldrr.IQ oeu glefydau yn neill- du1 y cymtradwyir Bitters Gwilym Evans? (1.) Yn beonf at Ddiffyg Treuliad a Gweodid Git;uol )nervousness) yo eu gwabanol agweddau; sef diffyi; urchwueth, our yn y pen, llosg cylla, gvvtuuogrwydd. ewsg aueemwyth, ofnau diadil, OUriarl y galon, &0. A ydyw YL. feddytfiniaeth boblogaidd? Ydyw, 110 yn cynyddu mewn poblogrwydd y naill flwyddyu ar oi y lIall, fel y mae ei rin- wedda i yu dyfod yn fwy hysbys. Mae yn y Swyddla gauooadd o lythyran cytueradwyo, ac yn au plivh lawer oddiwrth feddygon fljiyllwyr, gwemidogion, offeriaid, masnaoh wyr, a dynion cyt.if ;1 ereill ynmbob rhan o'r wlad, oil yo tystio i efifeithiobwydd y Bitter nodedit: hyn ? I Oes; mae dynion riiegwyddor mewn amryw ranau o'r wlad yn cynyg darpariaethau ereill 'w awameriaid pan ofynant am Quinind Bitters Gwilym Evan?. Maa .'w Otvilym E?an. :1r ::nr' ar bob s, <ta ::i o'r wir feddyginia-th. Gwerthir yn unig mewn poteli 2s 9c a 4s 6c gan yr boll fferyllwyr, Dry ijellir ei gael yn u.ii)a^yroKol odiiwrt4 Perchenogion: Qui SINK BITTEHS MANUFAO- TURING Co., iilMITEU, LLAN £ U.r, SoUTH WALES.
NODION CARTREFOL. I
NODION CARTREFOL. [GAN ANDRONICUS], Y 'STBDDFOD. Mae mwy nag un ar Bwyllgor Eisteddfod '94 a gymerasant ran flaenllaw yn Eistedd- fod 1862, pan e.dUodd Hwfa Mon y gadair ar awdl Y Flwyddyn," ac y cotlojd Eben Fardd y gadair. Ond os collodd Eben y gadair, chollodd o mo edmygedd miloedd o'i gydgenedl pan ddarllenasaut ei awdl. Mae'n debyg nad oes fardd na Ilenor yn Nghymra nad yw cyfrol gweithiau Eben Fardd yn ei lyfrgell; os oes ni ddylai fod fel y, oblegid nid oes lyfrwerthwr yn ein holl ardaloedd nad oes ganddo un ar werth. Dyna y cwestiwn a ofynir b b dydd: a yw 'Stedd- fod Caernarfon yn debyg o dalil Y pwnc pwysig ydyw, beth feddylir wrth dalu ? Beth ydyw gwir amcan yr Eisteddfod, ai gwneyd surplus ? Os bydd digon o arian i glirio p)b cost yn nglyn a'r Eisteddfod eleni, os na bydd haner coron o weddill mewn llaw, meiddiaf ddweyd y bydd Eis- teddfod Caernarfon wedi talu yn ardderchog. Sut yr ydych chwi yn dweyd fel yna ?" medd rhywun. Wel, edrychwch ar nifer y cyfansoddiadau sydd wedi dyfod i law-gan- oedd lawer. Pa sawl awr ddygn a dreuliwyd i gyfausoddi yr awdlau, y pryddestau, yr englynion, y bugeilgerddi, y traethodau, a sawl gwaith y trowyd i'r dictionary i gael geiriau Cymreig i eiriau Samuel Smiles yn "Self Help" (testyn gwobrwyedig y "Genedl Gymreig")? Nid oes gan neb aingyffred y llafur mawr a gpmerwyd trwy holl Gymru, ac fe ddichon, yn America ac Awstralia, i barotoi ar gyfer yr Eisteddfod sydd wrth y drws. Dychmygaf wel'd bachgen ieuanc, mewn ffermdy bychan yn un o ardaloedd mynyddig Meirion; y mae wedi bod wrthi drwy y dydd, un ai yn aredig, neu efallai wedi bod yn tramwy ar y bryniau, at ben ei linian yn yr eira, i chwilio am y defaid sydd wedi bod allan drwy y nos yn yr ystorm. Gyda'r hwyr gwelwn ef wrth y ford gron o flaen y tan mawn, lie mae y mwg yn esgyn i'r nen trwy'r hen simddeu fawr. Mae ger ei fron gopi book neu ddau, potel inc, a dau neu dri o gwils y gwyddau a laddwyd erbyn ciniaw Nadolig. 'Does dim gas wrth ei ben i roddi goleu clir iddo ysgrifenu, a llawer llai oleuni trydanol; yn wir does dim paraffin lamp yn y ty; mae'r lien wreigan ei fam yn perthyn i oes y canwyuau Drwyn, ac felly mae ein bardd ieuanc, fel Twm o'r Nant pan yn eyfansoddi ei interliwdiau, yn ysgrifenu wrth oleu canwyll frwynen. Dyohymyg ydyw hwnyna." medd hogie'r dre. 0 na, y mae yn real life mewn llawer cWDlwd yn ard..loedd mynyddig broydd Meirion, Dinbych, a Maldwyn. Wel, beth y mae y bachgen yn wneyd ar ei draed mor hwyr? Yn wir y mae wedi dal ati nes y mae y frwynen olaf wedi myned oddiar y shilff wrth ben, y tan mawn. Wel, cyfansoddi rhywbeth yn ddiamhau mae'r bachgen erbyu yr Eisteddfod. Mae llawer bachgen, yr un modd yn ein trefi a'n pentrefi, ar hyd a Fed Cymru, wedi bod wrthi yn galed mosweithiau hirion y Gauaf. Wel, ddarllenydd, yr wyt yn gwybod at be' ydw i yn dyfod ? Onid ydyw pethau fel yna yn ddigon o dal ? Surplus yn wir! peid- iYrch son am dano y mae yn insult i'r hen sefydliad cenedlaethol dreio cael surplus ar draul peryglu llwyddiant llenyddol yr Eis- teddfod. Os bydd mil o bunau, mwy neu lai, dros ben, goreu oil; ond os na fydd, fel y dywedais, "haner coron" o balance or ol gwneyd y balance sheet, dim ods yn y byd. Bydd Eisteddfod 1894 wedi talu yu dda. I Y TAIR CHWAER. I I 0'1' pedair chwaer Fwrdeisdrefi Gogledd Gogledd Cymru, y mae tair ohonynt yn teimlo yn lied bryderus gyda golwg ar yr Etholiad Cyffredinol. Y tair chwaer ydynt "Arfonia," Maldwynia,"—wel, fedrwn i yn fy myw gael enw mor dlws i Dinbych— beth fyddai i ni ei galw yn" Clwydia f Y mae dwy ohonynt, sef Maldwynia a Clwydia heb champion, end y mae iddynt ill dwy ddewis ddynion Toriaidd. Y mae gan Arfonia champion dewr, neb llai na Sior o Griccieth, yr hwnfel St Sior a laddodd ddraig yn 1890 a 92. Nid oes hyd yn hyn "ddraig" wedi ymddangos iddo gael treio ei law y trydydd tro; ond iy mae yn lied debyg y try un i fyny yn y man, a does I genym ond gobeithio y digwydd r un peth i "ddraig'' rhif y trydydd. Mae Maldwynia yn dal ei "gafael yn dynn yn y marchog bychan o'r Drefnewydd, yr hwn a enillodd ei serch yn 1885 a 92. Nid oes hyd yn hyn champion Rhyddfrydol wedi gwneyd ei ym- ddangosiad i daflu i lawr y faneg fel arwydd o'i bar drwydd i fesur cledd a'r Marehog o Dref y Gwlaneni. Cynrychiolaeth Rydd- frydol ydyw Maldwyn wedi bod ers llawer o flynyddoedd, ac felly fuasai eto pe cawsid dyn ac asgwrn cefn ganddo i ymladd y frwydr. Rhaid addef fod y Tracys wedi dal y gaerfa am lawer o flynyddoedd er gwaethaf holl alluoedd y Wyniaid, y Powysiaid, a theulu Plas Machynlleth; a Rhyddfrydwr fuasai yn cynrycbioli y bwrdeisdrefi heddyw pe buasai y Maldwyniaid wedi bod yn gall yn eu cenhedlaeth yn 1880, a mynu cael dyn a thipyn o fynd ynddo.ac yn Radical gonest. Mae gan Syr Price ddylanwad mawr yn y Trallwm a'r Drefnewydd, ac os diseddir ef rhaid cael dyn cryf, dyn fedr siarad wrth y bobl nes cyrhaedd en calonau, ac un fedr ddeall yn mha le mae y vulnerable spot, a handle y cledd i bwrpus. Y mae y Dinbych- iaid mewn cryn dipyn o benbleth trwy fod Mr Howell Idris wedi gorfod tynu yn ol o herwydd afiechyd. Y mae y Toriaid wedi dewis i ymladd dr istynt un ag sydd yn sier o fod yn boblogaidd pedai ond er mwyn ei dad, yr Hybarch Archdd 'on Howell, gwr nad oes yn Nghymru un a gerir ac a berchir yn fwy o Jherwydd ei hynawsedd a'i rydd- frydigrwydd crefyddol. Pe buasai pob ) clerigwr fel yr Archddiacon, fuasai. Dadgy- sylltiad yr Eglwys yn Nghymru ddim wedi dyfod gymaiut i'r ffrynt. Piti na fuasai ei fab yn Rhyddfrydwr, yna aethai i'r Senedd fel saeth. Ond am mai Tori ydyw, rhaid ymladd hyd at waed, os bydd raid, er ei gadw allan. Gresyn na ddeuai yr hen wron o Ddinbyeh allan; er ei fod yn hen y mae ynddo eto lawer o fighting power, ac y mae yn ddyn ieuano *'i gydmaru a thad Ty y Cyffredin, Mr Villier, Byddai yn treat o'r mwyaf i Dy y Cyffredia gael olywed llais goniarus Mr Thomas Glee. CTXRYCHIOLAETH ARPON., Wel, o'r diwedd y mae'r gadwen a rwyma ein Haw wedi ei thori, ac y mae rhyddid i ni bellach draethu ein Hem. Y mae y mwyaf- rif a gafodd y cyfaill William Jones mor sylwedddol H y mae yn ddangcseg amlwg ao eglur beth ydyw meddwl meibion Eryri ar y pwnc. Dyledswydd fawr y blaid yn awr, gan hyny, yw ymgymodi yn ebrwydd, ysgwyd dwylaw, a chladdu y fwyell mewn bedd mor ddwfn nas gwelir mohoni mwy. Nis gellir hebgor un o'r cyfeillion a wahan- iaethant mewn barn ar y ddau ymgeisydd. Mae llaweroedd ohonynt yn ddynion sydd wedi gwneyd gwasanaeth anrhaethol i'r blaid Ryddfrydol, a byddai colli gwasanaeth y rhai hyn ar ddydd y frwydr yn golled nas gellir ei megar na'i phwyso. Yr wyf yn camgymeryd y< fawr os nad yr Henadur D. P. Williams fydd yn arwain y blaid, ac yn oymeryd rhan sunlwg yn etholiad Mr Wm. Jones pan ddel yr adeg. Gwnaeth Mr Williams wasanaeth gwerthfawr lawer tro i'r Rhyddfrydwyr, a gwna hyny eto yn ddiameu. Dyna yr unig ffordd y gellir gosoi-y faner a enillodd y gwion o Fadryn yn 1868 oddiar y gelyn, ac a ail-enillwyd yn 1880 gan Watkin Williams, ac wedi hyn yn yrunn?yddyn gan Mr Rathbone, yr hwn yw ei cheidwad hyd y dydd heddyw. Ie, meddaf, dyna yr unig ffordd y gellir ei chwifio eto gan ddwylaw Rhyddfrydol yr etholiad nesaf, ar un o binaclau uwchaf creigiau Eryri. Cydunaf o'm calon a phobl Llangefni i roddi tair banllef i'r bachgea a fn yncyd-ddysg?eiA.B.C. gyda hOgiB y I dref hono yn Tf Ysgol rytan&ild dp)_ dros ddeng rlynd ar hugain yn ol. I Y DBRBY. Nid ydwyf yn cofio i mi erioed ysgrifenu y gair uchod ar bapur o'r blaen. Yn wir, wyddwn i ddim mai yr wythnos hon yr oedd i gymeryd He byd oni wolaiu yn y pap-.irau fod rhai o'n Seneddwyr eisiau cael gwyl i fyn'd i wel'd y rasus. Mae llawer un o'm darllenwyr na fuasent yn gwybod mwy na minau fod y fath le yn bod ag Epsom oni bai am y ftaith ein bod lawer tro pan yn blant, a phan yu bobl hefyd o ran byny, wedi bod yn tynu gwynebau cuchiog wrth geisio yfed trwyth wedi ei wneyd gydag "Epsom Salts." Pe dawn i yn dweyd na welis i ddim rasns ceffylau erioed, mi ddy- wedwn anwiredd, oblegid un tro, lawer o flynyddoedd yn ol, yr oedd cyfaill o Gaer- narfon a minau yn dyfod adrefo Manchester ar ddiwrnod y "Chester Cup." Yr oedd tren Bangor i gychwyn o Stesion Caer am 5 munyd wedi tri, a'r ceffylau i ddechreu rhedeg am ehwarter wedi tri. Gwyddai yr engine driver nad oedd yn waith dau funyd i fyn'd o'r stesion i'r Roodee Viaduct, sydd wrth y cae rasus. Fodd bynag, llwyddodd y'gyriedydd i dynu yn lied dyna yn ffrwyn y march tan fel ag i ddigwydd bod mown man cyieus i welerl ras fawr Caerlleon. Ni wyddai fy nghyfaill mwy na minau ddim am ddirgelion y turf, ond yr oeddym lawer gwaith wedi clywed rhai o ymadroddion y brodyr "rasyddol" wrth fyn'd a dyfod Yn y Tren." Gwelsom y rhedegfa am y "Chester Cup," a gwaeddai fy nghyfaill, gan dynu dwy geiniog o'i boced, two to one bar one on Gladstone," a thynais inau bisin tair lwcus am fod twll ynddo, a gwaeddais inau, "three to one bar one on the field," ond wn i ddim hyd y dydd heddyw beth ydi hyny, na pha geffyl a enillodd y "gwpan." Faswn i ddim yn son am y Derby o gwbl oni bai mai dyna brif newydd y dydd, fod "Ladas" wedi enill "Ruban glasyturf" ddydd Mercher diweddaf, ac mai y Prif Weinidog ydyw ei berchen. Yr oedd y prophwydi politicaidd yn gosod cryn bwys ar y ffaith, a phro- phwydent," os byddai i "Ladas" enill y gamp, y byddai Arglwydd Rosebery yn Brif Weinidog Ilwyddiinus; ond os byddai i geffyl Due Westminster enill, mai yr Un- debwyr a fyddai y gorchfygwyr. Wel, Rosebery a gariodd y dydd, ac yr oedd Westminster yn rhywle tua'r gynffon. Gallwn ddisgwyl Arglwydd Rosebery mewn swydd i gario Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Rhag i bobl feddwl mai y Prif Weinidog presenol ydyw yr unig bechadur a fu yn brif gynghorydd i'w Mawrhydi, gallwa ddweyd mai "sporting man" o'r radd uwchaf oedd Arglwydd Palmerston, ac wedi hyny larll Derby, ac, os ydwyf yn cofio yn iawn, larll Granville. Boed a fyno, gobeithiwn fod y prophwydi Bood a fyno, ?, "rasyddol" yn deall arwyddion yr amser- oedd, ac y bydd i Arglwydd Rosebery, fel ei geffyl Ladas," fod yn orchfygwr.
LLYS SIROL CAERGYBI.j
LLYS SIROL CAERGYBI. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth, o flaen y Barnwr Syr Horatio Lloyd, yn swyddfa newydd yr heddgeidwaid. Hwn ydoedd y llys cyntaf a gynhaliwyd yn yr adeilad uewydd. Cyngham o berthpnan i Ffgnon. —Mr Hugh Edmunds, Plas, Llanfechell, a hawliai oddiar Mr Lewis Hughes, C.S., Abereilian, Amlwch, ddeg punt o iawn, oherwydd ei fod yn gwrthod i'r achwynydd gael cludo dwfr o ffynon neillduol yu Llaneilian, ei fod wedi cau y ffordd at y ffynon, ac wedi rhwystro dwfr i fyned i dir yr achwynydd. Hefyd ceisiai archeb yn atal y diffynydd i ymyryd i'r lie yn y dyfodol. Ymddangosai Mr J. H. Yates (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Mostyn Roberts) dros yr achwynydd, a Mr Ellis Jones Griffith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr E. G. Roberts) dros y diffynydd. Yr oadd Mr Edmunds yn 1878 wedi prynu lie o'r enw Llaingam, a Mr Hughes wedi prynu Bwtia, y ddau ie yn terfynu ar eu gilydd, a byddai tenantiaid Llaingam yn arfer cyrchu dwfr o ffynon oedd ar dir Bwtia, gan groesi dros y wal i'r lie. Yn ddiweddar yr oedd anghydwelediad wedi cymeryd lie, a dy- wedai yr achwynydd fod Mr Hughes wedi tynu i ffwrdd gamfa ag oedd i fyned at y ffyuon, ac hefyd wedi rhwystro i'r dwfr redeg i gafn ag oedd wedi ei osod ar dir Liaingfim. Dywedid o'r ochr arall fod gan denantiaid Llaingam dair ffordd ag yr ar- ferent fyned at y ffynon, sef ar hyd y ffordd fawr, ar draws cae Llundain, a'r ffordd o berthynas i ba un yr oedd y cynghaws, ac nad oedd ganddynt hawl ond i un o'r ffyrdd. Galwyd nifer fawr o dystion ar y naill ochr a'r llall, ond gohiriodd y barnwr ei ddyfarn- iad er mwyn myned i weled y lie. Cyfreithiwr a'i ddl.—^Lv R. E. Pritchard, cyfreithiwr, Caergybi, a wysiai Mrs Picton, gwedd-Y y diweddar Mr Thomas Picton, am 7p 6s 5c am weithredu ar ran ei phriod mewn yrachwiliad i'w hawl i'r Lord Edward Inn, Caergybi. Ymddangosai Mr Pritchard ei hunan yn yr achos, a chynrychiolid y ddi- ffynyddes gan Mr T. R. Evans. Mewn am- ddiffyniad dywedid fod Mr Pritchard wedi cytuno i gymaryd yr achos ar chance, a'i fod i dderbyn til os 11 wyddai, neu nad ydoedd i gael dim., Gwadai Mr Pritchard fod unrhyw gytundeb o'r fath wadi ei wneyd. Galwyd tri o dyation er profi fod ymddiddan i'r perwyl wedi cymeryd lie rhwng Mr Prit- chard a'r diweddar Mr Picton. Rhoddwyd dyfaraiad o blaid y ddiffynyddes.
DARPARIADAU LLYSIEOOL Y cvrrI…
DARPARIADAU LLYSIEOOL Y cvrr I ADD4.3A? I IN HYD. Nid oes yr u" ambsuasth mewn snrhyw fedLiwI dir,gfsra m-.i d .rpuiadao lly ieuol yw y rhai mwyJ. rhlnwaddol, chydweddot a'r corph. Vawa g»ir y mae "III liymborth bean yddiol yn gym..i., i gynal iechyd y cyfa-'Sodd- ied ag yw i gynal nerih, ac i feitbrln ei wabanol ranaa. t'i gofaUot fwy am 8wm a ansawdd yr hyn fwytawn, blinid ni yn fwy anaml gaa auuwyldarau oorph rol, a gall odd fwy yn welt wrth 14 o phYIIIgwriaatb. Mae ffejyllwyr yn gyil edin yn y bljriijddotdd di- weddaf wodi tula mwy u sylw i lysian nag a wnacl am gtyn trntor y txtnoMt, fel y ma. yn broseuol amryw d'Jirpafiadau Uysleuol meidygol yn 0..1 ..a cyny i'r cyho dd y d dd- lau hyn at wahtinol glifyda* MA rh i ohon- yot yn dd'Unwu wtdl M trefnu yn y mod,1 mwyaf gof u-. icynddarpariadan gwerthfawr ar gyfar amryw auhwyldsrau. Ond y maen ar hyny yu gwabaniaethtt llawer aawn rhln* wed i a gwarth Yr a uc *n mawr wefch ddar ? pMn uiddd r^intaara ty<Mao( yw oa 'i <t?n ort i; ü;t::u:, ''t graddf) m?ttfcyf. Ia»n, ac mavrn orn lleied o aylweddj ag y mae yn bosibl. Wedi btynyld?u o vmitiwilUd d»fal, ac arbrawfiadau manwl, llwyddodd y fferyllydd enwog Mr Gwiljiu ^aans f.C.S I dynu allan o a-aryw o'r Uysiau a'r pUuhigion gorea a mwyaf rhinweddoi, ea grif rinwadd^a. Y llysiau hyn ydynt Quinine Saraaparilla, saffrwn, Infant, dant) llaw, crwyully, (gentian) a'r cynghaw {burdock). Llwyddodd i ddargan fod y modd i xyfaital slfenau g«eithgar y llysiau yn i wneyd cymysgedd celfyddydg.r yn y modd mwyaf h >p<ie er sicmau uydweith- lodiad Ilwyd iiinue yr etfenau meddygin iaothol a gyuwysent, a ehyrhaedd yr amcan diion is oedd mewn g"lwg wrth ei gyfansoddi. Y mae y meddyglyn rhagorol hwn erbyn hyn yn fyd-idnarjy(idus wrth yr enw Quinine tiittere Gwilyin Evans. Nid oos un meadyg- iohetli all gystadlu ag ef mown effaiihioliwyd symud yinaith hell ttnhwylderau y cylla, y afu a'r ian. "he ar w rth ;gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9o a 48 6a yr on. Nea gellir eu eahl yaddioeddrwy y post am y prisiau uctiod oddiwrth y pdieaenogieQQulnin Bittara Mt'i'if • ),). r.ti fj'-t' lly.
Advertising
H y BYSLENI 0 BOB MATH, rfOCYNAU 0 BOB MATH, Tw cael VB RW a Buan yn ? ??YDDFl'R ??NEDL. tj \JT
I BRAWDLVS CAERNARFON.I
I BRAWDLVS CAERNARFON. I Yn y frawdlys hon, a gynhaliwyd lydd- iax Llun a Mawrth, gwranda .>•. d yr achosicn cyfreithiol canlynol: I TORI AMOD PLTLODAS. Dacth Mrs Catherine Evans, gweddw o Dalybont, a chynghaws yn erbyn Richard Jones, gwr y George and Dragm Ian, Ban- gor, am iawn am d;)ri amod priodas. Er- lynid g'n Mr Bryn R therta, A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr S. R. Dew), ac amidi- ffynid gan Mr H. Lloyd (yn cael ei gyfar- wyddo gan Mr Thornton Jones). Ym- ddengys fod y diffynydd unwaith wedi bod yn aelod o heddlu Arfun, a thra yr ydoedd yu Nhalybont ei fod yn lletya gyda mam yr erlynes. Ymadawodd o'r heddlu, a chym- erodd dy tafarn y Skerries yn Mangor, ae wedi hyry y George and Dragon. Y mae hefyd yn drafaeliwr i ffirm o ddarllawwyr. -ynyg I-riodi yr er- Dywedid iddo yn 1887 gyoyg priodi yr er- lynes, ac arferai yru llythyrau iddi pan fyddai oddicartref yn trafaelio. Yn Me- hefin, 1891, aeth yr erlynes i gadw ei dy, ac yn Ngorphenaf y flwyddyn ddilynol rhodd- odd enedigaeth i blentyn. Rhoddwyd tyst- iolaeth bellach gau Ann Williams, Maes-y- groes. Richard Jones, y diffynydd, a dy- wedai ei fod wedi pi-iodi yn 1866, a'i fod wedi byw gyda'i wraig hyd 1877, pryd yr ymwahanas"llt trwy gydsyniad. Trigai ei wraig yn Llandegfan. Gwadai iddo erioed addaw priodi yr erlynes, yr hon a wyddai o'r goreu ei fod yn wr priod. Rhoddwyd tystiolaethau o blaid y diffynydd gan Ann Hughes, 2, Rathbone street, Bangor, ac Ellen Jones, Liandegfan. Wedi i'r bargyfreith- wyr a'r barnwr anerch y rheithwyr, dy- chwelwyd rheithfarn o blaid yr erlynes, gyda swllt o iawn. Y CT A'R BEISICL. I Hawliai Mr John Henry Richardso l, I Bangor, iawn oddiar Mr W. G. Williams, Llauddaniel, Mon, am niweidiau a dderbyn- iodd trwy i gi perthynol i'r diweddaf ym- osod arno tra yr oedd yn mynd trwy bentref Llanfair P.G. Ymadangosodd Mr Honora- tius Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan y Mri Hughes a Pritchard, Bangor,) dros yr clyn- ydd, a Mr Bryn Roberts, A.S. (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Griffith Dew) dros y diffynydd. Yn ei anerchiad agoriadol dy- wedodd Mr Lloyd fod yr erlynydd ar y 3ydd t Dachwedd, 1891, yn mynd trwy Lanfair P.G. ar beisicl, gyd t'r bwriad o fod yn bre- senol ar yr achlysur o ymgynulliad cwn y Marquis of Anglesey yn Holland Arms, pan y neidiodd ci y diffynydd ur ei gefn, gan ei daflu ac achosi cryn niweidiau. Bu dau ofal amryw feddygon, a tkalodd y SWill 0.£41 12s 60 iddynt mewn biliau. Yr oedd yr erlyn- ydd yn dyoddef ar hyn o bryd oddiwrth ni- weidiau a dderbyniodd i'w fraich. Darfu i'r un ci ychydig fisoedd yn flaenorol ymosod ar un Mr Haslani, ac mewn canlyniad hys- bysodd heddgeidwad y pentref y diffynydd or digwyddiad. -Rhoddwyd tystiolaeth o blaid yr erlynydd ganJ. Jones, oriadurwr, J. William Robinson, Arthur Haslam, Evan Evans (heddgeidwad), nifer o feddygon, ac ereill.-Ar ran y diffynydd dywedodd Mr Bryn Roberts nad oedd y diffynydd yu gwybod am natur wyllt y ci, ac felly nad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Rhodd- wyd y ci i'r diffynydd gan y Mri Pritchard, adeiladwyr, oherwydd ei fod yn rhy lonydd a charedig i'r pwrpas yr oedd arnynt hwy ei eisieu. Pan gly wodd y diffynydd am yr ym osodiad ar yr erlynydd lladdodd y ci.— Rhoddwyd tystiolaeth i'r perwyl uchod gan y Mri William ac Owen Pritchard, William Griffith Williams (y diffynydd), ac ereill.- Tystiodd Ellen Russell i'r erlynydd fyned ag un o olwynion y bicycle dros gynffon y ci. tra yr oedd yn gorwedd ar ginol y ffordd, ac wrth geisio osgoi myned a'r olwyn arall tros gynffon y ci iddo mewn canlyniad syrthio. Wedi i'r bargyfreithwyr a'r b iruwr anerch y rheithwyr dychwelwyd rheithfarn o blaid y diffynydd. ACHOS O ATIIROD. I I Hawliai Ann Owen, Harp Inn, Uouwy, iawn am athrod oddiar Auu Williauis, Fferm Bryndowsi, Conwy. Yinddangosodd yr athrod mewn post card a dau lythyr dienw a anfonwyd gan y ddiffynyddes i wr yr erlynes ac i'r arolygydd Williams.—Pan alwyd yr achos yn mlaen ni wnaed ymddangosiad ar ran yr erlynes, a gofynodd Mr Honoratus Lloyd (yn cael ei gyfttrwyddo gan y Mri Jones a Porter) am ddyfarniad o blaid y ddi- ffynyddes, yr hyn a ganiatawyd gyda chostau. _?_?.  ?..  
Ty Mawr, Mon.I
Ty Mawr, Mon. I Yn nghapel Ty Mawr, nos Fawrth di- weddaf, traddodwyd darlith ragorol gan Mr Ellis Jones Griffith, M.A., Ll.B., bargyf- reithiwr, ar ei daith o'r Bryn i Bersia i gyn- halliad mawr iawn. Cadeiriwyd gan Dr II. Parry Jones, Cae Mawr, yr hwn yn ddi- weddar a fu yu Jersey, ac a adroddodd ych- ydig o hanes daith yntau.
Aberdar. -- I
Aberdar. I "CAITTATA YR ADAR. Nos bet-cher, Mai 30ain, bu cor Siloh (A) yn dadganu y gantata uchod dan arweiniad Mr Thomas Thomas, yn Carmel (M.C.) Trecynon. Cymerwyd y gadair Mr S. R. Hopkins, manager Ysguborwen. Cafwyd unawdau campus yn y rhan flaenaf gan Mri William Lowis, Gwilym Jones, Samuel Thomas, overture gan Mr Je-,ik,N,n Morris, adroddiad gan Elen Jones, deuawd gan Mri T. Thomas a John Owens, a chan gan Llinos Cynon. SAT.TT.V. ROBERTSTOWN.— Pregethwvd yn yr wyl flynyddol yn y capel hwn y Sul a'r Llun (Mabon) diweddaf gan y Parchn J. Beynon Davies, Briton Ferry, R. O. Hughes, Plamarl. a D. Silyn Evans, b,? dar. C?wyd cynulliadau Hawnion, a phre- gethan grynius. CANA, PENYWAUX.-AR yr un dyddiau yr oedd y frawdoliaeth yn Cana, sef canghen o Ebenezer, Trecynon. yn cynal eu Cwrdd Pregethu," cafwyd gwleddoedd yma, o dan weinidogaeth y Parchn James John (Am- erica gynt) H. P. Jenkins, Ateraman, a H. T:Jacob, Aberdar.—Gohebydd.
Advertising
GWABW A PHOESAU.—Pun gynygia eagob I yn ngwy lt Affrice buns am hanor potdaid o Ellimau's Embrocation, acygw.tbodir hyny, I tlWY y-ellid rhoddi y bunt yu cl. ond nid felly ) r Embrocation, y mae gerlych dyatiol- aeih eglnr I w rth Mliman's Embrocation. Prawf: "Cynyeiaie i ddyn bunt am haner potelaid o Elliman's Embrocation, ond yr oedd yn well ganddo o lawer gadw yr Embrocat'on na chael y bout, gan y gallesid rhoddi y naill yn oi, ond nid y llall." t'yftnwyd o bapyr Esgob G. W. Koight-Bruca, Bfgob Mashcna- land. 1892 Eilimtn- Universal F.mbrocat:on at y Crydcym^l**u, Lombago, Sprains, Brtw au, Toriadaa, Gwddf Dolurus, Anwyd ar y Frest. Anyetwythedd, Cramp, Bronchitis,&c., sydd yn beth neillduol o dda. Is lie a 2s 9c. Paratoir yn uulll gan Ellimin Sons and Co,, Slough, England. (No 1 e .J' lAE LLUN y IV GALOY FEL HiS AR BOB BLWCH 0 HUGHES'S U 00D PiLLS (^HEB IIYXT»VY £ jL YUyyf Y mae "HCGHES'S BLOOD i'tLLS" llun y galou arnynt yn Fe 1 t it a Gwaed, y Croon, y Nervei, y Cylla, yr Afu a'r Arenau. NI WELODD Y HFI) K[ TKBYO gwy1..>ull :t11l ,lano MWY wedi gwu-, y d G \Ill vr Y BO B L. Pan y bydd Gwr niI Wriig. \I ib neu Ferch, yn diodlef oclli\vrtli AVael Drwg Tarddiantau y Croen, P vn Pon, Afu Drwg, Diffyg Traul, Gwynt. Bili )usness, Xnrres Egwan, Gwyneg-on" Cyla GAMII, Poen yr Arenau ac yn y Cein Corff rv Piles, &c., yr hyn oil syill yn tarddn odliar Waed Drwg a GIvan, cymerer HUIIII-LS'S BLOO!) PILLS Y rhai a'ch gwellhant yn bur fllan, Lli,, mawr yn cael eu hiachau yn flynyddol. Y MAENr YN IACHAU PAN BYDD BOB PETH ARALL YN METHU. FELLY lIEB OEDI Danfoner am danytit oddiwrth y Chemist neu Werthwr Pateut Medicines. En pris i'w Is. lie., 2s. 9c., a 4s. Gc., ueu danfoner gan amgau Stamps at y D:lrg:u;fyd'¡"f, JACOB BUCHES, Manufacturing Chettli-st, PENALLTH, CARDIFF. Yr hwn a'u danfona gyda Throad y Post. Agent i/:i Americn-Mu WILLIAMS, Medical Hall, Plymouth, POOR. THE FINEST MEDICINE IN THE ? COUGHS, ASTH BRONCHITIS, INFLUENZA. &c., is CONGREVE'S BALSAMIC ELIXIR In Bcttlti, 2 9, 4/6. Sold by all Mtiidnt Houus. Mr. G. T. Gongreve's Book on Consumption and all Chest Diseases, with Appendix, con- man r emarkable cases, post free for is., lai,,In tooml e Lodge, Peckhaiii, London, S-F- new HtHilSni gold UDAIo ?.. NITTER, BP 1 1/yiTO Btockiagi noted or pto M 3 l\HI IO CLOVES MdCMTB)!-C"' $I 's :rL(1J.2.iR¡;C- i.i I ■ 3 I V TIM'4YR Li>u M !? B I e?''?''????''??'???'? .IKNER 1. Ua WORLD (of" Gl)r, MKinotllM HODourL HARBISON KNITTING MAC'I1H'. Work,: "8. Vfft Brook Sc. J~BWYfsT«7\TTTvwUA uA>TTnK)D- SRFNH EU TAI. 1 VYMTTNA EDWIN JO NTS Kyffiu Plar 1. inet Works. Bangror, hysbv«u tod a¡,ddo oc helneth o hob math 0 ddo«lrefn 0 r ^wneutLxiriad jaroreu. yn gynwysedig o Fyradan, Cadeiriaa, Treselydd, Cypyrddau gwydr, t Couches, Choffoniers, Sideboards, Wardrobe8, mewn mahogany) walnut, bir h, &c. Gwelys haiam a phres, Gwelyau plu a Flock, Mattr?5No wires, spring, gwlan a flocks. Gwneir y rhlll fwyaf o'r pethau uchod ar y lie o dan arolygiaeth bersonol Edwin Jones. Oherwydd cynydd yn ei fasnach mae wedi sicrhau Warehouse helaeth at ei fajmiu-'hay» gwahodda y rhai a fwriadant ddodrefnu i wcled i Stoe, y rhai a werthir am brisiau hynod o res- mol TELIB YCLUDIAD AM. 15 1IIILLDJR 0 FASOOB. INVALID PORT WINE WITH PEPSINE, Free irom TANIN. In Port Wine Rattles, 3* ea h, or 36.. dozen Prnm all Win" Deal*. 8 and StorOT, or wbole. ?). from M.d.Mte-t Wme a? tMd Uf?ifa-HtMet. C?rd'?. 5gj
[No title]
lr°rvfeirier y F?ddoniMth i Kitonyau, '?y?'rC??.CMrMrfo..] AT Y BEIRDD.-Mhysbysiad y°???   wriseth.1 &o Ni chy-erir T~, c1ama!l lle.;ddol felly i yatyriaeth. ,Ã.m y teleran, ymofyner a r cyhoedawyr.
'RWY'N CARU HANES IESU. I
'RWY'N CARU HANES IESU. I 'Rwy'n caru hanes Iesu A?gMMdrhyfeddmawT, C?hwneifyth-ryMdu Gan luoedd nef a llawr; Aiff hanes pob ymwadiad O'u casglu oil yn un, Yn ddim wrth orchest canad Rhyfeddol Mab y Dyn. 'Ewy'n caru darllen hanes Hen fwriad bore'n Duw I roddi Mah ei fynwes Dros fywyd dynolryw; A gwel'd trwy ddrych fy Meibl Faith nenau Cynghor Net, Gan olrhain cylch a threigl SeT ei feddyliau Ef. •Rwy'n earn clywed hanes Yr Oen a'i werthfawr waed, A chlywed am y mawrlles Drwy'i gleisiau Ef a gaed; Hyfrydlais Dwyfol gariad Yw'r traethiad am y groes Sy'n llanw pob dymuniad, Sy'n lleddfu pob rhyw loes. 'Rwy'n caru dweyd yr hanes Am un ddaeth ini'n Frawd, A son mewn teimlad cynhes I Am dano'n codi'r tlawd, Gan osod ar gadeiriau Yn hardd a gwyn eu gwawr Ehai gododd o domenau, A llwch, a Uygredd llawr. 'Ewy'n caru cami'r hanes Am dano'n dod o'r nef, Yn dlawd heb rwysg na rhodres I'n codi ato E!; Un olwg ar Euphratah, Un drem i Galfari, A ddaw a'r Haleliwia Yn dan i'm calon i. 0 hanes mawr byth-enwog, B'le clywyd aui ei fath t Am farw Un dieuog Fel na chai'r cuo, frath ? Y Dwyfol dros y dynol O'i fodd yn rhoi ei Hun 0, doed y byd i'w ganmol, Y bendigedig Un. Mae sylwedd pob rhyw hanes Yn synfawr hanes Hwn, Llwyr lyncir idd ei fynwes Hanesiaeth byd yn grwn! Rhyfeidu mewn addoliad Y byddwyf Iesu'm Duw; A murmur mor ei gariad Fyth-doro ar fy nghlyw. Caerdydd. CHARLES DAVIES. I
DROS Y MOR. I
DROS Y MOR. I (Gydag ymddiheurad i Hwfa Mon.) Rhwydd hynt i Abel Parri Dros y mor, Llvw'r tonau" fo'n ei noddi Dros y mor: A Neifion fyddo'n hydrin, Heb siglo'n anghyffredin Gan beri storin a drycin Dros y mor, Kas cyrbaedd y Gnrllewin Dros y mor. Os bydd y mellt yn gwibio Dros y mor, A swn taranau'n rhuo Dros y mor, Na fydded iddo ofni, Gwna'r Hwn sy'n gwrando.gweddi Ei gadw ef rhag soddi Yn y mor; Hawdd eilwaith fydd addoli Ar y mor. Wrth fyned i'r Amerig Dros y mor, Ei fordaith fyddo'n ddiddig Dros y mor; Na foed i wancus fortil Ei lyncu ef i'w grombil, Fel Jonah gynt ar encil Dros y mor, A bod am dridiau'll ymbil Yn y mor. Ewch hefyd a'ch anrhegion Dros y mor, I'w dangos i'n cymdogion Dros y mor; Mae llu o blwyf Rhiwabon Yn byw tuhwnt i'r eigion, A choflwoh ni yn ffyddlon, Dros y mor, At bawb o'n cydnabyddion Dros y mor. 'Rol gwel'd pob Yankee notion, Dros y mor, Draw i'r Atlantic Ocean, Dros y mor, 'Rol dweyd am Ben Calfaria," A gwaeddi Haleliwia, Nes boddi swn Niagra Dros y mor, lach eilwaith dowoh i Walia, Dros y mor. Cefnmawr. ABON. I
Y MEDDWYN. I
Y MEDDWYN. Di-rol, anfoesol ei fyd,-gormes- I Pob gwr moesol hefyd; Dyn anfwyn, a dyn ynfyd, A dyn o'i go: dyna' gyd. I Bethel. IOAN IORWERTH.
Y BARDD YN GLAF.
Y BARDD YN GLAF. Rhyw hen adwyth cronedig—sy' ynwyf, Dan f'asenau ysig; Gan waed poeth yr wy'n gwneyd pig, A mawr fws am ryw physig! Ap CLEDWKN.
CADBEN THOMAS, BRYNDDU.
CADBEN THOMAS, BRYNDDU. Cadbon Thomas urddaawedd,irwron mawr Gweriu Mon dirionwedd; Ag eirias wefr gwladgaredd, Enwoz lvw a dania'n srwledd. MACHBAETH MON.
Advertising
 ?OR!MK? P'OBp: t  N BLUE CROSS" M EI3 wo Ell j
I. MR WILLIAMS IDRIS YN TYNU…
MR WILLIAMS IDRIS YN TYNU 11 YN OL. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deithas Ryddfrydol Bwrdeisdrefi Dinbych (Dinbych, Rhuthyn, Holt, a Gwrecsam), yn Ninbych ddydd Llun. Llywyddid gan Mr J. W. Lumley, Rhuthvn. Etholwyd Mr Gee yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol, ac ail-etholwyd Mr Hopley Pierce, cyfreithiwr, Gwrecsa.m, yn ysgrifenydd. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Howel Williams Idris, yr hwn oedd yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad diweddaf, ac ar yr hwn yr ed- rychid fel yr ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Dywedai Mr Idris nas gallai ym- gymeryd a'r ymgeisiaeth oblegid anhwyldeb yn ei wddf, ae yr oedd ei feddygon wedi rhoddi gorchvrnyn caeth na fyddai iddo wneyd dim i anmharu ei lais. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad gyda gofid, a phender- fynwyd cyfarwyddo y CYllldeitlasau lleol i gymeryd mesurau ar unwaith i ddewis ym- geisydd.