Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

33 articles on this Page

ICEItDDOlt ULVN EBBW.I

News
Cite
Share

CEItDDOlt ULVN EBBW. I Fc gofia y sawl sydd gynofin a llonydd- iaeth y ddrama, beth yw yr hyn eilw beirniaid yn tragic irony. Gwelir y sobr- ddigrifwch hyn pan ddywedir rhywbeth yn ddifeddwl ae yn ddamweiniol gan un o'r personau yn y ddrama, ac yntau yn anwybodus o'r ystyr a'r meddwl gyfleir gan ei eiriau mown perthynas i'r dynged a'r dinystr sydd yn ei aros cf. Llawer gwaith y buom yn canu anthem odidog THOMAS DAVIES, Ebbw Vale, ar y geiriau, Dydd- iau (lyn sydd fel glaswelltyn," a rhywbryd y llynedd cawsom y fraint o'i weled yn arwain cynulleidfa fawr oedd yn ei chanu yn gywir a theiinladwy heb yr un copi. Dydd N adoligo yr oedd i fod vn arwain Cymanfa y Plant, yn Nowlais. Eithr y Sadwrn eyii Nadolig, rhoddwyd a oedd farwol ohono i orjihwys yn nghladdfa Ebbw Vale. Ni cliawsai ond byr ac ysgafn gystudd o ychydig ddyddiau, a disgynodd y newydd am ei farwolaeth sydyn fel min cleddyf buan ar galonau ei garedigion yn Ngwont a Morganwg. Yr oodd yn gerddor gwych, ac yn cynyddu yn gyflym yn ffafr y cyhoedd. Cyfansoddai yn brydferth a swynol, ac ni f) n-Li byth ddarostwng ei gelf i fod yn llawforwyn i ddim anfuddiol a gwael. Dywed OLIVER WENDELL HOLMES fod rhai pobl yn byw ar yr enwogrwydd enillant am yr hyn y gallasent fod dan auigylchiadau penodol. Fel y mae gwaetha'r modd, y mae llawer o'r cyfryw glod yn naturiol ddisgyn i ran nifer o Gymry talentog, ond nid yw hyn yn lleihau dim ar yr anrhydedd sydd ddyledus iddynt; canys yr enwogrwydd sydd iddynt fel y maent- wedi ymwthio ymlacn ar warthaf tlodi a diffyg addysg-sydd yn ein gorfodi i dalu iddynt lawer o barch am yr hyn y buasent yn awr pe hyrwyddasid eu gyrfa gelfydd- ydol yn eu mebyd. Ond pa ddyben i ni geisio damcanu beth fuasai Mr DAVIES ymhen ychydig flynyddoedd ? Gweniaetli fyddai dyweyd y dadbygai yn gerddor mawr; ond y mae hyn yn wir, y byddai o wasanaetli anrhaethol mewn cymanfaoedd canu cynulleidfaol. O'r rhai hyny sydd yn sefyll ar lwyfanau sancteiddiwyd gan bresenoldeb y seraphaidd IEUAN GWYLLT, braidd nad oes neb yn fwy medrus nag oedd TIIOMAS DAVIES i chwareu ar dannau teindad cynnulleidfa. Iddo of yr oedd gweddi yr emynwr wedi ei ateb: — Cttdw f'yspryd yn dy waith Hyd fy marw."

[No title]

Advertising

[No title]

Y DDIRPRWYAETH I LA.Fun.I

[No title]

Advertising

ODION 0 HRKFORRIS. ___I

I HUNANLADDI-ti) IN XOS, I

[No title]

I -Gwnlclimai. I

Fachwen. i

Advertising

KINtiSLANl) SCHOOL, I AMWYTHIG.

[No title]

Porthdinorwic._I

-Arthog. --I

Advertising

Family Notices

Advertising

---Porthitpthwy I

[No title]

Advertising

CATARRH,

Dolgellau.I

I-Pwllheli.I

I ..Llanrwst..-,-1

Damweiiiiau ar y Rhew-

RHEWI I FARWOLAETH.

I -MARW AR Y MYNYDD.

[DAMWEINIAU EREILL.

ADOLIGIAD Y WASG. I

-.- -. -________- -,.._- -...-.-…