Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

IY FRENHINES A'I D ADGY S…

News
Cite
Share

Y FRENHINES A 'I D ADGY S Y LLT IA D. 1 Tybir yn gyffiedin mai yr unig ran a chwareua y Frenhines mewn gwleidydd- iaeth ydyw ysgrifenu ei henw o dan fesurau fyddont wedi eu darllen dair gwaith yn llhy'r Cyfftedin a thair gwaith yn Nhy'r Arglwyddi. Camgymeriad ydyw hyny, modd bynag, ac er nad yw y mater yn meddu ar ond ychydig bwysig rwydd ymarferol, Did anfuddiol ydyw cael y gwir yn ei gylch. Yr wythnos ddiweddaf syhoeddwyd bywgraphiad di. weddar Archesgob Caergaint, y Dr Tait, ac yn hwnw dadlenir, am y tro cyntaf erioed, ni dybygem, yr hyn a wnaeth y Fienhines ynglyn a Dadgysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon. Ymddengys nad oedd yn bleidiol i'r mesur hwnw, ond gwelai nad oedd un dyben gwingo yn erbyn teimlad y wlad a Thy'r Cyffredin, ac mai yr unig beth allai wneyd oedd ceisio cymedroli ycoydig ar y mesur. Arferodd ei holl ddylanwad gyda Mr Gladstone i'r perwyl hwnw. Yr oedd y Sonedd i gyfarfod ar yr 16eg o Chwefror, 1869. Ar y ISfe lcawn y Frenhines yn ysgrifenu llythyr at yr A c' esgob Tait, yn gofyn iddo dalu yraweliad a Mr Gladstone, ac ymdrechu ei b.irswadio i wneyd y mesur mor gymedrol ag oedd yn bosibl. 0 hyny allan, yr ydym yn cael yr Archesgob yn gweithredu drwy yr oil o'r Senedd-dymor fel math o errand boy rhwng y Frenhines a Mr Gladstone. rhwng yr Arglwyddi a'r Cyffiedinwyr, Llwyddodd yn ei amcan i raddau helaeth ac ar derfyn y tymor derbyniodd ddiolch- garwch gwresocaf y Frenhines, Mr Gladstone, a'r Esgobion Gwyddelig. Cyn hir fe ddaw mesur Dadgysylltiad arall o flaen y Senedd. Beth, tybed, fydd ei ffawd 1 Ai tybed y bydd i'r Frenhines dynu y gwifrau mor effeithiol yn achos Cymru ag y gwnaeth yn achos yrlwerddon 7 A fydd iddi roddi ryw archesgob neu esgob neu ddeon ar waith y pryd hwnw i "gymedroli" y mesur Cymreig ? Gwyddom fod llawer o drefniadau yn y mesur Gwyddelig na fynwn ni mohonynt yn y mesur Cymreig. Yr ydym wedi dysgu gwers oddiwrth gamgymeriadau yr Iwerddon, ac yr ydym am gael mesur lhagorach nag a gafodd y Gwyddelod. Ond beth am ymyriadau brenhinol neu archesgobyddol ? Beth am fusnes y "cymedroli" yma ? A fydd ystrywiau dirgelaidd o'r fath a chwareuodd yr Archesgob Tait yn dder- byniol gan y Cymry I^Dywedwn yn ddi- floesgni nad ydynt i'w goddef am fynyed Os myn yr archesgobioc a'r esgobion wrthwynebu y mesur, y mae ganddynt gyfleusdra, yn rhinwedd eu seddau yn Nhy'r Arglwyddi, i wneyd hyny mewn dull gonest a gwyneVagored. 03 myn y Frenhines ei wrthwynebu, gall wneyd hyny yn gyfansoddiadol trwy wrthod arwyddo y mesur. Ond ni fynwn ddim o'r ymyriadau dirgelaidd fu « foddion i "gymedroli," yr hyn o'i gyfieithu yw gwaethygn, y mesur Gwyddelig. Dy- wedwn wrth hyd yn nod y Frenhines a phob archesgob ae esgob a deon, ftefwch i ffwrdd; na ddeuwch rhwng y bobl a chyfiawnder; os dymunwch gael l'ais yn y mater, y mae y CyfansoddiadPrydeinig yn darparu moddion priodol ar eich cyfer; ond dim ymyriadau dirgelaidd, os gwelwch yn dda.

CYJIRV A'R BACCARAT. -...…

Advertising

I AT EIN GOHIJWYR. I

COLEG Y BALA.

EGLWYS RIIUFAIN A PHROSELYTIAETH.

r-I -SYR JOHN MACDONALD,