Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

MR LLOYD GEORGE A:Ii "BLEIDLAIS…

News
Cite
Share

MR LLOYD GEORGE A:I "BLEIDLAIS DORIAIDD." Yr wythnos ddiweddaf ba newyddiad- uron gwrth genedtaethol Cymru yn bur lawdrwm ar Mr D. Lloyd George, yr aelod dros f wrdoisdrefi Arfon, a Mr D. A. Tnomas, yr aelod hynaf dros Ferthyr, am iddynt feiddio pleidleiaio yn erbyn cyn- ygiad Mr Stevenson yn ngiyn & Mesur y Degwm. Modd y gall ein darllenwyr ben- derfynu drostynt eu hunain ar y mater, gosodwu yr aches yn glir gerbron ein darllenwyr. Fel y gwyadis, cynygiad Mr Stevenson ydoedd fod cyfarwyddyd yn cael ei roddi i'r pwyllgor yn eu gallu- ogi i wneyd darpariaeth ar gyfer ad-brisio y degwm yn gyfiawn, yn unol ag am- gylchiadau gwahanol amaethyddiaetb." Dyna ydoedd y penderfyniad, ac nid an- hawdd ydyw deall oddiwrtho beth ydoedd amcan Mr Stevenson Ei fwriad ef yd- oedd dwyn ymwared i dirleddiannwyr Suffolk, y sir a gynrychiola, ac yn yr hon y mae y dirwasgiad amaethyddol wedi cael ei deimlo lymaf o unrhyw ran o'r doyrnas. Ond cyn y gellir ffurfio barn deg ar benderfyniad o natur un Mr Steven- son y mae yn ofynol ei ystyried ya ei wahanol agweddau. Yn v He cvntaf, y mae yn ofynol ystyried beth ydyw y y degwm—pa un ai treth ai eiddo (property) ydyw. Amser yn ol bu llawer o ddadleu ar y pen hwn, ond bellach y mae yr holl awauvdodau gorou yn unfryd unfarn mai oiddo, ac nid treth, ydyw degwm. Delir yr eiddo ar hyn o bryd gan yr Eglwys; ond er hyny y wlad yw perchenog y degwm. Pan ddygwyddo tir gael ei werthu ar arwerthiant cyhoeddua, y ewestiwn cyntaf a ofyna y rhai fyddant yn bwmdu ei brynu ydyw, faint o ddegwm sydd arno, yr hyn sydd gyfystyr A gofyn faint o hawl sydd gan y wlad ar y tir hwn. Lie y byddo y degwm yn uchel inwi), gwerthir y fferm am ychydig o ariau. Gwyddom am fferm yn Nyffryn Couwy He y mae y degwm yn 40p yn y flwyddyn, a'r ardreth yn 20p. Yn awr, pe y dygwyddai i'r fferm hono gael ei gosod ar y farchnad, ni buasai neb yn ei phrynu am fwy nag a fuasai yn rhesymol ei roddi am fferm arall gwerth 20p yn y flwyddyn heb ddegwm, o gwbl arni; oblegid i'r prynwr yr un gwerth fyddai y ddwy- ugain punt yn y flwyddyn a gawsai oddi wrth y ddwy. Tybier yn awr fod y fferm hono y mae ei rhent yn 20p a'r degwm yn 40p yn cael ei rhyddhau oddiwrth y degwm dranooth ar ol iddi gael ei phrynu, byddai y sawl a'i prynodd wedi cael 40p y flwyddyn o freehold properly am ddim, a phe gwerthai hi am bris cyfartal i'r hyu a dalodd am dani, cawsai gymaint deir- gwaith ag a roddodd—a'r cyfan drwy ddlddymiad y degwm. Gwelir, gan hyny, beth fyddai elfaith gostvmg'y degwm. Y canlyniad fyddai ychwanegu at werth y tir, a rhoddi arian yn llogell tirfeddian- wyr na wnaethant ddim erioed i'w henill. Yn amser Harri VIII., rhoddwyd llawer o ddegymau y wlad i gyfoethogion. Yn wir canlyniad y teyrn anghyfiawn hwnw yn rhanu y degwm rhwng ei gyfeiIlilSn ydoedd achos cyntaf sefydliad tlottai y wlad hon. Nid oedd son wedi bod am dlottai cyn i Harri ddwyn arian y tlodion a'u rhanu i'r cyfoethogion. Yr oedd digon o elusendai yn cael eu eynhal âb I ariau degymol hyd adeg Harri i allu cadw holl dlodion y wlad heb drethu y bobl. Yn ddiweddarach na hyny rhodd- I wyd braidd yr oil o dir common y wiad, a t bert iynai mor wirioneddol i'r bobl awyr a anadlent, i'r cyfoethogion am I ddim. Gan hyny, gwelir pa mor ofalus o eiddo cyhoeddus y dylem fed. Ni ddylid caniatau i geiniog- waith o'r degwm gael ei dynu ymaith, oblegid, tel y dywedasom, ni byddai I hyny ond rhoddi anrheg arall o'n heiddo ceuedlthul i'r tirfeddiannwyr. Pe treth fyddai y degwm, yna llawenydiem ei I gweled, nid yn unig yn cael ei lleihau, ond ei difodi. Oud, fel y mae yn hapus mfcddwl, nid dyna ydyw, eithr eiddo, ac eiddo mor wirioneddol ag eiddo'r tir feddiannwyr. Ya wir, y mae y degwm i yn eiddo sicrach nag eiddo'r tirfeddian- nwyr; oblegid pe y lleihai tir gymaint yn ei werth nos achosi fferm sydd heddyw yn werth 20p i fod y flwyddyn nesaf yn werth dim ond I p-i tlalu y degwm yr elai hono, ac nid i datu y rhent, Mewn gair nid oes gan y tirfeddiannwyr bawl i ardreth hyd nos y byddo hawl medd- iannydd y degwm wedi ei gyfarlod. Y mae degwm fel mortgage ceuedlaethol ar y tir, a gwaith y genedl ydyw edrych fod y tirfeddiannwyr yn taiu y 116g priodol am y rhan hono o'u tir sydd yu perthyn i'r wlad. Rhaid addcf mai yr uchod ydyw yr unig olygwedd gyfreithiol a masnachol sydd i'w gymeryd ar y degwm, gan hyny yr oedd -cynygiad Mr Stevenson yn myned yn uniongyrchol yn erbyn budd- iaut gorea y genedl, yn arbenig gan ei fod ef ei hun yn cydnabod mai yr amcan ydoedd llesoli y degwm-dalwyr." Ni bydd i unrhyw ddyn gyda gronyn o wybodaeth gyfreithiol wadu pwy ydyw y degwm-dalwyr: fel y dywedasom eisoes, y tirfeddiatfwyr ydynt. Nis gellir gwneyd i ffordd 4'r addefiad yma heb wadu y ffiith fod y degwm yn eiddo cenedlaethol Buasai cynygiad Mr Stevenson i'w gyf- iawnhau pe mai treth fuasat y degwm, ond gan mai eiddo y genedl ydyw, ac yn cael ei ddal o dan arwystliad gan y tir- feddianwyr, nid oes unrhyw reswm dros i gymaint a cheiniogwerth o hono gael ei aberthu am fod tir yn dygwydd bod yn rhad mewn rhanau neillduol o Loegr. Mae tir fel pobpeth arall yn auwadal yn ei werth. Mae cynhauaf y tirfeddianwyr hyny sydd yn analluog i osod euffermydd am ardreth a sicrha elw iddynt hwy wedi tmned drosodd. Ni ofynasant y pryd hyny ar fod i'r degwm gael ei ychwanegu, am y buasai i byny eu hamddifadu hwy o beth o werth y tir. Gan hyny, paham y lleiheir ef yn awr ? Gall tir nas gellir ei osod yn Lloegr heddyw fod o gymaint gwerth ag erioed yn mhen blwyddyn neu ddwy; ond a ydyw yn debyg y byddai y tirfeddianydd yn orawyddus i godi y degwm ar ol unwaith lwyddo i'w ostwng 1 Byddai raid i'r cyfryw dirfeddianydd ddeilliaw o rhyw linach bur wahanol i'r un sydd yn ein gwlad ar hyn o bryd. Fel pleidvryr cadwraeth eiddo cenedl- sethol, dadleuwn y dylai y degwm gael ni gadw heb ei gyffwrdd. Yr ydym ni yn Nghymiu, oleiaf, yn gobeithio nad yw yr amser yn mhell pan y bydd i'r eiddo gwerthfawr hwn gael ei drosglwyddo tuagat ddybenion cenedlaethol, a dyaa y rheswm dros ein hawydd i'w gadw yn ei lawn gwerth. Ond er yr oil a ddywedasom, gallaaem yn galonog gefnogi cyfarwyddyd Mr Stevenson, gyda chyfnewidiadau neillduol ynddo. Rhag i hyn ymddangos yn ang- hyson gadawer i ni egluro. Dygodd Mr Stevenson ei gynygiad yn mlaen gyda'r amcan o "lesoli y degwm-dalwr" Ditngosai ei araeth yn eglur mai dyna oedd ganddo mewn golwg, ac nid oes am- heuaeth na lwyddasai yn ei amcan pe y pesid ei gyfavwyddyd. Cynrychiola y boneddwr aurhydeddus swydd Suffolk, un o'r siroedd sydd yn dyoddef fwyaf oddi wrth y dirwasgiad amaethyddol. Nid yw y ffermydd yno yn werth eu hamaethu. Yn wir, mown rhai achos- ion ceir ffermydd heb eu gosod oblegid na thalent i'w hamaethu hyd yn nod pe byddent yn ddi-rent. Gweithredai Mr Stevenson, yn anfwriadol yn ddiau, yn ffafr buddianau tirfeddian- wyr swydd Suffolk, a mantais ddirfawr a ddeilliai iddynt drwy gynygiad yr aelod anrhydeddus. Amlwg yw oddiwrth ei araeth mai gostwng y degwm yn ei sir ei hun oedd ganddo mewu golwg, Yr oedd yn amcan ganddo i roddi cynorthwy mewn "achosion celyd," ond ymddengys nad oedd yn gofalu am orfodi y rhai ag y mae eu degwm yn fychan, i dalu mwy. Pe buasai wedi cynyg i newid seiliau yr ad- di^fniant, gallasai gyfarfod yr "achosion celyd," ac ar yr un pryd codasai y degwm mewn Iteoedd ereill. Nis "gellir gwadu fod y seiliau preseno yn audwyol i amaethyddiath mewn llawer man, tra mewn lleoedd ereill y mae yn ffafr y tirfeddianwyr. Yn ol y drefn bresenol rheolir y degwm gan bris yr yd, a chan fod grawn yn rhataeh yn awr nag ydoedd yn 1836, byddai ad- drefniant y degwm heb newid y seiliau beri yn anocheladwy leihad cyffredinol yn y degwm-lleihad a olygai wneyd aberth o eiddo cenedlaethol. Cofier hefyd fod cynyrchion amaethyddol ereill yn uwch nag oeddynt yn 1836. Pe buasai Mr Stevenson wedi cynyg fod i'r degwm gael oi ad-drefnu ar seiliau teg, yr ydym yn credu, a hyny ar awdurdod uchel, y codid gwerth y degwm gjanaint arall drwy y deymas. Dywedasom eisoes na ddylid ar un cyfrif ganiatau i'r degwm gael ei leihau. Y mae yn llawer rhy isel eisoes, er hwyrach mewn parthau fel Suffolk y gellid yn gyfiawn ei leihau. Y mae tir yn uchel ei bris yn Nghymru; ni fu rheuti erioed mor uchel. Am bob enghraifft o ostyngiad drwy ad-drefniad y seiliau ceid llawer ag y byddai y degwm wedi mwy nadyblu; Dyna yn sicr fuasai y canlyniad pe cymerid yr holl deyrnaa, Dengys ystadegaeth fod cyfanswm y degwm yn ddwy filiwn, tra y Mae ardrethoedd a delir i dirfeddianwyr yn gant a deugain o filiynau. Gwelir drwy hyn, yn lie fod y degwm yn cyn- rychioli un ran o ddog o werth y tir, nad yw yn cynrychioli ond tuag un ran o saith deg. 0 ganlyniad, pe gwneid ad-drofn- iant teg ychwanegid yn ddirfawr at y degwm, a gostyngid yn gyfatebol gyfran y tirfeddianwyr o enillion amaethydd- iaeth. Nid oes un amheuaeth nad felly fyddai yn Nghymru. Yn y rhagolwg ar dd.idwaddoliad yr Eglwys estronol,golygai ychwattegiad o'r fatli yn y degwm fod yr eiddo cenedlaethol yn fwy a rhenti yn is. Ond pe yr ad drefnid y degwm ar y seiliau preseuol, lleiheid yr eiddo cenedlaethol. Am y rheswm yma, yr ydym yn meddwl ddarfod i Mr George a Mr Thomas gymeryd y CWIS priodol, oblegid, fel y darfu i ni eisoes egluro, mai anghyfiawn fyddai ad-drefou y 'degwm ar seiliau y C ommutation 'Act, heb hefyd ad-drefnu y seiliau.

ADDYSG GANOLRADDOLI

I DYNAMITE MEWN ADEILAD AGORED.

IIAWN I DAFARNWYR.I

I MR GLADSTONE A DADGYSYLLTIAD.…

Ii ICYNADLEDDAU YR WYTHNOS…

MR LLOYD GEORGE, A.S., I -A'l…

I MR LLOID GEORGE, A.S., A…

YMOSODIAD AR "FEDDYG YN BETHESDA.

Advertising

IY IJLAWR DYll\U.

[No title]