Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

25 articles on this Page

I "ANRHYDEDD Y 'GENEDL I GYMREIG.'"

GAIR AM Y FEIBL GYMDEITHAS.

Advertising

GOLLWNG HERWHELIWR YN RHYDD.

I ADGYNULLIAD Y SENEDD.I

Y LLOFKUDD LEFROY.I

I LLOFRUDDIAETH YN DEOMOEE._

I OFNADWYAETH YN RWSIA.

OWN _YN YSGLYFIO DEFAID._

I YSTORM DDYCHBYNLLYD. I

SYR WILLIAM HARCOURT YN DERBY.…

IARLL HARriNGTON YN BCAOKBORN…

BRAWDLYSOEDD Y GAUAF.

0HWABEU Y BEL DROED.-DAMW…

IMARWOLÐ DDISYFYD MR THOMAS…

IDIFLANIAD HYNOD GENETH IEUANO.

ANGHLADD SYR HUGH OWEN.

IOAN ARFOIN: Y BARDD A'RI…

News
Cite
Share

IOAN ARFOIN: Y BARDD A'R I BEIRNIAD- Dydd Sadwrn diweddaf daeth torf luosog a pharchus yn nghyd i dalu y gymwynas tIif i weddillion loan Arfon. Anhawdd djgymod a'rfifaith fod y gwr llathraidd a flhadarngryf oi ymddangosiad, yr hwn y galleeid barnu am dano y buasai rhifedi "blynyddau ei ymdaith" yn cyrhaedd yu suell droo derfyn yr addewid "—anhawdd, yt wir, ydyw sylweddoli ei fod ef, yn mis Midi bywyd, wedi llithro y tuhwnt i'r Ilea —j byd ysbrydol wedi ei sugno iddo ei hun, a thyweirch y dyftiyn yn cuddio ei wedd. Nid oes genym heddyw ond ceisio croniclo y Hiuellau hyny yn ei gymeriad cyhoiddus ar nil va rai y daethai yn Ioan ARFON-YU UZI o fotrdd a beirniaid rhagorat ei wlad. Fel bardd, yr oedd loan Arfon yn medda safle anrhydeddus, a chyfansodditsai lawer o ddarinau rhagorol. Yr oedd ei hoU gv- ayrchion yn dwyn delw synwyr cyffredia eryf, barn addfed a dysgybledig, chweth bur a manwl hyd lymder, ac ni ollyngai ddim o'i ddwylaw heb ei orphen, a'i gaboli yn ofalus. Yr oedd yn feistr trwya(U ar y cynghaneddion, a choleddai gryn barch a "I irlos yr hon fosurau Cymreig, oLd nid oedd undyn allai fwynhau can bonrydd neu bryddeit os byddai y cyfryw yn syn- wyrol ac awejyddol, yn well nag ef. Yn y cjmeriad o olygydd barddonol un o'n cyf- easolion, gwyddom iddo fod yn gynghorwr doeth ac yn arweinydd tirion a dyogel i lu o feirdd ieuainc, yn y rhai y teimlai ddy- 4dordeb tadol. Meddai loan Arfon argy- toeddiadau cryfion am fonedd a chysegred- igTfydd awen. Nid oedd dim a gythruddai ei ysbryd yn fwy na gweled bardd yn treulio ei nerth a'i amser i gann ar destynau ysgeifn, annheilwng, yn lie ymaflyd mewn pynciau pwysfawr a dyrchafedig. Gofidiai wrth gaufod unrhyw fardd-os yn haeddu yr enw—yn cellwair a'r awen, ac yn ym- foddloni ar fyw a bod yn nghyffiniau y dig- rifol, y chwerthinus, a:r baledaidd. Hyda golwg ar ei gyfansoddiadau lluosog ei hun, wedwn na dda fu i loan Arfou erioed gael ei hthio i gyhoeddi dim y buasai yn ei olaf awr" yn ewyllysio ei ddileu, ar gyfrif uarhyw wyrni moesol neu dditfyg chwaettu Fel beirniad enillodd iddo ei hun barch a chymeradwyaeth pob dosbarth ar gyfrif P' Ut?Iy?rw?H. ei ymlyniad diwyro wrth yr hyn a ystyriai oedd gyfiawn a theg, a'i alluoedd beirniadol cryfion a diwylledig. Ni fu ungwr mwy egwyddorol, di- duedd ei ysbryd, a gonest ei amcan, yn dal clorian cyfiawnder yn ein heisteddfodau a'n cyrddau llenyddol. Nid ydym yn honi iddo anflfaeledigrwydd, a gwyddom mai efe ei hun fuasai y cyntaf gondemnio unrhyw ormodiaith o'r fath. Ond yn ol y goleuni a feddai ef ar nnrhyw bwne rhyddieithol neu farddonol — gweithredai yn berffaith onest, ac ni chafodd neb achlysur i dybied am aiJhd ddarfod i loan Arfon yn ystod ei brofiad maith, ar air na peithred, wneuthur "cam a gwr yn ei fater." Llafuriodd lawer yn ddidrwst gyda'r gorchwyl o feirniadu yn uchelwyliau ein gwlad, a llafar oedd beimiadu iddo af. Os ymgymerai ef a'r gorchwyl cyflawnai ef yn drwyadl, ac yr oedd gwneuthur cyfiawnder mewn cyfarfod lleol yn nghesail yr Eryri yr un mor bwysig yn ei olwg a phan yn beirniadu y traethawd arobryn neu yr awdl gadeiriol yn yr Eisteddfod Genedl- aethol. Hyd yma yr ydym wedi crybwyll am loan Arfon yn y cymeriad deublyg o fardd a beirniad, a chredwn mai ar gyfrif ei allu. oedd yn y cyfeiriadau hyn y trosglwyddir ei enw i'r oes a ddel." Y ddeubeth yma a'i gwnaeth yn adnabjrddus i Gymru, ac a hawliodd iddo safle barchus yn mysg ei phendefigion llenyddol. I gylch ei gydnabod a'i gyfeillion yr oedd loan Arfon wedi cvrhaeda "gradd dda ar sail lluaws Q ragoriaethau ereill. Enill. asai batch ac ymdairied fel masnachydd a threfwr; yr oedd yn wleidyddwr deallus, effro, a gweithgar yn gyfaill ffyddlawn, oalon-agored, a nodedig am ei fwyneidd.dra a'i natur dda—mewn gair, yr oedd yn ddyn gwerthjei adwaen—yn ddyn cyd-bwys ei gymeriad, gwastad ei fuchedd-yn ddyn i'w air, i'w genedl, ac i'w wlad. Yr oedd yn fatdd coethedig, yn lienor gwybodus, yn feimiad diarllyboedd, ond ei ddynol- iaethgref, brydferth, ac anrhydeddus oedd ei addurn penaf—coron ei rinweddau, a maen clo pob enwogrwydd a gyfiawn enill- odd drwy hir lafur, ymroddiad, a dyfal- barhad. Nis gallwn derfynu y sylw an- mherffaith hwn yn well na thrwy ddyfynu llinellau tlysion a dderbyniasom boreu heddyw oddiwrth yr awenydd Idris Fychan, yr hwn a gyfeiria yn barchus at y diweddar loan Arfon fel y dyn mwyaf hynaws a welodd erioed Ow! loan Arfon yn ei oar-fedd 1-bardd 0 bwys yn y llygredd Un o engyl oynghanedd- Addien fab, heddyw'n ei fadd Ond yn llefaru dawn llIfeirlol-bydd, Fel bardd awenyddol, A'i synwyr cryf cysonol- 0 fawr weith goflr o'i ol. Enw a fydd i'r hen Waen Fawr,-a'r 'R,ri, Uwch yr oror werthiawr- loan Arfon, W"n orfawr Tra tyrau heirdd-tra tõr y wawr. Wrth fedd loan Arvon ar ddydd ei gladd- edigaeth. Wele fedd gwr anwyl fl1-YU addurn I lenyddiaeth Oymru; A gwel heddyw'n ei gladdu Ein gwasR ddaeth yn ei gwisg ddu. I AnnaiAB o Yon. I

I PRAWF Y LLOFRUDD GUITEAU.

I GOF-COLOFN I JOHN BRIGHT.

GWENWYNO TRI 0 BLANT.'-I

EGLWYS AR DAN.—UN DYtf WEDI…

ILLONG-DDRYLLIAD GER CAERNARFON.

I OYFFESIAD Y LLOFRUDD LEFBOY.

Y GYLCHDREM.