Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
29 articles on this Page
[No title]
GWLEDYDDTRAMOR A'R ETHOLIA.D.-Nid Rhyddfrydwyr y Deyrnas Gyfunol yn unig sydd yn ymlawenychu yn nghwymp Gwein- yddiaeth Arglwydd Beaconsfield; par y newydd gyffro a boddhad neillduol hefyd yn nghyljhoedd uchaf ymherodraethau Ewrop ac Asia. Ysgrifena gohebydd y Daily News o St Petersburgh, Rwsia, fel hyn ;—" Y mae'r newyddion diweddaraf a ddaeth yma am lwyddiant y blaid Rydd- frydig yn etholiadau Lloegr wedi cynyrchu boddhad neillduol mewn cylchoedd politic- aidd. Y mae yr oil o'r waag Rwsiaidd, gyda'r eithriad o organau haner-swyddogol, yn siarad am fwyafrif Rhyddfrydig yn y Senedd newydd fel peth sicr."—Gohebydd arall a ysgrifena i'r un newyddiadur 0 Berlin, Germani, fel hyn:—"Teimlir y dyddordeb dyfnaf yma yn nglyn a'r ethol- iadau presenol yn Lloegr. Heddyw y prydnawn y mae gan yr oil o nawyddiadur- on Berlin erthyglau arweiniol ar y pwnc. Cynyrchodd y pellebrau diweddaraf y cyffro eangaf. Credir yma y bydd i'r buddugol- iaethau ddoe (dydd Mercher) gario dylan- wad mawr ar y gweddill o'r etholiadau. Dywed y Vossische Zeitung fod yn eithaf amlwg fod y Saeson wedi cael digon ar lywodraeth Arglwydd Beaconsfield, yr hwn yn ystod y chwe' blynedd diweddaf a bar- haodd i ddwyn trallod ac anesmwythder i'r wlad yn nglyn a gwladweiniaeth dramor, ac ar yr un pry d llwyr esgeuluso dyledswyddau cartrefol. Nis gall hyn fod yn unol meddwl Saeson meddylgar ac ymarferol." —Gohebydd o'r Aipnt a ysgrifena i'r un cyfoesolyn fel hyn Achosa yr etholiad cyffredinol yn Lloegr y dyddordeb penaf yma, nid yn unig yn mysg y Saeson, ond hefyd yn nghylchoedd y Groegiaid, Italiaid, a'r Ffrancod, dymuna pawb ohonynt gwymp Arglwydd Beaconsfield.' Cyffelyb ydyw ton papyrau yr Eidal, ac mae brwdfrydedd tanbeidiaf yn nodweddu yr holl genedl; eu calonau yn llosgi yn ddynt am lwyddiant Mr Gladstone a'r blai, Ryddfrydig."
[No title]
PA FOVD Y COLLWYD Y "TRWYDR RYDDFRYDOL YN WESTMINSTER ?-Antur- iaethwyr masnachol gan mwyaf-deiliaid y Stock Exchange, a masnachwyr mewn galw- edigaethau ereill—ydyw y trigolion. Nid oes ond ychydig iawn o bobl yn byw yn y ddinas, canys ilenwir hi a masnachdai a siopau mawrion. Y mae buddiannau y bobl, y rhai gan mwyaf sydd o nodwedd anturiaethus, yn dal y cysylltiad agosaf i llogellau y nrasnachwyr, ac nid ydym yn cael cyffwidd a'u mynwesau. Nid pwnc o egwyddor ydyw pleidio y naill Weinydd- iaeth mwy na'r llall ganddynt hwy, ond pwnc y llogell. Yr ydym yn gwbl barod i addef fod gwladweiniaeth gynhyrfus, llawn syndodau a ehyfnewidiadau, yn cael ei britho gan ryfeloedd treulfawr ac anturiaethau politicaidd, yn fil amgenach i anturiaethwyr masnachol. Cyfyd neu syrth prisiau y Stock Exchange ar godiad bys Arglwydd Beaconsfield; dwg hyny gyfoeth anferth i rai pobl a cholledion dirfawr i ereill. Yn ervmaint a bod gwladweiniaeth o'r fath yma yn fuddion i ddwyn mwy o elw buan i an- turiaethwyr, pleidiant hi; a hwnw ydyw yr unig reswm fod Westminster wedi myned mor Doriaidd. Dwg gwladweiniaeth sefydlog a heddychol Mr Gladstone fantais gyfartal i'r wlad yn gyffredinol; nid Llyw- odraeth a'i hamcan uniongyrchol i gyfoeth- ogi anturiaethwyr hyf a diegwyddor yn ami ydyw ei eiddo ef, ond Llywodraeth a'i nod i wella amgylchiadau pawb yn ddi- wahaniaeth-gwobrwyo llafur ac nid gwohr- wyo speculations.
[No title]
OFFEIRUD CYMREIG RHYDDFRYDIG.—Dro yn ol, syl asom nad oedd, hyd eithaf ein gwybodaeth ni, ond un offeiriad Cymreig Rhyddfrydig, sef yr Estyn. Gwyddom fod cannoedd o'r cyfryw yn Lloegr, ac yn eu mysg enwogion penaf Eglwys- yddiaeth. Erbyn hyn gwelwn ein bod wedi eamgymeryd, ac yr ydym yn brysio i wneyd lawn am ein hanwybodaeth. Llawen genym weled fod periglor adna- byddus Beaumaris, er gwaethaf dylanwad man-foneddigion Toriaidd y dref henafol hono, yn Rhyddfrydwr hyd y earn, ac wrth reswm yn edmygydd mawr o Mr Gladstone. Yr oedd ganddo ef ddigon o wroldeb a nerth argyhoeddedig i eistedd yn gadeirydd yn nghyfarfod Mr Richard JDavies ychydig o nosweithiau, yn ol, a thraddododd araeth danllyd a galluog ar yr achlysur. Bydd genym bellach obaith am argyhoeddiad y gweddill o'r frawdoliaeth offeiriadol, er eu bod hwy wedi bod yn ddiarhebol er dyddiau Siarl y Cyntaf ac Oliver Cromwell am eu Toriaeth rone.
[No title]
PA FODD Y GWNEIR Y WEUTYDDIAETH RYDDFRYDIG I FYNY ?-Nid oes dim eto wedi ei benderfynu. Ymddengys fod Mr Gladstone yn dal yr un mor selog i gefnogi Arglwydd Granville ac Arglwydd Harting- ton. Sonir mewn cylchoedd uchel am osod Arglwydd Granville yn Brif Weinidog; Arglwydd Derby yn ySwyddfa Dramor; os gwrthyd efe hi, apelir at Arglwydd Kim- berley i'w llanw. Gelwir ar Mr Forster i fod yn Weinidog y Trefedigaethau, Mr Goshen yn Ganghellydd y Trysorlys, ac ail- ddychwel Mr Childers i'r Llynges, ac Arglwydd Cardwell i'r Swyddfa Ryfel. Bydd gan y Radicaliaid eithafol," fel y geilw y Toriaid Syr Charles Dilke, Syr William Harcourt, a Mr Fawcett, swyddau yn y Cyfringynghor Rhyddfrydig. Cymerir yn ganiataol y bydd yn rhaid wrth wasan- aeth Arglwydd Rosebery hefyd yn yr unrhyw.
[No title]
KILSBY A'R ETHOLIAD.—Yr ydym yn deall fod yr hen wron Rhyddfrydol Ealsby Jones yn tan-belenu amddiffynfeydd Toriaith yn Mrycheiniog. Ni raid dyweyd fod ei watwareg mor ddifaol ag erioed. Maen- tumia rhai pobl gymedrol y gall dyn fod yn Ymneillduwr ac yn Dori egwyddorol yr un pryd. Dyma fam Kilsby ar y pwnc" A ddichon Anghydffurfiwr fod yn Dori ? Yn hytrach gofyner, a ddichon tan fod yn oer ? A all dwfr fod yn sych ? A all goleuni fod yn dywyllwch ? A ddichon anghyfiawnder fod yn gyfiawnder ? Pan ddichon y pethau hyn gymeryd lie, dyna y pryd y gellir dych- mygu enw Methodist neu Wesleyadyn Dori egwyddorol,—dim cynt."
[No title]
Y CYMRY A'U POCEDAIJ.—Yn mysg yr areithwyr Toriaidd yn nghyfarfod Toriaidd Corwen, nid y lleiaf mewn enwogrwydd oedd MrParmeter,goruchwyliwrar ystad Rhiwlas, a comic singer lled boblogaidd. Ac yn mysg sylwadau y goruchwyliwr hwn, ceir y drych- feddwl beiddgar a ganlyn:—" Y mae'r Oymry yn caru eu pocedau." Ond, atolwg, ai nid ydyw man-oruchwylwyr Ysgotaidd a Seisnig sydd yn dyfod djosodd i Gymru yn gwneyd yr un peth ? I ba raddau tynag y mae etholwyr Meirion yn caru eu llogellau ni a hyderwn eu bod yn caru eu hegwydd- orion yn llawer mwy.
[No title]
GWROLDEB MEROH YR AMAETRWR.-UN prawf pendant fod Ceidwadwyr Maldwyn yn teimlo fod achos eu hymgeisydd mewn perygl ydyw y ddylanwad aristocrataidd sydd yn cael ei ddwyn i weithredu ar yr etholwyr. Yn mhlith canfaswyr Mr Wynn, -.ceir y bendefiges urddasol o Wynnstay. Tra ar ei hynt ganfasyddol yn ardal Llan. fyllin, y dydd 0 r blaen, aeth ei harglwyddes at amaethdy lie yr oedd merch ieuanc yn cadw ty i'w tlmd. Ebai Lady Wynn, "Da chwi, fy merch, gwnewch eich goreu i gadw eich tad adref ddiwrnod y pol." "Na, fy arglwyddes," ebai y ferch, ni erys gartref ar un cyfrif; a phe buasai genyf bleideb fy hun, rhoddaswn hi yn llawen i Mr Stuart Rendel." Hyderwn y gwna Rhyddfrydwyr Maldwyn efelychJ. y ferch ieuanc bender- fvnol hon ddydd yi etholiad.
[No title]
cysull Y CADBEN RAYNmR.-Wel ffol i'r eithaf ydyw y dyn a eistedda i lawr mewn anobaith, serch iddo gael ei orchfygu. Nid y type yna ydyw Cadben Rayner,a dyweyd y lleiaf. Na, wedi ei drechu yn deg gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, cysura y cadben plucky ei hun a'i bleidwyr aiddgar, na fydd i'r Senedd newydd barhau dros rywflivyddyn. Beth wed'yn ? 0! daw ef allan drachefn i ymladd brwydr Geidwadol. Campus, Cad- ben Rayner. Yn y cyfamser, ni a eiddunwn i chwi lawer o lwyddiant gyda'ch hoff or- chwyl-hela.
[No title]
UTIN ARALL I'W DAD— Uwyddis gyda pha ddyfalwch a difrifoldeb y mae Ceidwadwyr Arfon wedi lledaenu yr athrawiaeth iachus fod eu hymgeisydd yn-fab ei dad. Gan deimlo grym yn y. fath ymresvmiad cywrain, mae'n debyg, tybiodd Toriaid Caerdydd mai stroke of policy ardderchog o'u heiddo hwythau fuasai lledaenu pamphledau i sicr- hau yr etholwyr fod Mr Arthur Edward Guest ynfab i Syr John Guest. Felly: ond yr oedd Rehoboam yn fab i Solomon, onid ydoedd ?
[No title]
I Y FONKDWGES A'R GWEITIIIWR.—Ebai bOl1Ðddiges lawn zl drOB yr achos Coid. wadol, wrth weith?r yi Ngwrecs?m, y'I d' ?.). ,? I ?l? a J?"? y p?idleis- iwch dros Mr Kenyon." Na," ebai yntau, "Yr wyf am bleidleisio dros Syr Robert." WeI," meddai y foneddiges, "Os gwnewch hyny, ni chewch' w gyda'ch ciniaw ar ddydd Sul." "lO h on hyny," ebai y gweithiwr, "ond os plemiexsiaf dros Mr Kenyon, mae yn eithaf posibl na chaf I giniaw o gwbl ?
[No title]
MOESGARWCH TORTA D. Yu nghyfarfod ystormus Bethel, ymddengys i areithydd I Pennantyddol hyawdl, a chyngorwr trefol, ymgolli yn ei bwnc yn y fath fodd nes ys- gwyd ei ddwrn caueaig yn ngwyneb gwein- idog Ymneillduol, yr hwn a alwyd i'r lie i achub ei gam. Ond, cafodd y Tori brawf pur effeithiol nad ydoedd dull felly o drin pwnc yn hollol gydunol ? chwaeth trigolion Bethel.
[No title]
YSBRYD CELWYDDOG.—Y mae'r wasg Doriaidd Gymreig, fel yr eiddo y Seisnig, wedi cael ei llwyr feddiannu gan yr ysbryd hwn. Engraifft o fysg llu. Myn papyr Seisnig Bangor fod Mr Pennant wedi cael derbyniad cynhes a chalonogol dros ben yn Pwllheli, tra mai y gwir ydyw na fynai gwladwyr Lleyn roddi clust o ymwrandaw- iad iddo o gwbl. Ni fynai y bobl yr ynI" geisydd, am eu bod yn dirmygu ei gredo wleidyddol; a chyda graddau o gywilydd ac anfoddlonrwydd dwfn y dychwelodd Mr Pennant adref. Na rodder coel ar esbon- iadau gwyrgam y blaid; y maeut. wedi cwbl ymwerthu i dwyllo a chamarwain y dini- wed.
[No title]
ORGAN AO ORGAN-GRINDER Y. CAST=.- Mynai rhai pobl genym gredu mai hwynt- hwy oedd yn gwir gynrychioli Uais y wlad; ond y mae yr etholiad presenol wedi dad- lenu eu gwir gymeriad yn amlwg fel haul canol dydd. Nid oes gan yn organ-grinder hamdden i ddim arall ond i, droi hurdy-gurdy Mr Pennant, ac alawon y boneddwr hwnw a roddir i'r bobl 0 hyd. Rhaid i Mr Pritchard- Rayner yn Mon, a Mr Dunlopyn Meirion, a Mr Pennant arall yn Fflint, foddloni ar y cymhorth a rydd y papyrau Rhyddfrydol i ledaenu eu hareithiau; Pennantyddiaeth y Castell yn unig a geir gan organ Gymreig dinas yr esgob.
[No title]
Pwy YDYW Y DYN DIARTH Y-Ai Mr Pennant ai Mr Watkin Williams? WaI, gadawer ini weled. Oymro o waed coch cyfa ydyw Mr Williams, onide ? Ie. Gwr a anwyd yn Meirion, onide? Ie. Yr oedd ei fam yn un o lancesau gwridog Arfon, onid oedd ? Oedd. A all ef siarad Cym- raeg ? Gall. A fu ei enw yn hysbys ac yn ami ar ddalenau y newyddiaduron Cymreig ar hyd y blynyddoedd? Do. A ydyw efe am. ddadgysylltu yr Eglwys ? Ydyw. A ydyw efe am leihau y trethi ? Ydyw. A ydyw efe am eangu yr etholfraint ? Ydyw. A ydyw efe am i'r amaethwyr gael y game, y cwningod, a'r ysgyfamagod ? Ydyw. A ydyw efe am bleidio gwladwein- iaeth haddweh a llwyddiant masnachol ? Ydyw.
[No title]
Pwy YDYW Y DYN DIARTH ?—^AI Cjrmro ydyw Mr Pennant? Nage. Aoesgwaed a chydymdeimlad Cymreig YB; rhedeg drwy ei wythienau ? Yr un dyferyn1. A ydyw ei dad a'i fam yn hanu o hea.deulu Cymreig ? Nag ydynt. A ydyw enw AT Pennant yn ad- nabyddus i etholwyr Arfon. fel dyn a wnaeth rywbetb, rywbryd, ynrhywleoblaidy genedl Gvmreig ? Dim erioedt Adnabyddir ef yn unig fel mab ei dad. Er mwyn eraill- y gweithwyr Cymreig-ynte er ei fwyn ei hun y mae Chwarel y Cae yn cael ei l eweithio? Er ei twyn ei «uu. b?dai elw odcHwrtM, oauid hiyiorune?;  ?o? dioloh iddo ei am roddi gwaitu bobl? Dim gronyn, am eu bod yn dwyn elw i?idy gwneir hyny. A y-dyw DObl V gr yn ei adnabod? Ydynt M Vdy*n dyeithr; bydd i'w weled yn saet? ?tr? weithiu. I
[No title]
TBO DoNML.-RhyMwr campus yayw y siopwr hwnwyn Ll?eris a saethodd un 0 M?dMiswyr Mr Pennant yn fud igair o'i t PRM Medd? Mr Fle??e?w?." Mr Hwn- I a-hwn, yr ydym wedi d'od yma i ofyn eich fo? i Mr Pennant." 0! Mr Ploidgeis.? iwr," meddai Mr Siopwr, gan rwbio ei ddwylaw. "Y mae yn dda genyf eich gweled. Yr wyf wedi bod yn eich dysgwyl er's dyddiau, a phan eioh gwelais yn d od trwy y drwa tybiais yn union, yn nghanol llawer o obeithion, eich bod yn d'od ymai i dalu i mi eich dyledionYn gynt na chwiuciad llygad yr oedd Mr Pleidsreisiwr allan o'r siop.
[No title]
MAB EI DAD.—Ie, mab teitwng o'i dad ydyw Mr Herbert Gladstone, bachgen leuengaf Mr Gladstone, yn debyg 0 brofi ei hun. Y Inae wedi bod yn yr ysgolion goreu ar hyd ei oes. O'r diwedd, yn fach- genyn difarf, gadawodd Brifysgol Rhyd- ychain, ac ymaith &g ef i Middlesex—y W y mae Llundain yn brif dref ynddi, i'r dyben o ymladd y frwydr Ryddfrydig gyda holl wroldeb a phybyrwch ei dad. Y maerl llanc hwn o ran m^dr a dawn yn debyg o ymddadblygu yn un o wladweinwyr penaf Prydain. » H
[No title]
AUR A BARMAU.-Dyms y ddau bmf offeryn sydd gan y Toriaid i ryfela a hwy, yn y frwydr etholiadol. Darllenwn bob dydd am rhyw dduc yn tanysgrifio haner can' mil o bunnau yn y fan hon, a rhyw syr o dafarnwr yn anfon dwy fil i'r drysorfa yn y fan arall. Dywedir fod y Toriaid wedi gwario naw mil o bunnau ar gerbydau yn ninas Llundain yn unig ddydd yr etholiad. Am y barilau, ymddengys i gynwys can- noedd o filoedd ohonynt gael eu tywallt er boddi deall a synwyr y pleidebwyr, aeer bywhau ysbrydoedd y werin iselaf i floeddio a chynhyrfu. Gwelsom fod pedair mil o bunnau wedi eu tanysgrifioeisioes at gostau Mr Gladstone yn Ysgotland. Bwriada lluaws o blwyfydd yn Arfon ddwyn eu traul eu hunain, fel y bydd baich Mr Watkin Williams yn gymharol ysgafn. Y mae aur. y Castell i lifo wrth .y degau o filoedd; llogellau eyfreithwyr alu tras sydd i gael.eu llenwi a hwy.
CYFEILLION YR AMAETHWR-PWY…
CYFEILLION YR AMAETHWR- PWY YDYNT? Fol croniclydd manwl a helaeth o sefyllfa a ihagolygon marehnadoedd y Deyrnas Gyfunol, -fel sylwedydd llygadgraff a diduedd ar weith- rediadau masnach yn ei hamrywiol ffurflau nid oes hafal i'r newyddiadur adnabyddus y Mark Lane Express. Ar bynciau amaethyddol, y mae ei farn yn oruehaf. Efe, mewn modd arbenig, ydyw newyddiadur yr amaethwr. Gan lyny, tybiwn nad dibwys yn ngolwg amaeth- wyr Cymru fydd y paragraph jjwyUus a gan- lyn, yr hwn a ymddangosodd yn adran olyg- yddol eu prif gyhoeddiad ychydig ddyddiau yd o eu pri yn 01. Dyma fel y llefara y Murk Lone Expre88 ,am y ddwy blaid" Bydd yn awr gerbron y wlad, yn ng yda'u hawliau cydmariaethol ar maethwvr y deyrnas:— Er fod gwladlywiaeth plaid, ond yn unig mor bell ag y mae a wuelo ag amaethyddiaeth, yn cael -ei gociel b,b amser yn y cyhoeddiad hwn, eto nid yw yn ddymunol yn yr argyfwng presenol i ym- ,gadw rhag ystyried pa un o'r ddwy blaid fawr (Rhyddfrydwyr a Cheidwadwyr) sydd yn addaw IDwyal o fendithion i amaethwyr. Yn ofer yr edrychwu drwy manifesto Arglwydd Beaconsfield, neu anerchiadau Syr Stafford Noithcote, Mr Cross, a Mr W. H. Smith, am unrhyw gyfeiriad at -symudlad drygau ac anallaogrwydd amaethyddol. Fel hyn, vmddengys nad ydyw arweinwyr y blaid a aeth i awdurdod drwy bleidebau ffertnwyr yn benaf, a'r hon a fr, dychodd mor gywII3 ddus yr ymddiried a roddwyd iddi yn yatod chwe mlynedd o swyddogaeth, yn barod i addaw dim gwelliant yn 4i hymddygiad yn y dyfodol. O'r ochr arall, cawn yn anercinadau Mr Gladstone a Mr Goschen ddywediadau pendant yn ffafr cynygion pwysicaf diwygiad tmiethydd 1; tra y mae Arglwydd Hartineton, er yn Hai pendant aboddhaol, yn ym- drin yn bebeth a'r pwuc. Ychydig o'r aelodau a eisteddant yn bresenol dros y suoedd sydd yn haeddu ymddiriedaeth y ftermwyr. Y maent wedi ei gael, ac wedi ei fradychu yn gywilyddus. Gan hyuy, fol rheoJ dylid dewia dynion newydd- • v,.n er wrth ewrq, mewn Thai am 4 eylchiadau dichon fod rhesvmaxi dros adnewyddu vmddiried yn y c, n rychul vyr sydd eiso s wedi eu dewis. Dylai y sawl sydd wedi gwrthwynebu diwygiadau cytiawn a theg, a ofynir yn ffafr am- aetbyddiaeth, gael eu gyru i ddinodedd bywyd annghyhoedd, heb neb yn gofldio o u plegid. Megys ag y gwelir yn y dyfyniad uchod, nid ydywf ac ni phroffesa yr Express roddi myneg- lant i olygiadau unrhyw blaid bolitioaidd. Ei amean ef ydyw noddi a hyrwyddo buddiannau amaethwyr o bob dosbarth. Oddiar y saf- bwynt hwn y llefara am y pleidiau gwleid- yddol sydd ar hyn o bryd yn apelio am gefnog- aeth y wlad. Ac wrth osod y ddwy-blaid yn nghlorian barn ddiduedd, eyhoed: a yr Express yn ddigel fod y Oidwadwyr yn brin ni chyHawnftsant eu htddewidion yn y gorphenol; Did ydynt vn addaw dim yn y dyfodol. Aeth y Weinyddiaeth Geidwadol i swydd yn 1874 ar bwys pi haddewidi..n dei gar proffesai ei hun au ffermwyr y deyrnaa. Ond beth yw y can- lymad ? Wei, dyna ydoedd, yn ol datgantad y prif awdurdod ar bynciau amaethyddol,— bradychu yn eywilydaus yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddi.' Derbyn pleidebau dosbarth parchus o bobl, a'u hanwybyddu yn gyfan- gwbl ar ol cael eu hunain mewn awdurdod O'r tu arall, y mae arweinyddion Rhyddfryd- iaeth yn cywir deimlo dros sefyllfa yr amaeth- wr, ac yn ffafr cynygion pwyajoaf diwygiad a.a?t ?ypdol." Chwi, ffermwyr Cy-Pa un ai eich cyfeiUion neu eioh felynion ydych am anfon i'r Senedd am y chwe blvnedd nesaf ? Ai y sawl sydd wedi braaychu eich ymddiried- aeth, ynte y rhai sydd yn ffafr diwygiadau am- aethyddol, ac yn dwys ofidio dros eich sefyllfa, gaiff eioh cefnogaeth yn yr ymdrechfa agos- haol ? Na chymerwch eioh cam-arwain gan fiug-honiadau pwdr a disylwedd. Ymgroes- wch rhag y ffolineb o roddi eich cefnogaeth i'r sawl sydd yn pefiderfynu estyn i chwi yn y dyfodol yr hyn a gawsoch yn y gorphenol, sef -din. Pleidebwch yn wrol a phenderfynol dros y rhai sydd wedi profi eu hunain o ddydd- iau Deddfau yr Yd hyd yn awr, ac yn awyddus i barhau, yn "Wir gyfeillion yr amaethwr."
ETHOLWYR ARFON.-GAIR 0I GYIOHOR-
ETHOLWYR ARFON.-GAIR 0 GYIOHOR- Aral yw y cymhellion a Uuosog ydynt yr apeliadau sydd wedi cael eu cyfeino atoch chwi, etholwyr Arfon, oddiar lwyfanau eyhoeddus, a thrwy gyfrwng y wasg yn y dyddiau diweddaf hyn. Diogel genym nad aiff y cynghorion di- frifol a gawsoch yn ofer. Ond gyda llaw, ar fin y frwydr bWYSIg sydd i gael ei phenderfynu genych chwi, ni a ddymunem sibrwd yn eich clyw air bach o gynghor fel hyn,na fyddwch ry h^dtrus. Wrth reswm, nid ydym yn llefaru oddiar saf-bwynt y dosbarth Stoicaidd hyny o ddynion sydd yn dibrisio arddangosiad o deimlad cynhes yn mhlaid achos da. Na, y mae y brwdfrydedd can- moladwy sydd wedi meddiannu y wlad, a'r croesaw cynhes a gafodd yr ymgeisydd Rhydd- frydig er pan y sangodd ddaear Arfon ymladd brwydr rhyddid, yn ein bryd ni yn rhag- gysgodion o fuddugoliaeth. Ond ni etyb y brwdfrydedd cyhoeddus hwn nemawr ddyben oni bydd yn foddion i'ch symbylu chwi fel eth(.I,,Yr i yflaw ni eich dyledswydd, un ac oil, yn yr etholfa, ddydd Mawrth nesaf. Gwyddom fod lluaws mawr ohonoch yn ddirgel gredu, bellach, mai Mr Watkin Williams fydd dewis-ddyn Arfon Ryddfrydig ddydd y prawf. Bitbaf da; ond na foed i orhyder fel hyn beri i gymaint ag un etholwr dybied am eiliad y gellir enill buddugoliaeth ar wahan i'w ymdrech bersonol ef. Parch calon i bawb sydd yn dymtmo yn dda i achos Rhydd- frydiaeth. Eithr afraid yw hysbysu etholwyr goleuedig Arfon nas gall llonaid byd o ddy- muniadau noethion anfon aelod i'r Senedd. Y mae teimlad hyderus a chalsnog yn barotoad rhagorol ar gyfer brwydr galed; cymhwysder anhebgorol i ymladd yn ddewr ydyw ymdeim- lad fod buddugoliaeth yn dybygol, gydag egni a dewrder dyladwy. Eithr, ysywaeth, collwyd llawer brwydr drwy orhyder. Er mwyn pob- peth, na fydded i deimlad gorhyderus, ar draul esgeuluso dyledswydd, feddiannu un etholydd o fewn i derfynau Arfon yn yr argyfwng pre- senol. Dymunem wasgu arnoch y pwysig- rwydd o ddal ati yn egniol a phybyr nes Uwyr enill buddugoliaeth. Gocbelwch rhag gor- phwys ar y rhwyfau nes cyflawni yr oil ag sydd o fewn eich gallu i sicrhau concwest. Arnoch chwi, bellach, y mae tynged Rhyddfryd- iaeth Arfon am y blynyddau dyfodol yn dibynu. Y mae genyoh gyfle ar- dderchog i brofi eich hunain yn ddynion, ac i adfeddiannu yfaner a ollyngasoch o'ch dwylaw yn 1874. Y mae teimlad y werin i gael ei gorphori yn eich ymddygiad chwi ddydd y pol. O barth i natur y teimlad hwnw, llefared y penderfyniadau a basiwyd gydag unfrydedd mawr yn y cynulliadau poblogaidd a gynhal- iwyd, mewn gwahanol ardaloedd, yn ystod y pythefnos diweddaf. I chwi y perthyn yr an- rhydedd o ddwyn y teimlad yna i weithredu yn ffafr Mr Watkin Williams, ddydd Mawrth. Nac esgeuluswch yr ymddiriedaeth sydd yn gor- phwys arnoch. Cyfodwch at eich dyledswydd oruchel, a chyflawnwch hi yn eofn,egwyddorol, a gwronaidd. Trwy weithredu fel hyn, chwi a dynwoh ymaith y gwarthnodsydd ynanurddo cymeriad Arfon, ac a enillwch gymeradwyaeth wresocaf Cymru benbaladr. Y mae calon gwlad yn pryderus guro. yn mhlaid llwyddiant eich ymdrechion; gan hyny, yn enw rhyddid a gwladgarwch, a than nawdd ddiogel y Balot, rhoddwch i'r egwyddorion a gredwch berffaith .chwareu teg drwy bleidebu yn onest ac unfrydol ■ddiwrnod y pôl. Daffrowch o ddifrif at eich raitb
ERNES BUDDUGOLIAETH.-1
ERNES BUDDUGOLIAETH. -1 "Deuparth gvvaith yw ei ddechreu;" Cafodd gwaith pwysfawr yr etholiad cyffredinol ei ddechreu yn dra effeithiol, ddydd Mercher diweddaf. Dengys yr hysbyslen a welir mewn colofn arall, pa fodd y mae y wlad yn teimlo, ao yn gweithredu tuagat Weinyddiaeth larll Beaconsfield. Y mae llanw Rhyddfrydiaeth yntroiyn ol, gan ysgubo "mwyafrif" dyoh- ymygol y blaid Geidwadol o'i flaen. Yn ystod aeuddydd oyntaf yr ymdrechfa, diseddwyd Toriaeth mewn lluaws 0 u noddfeydd oadamaf. Torwyd bylchau llydain yn rhengoedd y gelynion, ac adfeddiannwyd ami i gaerfa y bu baner Toriaeth yn chwyfio ar ei thyrau er's llawer blwyddyn. Onid ydyw canlyniadau y frwydr yn y dyddiau diweddaf yn ernes o fuddugoliaeth Ryddfrydol ysblenydd ? O'r hyn Ueiaf, a oes rhywun a amheua am foment beth ydyw "barn y wlad" am haeddiannau y llywottrefn bresenol ? Ni raid ond bwrw. trem frysiog dros y bwrdeisdrefi sydd eisoes wedi ymladd y frwydr, mewn trefn i ganfod eu bod yn cynrychiofi masnach ac amaethyddiaeth ein teyrnas. Dyna siroedd York a Lancaster,—o enwogrwydd masnachol dihafal. Bethmedd- ant hwy am lywottrefn yr Iuddew ? Boed i fuddugoiiaethau anrhydeddus Leeds, Blackburn, Bolton, ac Oldham ateb y jrofyniad. Pa fodd y teimla amaethwyr Essex, Warwiok, a Bed- ford, tuagat y Weinyddiaeth sydd wedi bra- dychu ymddiriedaeth y ffermwyr er pan y mae mewn awdurdod. Y mae ymddygiad etholwyr Buckingham, Bedford, Colchester, a manau eraill, yn llefaru yn groew a digêl, eu bod wedi llwyr flino ar addewidion nad ydynt byth yn cael eu sylweddoli, ac yn dyheu am weled gwir gyfeillion amaethwyr Lloegr a Chymrueilwaith mewn awdurdod. Ond, pa fodd y gweith- reda etholwyr Gogledd Cymru y dyddiau nesaf ? Oni ddylai y. buddugoliaethau sydd wedi eu henill yn y gorphenol fod yn symbyl- iad ac yn galondi i i Gymru ? Dylent yn ddi- ameu, a chredwn mai dyna fydd yr effaith a gaiff y newyddion cysurus sydd yn ein cyrhaedd o wahanol ranau Lloegr ar feddwl pob etholydd Cymreig. Boed i ymddygiad rhagorol ethol- wyr Manohester a Salford, a dewrder gwyr Caerlleon, enyn cyffelyb benderfyniad yn myn- wesau meibion glewion y Dywysogaeth. Ym- laddwch yn deilwng o hil y Cymru fu, nes llwyr ddymchwel amddiffynfeydd Jingoydd- iaeth o ben Caergybi i ben Caerdydd.
[No title]
GWASGU OLUST A CHAU LLYQAID-—Yn wir y mae llawer o ddigrifwch i'w gael wrth sylwi ar lipineiddiwch y Toriaid a'u papyrau y dyddiau hyn. Gymaint oedd siomedig- aeth a natur ddtwg y Narih Wales ChrQnicle [aw/Sa'W diwei^i vjvft y f*tv. chwildroad a dinystr ar wersyll Toriaeth fel y barnodd yn oreu wasgu clust a chau Hygaid ar yr alanas. Nid oes oymaint ag awgrym yn ei holl golofnau am gwymp y Weinyddiaeth Unbenol! O'i ran ef gallasai ei ddarllenwyr galarus fod heb wybod eto fod tro ar fyd wedi cymeryd lie, a bod y wlad wedi penderfynu ysfifwyd Toriaeth ormesgar O ddiwrt h megya?ag yr ysgydwodd I .?o.t. r ?', aith wiber wenwynig oddiwrth ei law. Y mae yn bosibl fod amo ofn myned i drafod y llwyddiant Rhyddfrydig, I rhag ofn iddo fyned regi yn ngwydd ei holl ddarllenwyr oNeiriadol; ond hyn sydd 'yb aa 7 y? fua,n lwyddo i ga.el eraill i gydymuno ag ef 0 eigion calon.
[No title]
MR GLADSTONE AC ETliOLIADAU CYMRU. -Beth sydd a wnelo Gladstone a Chymru ? Cymaint a hyn, ddarllenydd. Y mae'r gwr a ddywedodd fod calon poor little Wales" yn curo yn bur o blaid rhyddid yn llawen hau fod meibion Gwalia yn ymegnio i daflu ymaith iau caethiwed. Er fod y cyn-brif- weinidog mewn ymdrechfa lawlaw a chawr Toriaidd, a hyny yn ei gaerfa ei hun, eto pan wybu Mr Gladstone fod bwrdeisdref AberhOnddu wedi dychwelyd Rhyddfrydwr, efe a bellebrodd yn ddiatreg at yr ymgeis- ydd llwyddiannus (Mr Cyril Flower) i'w lonervfarch ar ei fuddugoliaeth, ac ychwan- egai ei fod yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn etholiadau Cymru. Hyderwn na chaiff yr arwr Rhyddfrydol ei siomi yn ymddygiad etholwyr "Cymru fechan, dlawd," yn y dyddiau nesaf. Boed i deimlad calon Cymru gael ei ddangosyn ei gweithredoedd tuagat amddiffynwyr rhyddid yn yr ymdrechfa etholiadol bresenol.
[No title]
TORIAID BARA A CHAWS.— Y mae ar- goehon fod y rhai hyn yn cynyddu yn Arfon. Gwir nad ydyw cydnabod hyn yn un anrhydedd i'r sir, nac yn ddyrchafiad i'r genedl. Yn ffodus, md ydyw pla Toriaeth yn haentus ond mewn dwy ardal yn unig, ac hyd yma nid oes neb wedi teimlo dim oddiwrtho ond y man a'r mawr oruchwylwyr. ParM eorph y gweithwyr yn iach a hollol ddianaf. Yr oeddym wedi arfer eario meddwl uchel am stiwardiaid Chwareli Dinorwig a Bethesda; tybiem bob amser eu bod yn wrol a chydwybodol a dwfn eu hargyhoeddiad; ond ymddengys ddarfod i ni gamgymeryd nodwedd (charac- ter) y boneddigion. Gwir eu bod- yn Ymneillduwyr drwy rhyw anffawd; ond pe digwyddai i Mr Pennant a Mr Smith eu galw ynghyd a cheisio ganddynt arddel a phleidio Eglwysyddiaeth, diau na theimlent yr un anhawsder i gydymffurfio. Y mae'r boneddigion hyn wedi eu creu o ddefnydd- iau ystwyth; medrant newid lliw, a newid credo, a newid cyfeillion, bron fel y bydd yr amgylchiadau yn galw. Y mae arnom gywilydd clywed son am danynt. Medd llawer ohonynt sefyllfa hollol annibynol; arferant fod yn Ymneillduwyr selog ac yn Rhyddfrydwyr mewn proffes bob amser; ond pan archwyd hwy ar wastadedd Dura, plygasant oil, oddigerth ychydig eithriadau, o flaen y ddelw aur! Rhaid nad ydyw awyr swyddogaeth chwarelyddol yn fanteis- iol i fagu gwroniaid. Arferai pobl er's talm aberthu bywyd dros egwyddor, a chaed prawf fod Rhagluniaeth yn magu pobl eto parod i aberthu cartrefi clud mewn parthau o Gymru er mwyn argyhoeddiad eydwybod; ond rhy wan ydyw Toriaid bara a chawl, chwareli Dinorwig a Bethesda i ddatgan yn ngwynebau eu meistriaid fod ganddynt hwythau hefyd argyhoeddiadau dyfnion.
[No title]
PA FODD i BLESIO kmsT.R.-Dyna hyd a lied, dyfnder ac uchder, syniadau llawer o ddynion am y modd y dylent weithredu ar amgylchiadau gwladol o bwysigrwydd eth- oliad cyffredinol. Yn wir cymhellir ni gan onestrwydd i alw y gair dynion yn ol, canys nid dynion a wna beth fel hyn. Caethion y meistriaid ydyw y math yma o wrywaid, a cham i'r wladwriaeth, cam a hwy eu hun- ain, a cham dybryd &'r genedl yn gyffred- inol ydyw fod gan y bobl hyn bleidlais o gwbl. Y ffordd i blesio, yn y pen draw, pob meistr ag sydd yn meddu gronyn o ddynoliaeth, ydyw sefyll yn ddigryn dros. argyhoeddiad cydwybod. Pa fodd y gall meistriaid ymddiried na pharchu goruch- wylwyr y gwyddant hwy yn dda sydd yn ystwyth a hawdd eu prynu,-pobl sydd yn barod i wneyd pobpeth er mwyn cadw eu lie a boddloni gwyneb? Y mae genym sail i gredu fod perchenogion chwarelau Arfon yn chwerthin yn eu llewys, ac yn dirmygu yn eu calon y boneddigion Ym- neillduol ystwyth sydd â'u capiau yn eu dwylaw yn bowio a phlygu fel gwiail helyg o'u blaen, gan ddywedyd, "Dyma ni.yn barod i gyflawni eich archiad, beth bynag a fyddo."
CYFARFOD TORIAIDD YN BETHEL,,…
CYFARFOD TORIAIDD YN BETHEL,, CAERNARFON. GOLYGFEYDD GWARTHU8. Prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, talodd yr Anrhydeddus Douglas Pennant, yr ymgeisydd Ceidwadol am gynrychiolaeth air Gaernarfon, ym. weliad a Bethel, i'r dyben o draddodi ei syniadau politicaidd i'r etholwyr. Cyrhaeddodd i r gym- ydogaeth oddeutu haner awr wedi pump, a chaf- odd dderbyniad cynhes iawn. Chwareuwyd OflaeD y cerbyd gan Seindorf Bres Llaurug. Cynlialiwyd y cyfarfod yn Ysgoldy- y Bwrdd, yr hwn oedd wedi ei addurno mewn modd deatlBS ar gyfer yr achl, sur. Ar y muriau gwelsom yr.arwyddeiriau —" Parch i'r hwn y mae parch yn ddyledua, Pennant am byth, Mr oes i deulu'r Pen- rhyn," &c. Yr oedd yr adeilad yn orlawn, a rhoddwyd cheert gwresog i Mr Douglas, Pennant a'i brif gefnogwyr. Oymerwyd ygadair gan Mr.Assheton Smith, ac yn mysg y gwyddfodolion gwelsom Capt. Wynn Griffith, Llanfair Hall; Capt. Stewart, Bryntirion; 001. Wyatt, y Parchn H. Parry, Llanfairisgaer; Morris Roberta, Bethel; Jones, JPorthdinorwig; Oapt. Kinsey Hayward, Meistri J. K, Hayward, Pen-y-bryn, Caernarfon ?.. Thomas, eto; Richard Thomas, Church-street, eto; Trevor Hughes, Coed Helen; R. R. Williams, Bank Quay, Caernarfon; O. Morris, adeiladydd eto; H. Jones, Seiont Marble Works; W; G. Owen, Enamel Works; J. Fraser, Twthill; J. Thomas, Erw Fawr, Llanddeiniolen; W. Williams, Tyddyn Andrew; G. Jones (Glan Menai) Charles Evans, Bethel; Capt. Jeffrey, Caernarfon; R. Newton, llech-fasnachydd, eto; Morgans, o'r Coleg Athrawol Eglwysig, Caemarfon, &c. Rhoddwyd banllefau uchel o gymeradwyaeth i Mr Aseheton Smith pan gyfododd i anerch y dyrfa yn rhinwedd ei swydd fel eadeirydd. Sylwodd fod yn bleser mawr ganddo lywyddu ar yr achlysur, yn enwedig oherwydd i ddau weithiwr erfyn arno wneyd hyny (cymeradwyaetfy). Yr oedd hyn jn peri iddo obeithio ei fod yn cael ei amgylchu gan gyfeillion yn yr "achos da," ac nad oeddynt yn edrych arno ef a Mr Pennant fel en gelynion gwaethaf ("Nac ydym," a chwerthin). Cwynid yn ami fod Mr Pennant yn absenol o'r sir; ond os oedd y boneddwr hwnw ac ereill i fod yn ddaros- tyngedig i'r driniaeth waradwyddus a gawsant yn Llandinorwig, goreu po leiaf y byddent yn aros yn y sir. Cyfeiriodd at y llythyr a ddygwyd i sylw y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llandinorwig, a haerodd ddaTfod iddo ef gadw at yr addewid a wnaethai gyda ffyddlondeb manwl. Gwnaeth yr ochr arall lawer o st*r yn nghylch y llythyr hwn, ond trodd y cyfan yn fethiant. Ddydd Mawrth, byddai i etholwyr y sir gael eu galw yn mlaen i benderfynu rhwng Mr Pennant a dyeithrddyn. Os byddai rhyw symudiad ar droed yn y wlad, at bwy yr edrychent am gefnogaeth P Dyna deulu'r Penrhyn wedi tanysgrifio 120p at yr yr Eisteddfod Genedlaethol (cymeradwvaeth). Yr oedd Mr Watkin Williams, trwy ddyfod i ymgeisio am gynrychiolaeth sir Gaernarfon, wedi tynu yn ol oddiwrth bob achos yn sir Ddinbych. Clywodd son y gallent o dan y tugel wneyd fel y mynent- addaw eu pleidlais i Mr Pennant a fotio i Mr Watkin Williams, Yr oedd gweithred felly yn dra dianrhydeddua. Yr oedd yn debyg iawn i, rywun yn trywanu dyn yn ei gefn yn y tywyllwch, (cymeradwyaeth). Y nesaf i anerch y cyfarfod ydoedd Mr Douglas Pennant, a chafodd dderbyniad cynhes. Yu ys- tod ei anerchiad, dywedodd ei fod yn cael ei gy- huddo o anallu i draethu ei farn, ae ei fod he?'d yn "fudan diddim." Bu ef yn ymdrin a physw- iau gwleidyddol, ac yr oedd yn awr yu oarod i ateb unrhyw gwestiwn a ofynid. Mewn lliwar o fanau ya y wlad, yr oedd y cwestiwn a ofynid i etholwyr Arfon ei benderfynu, wedi cael ei setlo, a hyny mewn. ffordd a barodd ayndod i'r Ceidwad. wyr. Byddai i'r etholfeydd hyny a ddyohwelas- ant ymgeiswyr Rhyddfrydig weled yn tiviu y camgymeriad mawr a wnaethent. Y 1, Stotk Ex- change" ydtoedd yr hin-fesuryddtrwy ba ua y gallent wsled ar unwaith pa beth ydoedd effaith y cyfnewidiad politicaidd mewn gwledydd tramor. Parodd i'r oyfnewidiad yn y teimlad pcliticaidd yn Lloegr, i'r "Stock Exchange" fyned i lawr. Credidyny gwledydd tramor fod Mr Gladstone yn ddyn peryglus; ni wyddys pe, mor eithafol y ga]3{ii fyned; a dyna paham, nid oedd ganddynt ymddiried ynddo. Yn cyfeirio at y Balot. dywed- odd Mr Pennant ddarfod i'r Balot,yn. 1874 wneyd cymwynas iddo ef, ac yr oedd yn,, parhau i gredu yu ei efteithiolrwydd ilw ddychwelyd i'r Simedd YlJo yr etholiad presenol. Hoffio y Balot gan y iGteidwadwyi. Nid oedd ef yn credu y b,ddai i jneb a addawodd roddi ei fot iddo beidio gwneyd I hyny. Yn un o'i anerchiadau, awgrymodd Mr Watkin Williams fod i'r etholwyr fyned i'r pol yn ngherbydau Mr Pennant, a phleidteisio iddo ef (Mr. Watkin Williams), itj buasai y Ceidwadwyr yn rhoddi y fath gynghot-i-neb a diau mai yn fyrbwyll y dywedwyd hyny gan Mr Williams. Dymunai ef (Ur Penwa) amddiffyn ei hun yn ngwyneb y cyhuddiadau, a.ddygwyd yn ei erbyn. Ni wyddai efe a oedd y. Parch Mr Griffith, Bethel, yn y cyfarfod. Os Gtjdd, byddai yn ddiolchgax. iawn iddo am eglujhad ar rywbeth a ddywedwyd ganddo mewn cjf&ifad a gynhaliwyd yn Llanrug. Meddai adrodcuatti o, araein mi wiuum, .« hwn, yn mwith, pethau anarferol ereiA a ddywedodd fod.ar hyn o bryd yn nhlotty Caeinar foilfacbgen ft^i^difftdwith eifaglau, yrhwnaddyg. wyd yno mewn, canlyuiad i'w beohod (" .niit.!I ") ef-Mt Peunant-yn 1868 1" Cywilydd If), Nis gauaiddimao pa,betb a olygai y gwr rwebedig hwnw; apywir, ni wyddai ddim mwy yn ei gylch na'r, dyn. y» y lieuad. Nid oedd m gair o wirionadd yn yr baeriad (cymeradwyaeth). Dygid cyhuddiadau qreill yn ei erbyn ef a 1 dad, Dywedid fod -Arglwydd Penrhyn wedi andwyo mSn fferm- wyr LUndegf ai ao ei lod wedi anfo* Ilawer tad a nim an-wyl i fadd cyn-amseroll Uywilydd.") BeSi ar wyneb y ddaear a olygid trwy y fath haeriad p. Os gwnaeth rhywun. erioed lea 1 bobl -h  ric ?( Handegai, Arglwydd fenrnyn yaoeau IlWIlW I (olywch, olyweh). Wedi hyny, aeth y boneddwr anrhydeddus yn mlaen i ganmol Arglwydd Beaton sfield, ac i wrthhrofi yr haeriad mai Iuddew ydoedd y pendeag hWDW. Dywedodd el fod yn ymddiried yn llwyr yn etholwyr sir Gaer- uarfon, a chwbl-gred byddai iddynt ei ddych- 1'- ¡;¡"n"iIiI arben v noil (" Gwnawn" a lWUA" A A chymeradwyaeth) v Rhoddodd rhywun amrywo gwestiynau iddo, tin ydoedd "A fydd i Mr Pennant fotio, o blaid diddymu Cyfreithiau Relwriaeth i'" Na fyddai. Credai y dylid cymeryd Vea pob dosbarth i ystyriaeth. Os diddymvd Cyfreithiau Helwiiaeth, Ra fodd y gallai {jpoafrrs fyw? ? byddtt ei gael (chwerthin mawr). Gyda golwg ar yr ail r gwestiwn, dywedodd ei fod yn barod i bleidleisio o blaid cael grmt gan y Llywodraeth tuagat addysg awchraddol: ond pwnc i'w benderfynu eto oedd a un a renid yr Brian rhwng yr 011 o'r Colegan gymreig ai peidio. Terfynodd Mr Pennmt ei araeth trwy gyfeirio at Mr Watkin. Williams fel dyn dyeithr yn y sir, ac addaw, es dychwelid ef i'r Senedd, wasanaethu yr etholwyr yn Ifyddlawn. Tra yr oedd Mr Thomas Edwards, Glan Bala, yti ceisio rhoddi crynodeb yn Gymraeg o araeth Mr Pennant, daeth y Parch R. Griffith, Bethel, i'r ysgoldy, a pharodd ei ymddangosiad gyffro anarferol yn mysg cefnogwyr y naill ochr a'r UaU. Neidiodd y gwr parchedig ar ben cadair neu faine, a rnoaawya cneert calonog iddo gan. y blaid Ryddfrydol. Wedi i'r cyffro beidio tipyn. gofynodd Mr Assheton Smith; A fydd i Mr; Griffith cystal a dyfod ar y platform P Y Parch Mr Griffith: Na, diolch; gwnaf y tro yma (cyffro mawr a Lawr a fo.") Adroddodd Mr Pennant y sylw a wnaeth yn ystod ei araeth, a gofynodd am eglurhad. Dechreuodd MrGriJIlth siarad yn Gymraeg, ond gwrthwynebwyd ef gan Mr Pennant, yr hwn a ddywedodd y dyla-ai roddi eglurhad yn Saesoneg. Yu Bghanol cyffro mawr, gwaeddodd rhywun iddo glywed Mr Griffith yn gwneyd yr haeriad yn Llanrug, a dechreuwyd bloeddio "Watkin Williams for ever." Safodd Mr Griffith yn nghanol y gynulleidfa gyffrous heb yngan gair. a gwaeddodd Mr Richard Thomas, Caernarfon, "Y mae arno gywilydd, ac nis gall ateb yr haeriad. Iloe's, oes," a "Nae oes" oedd y bloeddiadan cymysg a ddilynodd. Ceisiodd Edward Foulkee, un o stiwardiaid Chwarel Dinorwig, ddyweyd gair oddiar y llwyfan; ond yr oedd y dadwrdd gy- maint fel y barnodd mai doe th a oh oeddtewi. Gwaeddodd Mr Griffith am drefn, a dywedodd nad oedd efe yn gweled paham y dylesid "codi row" 0 gwbl. Pa'm na newch chi ateb y cwes- tiwn, ynte," gwaeddai rhywun; a pharodd hyny i'r cyffro fyned yn fwy-fwy. Dywedodd Mr Griffith ei fod yn deall mai cyfarfod Cymraeg oedd y cyfarfod, ac am hyny yr oedd ganddo hawl • i siarad yn Gymraeg. "Heblaw hyny," meddai, "yn Gymraeg y siaredais yn Llanrug." Sylwodd Mr Assheton Smith fod cyhuddiad difiifol wedi cael ei ddwyn yn erbyn Mr Pennant, I, yr hwn nid oedd yn deall Cymraeg.. Atebodd Mr Griffith y dylasai Mr Pennant fod yn deall Cymraeg os oedd yn ceisio cael cynryche ioli etholwyr Cymreig yn y Senedd. (" Hwre," a Sefwch at y pwnc," a chynhwrf mawr). Mr Pennant: Yr unig bethyr wytyn ei ddy- muno ydyw fod i Mr Griffith roddi eglurhad syml "Pennant for ever," a "Watkin for ever," a ehyabwrf). it Mr Griffith; Mi a roddaf eglurhad, oscaf lonydd. Paham na fyddwch chwi yn ddystaw ar y platSorm yna. Oni ddylasem gael cyfarfod hapusyma, foneddigion? (chwerthin a chynhwrf). Gwaeddodd rhywun: Yr oeddem yn hapus cyn i chwi ddyfod yma. Mr Griffith: Bydd i mi siarad yn Gymraeg ar y pwnc. (" Hw, hw," a "Hwre," gyda "Paid • ag edraeh ffordd yna; edrych ar y platform.)" Mr Pennant: Yr ydych wadi dWYIl cyhuddiad difrifol yn fy erbyn i; a fydd i chwi roddi eglur- had syml (clywch, clywch). Mr Griffith: Gwoaf. Mr Pennant: Dowch fa nes at y platform er mwyn i ni glywed, a siaradwch yn haesueg. Mr Griffith: Yr wyf yn llawn ddigon agos, a mi a roddaf i chwi eglurhad ( Pabam, na wnewch chwi, ynte, ar unwaith," a chynhwrf). Erbyn hyn, yr oedd y cynhwrf wedi cynyddu i'r fath raddau fel y bamodd Sergt Jones,. yr hwn a ddaeth o Gaernarfon, yn ddoeth i symud o'r drws at Mr Griffith, as i gadw rhywfaint o drefn yn mysg y ddwy blaid. Torwyd amryw o ffenestri, ac yn nghwr pellaf yr ystafell disgynodd mainc ar ba un y safai nifer o bereonau, a gwnaed, hi bron yn yfflon. Apeliodd Mr Assheton Smith am chwareu teg i Mr Pennant a Mr Griffith, ac erfyniodd yr olg hefyd am heddweh; ond yr oedd y cyfan ym ofer.. Cwympodd mainc arall, a hyrddiwyd ? ofer. ugain o bersonau yn bendramwnwgl i'r RawiZ ya nghanol yrysgrechiadau mwyaf bvddarol. Owaeddodd Mr Griffith ei fod yn barod i roddi eglurhad, a Ilwyddodd ychydig o rai pedd yn nghymydogaeth y llwyfan i'w glywed ef yn dyweyd ddarfod i weithiwr gael ei droi o Chwarel y Penrhyn am fotio dros Mr Jones-Parry yn 1868 -i'r chwarelwr -hwnw a'i wraig farw—ac i'w plentyn, bachgen wrth ei faglau, gael ei foni Diotty Caernarfon mewn canlyniad. Dyna oedd yr haeriad a wnaeth efe yn Llanrug, ac yr oedd yn barod i sefyll wrtko (eynhwrf ofnadwy a'r gynulleidfa yn llefain" Hwre i Mr Grimt.h,"yn nehvda Rwaeddiadau "Celwydd noetb, gan y Toriaid cynhyrfus oedd ar y llwyfan). Mr Pennant Yr wyf yn rhoddi her, i chwj brofi hyny (cymeradwyaeth a chyffro). Mr Griffith: Do, fe dorwyd calon y tad a'r fam. ("Naddo," Do," ac "Allan a fo"). Ail-adroddodd Hr Pennant yr haeriad a.wnae,th Mr Griffith yn LIanrug, a gofynodd am well., eglurhad, ond yr oedd y cyffro yn boddi Uais pawb. Gofynodd Mr Williams, ysgolfeistr, Porth-. dinorwig, am ganiatad i siarad, ac erfyniodd., arnynt roddi gwrandawiad i Mr Griffith yn Gymraeg am ei fod yn well Cymro na Salo, so, am mai Cymry ydoedd y mwyafrif o'r sawl oedd- ynt yn bresenol. Sylwodd Mr Pennant nad oedd a wnelo'r gyn- ulleidfa ddim o gwbl i'r pwnc, ac mai mater per- sonol rhyngddo ef a Mr Griffith, ydoedd yr un o dan sylw. Yr oedd Mr Griffith yn ddigon hyddysg yn yr iaith Saesneg i roddi eglurhad ynddi. Felly nid oedd am ganiatau iddo siarad yn Gymraeg. Mr Assheton Smith: Pe nas gallai slaradi Saesneg, buasem yn gwrando arno yn rhoddi eglurhad yn Gymraeg. Bloeddiodd rhai yn y dyrfa Allan a ni a ghanwyd cloch yr ysgol. Ceisiodd rhyw fasnachwr 0 Borthdinorwig siarad* ond dywedwyd wrtho am gau ei hoprftn.' I Apeliodd Mr Assheton Smith unwaith yn rhagor am heddweh, a dywedodd fod rhai wedi bwriada anerch y cyfarfod yn Gymraeg. A oeddfnt- hwy yn barod i wrando araeth Gymraeg ? (" Ydym"). Daeth Mr Griffith Jones (Glanmenai) yn mlaea; ond yr oedd yn amlwg nad oedd ei syniadau. ar bynciau politicaidd yn eymeryd." Tqtfpnodd ei araeth trwy gynghori y dyrfa i beidio eymeryd eu harwain gan unrhyw ddyn am ei fod yn bregethwr. Achosodd y sylw hwn i rywrai yn y pon draw floeddio Na chan berson ychwaith." Gwnaeth Mr Pennant yehydig aylwadau yn yatod pa rai y* dywedodd ei fod erbyn, hyny yn berffaith foddlawn i glywed Mr Griffit|i yn rhoddi ei eglurhad yn Gymraeg. Dechreuodd Mr Griffith siarad yn Gymraeg, ond mor fuan ag y darfu i Mr Richard Thomas wneyd ymgais at gyfleithu y sylwadau, dywedwyd wrtho am dÐwi, ac aduewyddwyd v cynhwrf. Gwaeddodd rhywun y gallesia cyfieithu yn y diwedd. Mr Morgans, Coleg Egl?g. Ca?tmrfon: GyfeiDioa, iho'wch chwarea teg (" Cau dy geg," a chynhwrfj. Sylwodd Mr Assheton Smith ei fod 111 synu na roddid chwareu teg, a chonclemniodd ymddygiad y cynhyrfwyr. Mr Williams, Po»thd:'norwig: Yn. y diwedd y caf odd, araetb Mr Pennaut- ei chefieithu (" Taw, taw," a chynhwrf) Augrymorld Mr .Ass^aton Smith mai gwell oedd tori 7. cyfarfod i fyny, ac felly y swnae d wedi i bl jidUie o ddiolchgarwch gael ei ihixldi 1 r Cad- elzj.ri". —
I ftgttignm at g "" LJJ Yl11u)Jr.
I ftgttignm at g LJJ Yl11u)Jr. I 1 YR EXSXKODFOU CrENEDL?HruOL. CAER- Ie NAliFON-URDDA-U WOUSKDD. 1 Mu> GOL.A wnewch chwi ?.unatau i mi 1gyfeir,o,a.iirneu dau at y beirHd a'r cerddorion ?'y ? dd \.edt danfon at?f i ywholi pMth Urddau .rOrMdd. Ytoeddynmwn.dyPwyUgoti wneyd prawt.ejeni ar gyiiUun (i ryw raddau) newydd i ddwyn yn mlaeu arholiadau yr Orsedd. Bu y cynllun dau ystyriaeth amr- w o'r prif feirdd. a derliyniodd eu cefnogaeth. Erbyn hyny daeth y newydd am ddadgorphoriad y Senedd ar ein gwarthaf, ap yn natuiiol trodd meddyliau pawb at bethau gwleidyddol. Yu mhen yr wythuos neu ddwy bydd y twrw etholiadol heibio, ac yua dych- welir at faterion llai oyffrou&—, 111 nid llai dydd- orol-yr Eisteddiod. Pan beuderf >110 y pwyllgor ar faes yr arholiadau, a maiiylion or ill cysylltiedig a'r Orsedd, bysbysir hyny yn ddioed. Yn y cyfamser, anogwn y beirdd a'r teuldoriou i dalu sylw i'r testynau cystadleuol a reir ar y restr. 51ae yr hoU drefniadau yn mh.ll yn mlaen, a nyaerwn—weai yr elo yr etnoiiaa tieibio-y ceir cynorthwy holl feirdd, cantoriou, a llenorion y Dywysogaeth i wneyd Eisteddfod Genedlaethol 18S0 yr ardderchocaf a gynhaliwyd erioed.- I Ydwvf. &c., [ Grove House, Caernarfon. 1:s. ysg.
[No title]
Y FKDDYGBS ENWOG YN BIHKKNKBAD.—Y SUM y feddyginiaeth ryfedd gyda'r hon y gwellhawyd miloedd oddiwrth y crydcymalau, poen yn y cam, y ddanodd, y wem, y clyw, g-.vaew, archolhon a briwiau, &c., i'w chael gan. J. Hughes, ohemist, Bethesda, am 28 y botel; drwy y post 2s 30.- gyda chyfarwyddyd pa ffedd i'w defnyddio.
PWY GAIFF EIN LLYIVODR-, AETHU…
nnd edrych i Hansard's Parkam entaryReporU- j 221, col. 1353, fel hyn y dywedodd Ar- Svdd Salisbury am Arglwy dd Beaconsfield n Nhy y Cyffredin y Vr wyf yn hollol amheus o'u (Toriaid) gallu i Nrwyno eu berweinydd gwiblog-bydd ganddo iaitll 0-i eiddo ei hunan yr hon a all ddyfynu i ° «.fnogi P» wladlywiaeth bynag y tueddir ef i'w abwysiadu; canys y mae yn rhan- oll fedr ilwleidyddol i fod yn alhiog i gyfeirio at ymad- ddiou o'i eiddo ei hun yn ffafr unrhyw gwrs barno ef yn oreu i'w gymeryd. Sibryda wrth tnPddilriou anrhydeddiia, 'Pleidletstweh droswyf a yr wyf S addyegu fy mhlaid a'r foment y wblheir y gorchwyl, eyflawnir eich holl ddymun- dtlu Nid wyf yn eymeryd aruaf ragfynegi cwrs tebygol y boneddwr gwir anrhydeddus wrth fvwv Llywodraeth. Byddai mor hawdd genyf iLeymeryd a mynegi i chwi pa ffordd y pwyntia y wiliog-gwynt yfory. Gofod a balla i ni ddwyn yn mlaen ychwaneg 0 dystiolaethau o eiddo blaenor- faid Toriaeth, fel condemniad o Lywodraeth jkrglwydd Beaconsfield. Gwasanaethed y dyfyniadau crybwylledig, ar hyn o bryd, i ddangos gyda pha atgasrwydd y teimlir at, a pha syniadau a goleddir am, Arglwydd Beaconsfield, hyd yn nod gan ei ffyddlon (ond dall) ganlynwyr ef ei hunan. Yn nyneb yr ystyriaethau uchod, yn mhlith ereill lawn mor gryf a jillesid argymhell yn inhellach, credwn nad yw yn bosibl i un- rhyw ddyn goleubwyll ac ystyriol betruso am eiliad pa un a ddylai Arglwydd Beacons- field gael ein llywodraethu, na phetruso chwaith arfer ei holl allu a'i ddylanwad yn erbyn iddo gael ein llywodraethu k' i wialen haiarnaidd ddim mwy!