Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

DYIIUDDIANT I LLYWELYN TWROG…

TRI ENGL YN

[No title]

- - - - - - -GOHEBIAETH.

TRAETHAWD

ICHWARELAU DINORWIG.

IMANTEISION YAINEILLDUWYR…

DECHREUAD ENWAU SEISNIG.

News
Cite
Share

DECHREUAD ENWAU SEISNIG. (Allan o waith y Parch. Joseph Harris (Gamer). Mr. GOL.Ceftis ddifyrwch mawr wrth ddarllen y traethawd eanlynol o eiddo yr anfarwol J. Harris, ac ewyllysiafi ddarllenwyr yr Amserau gael yr un peth, gan hyderu y gallweh heb droseddu rheol. na tiiramgwyddo person, roddi rhyw gonglo'ch newydd- iadur defnyddiol, iddo gael yrndJangns. Ydwyf yr eiddoch. Shop y Fjwrnais. W. Pn. Ymddengys fod dechreuad enwau yn bwngc ac sydd hyd yma gwedi bod yn cael ei drin mewn modd lied arwynebol; pa fodd bynag y mae lie i gasglu oddiwrth lawer o grfenwan Seisnig pa beth oedd galwadau y cyntaf o'r teuluoedd ag ydyut yn myned wrth y cyfryw enwau, ynghyd ag- hynodrwydd eu personau, eu cymhwvsderau a'u diffygiadau, argradd o gyfrifoldeb yn yr hwn yr ystyrid hwy gan eu cymy dogion, ac y mae damweiniau a hynodion a ddig- wyddasant i bersonau neillduol yn cael eu gosod allan yn eu cyfenwau. Tebyg ddigon fod y rhai a ddeilliant oddiwrth ddarluniad personol yn henach o lawer na'r rhai a darddasant oddiwrth alwadau a chrefFtau, oherwydd nad oedd erefl'tau yn cael eu harferyd yn gyson a rheolaidd gan ddynion neillduol hyd nes oedd y gwladydd wedi ymestyn cryn lawer at wareiddiad; o herwydd cyn hyny, yr oedd pob saer, saer meini, teiliwr a chrydd yn gwneuthur ei offer, ei ddillad, a'i aneddle ei bun. Ond yr oedd yn ofynol i wahaniaethu un dyn oddiwrth y llall oddiar yr amseroedd cynaraf, yr hyn na allesid ei wneutbur trwy nodi allan ansawdd personol neu drig- fanau neillduol: gwelwyd na fuasai loan ah loan, neu Thomas fab Siencyn yn ddigon o wahaniaeth, o herwydd gallasai ychwaneg o'r cyfryw enw breswylio yn yr un ardal. Ond ni allasai yr enw John Crookshanks fab loan berthynu i un namyn i ddyn clun gam, ac yn y modd hyn tynodd Mr. Lightfoot, Mr. Go-lightlv, Mr. Swift, 1 Mr. Hopper, Mr. Jumper, eu henwau oddiwrth fyw iogrwydd a buandra corfforol, y rhai a alwyd gyntaf wrth y fath enwau o'r tu arall, derbyniodd Mr. Heavisides, Mr. Lounter, Mr. Outlaw, a Mr. Waddle eu henwau oddiwrth gynheddfau gwrtliwvnebol. Ae y mae Mr. Pain, Mr. Akinhead, Mr. Akinside, Mr. Anguish a Mr. Headache yn ddyledus am eu henwau i'r poen a'r gwaew a deimlodd eu henafiaid yn eu penau, eu hochrau, &c., tra y mae Mr. Wild, Mr. Sanguine, Mr. Joy, Mr. Merry, a Mr. Merryman yn lwyth o bechaduriaid digrif, anystyriol, ac hapus,lyn yr hen amseroedd. Ymddengys fod enwau llawer o deuluoedd cyfrifol we li tarddu oddiwrth blant a gaf- wyd yn ddiarddel a thebyg ddigon fod eu henwau yn dynodi y lie y cafwyd hwv, yr wyf yn barnu fod henafiaid Mr. Townsend, Mr. Lane, Mr. Street, Mr. Churchyard, Mr. Court. Mr. Stair, Mr. Barn, Mr. Stable, Mr. Orchard a Mr. Chamber wedi eu cael heb neb yn eu harddel, yn mhen tref, heolau, myn- went, cyntedd, grisiau, ysgubor, marchdy, perllan ac ystafell. Gwell peidio olrhain achau Mr, Highway man, rhag ofn cyfraith, ond geliir anturio yn ddi berygl i ddywedyd fod Mr. Gentleman wedi hanu o dylwyth boneddigaidd. Dynodir genedigaeth a sefyllfaoedd rhieni llawer o fastardiaid wrth eu cyfenwau, fel hvn galwyd Mri. Misson, Goodyson, Mollyson, Anson, Jennison, Betti- son, a Nelson wrth enwau eu mbamau, yn galw am ddirgelu enwau eu tadau. Eglur yw mai meibion Miss a Goody oedd y ddau gyntaf, ac felly o uwch gradd na meibion Molly, Ann, Jermy, Betty a Nel, y rhai oeddynt ysgatfydd yn llaw-forwynion mewn gwasanaeth isel. Gellir gweled yr un gwahaniaeth mewn eawau bastardiaid, tadau y rhai oeddynt adnabyddus, er engraifFt mae Mri. Masterson a Stewardson yn dv- nodi meibion y meistr a'r goruchwyliwr tra y mae Jackson, Tomson, Harrison a Wilson yn arwyddo meibion gweision cyflog neu ddynion o iselradd, Shoni, Twm, Wil a Harri. Cyfododd cyfenwau ereill ysgatfydd oddiwrth y lleoedd y ganwyd neu v trigai eu henafiaid, neu am- gylehiadau ereill, ganwyd Mr. Seaborn ar 'v mor; yr oedd Mr. Perry yn byw mewn cvmydogaeth lie yr oeddid yn gwneuthur cider; parthau gugleddol vr ynys oedd trigle Mr. North, tra yr oedd Mr. South yn preswvlio yn y deheu, ac felly Mr. West a Mr. East yn y Gorllewin a'r Dwyrain. Yr oedd Mr. Ryland yn byw wrth gynyrch tir rhyg, tra yr oedd 3Ir Oat- land yn ymfoddloni ar ffrwyth ceirchdir. Dyn an- serchus iawn oedd Mr. Loveless, ac i'r gwrthwvneb un tra charuaidd a hynaws oedd Mr. Lovely. Nid oedd cyndad y Page cyfoethocaf yn ein gwlad, ond gwesyn i ryw bendefitr, ac hiliogaeth seiri, seiri meini, teilwria;d, gofiaid, garddwyr, a llieinwyr, yw v honedd\gion_,penaf ag ydynt yn mynea wrtj/y*' enwaa Carpen ter, Mason, Taylor, Smith, Gardener, Draper. Ni welais i ond un gwr bonheddig erioed yr hwn oedd YI trigo yn ddiweddar (os nid yn awr) ar gvffiniau Sir Fllint a Swydd Ddinhvch, yn myned with yr enw Catharel (eythraul); ond nis gaUafddv- feisio pa fodd y cafodd y fath enw ddechreuad, oddi- gerth i ryw Sais glywed Cymro yn tyugu ae itoffi o hono enw yr ysbryd drwg Cymreig, ac felly ei fitb wysiadu iddo ei hun a'i hiliogaeth. Hawdd gwybod mai gwr tlawd druan oedd y Pennyless cyntaf, ac mai dyn prydweddol oedd v Prettyman henaf, ond y mae tadogaeth tviwytn y pysgod, megis Mii. Fish, Salmon, Trout, Nay, Hin ny a Cod yn maeddu fv nychymyg yn bresenol. Ni raid wrth lawer o fedrusrwydd i wvbod fod yr hen Mr. Goodenough yn wr digon da yn ei fryd ei hun, neu ynghyfrif ei gymydogion, a bod cyndad Mr. Proud yn hen langc balch ac uchelfrydig; ond o ba le y daeth y genfaint foch ganlynol a'u perlhynasau megis Mr. Swine, Mr. Hog?, Mr. Bacon, Mr. (ram. mon, nis gwn i; aualwg ddigon yw fod y Mr. Little cyntaf yn wr byclian o gorffolaeth, tra yr oedd ei gvmydog Mr. Bigg yn meddu ar gorff mawr, a Mr. Black yn ddyn o hw tywyll, Mr. White yn dra gwvn ei wynebpryd, Mr. Brov^n o liw gwinen, a Mr. Scar- let a'i wvneb yn goch tanbaid; ond attolwg oddiwrth ba beth v tarddodd Mr. Winterbottom,a Mr. Shuffle- bottom fpeidiwch chwerthin). Lied tebyg fod yr fr. fley,uard Nln hen Mr. Fox yn dra chyfrwys, a Mr. Reynard yn feddianol ar yr un cynheddfau yr hen Mr. Wolfe ysgatfydd oedd leidr ac ysglyfaethydd defaid; a thad yr holl feistriaid Lions yn wr eofn a diarswyd ond o ddiffvg gwybod y perygl a syrthio i lawer pydew, af heibio i Mr. Ritt; ac am na fedraf wybod dyfnder yr afonydd a'r cornantvdd Seisnig, af heibio i'r Rivers a'r Brooks; ac oblegid nad wyf ond gwan mewn tymhestl, ni wnaf wynebu ar Mr. Tempest ar hyn o bryd; ac o herwydd fy mod yn ystyried os annerbyniol gan eich darllenwyr drin ychydig ar destun o fath hwn, fy mod wedi ysgrifenu gormod eisioes, ac os derbyniol yw, dylwn roddi lie i ereill i ddarlunio yr hyn sydd yn ol; gan hyny terfynaf— byddwch wych."

ATEB I OFYNIAD "UN 0 FEIBION…

GAIR AT MR. CANTOR Y "CYMRO"…

Y DDAEAR YN SYMUD.

YMDDVGIAD YR AWSTRIAID TUAG…

[No title]

FY NGHYFAILL A GOLLAIS. I