Hide Articles List

28 articles on this Page

TO ADVERTISERS. I

Y SENEDD, &C.I

News
Cite
Share

Y SENEDD, &C. I DnIA y Senedd wedi agor; araeth y Frenbines ar yr achlysur ger bron y wIad, Y peth niawr (?) y disgwylid cymaint am dano wedi gwneyd ei ym- ddangosiad a mawr yw y siarad am dano y dydd- iau hyn, a mawr ydyw y somedigaeth a gafodd llawer ynddo. Yr hen stori drosoda drachefn bron yn hollol, ond bod dosran mewn cyfeiriad at yr ymyriud Pabawl yn beth newydd ynddi. Cyfeii-ir gyda boddhad ymddangosiadol at agwedd liecid- ychol bresenol Ewrop. Y mae ar ryw olwg yn beddychol heb ryfel a thywallt gwaed; ond nid oes dim yn agwedd bresenol y Cyfandir y gellir edrych arno yn y teimlad a ddatgana yr araeth. Ymdden gus Rwssia ac Awstria yn llawn becderfynol i fatbru a llwyr ddileu p&b rhithyn o ryddid a gaff- ontyn mysg pob cenedl a gwladwriaeth yn Ewrop. Tynheir rhwymau trais a gorraes yn mhob man. Y mae y carcharau bron ymhollti gan fel y maent wedi eu tynlenwi a charedigion rhyddid ag iawn- deran dyn. Gruddfana y bobl yn mhob man fel Israel gynt dan orthrymderau Pharao, a disgvvyl- iant bob dydd am adeg eto i ddryllio ieuau y gorthrymydd. Y mae Ewrop mewn heddwcb yn wir, ond heddweh a thawelwch o flaen storm ofnadwy ydyw, yr hon ni all fod yn hir iawn CYll y bydd iddi dori allan yn ddengwaith mwy llidiog efallai, na hono yn 1848, dyna rnewu gwirionedd yw cyflwr Ewrop, eto gallai gweinidogion ei Mawr- hydi roddi y fath ymadroddion yn ei genau wrth gyfeirio ato yn agoriad y Senedd. Ni sonir cymaint ag un gair am ddiwygiad Seneddol, am ostyngiad trethi, nag am uu mesur o bwys neillduol i'r wlad i gael ei ddwyn yn mlaen yn y tymhor hwn, oddigerth rhyw ddiwygiadau yn y llysoedd cyficithiol. Mewn gair araeth holl ol diawd ydyw, fel yr arfera fod yn wastad; ond eithaf priodol, y mae lie cryf i ofni, fel rhagymadr- odd i'r hyn sydd i ganlyn. Bydd y tymor yn bregeth o'r un natur ag ansawdd a'i thestun, y mae yn llwyr debygol. A llawer o'i ddechreuad heibio mewn ymdrafodaeth ag achos y Pab a'i Greadur Newydd, yr Eglwyslywiaeth babaidd, y peth y buasai liwyrach yn llawer doethach peid- io gwneyd sylw yn y byd o hono gan adael Ilon- ydd i hen idiot Rhufain i chwareu ei ffol brauciau heb i'r llywodraeth, o leiaf, gymeryd arni ei weled canys nid oes ganddo fawr iawn o amser druan, cyn y bydd wedi darfod am dano byth. Y mae holl wladwriaethau Itali y mynud hwn yn bydøw, diwaelod o ddygasedd tuag ato a Mazzini, Gari- baldi, a'r Tad Gavazzi, ac eraiil, yn brysur ar waith yn parotoi at agoryd genau y pydew hwnw,i'w lyncu ef a'i orsedd a'ilys i'wgrombil. Ymae yrhen greadur fel yn gydwybodol o hyn; y mae trwst pob deilen yn ysgwyd, yn peri iddo yntau ysgwyd gan ddychryn. Y cyfnewidiad lleiaf yn llywodraeth Firainc yn dychrynu y naill gardinal ar ol y Hall i gymeryd y goes o Rufain, ac yn peri iddo yntau ddymuno am loches mewn rhyw hen fonaciilog i guddio ei goryn euog rhag y dymhestl. Wrth edrych ar y petbau byn, y mae rhywbeth yn ffol yn yrnddangos yn y cyffro diweddar yn nghylch ei da-w, yn y wlad hon; acyn ngwaith y llywodraeth yu ymyraetb dim a'i fater. Ond wrth edrych ar y cyffro hwnw fel amlygiad o deimlad Protestanaidd y wlad, y mae o werth, ac yn arwydd dda; yn neillduol er arddangos i wledydd Pabaidd Ewrop fel y mae y wlad fwyaf goleuedig, a mwyaf ei hawdurdod, ei llwyddiant a'i dylanwad dan haul, yn fficiddio pabyddiaeth fel ei gelyn gwaethaf; ac er calouogi yr Italiaid a'r Rhufeiniaid i egnio i daflu yr iau felldigedig oddiar eu gwarau ac hefyd. er dangos i babyddion a phuseyaid y wlad hon, mai ofer yw eu gobaith i ddwyn Prydain yn ol i fynwes Mam puteiniaid y ddaear: a chyda hyny hefk d, i ddeffroi sylw mwy cyffredin at weithrediadau ei merch eglwys sefydiedig.f,loeir, yr hon dan gymeryd arni fod yn rlia,-far i ddiogolu y wlad rhag pabyddiaeth sydd yn magu pabyddion yn Iluoedd, yr hyn a fu y ptif foddion i galonogi y pab yn ei amryfusedd diweddar ;-a'i galw i roddi cyfrif o'i goruchwyliaeth, ie, a dwyn ei gouchwyliaeth oddiarni hefyd, fel eglwys sefydledig, a'i gosod i ymdaro drosti 01 hun. Wedi i ni ysgrifenu cymaint a hyna, dyma newyddiadur yn dwyn ger ein bron grynodeb o ¡ fesur Arglwydd J. Russell: a dyma fo Bod y I cvfnewidiad a wnaed (gan y Pab) o'r Ficeriaid Apostolaidd i fod yn esgobion yn rhoddi i'r eyfryw breladiaid hawliau penodol ar feddiannau a adowid mewn ewyllys at achosion crefyddol. Darbodai gan kyny, Bod pob cymunroddion o'r fath a wnaed i breladiaid pabaidd yn ddirym ac ofer. Bod unrhyw weithred a wneid ganddynt yn eu cymeriad swyddol, yw ddirym ac ofer- bod y medd iannau a gvmunweinyddid felly gael ei attafaelu gan y goron—a bod i bob swyddogion Catholicaidd gael en gwahardd i gymeryd a honi teitlau, nid yn unig oddiwrth unrhyw un o'resgobaethau Seisnig, ond hefyd oddiwrth unrhyw fan na lie yn y deyrnas gyfunol." Dyna meddir l ni yw swm a sylwedd y mesur Ar hona o lygoden fach facli yr esgorodd y llythyr mawr mawr, a'r cyffro mawr mwy, drwy r boll wlad,—a'r cyfarchiadau a'r deisebau aneirif ya gyflwynwyd i'w mawrhydi. Y mae mewn gwir ionedd yn waelach ei wichiad na llygoden. Nid yw yn ymddangos y boddia neb. Dyna gyfleus dra rhagorol wedi llithro drwy ddwylaw Arg. J. Russell. Pe gadawsai yn llonydd i ynfydwaith y pab fel peth annheilwng o sylw, a chynyg attal y gwaddol i Maynooth o byn allan, ynghyd ar gwadd- olion pabaidd yn y trefediguethau ao arwyddo penderfyniad i fytiu-ynichwiliad lhvyr i gyflwry ddwy Brif ysgol, gyda golwg ar eu llwyr ddiwygio yn eu trefniadau, a'u gosod yn agored i bob plaid ac enw crefyddol fel eu gilydd, cawsai gefuogaetb wresog y wladwriaeth, oddigerth rhyw ychydig o babyddion ac uctiel eglwyswyr. Buasai mesur o'r fath o wertb cyffiedinol ac ni allasai byd yn nod y bustlddyn Roebuck haeru ei fod yn erlidigaetbus er y myn fod pob peth a phawb ond ef ei hun yn I erlidiwr, GWAIXAU.—Gwnaetli y cysodwyr gybolta ryfedd o rai o'n brawddegau yn ein rhifyn diweddaf, Dy- lasai dyddiad llythyr Miss Cross fod fel byn Gwyl y Gwirioniaid Santaidd M. M i" yn lie Gwyl y Santuidd M. M." with ddyfalu vstyr y ddwy A]., gwuneth y cysodwyr i ni ddywedyd Illiss yn lie Mis Maii. Gehvir Rhayfyr yn fis lesu gan y Pab- yddion. Ar ddiwedd yr elthygl yngliylch Arglwydd Fielding, argraffwyd "ues yr eppilia y cryd avian a'r mir," yn lie ar acr."—Dylasem hefyd glJbwyll yn ein rhifyn diweddaf ein bod wedi camgymcryd wrth ddywedyd yn ein rhifyn blaenorol fod y Paci- fic, un o'r agerddlestri Americanaidd, yn cael ei hadgvweirio oblegid yr oedd ar y pryd ar ei mor- daith i'r wlad bon, a chyrhaeddodd i'r porthladd hwn yn ddiogel ddydd Llun, yr wythnos ddiwedd- af. YR AEDDANGOSIAD MAWR A'R BIBL GYMDEITH- AS.—Mae y Dirprwywyr Breninol wedi addaw lie i Gymdeithasv Biblau, arddangos yn y PalasGwydr niter o feiblau mewn cant hauner o wahauol ieitb- oedd. MARWOLAETH DR. PYE SMITH.—Drwg genym hysbysu i'n darllenwyr fod y gwr da, doniol, a dysgedig uchod, wedi marw. Cymerodd yr am- gylchiad galai-Lis le, ddydd Mercher diweddaf, yn Guildford, i ba le yr aeth ar ei ymadawiad o Goleg Homerton. Yr oedd ei gyfeillion y llynedd, wedi casglu i £ 2.000 tuag at ddarparu blwydd-dal iddo er ei gynnaliaeth tra byddai byw, a'u Hog ar ol ei fanvolueth i fyned i sefydlu ysgoleigiadau (scholar- ships) duwinyddol ar ei enw ef. yo y Coleg newydd a adeiladwyd yn St. John's Wood, gerllaw Llun- dain. Fe fu Dr. Pye Smith, yn athraw yn Ngholeg Homerton am lawer o flynyddau, ac ysgi-ilonodd nifer o lyfrau gwerthfawr iawn. Yr oedd yn'77 oed. YR EGLWYS AC ARGLWYDD r, irT.DING.-N!lae y Parch. R. W. Morgan, curad Tregynon, Sir Dref- nldwyn, wedi cyhoeddi llyfr Seisnig, ar y testyn a giinlyn:-Aniddiffyniad 1 Eglwys Loegr mewn attehiad i Arglwydd Fieldingarei ddytnchweliad at Eglwys Rhufain."

::=c. I

BRAZILS. I

PRyvsrA.I

Ii RWSIA.

ITWRCI.

AMERICA._-I

[No title]

Advertising

- -_ - -_-MEDDYGINIAETH I'R…

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising

Y CYFNEWTDFA YD LIVERPOOL,…

CANOL-BRIS Y GRAWN.

LIVERPOOL WHOLESALE BUTCHER'SI…

MARCHNAD Y GWLAN.

-MARCHNAD LLUNDAIN. I

-MARKETS.I

- - - - - —— —•' PRICES OF…

PRICES OF LEATHER AT LEADENHALL,…

HIDE AND SKIN MARKETS.

SllTHFIELD CATTLE MARKET.

METELOEDD.

HIGH WATER AT LIVERPOOL.

Y SENEDD YMHERODROL.I