Hide Articles List

28 articles on this Page

TO ADVERTISERS. I

Y SENEDD, &C.I

::=c. I

BRAZILS. I

PRyvsrA.I

Ii RWSIA.

ITWRCI.

AMERICA._-I

[No title]

Advertising

- -_ - -_-MEDDYGINIAETH I'R…

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising

Y CYFNEWTDFA YD LIVERPOOL,…

CANOL-BRIS Y GRAWN.

LIVERPOOL WHOLESALE BUTCHER'SI…

MARCHNAD Y GWLAN.

-MARCHNAD LLUNDAIN. I

-MARKETS.I

- - - - - —— —•' PRICES OF…

PRICES OF LEATHER AT LEADENHALL,…

HIDE AND SKIN MARKETS.

SllTHFIELD CATTLE MARKET.

METELOEDD.

HIGH WATER AT LIVERPOOL.

Y SENEDD YMHERODROL.I

News
Cite
Share

Ychydig amser yn ol dechreuodd y Llywodraeth gwyn yn un o'r llysoedd cyfreithiol yn erbyn Mr. Charles Dickens, am ei fod yn cyhoeddi cylchgrawn misol pris 2g. yn cynwys crvnodeb o hanesion tramflf, cartrefol, gwiadwriaethol a cliymdeithasol. Honai swyddogion y cyllid-dy ei fodyn cyhoeddi newydd ion," a'i fod o'r herwydd yn ddarostyngetlig i wisgo ysnoden goch ar un o gonglau ei wjs, am yr hon y rbaidtatu Ic. i'rlly Wodraeth. G<m foJ ei gylchgrawn I yn cynwys newyddi?n dylai da!u treth newyddiadnr on meddai swyddogion y cyllid dy; ond hona Mr. Dickens gan mai cylchgrawn misol ac nid wythnosol ydyw ei gyhoeddiad, nad yw yn rhwym o urddo ei tun a'r ysnoden goch. Mae y peth wedi tynu syhv y wlad yn gyffredinol, oblegid os llwydda y llywodr- aeth i orchfygu Mr. Dickens bydd llawer o'r cyhoedd- j iadau misol Seisnig. a phob un o'r rhai Cymreig yn ddarostyngedig i gael eu dirwyo yn drvt M-niati yn hytrach y maent yn awr yn y cyflwr yna, ac os ded- ffydir Mr. Dickens i dalu y dirwyon gellir dyfod at gyhoeddwr pob cylchgrawn Cymreig a'i ddirwyo lntau. Gail y teimlir y fath ddyddordeb yn y pwnc hwn gofynodd Mr. SCHOLFIELD a oedd y Llywodraeth yn parhau i erlyn Mr. Dickens am gyhoeddi ei gylch- grawn heb stamp ? Atebodd Canghellwr y Trysorlys eu bod, ac y profid y pWnc o flaen un u'r Barnwyr yn Llundain yn fuan. Gofynodd Mr. Bright a oedd taniatad i gyhoeddi neWyddion mewn misolion hyd nes y penderfynir y cyhuddgwyn yn erbyn Mr. Dickens, ac y ceir sicrwydd bl th yw y gyfraith ar y mater; ond gomeddodd Cancrhellwr y Trysorlys toddi atebiad y naill trordd na'r Hall. IDYDD GWENER, VHWEF, 7. Cyflwynwyd deiseb o Stockportgan Mr. KERSHAW o blaid diddymtad yr undeb rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ar ol i amrywiol aelodau gyfeirio at nifer obeth- ttti lied ddibwys i'r cyhoedd, cyfododd Arglwyiltl J. RUSSELL i egluro ei fesur addavvedig ynghylch yr esgobion pabawl. Dywedodd fod rhai yn ei ry- buddio rhag cymeryd cam yn ol i dir erlidigaeth a chaethiwed crefyddol; ond yr unig gam yn ol a gyhierai ydoedd y cam a dymer dyn pan y tarew- ir ef, er mwyn cael eyfle i g-di ei fraicb a'irhoddi mewn sefyllfa aitlddiffynol. Dymunai ar y Ty ad- goffa rbai pethau a gymerasant le yn lied ddi weddar. Y flwyddyn ddiweddaf penododd y Pab archesgob yn yr Iwerddon. Yr oedd hwn yn ben ar yt boll esgobion ac archesgobion ereill, a'r weith red gyntaf o'i eiddo ar ol cymeryd meddiant o'i archesgobaeth ydoedd cynnal cymanfa yn Thurl- es i wrthwynebu y colegau a sefydlwyd yn yr Iw, erddon yn ddiweddar gan y Llywodraeth i addysgu pob doiparth o'r boltl. Yroedd yr arehesgob hwn yn gwybod mwy am Rhufain nag am yr Iwerdd- on, oblegid yno y treuliodd ei oes, eto y peth cyn- taf a wnaeth ar ol ei benodiad ydoedd dangos ei fod yn elvniaethas i Lywodraeth ei Mawrhydi Victoria. Nid gweithred "ysbrydol" hollol ydoedd yr un yma o eiJdo Dr. Cullen, oblegid ymddengys mat ei amcan ydoedd dirymu rheithsgrif Seneddol a pheri casineb rhwng y naill ddosparth a'r lIall o bfeswylwvr yr ynys. Yr oedd cyfarchiad Thurles yn argraffedig, a hysbysai y wyneb-ddalen ei bod yn cael ei chyhoeddi drwy awdurdod, ac ar- tvyddnodwyd y cyfarchiad ar y ddalen olaf gan "Areli- esgob Armagh, Prif-esgob yr lwerddon." Os oedd Dr. Cullen wedi arwvddnodi y cyfarchiad ei hunan, ac ymgjmeryd a'r teitl yna, yr oedd wedi troseddu yn erbyn y gyfraith, ac yn ddarostvngedig i gael ei gospi, on 1 anhawdd iawn fyddai profi i foddloarwydd llys gwladol eifod wedi arwyddo y cyfarchiad. Yna cyfeiriodd at yr hyn a gymerodd le yn Sardinia yn ddiweddar. Dygwyd fheithsgrif i mewn i Senedd Sardinia gan y Weinyddiaeth, dyben pa un ydoedd gwneUthHr yr esgobion a'r offeiriaid pabaidd yn ddar fJstyngedig i gael eu profi fel deiliaid eraill gan y ilysoedd cyffredin, ac nid bod yn atebol i'r llysoedd Eglwysig yn unig. Pasiwyd y rheithsgrif, ac yn fuan ar ol i hyny gymeryd lie, clafychodd un o'r gwein- Idogion a ddygodd y rheithsgrif i'r Senedd, ac anfon. wyd am archesgob Turki i gyflawni defodau olaf yr eglwys arno ar ei yia^dawiacl o'r byd hwn. Gofyn- odd yr arehesgob a oedd efe yn edifarhau ei fed wedi cymeryd rhan yn nygiad i mewn y rheithsgrif nchod, a chan na roddodd ei atebiad foddlonrwydd i'r arch- esgob, gomeddwyd a gweinyddu y sacramentau arfer edig, a bu farw yn heretic tuallan i balis yr eglwys. Dyna esampl o ymyriad awdurdod ysbrydol gyda'r dyben o reoli a brawychn Gweinidogion y Goron, ac aelod o'r Senedd, am ei ymddygiad fel Gwcinidog y Goron ac aelod Seneddol. Nil yw yr amgylchiadan yna yn hollol anmherthynasol i ni; oblegid er na rdddlt hwy mewn grym yn y wlad hon eleni na'r flwyddyn nesaf, eto dvwedir wrthym yn y cyfaich- iad o Thurles, fod athrawiaethau Rhufain yn an Inhlygadwy ac yn anghyfnewidiol. Dichon y bydd yn anghyfleusiddyntddwyn y fath gastiau i fodolaeth a grym yn y deyrnas hon ar unwaith ond eadwant yn eu meddiant yr awdurdod o roddi y fath arter iadau ja syniadau mewn grym, aci weithredu ar vr awdurdod ysbrydol ofnadwy a honant. Cyfeiriodd at dra-arglwyddiaeth y babaeth yn ddiweddar tuag at Belgium, a dywedodd fod yr holl am^ylchiadau hvn yn rhagflaenu rhaniad diweddar Lloegr rhwng yr esgobion pabaidd. Ni hysbyswyd gair wrtb y llyw- odraeth am fwriad y Pab i anfon ei darw" i ddi- leu yr hen drefn oedd mewn bodolaeth er's tri chan' mlynedd yn y wlad hon, ac ni wnai unrhyw lywodr- aeth babaidd yn Ewrop oil, oddieithr Awstria, gan- iataa i'r Pab anfon teirw'' i'w tiriogaethau heb iddo yn gyntaf ofyn- cenad y c\ fryw lvwodraethau. Yn y ddeddf a gyhoeddqdti Cardinal Wiseman ar ei benodiad i'w archesgobaeth, mae y geiriau a gan- lyn :—" Yr ydym yn lly wodracthu, a pharhawn ilyw- odraethu siroedd Middlesex, Essex, a Hertfort, gyda phump o siroedd ereill," a rhag gadael un mangre allan, ychwanegai "a'r ynvsoedd cylebynol." Nis gallai weled yn y geiriau ddim ond ymgymeriad o awdurdodaeth tiringaethol. Nid hysbysiad ydoedd y byddai iddo lywodraethn aelodau ei eglwys ei hun o fetrn y siroedd uchod. Mae y siroedd a nodwyd yn dlriogaethan darostyngedig i awdurdod y frenines, a'r unig esgul a rrtddir dros arfer y geiriau uchod Vdyw, fod gan yr eglwys babaidd ffurf o eiriau trwy ba nn y mae cenad tywysog tramor yn honi awdur- dod ar siroedd Middlesox, Essex, a Hertford. Di- chon fod hyny yn wir, ond mae ffurf mewn arferiad yn Lloegr a ddecbreua fel hyn, "Victoria trwy ras Duw Brenines Prydain Fawr a'r Iwerddon, ac ym- ddangosai iddo ef fod y naill flurf yn anghydweddol a'r Ilail. Cymerwch eich dewis. Dywedwch fod y Pab yn Deyrn y wlad hon, ac fod y neb a anfona i lywodraethu siroedd Lloegr, ac mai trwy nfuddhau i'r eyfryw un y dangosweh freingarweh. Gallaf dyb- led am un yn cymeryd y llwybr yna, ond nis gallaf ddirnadfod unrhyw un breingar i goron Victoria yn cydnabod hawl neb rhyw un ond ei hunan i lywodr- acthu y siroedd uchod. Gellid dyweyd fod eu ym- honiad yn ddirym acyn ddiwerth ond digon iddo ef I ydoedd fod ymhoniad o awdurdod wedi cymeryd lie. Yr oed(I ein heoafiaid, er yn babyddion,yn eiddigedd- tis iawn o awdurdod y Pab. Yny dvddiau hyny pan cedd yr holl wlad yn babaidd, ni chaniateid i'r Pab benodi esgobion, eithr penodid hwy gan y brenin. Pan basiwvd cyfraith rhvddfreiniad 1829, darparwyd na byddai i'r esgobion pabawl ymgymeryd a tbeitlau esgobion protestanaidd na chymeryd teitlau tiriogaethau, a chydsyniad y preladiaid pabaidd i hyn, ar y pryd; ond yn awr y maent wedi ymgymeryd a theitlau tiriog aethol, ac amcan y rheithsgrif a ddygai mewn yd oedd eu difeddiannn o'r teitlau hyn, a darparai hefvd y byddai pob gweithred swyddogol o'u heiddo yn ddirym. Os gadewir eymunrodd i un o'r es- gobion teitlog fe a y eyfryw yn y fan i feddiaut y goron. Honai fod hyn yn ddi- gon ar hyn o bryd; ond os parhau yn ys- tyfnig a wnai Rhufain, a sarhau ychwaneg ar deyrn- as a choron Lloegr, yr otdd yn barod i ddwyn mes- urau cryfach i mewn, Annogai Cardinal Wisenian os oedd yn earn heddweh a dedvvyddwch y deyrnas hon, i ddychwelyd i Rufain a threulio gwed-lill ei oes yno yn nghysgod y Teyrn a gerir mor nnwyl ganrfdo. Nid oedd am gyfyngu ar ryddid crefyddol neb, ond gwrthwvnebai bob ymhoniad oddiwrth awdurdod tremor a'i holl egni. Cyfeiriodd Mr. ROEBUCK yn wawdlyd at fesur tila y Prif Weinidog, ar ol arwainpobl i fcddwl y bwriadai wneuthnr rhywbeth gwerth sylw. Amddilfynodd Mr. JOHN 0, CONNELL gymeriad Dr. Cullen ac Archesgob Turin, a dywedai y byddai y mesur yn lIythyren farw yn yV Iwerddon. Ymosododti Mr. DEIMMUND ar vr ofleiriadaeth Babaidd, a honiadau digywilydd y rhai aalwant euhunain yn weinidogion Crist. Cadwanty Werin hobl a'r lleygwyr mewn caethiwed meddyliol. Amddiftynwyd yr offeiriaid Pabaidd gan Mr. ROCHE, a dywedodd fod mestir Arglwydd J. Russell, yn groes i weithrediadau Arglwyddi Stanley a Clarendon, y rhai oeddynt wedi cydnabod teitlau yr esgobion Gwyddelig. Dadleuodd Mr. MOORE yn erbyn hawl y Llywodraeth i vmyraeth agopiniynau. Cyfeiriodd Mr. BRIGHT at yr annghysondeb a fod- ola rhwng Hythyr a mesur Arglwydd John Russell. Yn ei lythyr beiai y Puseyaid yn erwinnl, ond erbyn hyn nid oes air o son am danynt—mae mor ddystaw a'r bedd yn eu cylth. Mae nifer y Pabyddion yn cynnyddu yn feunyddiol, yn enwedig yn swydd Lan- caster, ond cyfyngir v gwaith o broselytio at Babydd laeth yn gwbl o'r bron i offeiriaid yr Eglwys Brotest- anaidd. Yroedd yr Eglwys Sefydledigyn yr Iwerddon wedi bod yn rhwystr ac yn felldith i Brotestaniaeth acyn Lloegr yr oedd yn nythle a magwrfa Pabydd iaeth. Edrychai ar fesur ) Prif Weinidog fel un di- niwed a hollol ddirym. Cafodd Mr. DISRAELI a 8ya R. ff- INGLis en siomi yn fawr yn y mesur. Dysgwyliasant rywbeth mwy effeithiol, ac at y pwrpas. Ar gynnvgiad Mr. REYNOLDS, gohiriwyd y ddadl hyd ddydd Lluij. DYDD LLtN, Chwef. 10. AiA^'J/tr-.reuwyd y ddadleuaeth arfgynnygiad Arg- Jwydd Jofn Russell gan Mr. REYNOLOS yr hwn a daerai yn galarn yn erbyn y eynnygiad, ac vmosod- ndd gyda ffjrnigrwydd ar yr Eglwys Sefydledig, Dilvnwyd ef ga y IhDLEUYJJb CYFFREDINOL yr hwn a eglurodd adratau y rheithsgrif a gynnygir gan y Pnf Weinidog, ac innerchwyil y Ty yn olynol gan Arglwydd AI'IHLEY'() blaid); Mr. GRATTAN, a Mr. CON^OLMT (y ddau rt ert),va); Mr. RAGE WOOD (0 blaid), a Mr. M'CULLAGH (yn erbyn), a Syr GEORGE GREY o blaid y mesur. 1. na cynnygiwyd gobiriad o'r ddadleuaeth, yr hyn a wrthwynebwyd gan Arglwydd JOHN RUSSELL, a phan ranwyd y Ty yr oedd 50 o blaid, a 36t yn erbyn gohiriad-mwyafrif 305. Ond ar ol peth taeru cy- tunwyd i ohirio y ddadl hyd nos Fercher. Cynnygiodd Mr. A vsri:y ddyfod a Rheithsgrif i mewn i ryddhan Pabyddion oddiwrth yr attaliadau cyfreithiol sydd yn eu rhwystro yn y wlad lion; ond ar ol i Syr George Grey a Svr R. Ingiis gyfareh y T.v yn erbyn y mesur, rhanwyd yr aelodau a phleid- leisiodd 175 yn erbyn y cais, a dim ond 35 o blaid.