Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

I GOHEBIAETH.I

EISTEDDFOD MADOG.

AT Y SAWL Y PERTH YN IDDYNT…

[No title]

[No title]

ICYFARFOD GAN YR EGLWYS WLADOL1

News
Cite
Share

I CYFARFOD GAN YR EGLWYS WLADOL I YN YSGOLDY LLALLECHID, A D HAMOAN I WRTH WYNEBU DARLITU Y PARCH JOHN PHILLIPS, BANGOR. Dyddittuofnadwyywydv(ldjaul)vn Dyddiau Arglwydd y lluoedd, ar hob balch ac uchel, ac ar bob derchafedig, ac efe a ostyngir dyddiau i dynu i lawr uchel drem dyn, ac i'r Arglwydd yn unig gael ei dderchafu yn mhob calon. Y mae hen sefydliadau oesol yn gorfod rhoi y ffordd, hen gre dciau a chytfesion, ag sydd a'u gwallt yn WYll gan amser, pa rai nad amheuwyd eu gwirionedd o'r felaen, hyd yn hyn, yn cael eu gwysio at y maen prawf; a gwae, gwae, sydd uwchbeu pob un o honyut, nad ydynt yn gallu profi fod eu llindardd- iad wedi hanu yn gwbl o'r safon ddwyfcl. Daeth yr amser o'r diwedd i chwilio Jerusalem allusernau, ac i ddatguddio anwiredd einoethni— a Babilon fawr a ddaeth mewn cofgei-bron Duw i roddi iddi gwpan gwin digofaillt ei lid ef; ac y mae wedi dyfod yn ing, ae yn drallod ar bob eyd- wybod dyn ag sydd a nod y bwystlil yn ei daleen, ac nid oes ganddynt i'w wneuthur ond edrych i fyny ar wirionedd, a chablu, a clmoi eu tafodau gan ofid. Ondiddisgyn ar y mater. Cynnnliwyd cyfar- fod yn y lie uchod, (neitbiwr, Ion. 17,) ae iivspys id ar hyd y parwydydd fod Evan Lewis, y curad, i fod yn gadeirydd, a hyny ar annogaeth y plwyfol- ion, medd of (attolwg, pwy oeddynt tybed, a pha- ham na ddaetbent yno i gydymofidio a'u bugail ?) ac befyd fod rhyddid i rywrai ddyfod yno i'w gwrthwynebu os gullent, ond anfon rhybudd un diwrnod o'r blaen i'r curad dywededig. Felly fu. Derbyniwyd yr her, arhybuddiwyd y gwr gnn am- amryw. Daeth tri neu bedwar i fyny o Fangor, ond nid Jadwaenwn ond dau o honyct; set T. Charles, Ysw., Meddyg, a Mr. Thomas Lewis. Ar ol i'r cyfarfod gael ei ddechreu drwy weddi fer, a derbyn cynghor anwyl a Christiouogol iawn gan Ull Mr. Vincent, Aber, yr hwn fel myrli a ddi- ferai ar hyd hespenau clo calon galed, darllenwyd y rheolau, a dodai Mr. Lewis y gwaith o lywyddu y cyfarfod i fyny i Mr. Vincent. Wedi hyn, cy- merodd tipyn o eiriau le rhwng Mr. Charles, a Mr. Lewis. Dy wedai y cyntaf fod yno un eyfaill wedi dyfod i fyny gydag ef i wrthsefyll eu darlithiau os na byddent ar yr iawn, pryd yr haerai yr olaf nad oedd i neb gael y rbyddid hwnw os na hysbysid ef dri diwrnod flaen llaw Ond dangosai Charles na otynai y papyr ond un diwrnod. Ond ni fynai Mr. Lewis i'r gwrthwynebwr ddod ynmlaen brisvn y byd; pa fodd bynag, llwyddwyd i gael y rhyddid hwnw o'r diwedd. Ymddangosai Mr. E. Lewis ar ol hyn mor aflonydd a phe buasai farwor dan ei draed; ac yr oedd ynddo yn ymddaugos arwyddion cryn lawer o natur ddrwg. Bellach, y ddau oedd gan yr Eglwys i ddarlithio drosti, oedd John Williams, a Thomas Jones I ddechreu, galwyd i fyny John Williams. Areith- iodd yn lied faith—go dlawd oedd yr araeth hon, a rhoddi barn cariad ami hefyd. Yr oedd wedi ei hysgrifenu ar larp o bapyr, a phan fyddai y dar- lithiwr yn methu myned yn mlaen, cynnorthwy- id ef yn ffyddlon gan ei weinidog. Apeliai y tafam- wr hwn at ddydd y farn fawr, nad oedd gauddo un ameau at ddim ond cael hyd i'r gwiriouedd 1'el v mae yn yr lesu. Felly yn wir. Danghoswch hyny John. Yr oedd ei enan yn Hawn o eii-iau dirmygus, a chas am Mr Phillips a'i frodyr. Pa beth oedd ei feddwl am ddydd y farn, tybed ? Ai meddwl yr oedd mai rhyw gyfartod o daeru a checru, a gwyrdroi adnodau y Bibl, yw y dydd hwnw ? ynte rhyw gwrdd Ilawen digrit: megys ag a fydd mewn tafarn, o ganu a rorio ac o ltwre, nes byddarujgwladwriaeth o bobl! Pryd y bydd y wraig wedi derbyn arian y brag, A'r barilyu wag cyn y boreu." Yn nesaf, galwyd i fyny Thomas Jones. Meddai yutau ddarn o babyr cymaint a llabed ei got, ac araeth arno wedi ei gwneyd gan rywun; ond gwadai Mr. E. Lewis na ddarfu iddo ef ymyraeth dim mwy a hi, na thynu rhyw linell ddu ar ryw fan ynddi, a galwai ar Domas i ddvweyd yr un peth, yr hyn a wnai, ond braidd yn ddystaw. Dechreuai yn lied bwyllog.gan ymesgusodi nad oedd ef mor ddysgedig a rhyw rai oedd yno. Pur ddoeth. Ymddangosai fel pe na buasai yn rhyw hwylus iawn gyd-a darllen yr ysgrif; & tbebygei yn hyn i Ddafydd yn nillad Saul, neu ddyn trwsgl yn cardded palmant mewn docs. Pa fodd bynag, cymerwyd y papyr o law Tomas, gan Mr. E. Lewis, a dechreuai tioeddio allan ei gynwysiad yn iawn. Yu awr, gan nad oes genyf gopi o'r areithiau, ac pad tegynof wneyd llawer o syhv o bonynt heb hyny, ac iddynt hwythau addaw eu hargruHu fel y mault, (yr hyn nid allaf byth ei goelio,) troaf oddi- wrthynt, gyda dyweyd rhyw ychydig am eu prif rediad. 1. Haerent fod tri dospartli o weinidogion mewn Eglwys. laf, Esgobion; 2ail, Heuaduriaid; ac yn Sydd, Diaconiaid." 2. Dadleuent dros Adenedigaeth yn tned- y?. Y Llyncent yn r6 yr OJyniaetb apostolaidd." Wedi iddynt o enau John Calfin, lanhau tfieidd. dra y Pab Siwan, derbynient fel peth canonaidd olyniant y Pabau, serch i'w gweithredoedd ysgele. heintio, a drewi, liyd ddiwedd amser. Hefyd, mai darbodaeth ddoeth o eiddo y nefoedd ydoedd, er gwneuthur gwahaniaeth rhwng gwir weinidogion a chwaceriaid: mai bi oedd y wir bibell, trwy ba un y rbedai law yn llaw olynol fendithion nefol i ddyn truenus ar y ddaear—trawsymhonwyr, ac ymwthwyr diawdurdod, yr ystyrient bawb ereill, &c. Pai-baodd yr areithiati hyn (meddyliaf,) oddeutu tair awr a hanner. Dylaswn son ddarfod i Mr. Charles, yn y dechreu, gynyg ar fod i dynged y cyfarfod gael ei daflu i fyny i gymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth y gynnulleidfa; ond gwrthod- id hyny ar bob cyfrii gan y curad a'r caaeirydd a diamau iddynt wneyd yn bur ddoeth er eu lies eu hunain, oblegid mawr ofnent yn sicr y canlyniad- au. Buasai taflu y fath bethau ag adenedigaeth yn medydd, ac olyniaeth apostolaidd, i sefyll ueu syrtbio, yn nwylaw dynion diniwed, diddichell, pa rai na ddarllenasent nemawr lyfrau yn eu hoes, ond y Bibl, yn sicr o'u harwain i dainystr, ac i ddarfod am danynt byth. Oblegid pe felly, ow, ow, beth a ddaethai o ganonau yr Eglwys, ac o draddodiadau y tadau ? Go gall, yu wir. Yr oedd yn dda genyfwcled cymaiut a hyn o lwynog- eiddiwsb, a chaelllc i gredu mai nid meipen oedd gan bawb rhwng eu dwy ysgwydd. Ond er pob peth, nid oedd waeth yn y byd pa un, ni ddiang- odd yr areithiau druain heb eu hwtio, a'u hysio ganwaith. Un tro pan ddarllenodd y curad ryw eiriau sarhaus am Mr. Phillips, darfu i'r dorf bar. hau i bysio am amryw eiliadau, yn ddibaid ond i ddial am hyn, nid oedd gan y gwr E,Ivysi, ond bygwth eu darllen drachefn, oni pheidient; ond hwyrach iddo ganfod mai gwell oedd peidio, rhag i'r hysiatf ddidoi yr adeilad He yr oeddynt. Ni bum i erioed mewn cyturfod ag y dangiiosid cym- aint o anniharch tuag at ddarlithiwr na chadeir- ydd. Bloeddiai un, A ydych chwi ddim wedi darfod eto ? ErailI," Yr ydych yn tori y rheol tra y bIoeddiai y trydydd am "ddiorseddu y cad- eirydd, a gosod y Dr. Charles, o Faugor, yn e le. Dywedid fod yno rai yn rhegi, ond ni ddygwydd- odd i mi glywed neb yn gwneyd; a bod rhai yn barod i gwflio, ond ni choeliaf fi byth mo hyny Gwir yw fod pawb o'r bron yn rhoi llwybr rhydd i'w deimladau o blaid neu yn erbyn y pethau. Hefyd, yr oeddym yno er's cyhyd o amser, y lie vn fychan, a phawb can dyned a phe buaseut wedi eu cynio yno, a gwres ueu ager oddiwrth y gynnull- eidfa yn peri i ddyn ddarfod ymaith fel malwoden dawdd, drwy ehwysu. Tybiafos oedd cymwysdery lie yo addas i bed war cant, ddarfod iddo y waith hon oddef ei rythu i gymeryd mil i mewn i'w geudod, beth bynag am ychwaneg. Bellach, wedi i bobl yr Eglwys siarad a fwriad- ent, dacw un o bobl Bangor, Mr. T. Lewis with ei euw, yn driugo yr esgynlawr, a chyn pen pum neu ddeg rnuuyd, dacw ef a chyfFyrddiad ei fysedd- edd, yn tynu yr holl Roman cement a osodid i fyny gan y Llanwyr, yn rypiau, fel eira a faÏ yn syrthio oddiar lethr tô. We], we], dacw rywrai a'u gwedd yn newid, gewynau y wyneb ni allent mwy attal teimladau y galon. Y mae rhywbeth tebyg iawn i'r cnoi, neu'r ddannodd, wedi ymafael yi-L- ddynt; y mae yn ymosod o ddifrif ar yr olyniaeth, nid yw yn cydnabod awdurdod y ddelw fawr a ddisgynodd oddiwrtb Jupiter, yr hon ag y mae holl Rhufain, a llawer o Eglwys Loegr, yn ei haddoli Y mae ei osodiadau yn hynod ystyfuig, a pbob rheswm neu ysgrythyr a ddaw allan o'i enau, yn tadu ei wrthwynebwyr i gymaint o arswyd a dy. chryn, a phe buasai rhywun yn lluchio y boa con- structor, neu y copra capello i'w mysg Ar ei ol ef, dyma ddyn mawr, pwyllog, ac araf- aidd; un o weithwyry llechi yu y gloddfa, John Pirs y galwent ef, yn dringo yr areithglwyd; ac os drug cynt, gwaeth gwedi, am a wu i (chwedl yr hen I bobi). Ni cbydnabyddai hwu bawl Esgob, Ficer, Hrenin, na Brenines, i ymyraeth a'i gfetydd ef. Dywedai, 11 Peth rbyngwyf fi u fy Nuw yn noeth yw fy nghiefyad gan l'od yn rhaid i mi sefyll ar fy ngwaelod fy hun, a myned i'r farnfy hun, bydd- ed i mi hefyd gael barnn drosof fy bun." Aeth yn mlaen i gyferbynu Eglwys Rhufain ag Eglwys Loegr, ac mai putain y galwai y Bibl Eglwys Kliufain ac nad oedd yn bosibl, yn ol natur pethau, fod olyniaeth putain yn llawer o beth, o flaen y Duw sydd lanach ei lygaid nac y gall ed- rych ar anwiredd. Dangosai yr Eglwys hono wedi trochi ei dwyJaw yn, ac wedi meddwi ar waed y saint, ac mai hi oedd y wraig oedd yn eistedd ar y bwystfil yn Nadguddiad loan, i arwyddo ei phut- eindra oddiwrth Grist; iddi ladd y miloedd o fer thyron duwiol, y rhai nid oedd y byd yn deilwng o honynt. I ddangos gradd o'i phuteindra, dangosai eibod yn cyfaddef y Pab yn ben. Ac aeth rhagddo i ddangos fod Eglwys Loegr yn gwneyd yr un fath, trwy gydnabod pawb o olynwyr Hari yr wythfed, hyd y Frenhines Victoria, yn benau tymhorol ac ysbrydol yr Eglwys. Arferai gsnihariaeth yn y lie hwn i brofi ei phuteindra hithau, sef Eglwys Loegr, gan ofyn, Pe bai gan rvw wraig yn y plwyf hwn, ryw ddyn ag a fyddai yD ymwneyd a hi megys ei gwr, ac yn ei gydnabod ben fel ei gwr, ai nid putain y galwech chwi hi? Ic, meddai y cadeirydd. Wel, un felly yw yr Eglwys Wlad- ol hefyd, meddai Pirs, ond. gwadai y cadeirydd nad oeddynt yn ei chydnabod yn ben ysbrydol ac nad oedd neb yn ben felly i'w Eglwys, ond Crist ei hun. Ni choeliai ef mo Pirs, ond (larlleiiodd Pii-s drachefn a thrachefn (o lyfr Maptist Noel?) eiriau yr Eglwys ei hun ar y mater, ac felly nad oedd ond lol ynddo i geisio eu gwrthbroli. Mi goeliaf fi y buasai yno rai yn diflanu y pryd hwnw pe bu- asai bosib] iddynt. Pa un ai mewn anwybodaeth, ai sel dros y gwirionedd, ai ynte gyda yr umcon i ddryslI yr ymresyrnwr cadarn, ygwnaeth y cadeir- ydd hyny, nis gwn i. Gwnaetb E. Lewis rywbeth yn debyg cyn hyny a Thomas I.cvvis hefyd,— gwaeddent lawer am reoi ar y dyrfa, ond toridhi yn dipiau drachefn ganddynt eu hunain, drwy siarad ar draws en gwrthwyuebwyr. Dyna rai o resymau John Pirs, a Thomas Lewis. Cododd John Williams i fyny ai- fedi- gwrllibi-ofi rhyw. bethau, a dywedodd nad oedd ond deg munyd wedi 10 o'r gloch, ond aethym i allan ar hyn, i gychwyn tuag adref. ill eddy] la r ddarfod i'r cyfarfod barhau oddeutu pedair awr a banner. Yr oedd y lleuad yn tywynu yn braf erbyn byn, a phan oeddwn ar bont CoeJmor yn myned adref, clywwn hen ddallhuan CwmCowlwyd vn nghoed y Dinas, yn ysgrechian, ac yn cwyno rbywbeth fel hyn ar MENTRA GWEN. 'Chaiff hen ddallhuan felen, Tw hw hw, tw hw hw, Ddim llonyddyu ei cheubren, Tw liw hw; Gwrthodirfy athrawiaeth, aileni ac olyniaeth, 0 achos Ymneillduaetb, Tw hw hw, tw hw hw. Mi fvnaf wneyd myn f'enaid, &c., Hi'n dost ar Fethodistiaid, &c., Mac gormod byd o lyfrau, a'r boblyn rhy oleu, Ni fynant mo'm beithyclau, &c. Pa les oedd gwneuthur llyfr, &c., Ac hanes iawn ar bapyr! &e., I daeru yn eu dannedd fy achau apostoledd, Ni choeliaiit eln y diwedd, &c. Boed poenan'r Pab a'r purdan, Arnyn' Dliw, arn)nl nbw, Am ddychryn ben ddallhuan, Arnyn' nhw, Da Brutus sa'n fy ochr, a barcut bapyr Bangor, Rhag angau rho'wch i'm gyngor, Tw hw hw, tw hw hw. Mae dydd o'r annedwyddaf, Tw hw hw, tw hw hw, Yn rhuthro ar fy ngwarthaf, &c., [barod, Mae'n nwylaw y dihircx1, bastynau emits yn Yu bygwth tynu'm nythod &c. Ac ymaith a'r ddallhuan ar byny, ac i ffordd a minau. Ni synwn i yr un tipyn na chaf ei chlyw- ed eto os bydd genyf amser i fyned i'w gwrando. D ymunwu wrth dei fynu, ddyweyd mai o r cof yr vsgrifenwyd sylwedd fy Ilythyr, ac os camddy- wedais rywbeth, gwnaethym hyny ol. Pendinas, Llandegai. Huw DjgrFrL. I t," ? hl fu,.

PEDWERYDD ARAETH Y TAD GAYAZZL.

YMFUDIAETH I OREGON.I

I Y SENEDD-DAI NEWYDD AR DAN.f

Family Notices

[No title]

NEWYDDION CYMREIG.

MARWOLAETHAU YN Y BR IF DDINAS.