Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
T OTNNWISIAD. I
T OTNNWISIAD. IMgwyddiadsm w 1 Troseddan a Damweinlau 2 Gohobtaethe6n 3 Adwy'r Clawdd er Cylehoodd 3 Bageiliaid Berwyo 3 Rhyfel y Degwm n. 3 Y Nofel. n..n n. 3 Gsnedigaethaq — ••• 4 Prlf Erthyglaa .n Newyddion Cymrelf M' 4-5 Llanrwst a'r Cylohoedd — 5 Telegrams o'r Talegraff Offia .n « Barddonlaeth ? ? 6 Marohnadoedd 6 Byabyaiadan 7-8
[No title]
GWNAETHPWYH gryn niwed ar dir a m6r gan y gwyntoedd cryfion a gymmerasant le ddydd Gwener, nos Wener, a dydd Sadwrn diweddaf. Bu gwylwyr y glanau, ac eraill, yn llwyddiannus not Wener i acbub dau ar bymtheg o fywydau ger Oaergybi, drwy eu dewrder eu medrusrwydd. Perthynai y morwyr a achubwyd i'r llongau Enterprise, o Newry, a Glen Grant. Bu amryw o agerlongau mewn perygl mawr yn Sianel yr Iwerddon nos Wener, a chwythwyd amryw lestri i dir mewn gwahanol ranau o'r deyrnas, ac ofnir fod llawer o fywydau wedi eu colli. Wedi gostegu y gwynt, cafwyd cwymp trwm o eira mewn rhai lleoedd J ac ymddengys mewn modd tra chyffredinol y Sul diweddaf. Oaed eira hynod drwm yn Ysgotland, ynghyd & rhew caled; yr oedd y dwfr yn mhorthladd Glasgow wedi rhewi am bellder o ffordd allan i'r m6r. llhwystrwyd teitbio ar lawer o ffyrdd haiarn Gogleddbarth y deyrnas, a theimlwyd yn ddwys oddi wrth y rhew a'r eira yr un modd yn amryw o wledydd cyfandir Ewrop. Yn Germany, yr oedd llawer o'r ffyrdd haiarn wedi eu cau i fyny gan eira, ac mewn rhai lleoedd yr oedd yr eira mor fawr fel ag oedd y cerbydresi yn cael eu claddu ynddo, ac yn metbu a myned yn eu blaen, ac ni ddiangodd rhanau o'r Dywysogaeth beb deimlo yn fawr oddi wrth yr eira a ddisgynodd, a hyny mewn modd neilldnol mewn rhanau o Meirionydd a Chaernarfon.
[No title]
Y mae cwmni Rwssiaidd wedi ciel ei ffurfio yn ddiwerldar, gyda'r amcan o wneuthur dociau newyddion, ynghyd a gwelliantau eraill yn amryw o borthladdoedd y wlad hono; y mae cyfalaf y cwmni yn 6,000,000P. Y mae y teimiad o geisio helaethu a chynnyddu masnach y wlad hono yn bur gryf ar hyn o bryd. Dywedir fod yr ymherawdwr personol o dnedd mwy heddycblawn na rhai o'i ragflaenwyr, ac mai ei duedd a'i amcanion ef ydynt i gefnogi dadblygiad masnach, ynghyd a dwyn oddi amgylch gyfnewidiadau a diwygiadau pwysig yn ngbyfansoddiad a llywodraethiad y wlad; ond y mae rhwystrau mawrion ar eu ffordd, y mae pende6gion y deyrnas yn wrthwynebol iawn i hyn, y maent hwy am gadw y wlad mewn math o gaethiwed, a chadw pob awdurdod yn eu lIaw eu hunain, tra y mae yr ymherawd- wr yn awyddus i ddwyn y bobl i feddu chwaneg o ran yn llywodraethiad eu materion eu hunain.
[No title]
Cymmerodd etholiad aelod arall o ystsfell cynnrychiolwyr Ffraingc le dydd Llun diweddaf. Am gynnrychiolaeth rhanbarth y Cote d'Or y cymmerodd yr ymdrechfa hon le; nid oedd yr ethaliad hwn yn cael ei ystyried yn bwysig ynddo ei hun; er hyny, teimlid gryn lawer o ddyddordeb ynddo o herwydd ei fod yn dyfod mor fuan ar ol yr ymdrechfa hono, ar yr hon yr edrychid i ryw raddau yn wrthwerinol. Ond cafodd M. BARGY fwyafrif o 9,680 ar ei wrthwynebydd, yr ymgeisydd brenhinol neu unbenaethol, a phriodolir buddugoliaeth ddi- weddar y Cadfridog BOULANGER i'w boblog- rwydd personol ef, yn hytrach nag i unrhyw gyfnewidiad barn a theimlad yn mhlith y bobl mewn perthynas i'r werinlywodraeth.
[No title]
Er nad ydyw y digwyddiadau yn ac ynglyn Al r I werddon wedi bod mor gynnhyrfus yn ystod y dyddiau diweddaf ag y buont er's rhai dyddiau yn ol; er hyny, nid ydyw y wlad hono a'i hamgylchiadau, a'i Ilywodraotbiad, &'i bel- bulon, wedi darfod a bod yn destyn syl* cyhoeddus. Parheir i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yma a thraw drwy y deyrnas er gwrthdystio yn erbyn ymddygiadau diweddar yr awdurdodau tuag at Mr. WILLIAM O'BRIEN, yr hwn yn awr sydd wedi cael ei symmud 0 garchar Olonmel i Tralee. Y mae y tad M' FADDEN wedi cael ei gymmeryd i'r ddalfa ynglyn a'r hyn a ddigwyddodd i'r heddgeidwad, yr hwn a geisiai ei gymmeryd ef i fyny y Sabbath o'r blaen, ar ei waith yn gadael ei eglwys i fyned i'w dy ei hun. Y mae Mr. PARNELL, meddir, wedi dechreu gweithrediadau cyfreithiol yn y 111soedd Gwyddelig yn erbyn y Times am athrod. Y mae y Gyngbrair Gwyddelig Cenedlaethol yn America newydd anfon deng mil o ddoleri i Dr. KENNY, A. B., tuag at amcanion cenedlaethol yn yr lwfirddon.
[No title]
Gwneir ymdrech neillduol yn Paris i gyn- northwyo M. DE LESSEPS i. godi yr arian angenrheidiol er myned yn mlaen & chamlas mawr y Panama yn Ffraingc, fel na byddo i unrhyw wlad arall gael rhan na llais yn y mater, tra y mae senedd U nol Dalaathau I America, yn ddiweddar, wedi pleidleisio y swm o 250,000 o ddoleri, er galluogi arlywydd y wlad hono i gymmeryd mesurau er amddiffyn personau a meddiannau dinaswyr Americanaidd yn nghuldir Panama a'r cyffiniau.
[No title]
Mewn cyfarfod anffnrfiol answyddogol, ond lliosog a dylanwadol, o Gynghor Sirol Llundain, a gynnaliwyd dydd Linn diweddaf, pender- fynwyd, yn dra unfrydol, mai Arglwydd RosE- BERY sydd i gael yr anrhydedd o lywyddu gweitbrediadau y Cynghor yn y cymmeriad o gadeirydd. Rhyddfrydwr eithafol ydyw Ar- glwydd ROSEBERY; ac y mae y dewisiad hwn o hono ef i fod yn gadeirydd yn brawf o ddy lanwad Rhyddfrydiaeth yn y Cynghor. Profodd Rhyddfrydwyr y brif ddinas en nerth a'u gallu yn etholiad diweddar y Cynghor Sirol, mewn modd llawer mwy penderfynol a llwyddiannus nag y maent wedi arfer gwneutbur mewn etholiadau seneddol yn ystod y blynyddoedd diweddaf.
[No title]
I Y mae y sefyll allan am godiad yn eu cyflogau yn mhlith y morwyr a'r tanwyr yn parhau yn Liverpool, mor bell ag y mae gwoithrediadau undeb y morwyr a'r tanwyr yn myned; er hyny, caniata perchenogion y llongau y codiad a ofynir i lawer o'r rhai sydd yn foddlawn en gwas- anaethu; ac ymddengys fod gwrthwynebiad y perchenogion yn fwy i ymyriad swyddogion yr undeb nag i'r cais am godiad. Y mae cyn- nadledd arali ar gael ei chynnal rbwng y perch- enogion a blaenoriaid yr undeb, yn yr hon yr hyderir y deuir i gyd ddealitwriaeth a chyd- weithrediad cyffredinol.
[No title]
Y mae llywodraeth Denmarc wedi dwyn mesur i mewn i'r senedd i'r perwyl i sefydlu ysbytty rydd freintiol yn Copenhagen, digon helaeth ei darpariadau i gymmeryd i mewn 800 o gleifion. Bwriedir y sefydiiad ar gyfer personau yn dioddef oddi wrth bob math o glefydau ac anhwylderau, a gwneir darpariadau er sicrhau gwasanaeth y meddygon blaenaf yn mhob cangen o wyddoniaeth feddygol. Y mae yr adeilad yn unig i gostio 300,000p,
[No title]
Y mae y Mri. MATHER a PLATT, Manchester, wedi gwneyd cyttundeb il chwmni ffordd haiarn danddaearol dinas Llundain a Southwark, i weithio eu llinellau drwy nerth trydaniaeth. Bydd tri cherbyd yn alluog i gludo cant o deithwyr yn perthyn i bob cerbydres. Y maent, yn ol y cyttundeb, i deithio pum milldir ar hugain yn yr awr; ac y mae cerbydres i alw yn y gwahanol orsafoedd bob tri munyd.
[No title]
Cymmerodd ymdrecbfa lofruddiog le yn Abertawe, boreu Sabbath diweddaf, tus phedwar o'r gloch y boreu. Tu¡¡,'r adeg hono deffrowyd Mr. F. G. KENT a'i wraig, pa rai a gadwent westty y Gloster, gan s*n yn eu hystafell wely; ac erbyn gwneyd ymchwiliad, yr oedd Negro (morwr), yn yr ystafell, ac aeth yn ymdrechfa rhyngddo a Mr. KENT. Gafaelodd Mrs KENT I mewn llawddryll a gelwid yn yr ystafell, a saethodd y Negro yn ei goes, ac yna efe a ffotld; ond cyn ffoi, darfa iddo rlrywanu Mr. KENT, ac achoBi ei farwolaeth. Cafwyd byd i'r Negro tiua I chanol dydd, yn ymguddio ger Haw y dociau, a I chymmerwyd ef i'r ddalfa. Nid oedd ef wedi II derbyn ond ychydig niwed oddi wrth yr ergyd a gafodd o'r llawddryll yn ei goes.
[No title]
Cymmerodd daeargryn le yn sir Lancaster, nos Sabbath diweddaf, rhwng deg ac un ar ddeg o'r gloch. Teimlwyd yr ysgydwad yn benaf yn Manchester a'r gymmydogaeth ac hefyd, i raddau mwy neu lai mewn rhanau eraill o'r sir. Ysgydwid y tai, a'r dodrefn ynddynt, nes creu dychryn mawr mewn rhai cymmydogaethau; codai y bobl o'u gwelyau, a rhedent allan o'u tai mewn braw a dychryn mewn rhai lleoedd. Teimlid yr ysgydwad yn fawr yn Bolton, Darwen, Blackburn, Preston, a Ileoedd eraill; I ond yn ffodus, ni wnaethpwyd niwed i bersonau na meddiannau. ♦
[No title]
Er fod yr Archddiacon WATKINS, o Durham, yr hwn sydd ar gael ei sefydlu yn esgobaeth Llanelwy, yn Gymro mewn enw, a deallwn yn yn rhanol o waed; er hyny, nid ydyw yn Gymro ymarferol mewn unrhyw fodd, nac yn meddu safle yn y Dywysogaeth; a gellir dyweyd fod Arglwydd SALISBURY, wrth appwyntio y boneddwr hwn i esgobaeth Gym- reig Llanelwy, wedi gwneyd yr agosaf path a fedrai i appwyntiad Sais pur. Y mae wedi anwybyddu yn hollol yr hyn sydd bwysig mewn ystyr Gymreig yn yr appwyntiad. Y mae yr esgob etholedig yn ddyeithr i deimladau, angen- ion, ac arferion pobl Cymru, ac nis gellir disgwyl mwy oddi wrtho mewn yatyr genedl ae ,thol na pbe byddai yn Sais nen yn Ysgotyn. Orid o ran hyny, y mae y genedl Gymreig wedi trot ei chefn ar yr Eglwys Sefydledig, ac ar y blaid Doriaidd; ac felly, prin y gallai ddisgwyl i Arglwydd SALISBURY i fyfyrio ei theimlad cenedlaethol, na'i llesiant ysbrydol. Ond un peth sydd gysurlawn i'r Dywysogaeth; sef, y medr fyw, mewn ystyr genedlaethol, heb ei gymmhorth ef, na'r swyddwyr a appwyntia mewn enw i'w gwasanaethu.
[No title]
Y mae y mudiad a gychwynwyd er's peth amser yn ol mewn rhanau o Ogledd y Dywysog- aeth, a hyny yn benaf drwy offerynoliaeth ac ymdrechion Dr. DOBBIE, o Brifysjol Gogledd Cymru, o blaid addysg amaethydddol, yn parhau i fyned rhagddo. Mewn cyfarfod lliosog o amaethwyr dylanwadol, ynghyd ig eraill sydd yn dal cyssylltiad uniongyrchol ag amaethydd iaeth yn siroedd Mon a Ohaemavfon, ynghyd i rhanau eraill o Ogledd Cymru, a gynnaliwyd yn Mangor, ar yr 8fed o'r mis pmsennol, pender. fynwyd, mewn modd gwresog, fod ysgol er cyfranti gwybodaeth mewn trin Ilaeth, a gwneyd caws ac ymenyn (dairy school), i gael ei sefydlu yn Mangor, neu yn y gymmydogaeth yn union- gyrchol; a phenderfynwyd, hefyd, fod cwmni yn cael ei ffurfio er gweithio allan yr amcan ac etholwyd pwyllgor i'r perwyl o gymmeryd mesurau i ddwyn y gwaith yn mlaen. Cyn nrychiclid yn y cyfarfod hwn gymdeithasau amaethyddol y ddwy sir a enwyd, ynghyd a chynghor o swyddogion coleg y Brifysgol yn Mangor. Y mae y mndiad hwn yn ennill ffafr a thir yn gyflym drwy yr oil o Ogledd y Dywysogaeth.
[No title]
Y mae y dydd LluD cyntaf yn mhob mis yn bresennol yn cael ei gadw yn ddydd g*yl mewn modd tra chyffredinol gan lowyr Debeudir Cymru a sir Fynwy. Felly y treuliwyd y 4ydd o'r mis presennol, a chynnaliwyd nifer liosog o gyfarfodydd cyhoeddus, er cymmeryd i ystyriaeth y sefyllfa bresennol, ynghyd a rhagolygon dyfodol gweithwyr y gwahanol gymmydogaethau. Gynnaliwyd cyfarfodydd yn Pentre Rhondda, Pov t y-fitrdd, Aberdar, Glyn Ebbwy, Merthyr Tydtil, Tredegar, Mountain Ash, a lleoedd eraill, yn n, b* rai y bu amrywiol gwestiynau o natur lleol a cbyft redinol o dan sylw. Penderfynodd gweithwyr glofeydd yr Ocean, sef eiddo y Mri. D. DAVJES, Ltandinam, a'i gwmni, i ofyn ar unwaith am 10 y cant o godiad gan eu bod yn bresennol yn gweithio am brisiau llai na gweithwyr mewn glofeydd cylchynol; a phenderfynwyd, hefyd, os na chaniateir y codiad a ofynir, yn y saith glofa fawr berthynol i'r Mri. D. DAVIES, a i Gwmni, y bydd i'r gweithwyr roddi mis o rybudd. Y mae cyttundeb y sliding scale neillduol ac annibynol a berthyna i'r glofeydd hyn wedi cael oi ddwyn i derfyniad, a'r pwyll- gor wedi cael ei dori i fyny. Bu y mater o godiad yn y cyflogau o dan sylw yn amryw o'r cyfatfodydd a gynnaliwyd y diwrnod y cyfeir- iwyd ato, a tbeimlad tra chyffredinol ydoedd fod sefyllfa y farchnad, a phrisiau y gld yn bresennol, yn cyfreithloni y gweithwyr mewn gofyn am godiad yn eu cyflogau mewn modd cyffredinol.
[No title]
Y mae Arglwydd SALISBURY, fel Prif Wein- idog ac arweinydd Ty yr Arglwyddi, a Mr. W. H. SMITH, fel arweinydd Ty y Cyffredin, wedi anfon at eu cefnogwyr yn nau Dy y senedd i'w hysbysu y bydd y senedd yn cyfarfod ar yr 21ain o'r mis presennol, er mwyn trefnu mater- ion pwysig perthynol i'r wladwriaeth, ac yn gofyn am eu presennoldeb; ac y mae Mr. SMITH yn defnyddio y cyfleusdra i ddiolch i gefnogwyr y llywodraeth yn Nhy y Cyffredin am eu presennoldeb a'u cymmhorth yn ystod y senedddymmor hydrefol diweddar.
[No title]
Y mae Mr. BALFOUR, mewn llythyr o'i eiddo at Mr. ARMITAGE, o Fanchester, yn ceisio gwneuthur allan nad oes fawr o bwysigrwydd cenedlaethol yn perthyn i'r gwrthdystiad a wneir yn y dyddiau presennol yn erbyn y drin- iaeth waradwyddus a ehreulawn-pertfaith an- nheilwng o wareiddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg-a. ddioddefodd Mr. W. O'BBIEN, A.s., yn ddiweddar, oddi ar law swyddogion Lloegr yn llywodraethiad yr Iwerddon; ac mewn perthynas i'w araeth ddiweddar yn Nablin, dywedodd Mr. BALFOUR fod y rhai sydd yn beirniadu ac yn condemnio yr hyn a ddywedodd efe ar yr achlysur hwnw yn anghofio nad oedd dioddefiadau Mr. O'BRIEN, yn ei farn ef, ond dychymmygol. Pe byddai Mr. BALFOUR ei bun wedi gorfod eu dioddef, y mae yn fwy na thebyg y newidiai ei farn.
[No title]
Nid oes nnrhyw gyfnewidiad mawr na phwysig wedi cymmeryd lie mewn masnach nac yn marchnad llafur yn ddiweddar; ac yatyried y tymmor o'r flwyddyn, y mae pethau yn weddol o fywiog; ac ystyrir y rhagolygon yn dda ac yn gwellhau, a hyny mewn modd tra chyffrediuol; y mae pob cangen yn ymddangoB yn cvfranogi mewn adfywiad graddol, Y mae y gwaith o adeiladu yn debygol o fod yn dra bywiog yn y brif ddinas, a threfydd mawr- ion eraill y deyrnas, yn ystod y gwanwyn a'r baf dyfodol. Y mae llawer o adeiladau cy- hoeddus yn cael eu hysbysu; ac y mae y maes sydd yn agored i adeiladwyr yn un iHng ac amrywiol. Y mae cryn ofyn am wasanaeth peiriannwyr, a llong-wneuthnrwyr. Y mae gweithfeydd lliosog ac amrywiol Birmingham yn dra bywiog; ac y mae gweitbiau haiarn, dur, alcan, a glo y deyrnas, ar y cyfan, yn gwellbau. Marwaidd ydyw gweithiau lace Nottingham, rhubanau Coventry, a brethynau Bradford; er hyny, y mae argoelion cyfnewid- iad bnan er gwell ynddynt Fe ddywedir fod gweithiau esgidiau Leicester yn dangos arwydd- ion gwellhad; ac y mae canghenan eraiU 0 fasuach a llafur yn ymddangos, ar y cyfun, yn fwy addawol; ond y mae y tywydd presennol yn dra anffafriol i lafurwyr, a gweithwyr eraill, yn yr awyr agored.
[No title]
With anerch cyfarfod o Undebwyr Rhydd- frydol a Thorlaid yn Glasgow D08 Fawrth diweddaf, gwnaeth Mr. CHAMBERLAIN UR o'i ymosodiadau arferol' ar Mr. GLADSTONE a chefnogwyr Ymreolaeth i'r Iwerddon, ac ymdrech deg i geisio amddiffyn Oeidwadaeth y llywodraeth bresennol. Dywedai mai Torfaeth y dyddiau gynt ydyw Ceidwadaeth y dyddiau hyn ond fod Ceidwadaeth y dyddiau presennol yn seiliedig ar sefydliadau gwerinol, ac naa gall fyned yn ei hol, na sefyll yn ei hunfun, ond ei bod yn rhwym o fyned yn ei blaen. Nid oes ammbeuaetb, bellach, nad ydyw y Ceidwadwlr wedi Uwyr ennill Mr. CHAMBERLAIN i fod yn un, o'u hamddiffyuwyr mwyaf nelog, os Did yn un o honynt mewn enw. Darllenwyd llythyrau yn y cyfarfod hwn yn Glasgow oddi wrth Arglwydd HARTINGTON a Syr HBNRY JAMES, y.