Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
PENTRAETH A LLANDDONA.I
PENTRAETH A LLANDDONA. Prawf Etholiadol.—Yr oedd dan ymgeisydd am eis- teddle yn y cynghor .sirol ar y maes am y dosbarth hwn sef, y Parch. W. Pritchard, a Mr. L. Morris. Mewn cyfarfod cyhoeddus lliosog o etholwyr Pen- traeth, yr oeddis wedi penderfynu ar i brawf etholiad gymmeryd lie ddydd Sadwrn, Khagfyr 29ain, a'r hyn y cyttunwyd gan Llanddoaa, a'r ddau ymgeisydd. Dygwyd yr etholiad yn mlaen ar gynllun, ac yn gwbl yn ol rheolau etholiad cyfreithlawn. Arolygwyd y gweithrediadau yu Pentraeth gan Mr. P. Roberts, sgol y Bwrdd, yn cael ei gynnorthwyo gan y Meistri E. Jones, Rhydelyn R. Rowlands, Beddwgan; J. Rob>> Rhydelyn Bach; a J. B. Edwards, Llan- sadwrn. Ac yn Llanddona, Mr. Harrison oedd yn arolygu y gweithrediadau, yr hwn a gyunorthwyid gan y Meistri H. Williams, Penbryndono; W. Owen, Llanllechid; a J. Willianii, Tyddyn Barcud. Yr oedd y trefniadau yn rhoddi boddlonrwydd hollol i bob ochr. Yr oeddis wedi trefnn i gyfrifon y naill blwyf gael eu hanfon i'r Hall; ac erbyn tua deg o'r gloch, yr oedd canlvniad y pleidleisio yn hysbys. Dros y Parch. W. Pritchard, 116; a thros Mr. L. Morris, 89mwyafrif dros Mr. Pritchard, 27. Dyg- wyd y gweithrediadau yn mlaen gan yr oil o'r ewydd- ogion yn ddidal; a'r cwbl o'r costau oedd 4s. lOe.- dau swllt a phuni ceiniog i bob ymgeisydd! Beth fvddai i leoedd eraill wneuthur yr un modd ?—J. B. EDWARDS, Llansadwrn.
EISTEDDFOD GADEIRIOL MElRION,…
EISTEDDFOD GADEIRIOL MElRION, 1889. CYFAKFOD Y BOREU AM 10 O'R GLOCH. I Uywydd —T. E. ELLIS, YSW., A. S. I Arweinydd :—Y PARCH. W. R. ROBEFLTS, Llanllechid. Can yr eisteddfod, Hen Wiad fy Nhadau,' gan Llew Meirion. Beirniadaeth Mrs. Williams, Dolmelynllyn, ar y quilts goreu, Gwyn heb y coch;' ond nid attebodd i'w enw— gwobr, 10s, Cystadteuaeth, unawd (tenor), 'Be thou faithful unto dexthgoreu, Mr. William Jones, Caernaifon-gwobr, Ip. Arwisgwyd ef gan Miss Roberts, Brynmair. Anerchiadau gan y beirdd. Daeth dau yn mlaen sef, Ieuan Ionawr a Gwilym Deudraeth; a chafwyd englynion campus. Beirniadaeth Berw a Gwalchmai ar yr englyn i'r NiWl' -g-wobr, 7s. Ue. Ymgeisiodd 56 ac fel y sylwodd y beirn- iaid, yr oedd y rhan liosocaf o honynt wedi aros yn y niwl. Goreu, Seiriol Hen' ac Echo'r Dyffryn' yn gyfaital; 130fi y Mri. John Jones, Glandwynog, Pen y-groes, a J. Jones, Bryncrug, Towyn. Cystadlenaeth gorawl (meibion), Comrades in Arms' gwobr, 5p., rhoddedig gan Morris Jones, Yaw., Dolgellau. Daeth 70 goraa ytuniaen; sef, Tan-y-grisiau (arweinydd, Mr. W. Roberts); Penygroes (arweinydd, MI. J. W. Jones); Caernarfon (arweinydd, Mr. M. Jones); Madoo(arweinydd, Mr. Bennett Williams); Blaeuau Ffestiniog (arweinydd, 'Mr. Rees Jones) Tryworyn, Bala .(arweinydd, Mr. David Roberts); a 'Dandruth I (arweinydd, Mr. H. Jones). Dyma'r gystadleuaeth oreu a gafwyd erioed yn Eisteddfod Meirion. Goreu, cbr Tan-y-grisiau, a Chaernarfon yn ail. Arwisgwyd gan Mrs. Cleaver, Caban-y-graig, Dolgellau. Anerohiadyn Gymraeg gan y IlywyLid. Sylwodd yn fyr ar amcan yisefydliad daionns hwn a chanmolodd y pwyll- gor-am ou gwaith mawr yn cario allan bobpeth mewn trefn. Siaradodd yn gryf am gael Orchestral Gymraeg, a sylwoaa fod yna riC Cymry yn ei ffuriio yn barod a gobeithiai ef yn fawr, yn mhen ychydig flynyddoedd, y byddai ir orchestral hwn gael ei loiawi yn-y.vvbl gan Gymry. Beirniadaeth ar yr 'Hosanau.' Daeth 8 i law; goreu, Miss M. C. Williams, Penrhyndendraetb, gwobr, 5s. Rhodd- wyd '2il a 3edd wobr i eiddo Misses Margaret Edwards, Ffestiniog, ac Anne Jones, Takarnau, gan y beirniad, Miss Roberts, Brynmair. Gystadleuaeth unawd (soprano), unrhyw gAn Gymrelg- gwobr, lp.; yrfmeu, Miss Alice Henderson, Tal-y-sarn, yr hon a arwisgwyd gan y llywydd. Beirniadaeth Cad van ar arall-eiriad o awdl Elusengar- woh 'gwobr, ip.; goreu, gyda chanmoliaeth, y Parch. E. Wnion Evans, Gorwen. Yn awr, wedi hir ddisgwyl, a phawb yn anesmwyth, deuwyd at brif waith y dydd, sef cadeirio y bardd buddug- olar yr awdl, 'Rhyfeloedd yGroes'—gwobr, cadairdderw hardd, a 7p. Ni ddaeth ond un i Jaw, sef eiddo Mr. John Davies (Tatiesin Hiraethoy), Diubyeb. Mawr ganmolid y cyfansoddiad gan y beirniaid, er fod ynddo rai m&n frych- au, ac nid oedd ammheuaeth ganddynt nad oadd yn wir deilyngu y wobr. Gan nad oedd y buddugwr yn bresennol, oedeiriwyd y llywydd yn ei le; ac arwisgwyd ef gan Miss Jones, Plas Acre, Bala. Cystadleuaeth gorawl (merched), 1 Good Night)-gwobr, 4p. Ni ddaeth ond un cor yn mlaen, sef, côr Caernarfon, o dan arweiniad Mr. W. Jones. Cawsant uchel ganmol- iaethgan y beirniaid; ac arwisgwyd yr arweinydd gan Miss Williams, Dinbyoh.
CYFARFOD 2 O'R GLOCH. I
CYFARFOD 2 O'R GLOCH. I Llywydd :—C. E. J. OWEN, YSW. Hengwrt-ucha, I Arweinydd:—MR. H. Owgiq (Antactlion). I Ni ddaeth- neb yn mlaen i gystadlu ar y berdoneg. Anerchiadau gan y beirdd a chafwyd un gan Amaethon yn gynhes a hwyliog. Cystadleuaeth y seindyrf pres. Talr yn ymgeisio sef, Porthmadog (arweinydd, y Rhingyll Henscoe); Udgyrn Arian y Gwaenydd (arweinydd, Mr. E. Thomas, Blaenau) a'r Llan (arweinydd, y Proffcswr Gladney). Y dernyn yd- oedd, Hallelujah Ghorus'—gwobr, 15p.; goreu 0 ychydig bach ydoedd Porthmadog. Arwisgwyd ef gan Miss Owen, Brynmair. Anerohiad campus yn Gymraeg ran y llywydd. Beirniadaeth Dr. E. Jones, a Mr. E. J. Griffiths, ar y cyfieithiadan o Warren Bastings.' Derbyniwyd 24; a dyfarnwyd H. yn oreu; ond nid attebodd i'w enw. Cystadleuaeth unawd (bass), 'Thy Glorious Deeds'- gwobr, lp. Daeth 3 yn mlaen; goreu, Mr. David Jones, Caernarfon. Beirniadaeth Berw a Gwalchmaiar y bryddest, Antur- iaethwr'— gwabr, 2p. Derbyniwyd dau; goreu, Mr. W. Evans, Dolgellau. Beirniadaeth Mr. C. R. Williams ar y 'Panel Oak.' Ni ddaeth neb yn mlaen. Cystadleuaeth deuawd, Excelsior '—gwobr, 2p. Daeth dan barti yn mJaen goren, y Mri. Bennet Williams, a J. J. Thomas, Talsarnau. Beirniadaeth Berw a Gwalchmai ar 'Hir a thoddaid bedd-argraph i'r diweddar Owen Rees, argraphydd gwobr, 10s. 6c. Derbyniwyd 30 0 gyfansoddiadau. Ond nid oedd teilyngdod yn yr un 0 honynt, fel ag i gael ei wobrwyo. Beirniadaeth y Proffeswr John Rhys ar y traethodau, Hanes yr eisteddfodau Cymreig o'r adeg foreuaf hyd 1887 'gwobr, 5p. Derbyniwyd 70 o gyfansoddiadau; a'r gorea ydoedd iddo Ymgeisydd' a Taliesin' yn gyfartal; sef, Mr. W. Davies, Tal-y-bont, Ceredigion oud nid atteb- edd Taliesin' i'w enw. Talwyd diolohgairwch i'r llywydd gan y Parch. W. Wil- liams, rheithor, ac^eiliwyd gan Mr. J. Meyrick Jones. Yn awr, devwyd at brif archest y dydd, sef y brif gys- adlalqaeth gorawl. I gor o unrhyw nifer a gano yn oreu, Achieved it the glorious v:ork,' 0 Hush thee my baby'- gwobr, 40p. Daeth tri ch6r yn mlaen; sef, y Bala (ar- weinydd, Mr. R. W. Roberts); Caernarfon larweinydd, Mr. W. Jones); a SPhan-y-grisiau (arweinydd, Mr. Cadwaladr Roberts). Dyma gystadleuaeth galed etto; nid hawdd yd- oedd beirniadu yn y gystad-leuaotb hou. Dywedodd Mr. Bennett; ymughanol ei feiruiadaeth, na wyddai yn iawn pwy i ganraawl fwyafpa un ai y gynnulleidfa ai y coran oedd yn cystadlu. am fod y gytmulleidfa yn gwrandaw mor astud, ac yn talu sylw mor fanwl i gerddoriaeth. Rhodd- oddganmoliaeth i'r tri chor. Annogai y côr cyntaf i dalu m.wy o sylw j'r expression. Ond am yr ail a'r trydydd, yr oeddyntryn bur gyfartal. Yr oedd yn beio yr alto yn y trydydd oôr, ao yr oeddynt i'w beio am 'fforsio' gormod mewn thatrau o'r chorus. Dyfaraodd Mr. Bennett gor eaernarfon,yn ioreu, yn. nghanol eymmeradwyaeth mawr y derf. Felly, terfynwyd, a phawb ynedrych fel wedi cu llwyr foddloni. Yn yr hwyr, cynnaliwyd cyngherdd rhagorol, o dan lyw- yddiaeth Mr. Wynne, Peniarth, yn yr hwn y cymmerwyd rhan gan Mr. David Hughes Madame Laura Hawortb; Miss Lucy Clarke Eos Morlais, a'r cor.—Gohebydd.
S LLANIFARIAN, CEREDIGION.…
LLANIFARIAN, CEREDIGION. I Y BWRDD S TROL. Yr ydym ni, yn nosbarth etholiadol Llinfarian, mewn orya holbul yinghyleh ein hymgeigwyr. Y mae genym dri ar y mass, ae y mae o'r tri ddau Radioal ac un Tori. Nid oes a fynwyt yn bresennol a'r ymgeisydd Tori'aidd. Y mae ef a'i barti yn ddigon i edrych drostynt eu hunain a chlyw. ais eu bod yncrechwenu yn iach am y tryblith y mae y Rhyddfrydwyr ynddo. Dichon y dywed rhai mai Tori oedd Mr. Vaughan Davie3 yn 1885; a dywed Mr. Lewis James, ein hymgeisydd arall, ei fod wedi gwneuthur ei oren dros Mr. Vaughan Davies yn yr etboliad hwnw. Felly, yr oedd y ddau ar yr un tir yn 1885. Dywed eraill mai Mr. James oedd y cyntaf ar y maes, a'i fod hefyd yn ymgeisydd dewisedig y blaid Ilyddfrydig, yr hyn sydd yn hollol wir. Ar ol [i Mr. James gael ei ddewis, cynnygiodd dynu yn ol yn ffafr Mr. Vanghan Davies, ond i'r diweddaf fabwys- iadu credo boliticaidd y Rhyddfrydwyr ar bwngo Dadgys- sylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Y mae Mr. Vaughan Davies yn hollol iach ar y pwngc hwn. Ond erbyn hyn, dywed Mr. James nad ydyw ei gefnogwyr yn foddlawi) iddi) dynu yn ol. Yn ngwyneb hyn, nis gwyddom pa beth i'w wneyd. Os erys y ddau Ryddfrydwr ar y maes, bydd Tori yn rhwym o fyned i mewn. Nid ydyw cefnogwyr Mr. Vaughan Davies chwaith yn foddlawn iddo yntau i dynu yn ol. Er hyny, boddlona ef i osod y mater i bwyUgor Rhyddfrydig i ben- deifynnpa un o honynt sydd i gilio yn ol yn ffafr y Hall. Ystyrir hyn yn ganmoladwy a boneddigaidd yn Mr. Davies. Er fad Mr. James wedi cael ei foddloni yn Khyddfrydiaeth Mr. Vaughan Davies, etto, y mae yn rhaid i ni gydym- deimlo &'i gefnogwyr. Y mae yn waith anhawdd credu yn nhrbedigaeth etholiadol neb. Wrth edryeh i mewn i hanes Mr. Vaughan Davies, yrydym yn :611el mai dyn gwerinol, yn fwy na phendefigol, y mae wedi bod. Nid ydoedd ei Geidwadaeth erioed wedi daUu ei lygaid i beidio gweled tegwch a rheaymoldeb yn ei wrthwynebwyr. Yn y flwydd- yn 1B68, >darfu.ei hnll ddefliaid, oddi gerth dau neu dri, bleidleisio yn. ei erbyn y tro hwnw. Pan ddaeth gorchym- lyn o'r CarMon Club am iddo eu danfon i tfwrdd, gwrthod- odd vmeyd a dywedodd fodyn well ganddo gael ei ddi- aelodi o'r clwb na gwneyd y fath greulondeb, ao nad oedd dim yn ddyledus iddo sf oddi wrth ei ddeiliaid ond eu irhenti. JSid-oes hanes genym ei fod; wrth gyfranu elusen- au, yn iiooijos dim tfafraeth i Eglw-yewr, na chapelwr. Y mae yma boreonauicyfoethogyn rhoddi te, a chymmwynas- au eraill, i "Iodan y llan yn unig; ond rhydd efe dP, &e. yn flynyddol i bawb o'r gymmydogaeth yn ddiwahaniaeth. Cyfeana yn flynyddolat ddiddyJedu y capel; ae ni chlywyd iddo orfodi neb o'i weithwyr i fyned i'r llan ar y Sul, megys y mae arfer rbai yn ein plitb. Cyfrana bunt yn "flynyddol er's deng tclynedd-ar-hugam at glwb y gweithwyr yn Rhyd- y-#elin. Diohon y dywed y d&rllenydd nad ydyw y pethau h,yn, ond, yn dongon ei -led yn foneddwr haelfrydig, ac na wmtSth.ddMt 'ornd yr hyn a ddylai- wneyd. Etto, dengys ibaelfrydedd difcartiol fawrfrydigrwydd y boneddwr a wna lemy. Yr «edJ Mr. Yaoghac .Davies ar y maes yn flaenorol 1 Mr. Morris Davies, yr ymgeisydd Toriaidd, yr hyn a ddeng- ys yn amlwg nad oes A fyno y blaid Geidwadol & Mr. Vaughan Davies. Y maent wedi Uwyr ymwrthod ig ef. Daeth ein holl bendefigion ynghyd, a chefnogasant Mr. Morris Davies, ac y maent oil yn canfasio drosto. Y mae genym air Mr. Vaughan Davies ei hunan ynghylch eigredo boliticaidd. Dywedodd yn bendaut Dadoes. dim ar y rbag- len Ryddfrydig nas gall ef bleidleisio yn gydwybodol drosto. Nid wyf am redeg Mr. James i lawr. Diammheu genyf y gwna1 aelod Oampus ar y Bwrdd Sirol. Gwnai y naill neu'r Hall gynnrychiolwr rhagorol. Ond tra y byddo y ddau ar y maes, nid oes obaith y gwelir yr un o honynt ar y bwrdd. Y mae y dosbarth hwn yn sedd hollol ddiogel i un Rhydd- rryu wr. a ioacuona yr etholwyr adael pethau fel y maent ? A ydyw ddim yn bossibl cael cefnogwyr y ddau Ryddfryd- wr ynghyd i benderfynu pwy sydd i dynu yn ol yn ffafr y Hall? Cynnalier cyfarfodydd ar gylch gan y ddau ymgeisydd; a myner pleidleisio drwy y balot yn mhob un o'r cyfarfod- ydd, a cheir gweled felly pa un ydyw ymgeisydd y bobl, Nid oes eisieu i gefnogwyr Mr. James ofni cymmeryd y cWrs hwn. Y mae ef yn un o'r bobl, a disgwylir fod yna fwy 0 gydymdeimlad rhwng y fiermwyr a'r gweithwyr A Mr. James nac sydd ganddynt at un 0 ddosbarth uwch na hwynt. Os llwyddir i symmud y gallu oddi wrth y mawr- ion i ddosbarth ts, bydd yn gam yn yr iawn gyfeiriad igael y gallu i ddwylaw y gweithwyr. Nis gallaf weled ond mantais i gefnogwyr Mr. James drwy dderbyn cynnygiad teg Mr. Vaughan Davies. Galwer cyfarfodydd ynghyd, a phenderfyner y mater rhwng y ddau ymgeisydd ar unwaith. TV wedi ymranu yn erbyn ei hun ni saif.' Na fydded i ni goili sgdd ddiogel drwy ein ffolineb.—Rhyddfrydwr.
--LLANSADWRN.I
LLANSADWRN. I Eisteddfod.- Cynnaliwyd yr eisteddfod yma ar ddydd Nadolig, yn yr Ysgoldy, ac yr oedd y cyfarfod ydd eleni mor llwyddiannus ag erioed. Yr oedd yr elw yn myned at Ddarllenfa Llansadwrn, yr hon a ffurfiwyd yma ychydig amser yn ol, a'r hon sydd yn barod wedi gadael ei hargraph Ilesiol yn yr ardal. Yr ydym yn gobeithio y bydd gan y pwyllgor o ddentu lOp., wedi talu yr holl dreuliau, i'w roddi tnag at y sefvdliad yma, gan fod yr ysgoldy yn orlawn yn ystod yr eisteddfod a'r cyngherdd. Cadeirydd y cyf- arfod cyntaf oedd T. Walters, Ysw., Llansadwrn, ac arweiniwyd yn ddebenig gan Mr. D. Parry Evans (yr hwn hefyd oedd ysgrifenydd gweithgar yr eistedd. fod), a'r doniol Mr. W. Llewelyn Williams, Brown- hill, o Goleg Brasenose, Rhydychain. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan y cerddor ieuangc, Mr. L. J. Roberts, G.T.S.C., Aberaeron; y farddoniaeth gan loan Myllon, a'r amrywiaeth gan y Mri, J. Bevan, a W. Llewelyn Williams. Y mae yn ddrwg genym nad oes genym ofod i roddi manyJion a'r holl gystadl- aethau ac felly, ni wnawn ond enwi y prif ennill wyr. Ar y brif gystadleuaeth gorawl am ddatganu y gydgan, 'Cenwch i Dduw' (Miss Williams, Beau- maris), ennillwyd y dorch gan gõr Llanwrda, ar ol cystadleuaeth dyn, a rhoddwyd oanmoliaeth hefyd i gor Llansadwrn. Cafwyd cystadleuaeth rhagotol rhwng corau meibion Llangadoc a Llansadwrn am ganu y I Comrades Song of Hope,' a dyfarnwyd y wobr i gôr Llangadoc. Cor plant Llanwrda ennillodd am ganu Dydd y Coroniad,' 0 Odlau'r Efengyl; E. Evans (Alawydd Amman), a J. R. Jones ar y ddeu- awd a J. R. Jones (Brynamman) ar yr unawd bass. Cafwyd cyngherdd rhagorol yn yr hwyr, pryd y caf- wyd gwasanaeth cerddorion yr aTdal, yn gystal ag eraill o Ferthyr. Y llywydd yn y cyngherdd oedd E. P. Lloyd, Ysw., Glansevern.-Gohebydd.
GODREU HIRAETHOG. I
GODREU HIRAETHOG. I FoNKDDIOrON, 1 Yn unol &'m haddewid yn fy Ilytbyr diweddaf, yrwyf yn cymmeryd fy ysgritbin mewn Haw unwaith yn rhagor i ysgriblo ychydig linellau. Wel, dyma lJioll wedl elneludo gan gerbyd eyflym amser i weled y flwyddyn 1888 yamarw, a'i chlaridu gyda'r pethau a fu ac y mae y flwyddyn new- ydd 1889 wedi gwawrio arnom. Dymunaf 0 eigion fy nghalon i chwi, 30 i holl ddarllenwyr selog y FANER- 'Flwyddyn newydd dda, a llawer iawa 0 honynt.' Hyder- af fod pob un wedi dyfod ato ei hun bellach ar ol digwydd- iadau gwyliau y Nadolig yma. Yr wyf yn credu y gallai Ilawer iawn fwynhau eu gwyl. iau yn fwy i'w mantais pe y diwygient yn eu harferion ar adeg fel hyn. Holl fympwy rhai fydd casjrlu a chynnilo am beth amser cyn y gwyliau, ac yna gwneyd eu hunain yn is na'r creaduriaid direswm, trwy yfed gwirod i ormod- iaeth a thrwy hyny, ysgafnhau eu llogeUau, a phylu yr ymenydd. Mwynheais i fy ngwyllau eleni yn gampus; ond nid oedd y gwirod yn fy list (o fwyniant) o gwbl. Yr wyf fi wedi rhoddi i fyny y ddiod er's llawer blwyddyn bellach; a bu- asai yn well i rai o drigolion y godreu yma ddilyn fy esampl yn hyn o beth. Clywais fod un o drigolioa y godreu yma wedi bod yn rhoddi tipyn 0 waith i'r Hen Blisman, o herwydd y ddiod; a bu gorfod iddo dalu yn lied ddrud am ei wely gwael (y gwter). Ceir llawer ystori ysmala yn cael ei hadrodd ar gost y meddwyn, druau Y noswaith o'r blaen, dywedodd rhywun wrthyf yn yr efel yma yatori ddoniol iawn am un o'm owsmeriaid. Cym- merodd yr amgylchiad le rhyw ychydig amser cyn y gwyl- iau diweddaf. Fe feddylir fod y dyn dan sylw wedi marchogaeth i'r dref ar ei geffyl, a rhoddodd yr anifail i fyny yn yr ystabl yn yr H- a'i bpn, yn naturiol, at y mansiar. Wedi cwblhau ei fusnes yn y dref, meddyliodd am droi tua chartref; ond yr oedd y nos wedi tnenu ei mantell ddn cyn iddo gyohwyn. Pan aeth y dyn i'r ystabl, yr oedd yn lied dywyll; a chan y eredai y gallai roddi y ffrwyn yn mhen ei geffyl heb lewyreh, ceisiodd wneyd hyny. Ond er ei fawr syndod, nis gallai ddyfod 0 hyd i ben y ceffyl (yr oedd rhyw ivags wedi bod yn yr ystabl, ae wedi troi pen y ceffyl tnag allan). Meddytiodd y dyn yn ei fraw fod y ceffyl wedi llyngcu ei ben, oddi gerth y mwng (cyn- ffon), a cheisodd gael allan a oedd cynffon y ceffyl wedi peidio cyfarfod i'r un ddamwain a'r pen; ac yma y daeth- wyd o hyd i'r dirgelwch yngtyn ag absennoldeb y pen yn y pen arall. Nid wyf yn cydweled yn hollol fig arferiad ieuengctyd ein gwlad ar ddydd Nadolig, pa rai a ddifyrant eu hunain trwy gicio y bel droed. Yr wyf yn meddwl fod lie iddynt hwythau ddiwygio, a cheisio am rywbeth uwch ar y dydd hwn. Cynnelir cyfarfodydd o'r braidd yn mhob pentref ar yr adeg yma—cyfarfodydd cystadleuol-gan rai o'r enwad- au crefyddol, a chyfarfodydd carolau, &c., gan eraill. Cul anarferol eu barn y byddaf fi yn cael rhai o'm ows- meriaid, a at want ea hunain wrth yr enw 'Eglwyswyr selog,' ar bwngc cadwraeth y Nadolig.. Dywedant yn gadarn na ddylid ar un cyfrif gynnal cyfarfodydd cystadl- euol a llenyddol ar y dydd hwn, ao ni fynant sôn; am, ddim byd ond gwasanaeth crefyddol (?}, a chanu carolau. Yr wyf yn ofni fod gryn dipyn 0 ysbryd y Phariseaid gynt yn meddiaunu yr Eglwyswyr hyn—yn gwyngalchu y llestri oddi allan. Pan yn pedoli caseg B y dydd o'r blaen, dywedodd y Ilangc wrthyf mai drwg iawn y gweithia gwedd newydd C- G-. Nid oes yr un o'r ddau geffyl yn foddlawn i fod yn y drafftia; ond myn pob un o'r ddau fod ar y blcen. W naltl: hyn mo'r tro. Clywais fod un o'n proffeswyr crefydd niya cailw pwysau prin lie anghyfiawn. Pa sut na ddaw yr. Hen Blisman Ð byd i bethau fel hyn, tybed ? Dywedir mai yn pentref .9- y: ceir y sebon; moaiiM goreu a rhataf, yn ddiammhenoL 'Y mae ynoi.un!isydd, newydd brynu ystoc dra helaeth. o'r best English make. Clywais fod yr Hen Botsiar wedi-cael colle(L 0 goryn ei bet, y noswaith o'r blaen, trwy ei defnyddio i ddata rhyw- beth. Nid gwiw iddo wisgo hono etto, rhag idfn i'r I Hen Gipar ddyfod 0 hyd iddo. Gofynaf, cyn terfynu, i rai 0 drigoBon 1 ardal P- i ddarifen, pan gant hamdden, y 15fed Salm, a ebtMto Bytw- eddoli yr hyn sydd gynnwysedig yn adnod 3 o'r un sakn. Nid oes modd cael peth mwy .niweidioli eglwys. na gweted brodyr neu chwiorydd allan "u gilydd. Os na allwch siarad da am eich gilydd, na ddywedwch ddrwg. Taw, pia hi boys Yr eiddoch, &c., YB HEN '0 BACH.
I mt¡)ejdaul JUWrinbm --
I mt¡)ejdaul JUWrinbm TL16FRUDDIAETH ARSWYDUS BACHGEN YN BRADFORD. DAMUO Y COEPH.—CYFPEO MAWR. BOREU Sadwrn diweddaf, -darganfyddwyd corph bachgenyn bychan, wyth mlwydd oed, o'r enw John Gill, mewn penty yn nhref lliadford, wedi ei ddarnio yn y modd mwyaf arswydus. Yn y dull yn mha un y cyflawnwyd yr anfadwaith, y mae cryn debygol- rwydd i ysgelerderau ofnadwy Whitechapel, Llun- dain; yr unig wahaniaeth ydyw, mai bachgenyn di- niwed, ac nid mereh o bat-ain, ydoedd yr un a gigydd- iwyd. Yr oedd yr anrhaith ar y corph yn mron yn gwbl gyflelyb; y coluddion wedi eu nagor y galon wedi ei thynu allan y clustiau wedi eu tori ymaith, a'u dodi yn nghendwll y cylla; a dirmyg chwanegol na byddai yn weddns ei wneyd yn gyhoeddus: a'r cyfan wedi ei gyflawni oriau lawer, yr oedd yn amlwg, cyn i'r corph gael ei ddarganfod. Y cwest. iwn mawr, bellach, wrth gwrs, ydyw-pwy a gyf- lawnodd yr ysgelerder ? Fel llofruddiaethau Llun. -dam, y mae hwn hyd yma yn ddirgelwch er fod yr heddgeidwaid wedi eymmeryd un dyn i'r ddalfa. Yr hanes diweddaf am y Hinge anffodus yn fyw ydyw iddo, 0 ddeuta hanner awr wedi saith o'r gloch boreu ddydd Iau, wedi adael ei d, fyned gyda gwerthwr liaeth yn ei gerbyd. Ymddengyg ei fod ef a'r gwerthwr yn gyfeillion mawr, ac mai peth arferol ganddo oedd cael reidiau yn y drol fach. Aeth gydag ef, yn ol tystiolaeth y dyn ei hun, cyn belled a'r ty olaf ond nn yr oedd ganddo i ymweled ag ef, pan y dywedodd yr ii'i adref i geisio ei foreubryd; ac yna llithrodd ymaith, gan fyned yn nghyfeiriad car- tref, medd y gwerthwr a dyna yr hanes diweddaf am dano hyd nes y cafwyd ei gorph llofruddiedig. Yn anesmwyth, wrth ei weled yn hir yn dychwelyd, aeth ei rieni i ymholi yn eigylch, and methent a chael gair gan neb am dano; dim end fod amryw wedi ei weled yn nhrol y gwerthwr llaeth. Yn y prydnawn, daeth y gwerthwr ei hnn, wrth fyned eilwaith 0 am- gylch i'r t, i ymofyn am dano, gan ddyweyd yn mha le a pha bryd yr oedd efe wedi ei adael ef. Dranoeth, ymddangosai hysbysiad yn y newyddiaduron lleol yn ei gylch; ond ni ddaeth dim 0 hyny, chwaith. Boreu Sadwrn, modd bynag, yn mhen yr wyth awr a deu- gain, caed y corph fel y disgrifiwyd, yn y penty, gan ystablwr, wedi ei gludo yno, fel y tybir, o'r n:an y llofruddiwyd ef. Yn natnriol iawn, cymmerodd yr heddgeidwaid y gwerthwr llaeth i'r ddalfa; ond y mae efe, wrth gwrs, yn gwadu iddo wneyd dim i'r bychan yn y modd mwyaf pendant. Wrth gwrs, yr hyn y mae yr heddgeidwaid yn amcanu ei chwilio allan ydyw, symmndiadau Barrett (y gwertirwr llaeth) ar ol yr adeg y gwelwyd y bach- genyn gydag ef ddiweddaf. Dywed ef iddo dreulio y gweddill o ddydd lau gyda'i orchwylion arferol, ac iddo ddyfod adref yn yr hwyr, ae nad aeth gam allan o'r ty hyd hanner awr wedi chwech o'r gloch y boren canlynol. Yr heddgeidwaid, ary Ilaw arall, a sicr- h&nt fod ganddynt dystiolaeth i'r gwrthwyneb i hyn. Dywedant fod amryw bersonau wedi ei weled allan o'r ty pan y dywed ef ei fod i mewn. Un ferch ienange yn enwedig, meddant, a ddywed ei bod hi wedi sylwi fod rhywun ya gweithio yn yr ystabl yn hwyr y noson dan sylw, yr hyn oedd yn beth tra anarferol. Sibrwd araIlyngln a'r achos ydyw fod y careharor ei hun wedi cyiarwyddo ei gyfreithiwr i osod dau feddyg ar waith. i wneyd ymchwiliadau i achosion -0 wafigofrwydd yngl^n 4'i deulu. Bu un o'r meddygon a wnaethant archwiliad ar gorph y bychan, hefyd, yn gwneyd ymchwiliad i ystad fedd- yliol Barrett ei hun a oha/fodd ef yn bwyllog, di- tgyifro, a'i hollattebion yn arddangos synwyr cryf a ohwbl ddiammhariaeth. Nid oes nn rhan o'r corph Iwedi ei gymmeryd ymahh, gyda'r eitbriad o,un darn o gnawd. Y mae y meddygon hyd yn hyn wedi methu dyfod 0 hyd i hwnw. Cred y meddygon, hefyd, ydyw fod y corph wedi ei ddarnio yn y modd arswydus y gwnaed hyny gyda'r amcan 0 beri i bobl dybio mai gwaith llofrudd Whitechapel, Llundain, oedd y cyfan. Yn hyn, y mae y Ilofrudd, pwy bynag ydoedd, wedi aflwyddo, nid oes neb yn tybio fod gan Bion Y' Rh w ygwr' ddim i'w wneyd a'r erchyllwaith hwn. Rbaid, yn hytrach, ei fod wedi ei gyflawni gan Tywun tra chyfarwydd a'r gymmydogaeth. Cynnaliwyd ymchwiliad o flaen yr ynadon ddydd (Mercher diweddaf. Y pryd hwn, yr oedd Barrett yn ymddwyn yn dra gwahanol i'r modd yr ymddygai pan geribron o'r blaen. Yn lie bod yn siriol a di. daraw, ymddangosai yn bryderus ac ofnus, gan dalu y sylw manylaf i'r oil oedd yn cael ei ddyweyd. Wedi gwrandaw ar y prifgwngtabl yn agor yr achos, o du yr eriyniad, gwrandawyd amryw dystion, megys tad a mam y bachgen, a chymmydogion oeddynt wedi ei weled gyda'r Ilaeth werthwr, a'r meddyg. Tystiodd amryw iddynt ei weled gyda Barrett ar 01 yr adeg y dywed efe iddo ei adael a myned adref i geisio ei foreubryd. Un ferch ieuangc a dystiodd yn bendant iddi dderbyn llefrith 0 law y bachgen ei hun boreu ddydd lau, o ddeutu deg o'r gloch, tra y safai Barrett,gyda'r march ar yr heol. Yr adeg y dywed y carcharor i'r bychan ei adael ydoedd 0 ddeutu hanner awr wedi wyth. Eraill a dystient iddo fyned gydag ef, fel arfer, i ben y siwrnai, ac nid ei adael pan yr oedd ty neu ddau yn chwanegol i'w cyflenwi, yn ol adroddiad Barrett. Un peth sydd amlwg, dybygid, ydyw i'r Ilofruddiaeth gael ei chyflawni ar ol tynn dillad y bychan oddi am dano, canys nid oes dim 0 honynt wedi eu dryllio na'u tyllu. Oddi wrth y ffaith fod darn neillduol 0 hono yn ngholl, hefyd, tybia y meddygon a fuont yn gwneyd archwiliad ar y corph trosedd, annaturiol- math 0 wrywgydiaeth-wedi ei gyflawni cyn cymmeryd bywyd y bychan anffodus oddi amor ac ynglyn ft hyn, dywed yr heddgeidwaid fod ganddynt hwy dystiolaethau i brofi fod Barrett yn ddyn oedd yn mhell dan ddylanwad chwantan aisifeilaidd. Hyd yma, modd bynag, teg ydyw dy- weyd nad oea unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i gyssylltu Barrett 1'r erchyllwaith wedi ei dwyn yn mlaen, ond rhoddir ar ddeall fod rhai dadgddiadau pwysig i gael eu gwneyd yn y Hys a gynnelir ddydd Mercher nesaf. Bu un o'r meddygon a wnaethant archwiliad ar gyrph puteiniaid llofruddiedig White- chapel, yn Bradford y dydd o'r blaen, yn gwneyd archwiliad ar y corph hwn; a. rOMghø. y daeth iddo ydoedd fod y llofruddiaeth hon wedi ei chyflawni gan law hollol wahanol i'run fu yn cyflawni Y Ilof- ruddiaethau hyny. Tair ar hugain oed yw y car- charor.
[No title]
larll Kintore sydd wedi ei bennodi yn Llywodr- aethwr Deheubarth Awstralia yn lie 8yr William Robinson. Daieth Cwaoer i'r llyasirol ynBei, per, fel tyat, y d,ydd o'r blaen. Pan orchymynwyd iddo dynu eibêtoddi am ei ben, gwrthododd ond, chwanegai na byddai ganddo wrthwynebiad i un o'r gwydriogion wneyd hyny dan orchymyn y hamwr. 'Ni roddaf fi byth omhymyn wer SDI,' ebai y bmrnwr; a gwrtbedodd gymmmd tystiolaetli y d5,n, yy hwn y bu raid iddo fyned allan.
HELYNT Y DEGWM MEWN RHAN 0…
rbystyd, a mynodd ddynion i brigio y rhan yma o'r plwvf, er mwyn codi y oyflog i'r safle ag yr oedd efe yn ystyried y ayiai tod; ao anfonodd y papyr i'w arwyddo gan y dir- prwyWYr, cyn i'r Plwyfoliou ddihuno. Tebyg iawn ydyw fod degwm y rban yma o'r plwyf yn uchel o'r blaen, am ei fod yn clir llafur lied dda ac yr oedd y plwyfolion y pryd HJ™yn. y, pan gawsant y biliau'tiewyddion, yn gofyn oodiad y y degwm, yn ddrwg eu hwyl, a rhai, mewn chwerwder Yd. yn taflu y biliaa dan eu traed, ao yn ea sathru yn y Uaid ao yn (lyweyd na thalent byth mo hono. Ond or. dangos pob gwrthwynebiad y pryd hyny, talu y codiad fu o'r dydd hwnw hyd heddyw. Nid wyf am ddyweyd gair yn faoh am y diweddar Barch. John Lewis, Rhiwgoch. Y mae yn debyg iawn ei fod wedi gwneyd llawer o ddaioni gyda'r achos goreu. Hwyrach fod ganddo resymau cryfion dros drymhau y degwm ar ran oi blwyfolion. 0 bossibl mai credu yr oedd fod y swm a ilderbviiiai oddi wrthynt ya rby faoh o gyflog iddo am ei wasanaeth EIwyaig iddynt, neu fod ei ddegwm blaecorol yn rhv fach i gyfarfod angenrheidiau ei deulu Iliosog, fel iddo allu byw yn barchus. Y mae amaethwyr y rhan ogleddol o'r plwyf yn bresen- nol, gan mwyaf, yn perthyn i Eglwys Loegr, ac yn dwyn mawr sel drosti; ond y mae yn eu plith rai Ymneillduwyr dewr, pa rai oeddynt wedi ymuno a'r Cynghrair Gwrth- ddegymol yn Bryuherbert, pertbynol i ran arall o'r plwyf; ao yr oeddynt wedi anfon cynnrychiolwyr at y parson, dro ar ol tro ond y cwbl i ddim pwrpas, nes yr oedd en degwm yn mis Mai diweddaf wedi cyrhaedd yn ddegwm dwy flyn- edd, pryd y dywedodd Mr. Samuel Evans, goruchwyliwr y parson, wrth yr ychydig Ymneillduwyr hyn am fyned i siarad & Mr. Evans ei hunan; ao yna, aeth y Mri. Evan Jones, Moelifor; David Davies, Ffosbiloorn; a John Morris, Glancaroi;, i siarad I'r glVr parchedig, gan gredu y byddai ganddo rhyw addewid iddynt. Yr oedd degwm dy- ledus Mr. Evan Jones o ddeutu 40p., tra yr oedd degwm y ddau arall o ddeutu 15p. bob un am y ddwy flynedd. Cawsant dderbyniad croesawus ganddo. Dywedasant eu neges, a'r lhesymau cryfion oedd ganddynt dros ofyn peth yn ol yn y degwm. Yr oedd Mr. Evans, chwareu teg iddo, yn cydnabod fod y degwm yn uchel, a bod prisiaunwyddau amaethyddol yn hynod o isel; ond ar yr un pryd, na allai efe roddi dim yn ol; fod ei bobl ef (yr Eglwyswyr), wedi talu iddo yn Uawn, ac na allai efe wneyd dim yn well {L'r Ymneillduwyr. Daeth Mr. Evans i hebrwng y tri yn siriol at ddrws ei balas; a dywedasant wrtho drachefn eu bod hwy yn ewyllysio talu, ac nad oeddynt yn chwennycb gwneyd mwstwr' yn y plwyf; ond am gadw cymmydog- aeth dda a heddwch rhwng pleidiau crefyddoi, gan ystyried fod hyny yn rhwystr i lwyddiant yr efengyl. 'Y mae genyf ddiolch i chwi (meddai yntau) am eich ymddygiad boneddigaidd; ond nis gallaf roddi tfyrling yn ol i chwi.' Ac felly yr ymadawsant. A.r ol yohydig ddyddiau, cawsant y rhybudd deng ni- wrnod oddi wrtho ac o herwydd rhyw resymau digonol iddynt hwy eu hunain, talodd y Mri. Evan Jones, Moelifor. a David Davies,' Ffosbileorn, heb y costau ond safodd Mr, John Morris, Glancarog, yn wrol heb dalu, os na ohai ddau swllt y hunt yn ol. Y newydd cyntaf a glywyd o Llanrhystyd, wedi i'r parson roddi y rhybudd ydoedd, fod ei fuwoh wedi trengu yn udisymmwth; ac un heb ei bath oedd. Dywedir on bod yn corddi oddi wrthi ddeunaw pwys o ymenyn bob wythnos. Gan nad beth am hyny, yr oedd y si ar led yn Llan- rhystyd, yr haf diweddaf, fod y parson yn dyweyd, pe byddai yr Ymneillduwyr hyn heb dalu eu degwm byth iddo, na werthai efe ddim o'u heiddo; ao o herwydd hyny, oafodd Mr. John Morris ddiangc yn groeniaoh, heb gael ei werthu ganddo, ac heb dalu ei ddegwm chwaith, Ond ar y lOfed dydd o Ragfyr, rhoddodd Mr. Evans rybudd deng niwrnod arall i'r Ymneillduwyr hyn am y swm dyledus yn awr o flwyddyn a banner. A dydd Gwener diweddaf, yr 28ain o'r un mis, wele ddau feili, dan nawdd heddgeidwad, ac yn gweithredu dan gyfarwyddyd Blr. David Lloyd, oyfreithiwr, Llanbedr-pont Stephan, yn dyfod i ddistrenio arnynt, a chawsant bob llonyddwch i gyflawni ea budrwaith gan yr Ymneillduwyr tawel hyn. Y lie cyntaf y gwnaethaut eu hymddangosiad ydoedd, Pencwm canol, lie y mae Mr. David Davies yn denant; ac fe attafaelasant ar wair a llafur,' am y swm dyledus, 12p. 8s. 4c. Talodd Mr. Davies heb y costau. Oddi yma. aethant i lawr, dan arweiniad yr heddgeidwad, i'u hwyneb- au-tna'r mor, i Glancarrog (Mr. John Morris). Dwy flyn- edd oedd yn ddyledus yma—sef, 13p. 9s. 10c.; ac attafapl- wyd ar wair a llafur. Ni chynnygiodd Mr. Morris dalu iddynt, .am ei fod yn credu yn ddiysgog yn nysgeidiaeth y Testament Newydd-fod crefydd i gael ei chynnal ar yr ■egwyddor wirfoddol, ac nid gan ddegwm gorfodol. q Oddi yma, aethant i Moelifor, ac attafaelwyd ar ddwy clas o wair, cyn i Mr. Evan Jones ddyfod at y ty, am y swm dyledus, 29p. lis. 9c.; a chymmerwyd yr ariangaoddo heb y costau, Wedi hyny, aethant i'r ochr arall i'r plwyf i ddisfcrtoio, yn Ty'nrbos a Bryn-yr-wyn. Pa bryd, attolwg, y derfyil y fath orthrwm cywilyddns ? Y mae y Beibl yn dyweyd wrthym mai i 'ryddid y'ch galwyd.' Gwawrio wnelo y boreu yn fuan pan y caffo holl rwymau gormes eu dryllio yn chwilfriw man, ac y bydd cydraddoldeb crefyddoi yn teyrnasu. Cewcb glywed hanes yr arwerthiant wedi y oymmer 1 e.—Sylwedydcl.