Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Y G TNNWTSIA J).
Y G TNNWTSIA J). Y flwyddyn 1888 1 Deheudir Cymru 2 Llithoedd Clawdd Offa 2 Rhyfcl y Degwm — 2 OohdbiABth&n ••• ••• ••• MI ••• 3 Troseddu a Damweiniau. 3 Gonedtgaethan, &a. 4 Prlt Erthyglau 4 Newyddion Cymrelg •» 4—5 Telegrams o'r Telegraff Offis 5 Marchnadoedd oM 6 Barddoniaeth ••• ••• ••• 6 Hysbyaiadau — 7-8
Y FLWYDDYN 1888.
Y FLWYDDYN 1888. Ni chifodd y flwyddyn, yr hon sydd newydd redeg ei gyrfa i'r pen ei nodweddu gan unrhyw ddigwyddiadau mawrion a chyffrous. Bu, ar y cyfan, yn flwyddyn dra heddychol. Cymmer- odd rhai brwydrau byohain le yn Affrica, ac hefyd mewn rhanau o Asia; ond yn ffodus, ni chyflawnwyd, yn 1888, brophwydoliaeth llawer o'r' gwjr doeth,' y byddai iddi gael ei nodweddu gan gydgyfarfyddiad a gwrthdarawiad ofnadwy byddinoedd mawrion aruthrol Ewrop-arfau a chad-dd <rpariaethau pa rai oedd yn barod i ryfel. Ac hyd yn hyn, y mae heddwch yn teyrnasa, a'r cenhedloedd yn mwynhau cysuron nad ydyrit i'w disgwyl ar adegan o ryfel-a gallwn ddywedyd hefyd, nad oes heddyw ar- wyddion rhyfel yn ymddangos mewn un wlad dan haul. Yn awr, ni a daflwn gipdrem ar wahanol aragvlchiadau y deyrnas hon, a'r byd yn gyff- rediuol. MASNACH Y DEYRNAS u Ar y eyfan, y mae ei holwynion wedi trot yn dra chysson, er nad mor gyflym ag y buasem yn dymuno. Er hyny, addefir yn lied gyffredinol ei bod yn graddol wellhau yn y misoedd di weddaf; ae y mae ei rhagolygon yr wythnosau hyn yr un mor lewyrcbus-os nad ellir dywedyd fod y gwelliant yn parhau i ennill tir. Nid arwydd ddrwg ydyw arafwch y gwelliant; gan yr ystyrir byny yn arwydd o'i sefydlogrwydd a'i barhad. Ac er fod braidd pob cangen o fasnach a Ilafur wedi gwellhau i ryw raddau, y mae ym- borth, a nwyddau eraill sydd yn angenrheidiol at gynnaliaeth a chysur teuluoedd y wlad, yn parhau yn rhesymol a rhad. Y mae y fasnach mewn gl6 a haiarn wedi bywhau gryn lawer yn ystod y flwyddyn; ac y mae chwanegiadau at gyflogau y gweithwyr wedi cymmeryd lie, yn gystal ag mewn amrywiol ganghenan eraill o la fur. G WLEIDYDDIAETH. Araf y mae ein symudiadau wedi bod yn ystod y flwyddyn; ac nid oes unrhyw gyfnewidiadau mawrion wedi cymmeryd lie mewn teyrnasoedd eraill chwaitb. Ba senedd Prydain yn eistedd am fwy o amser y flwyddyn ddiweddaf nag mewn un flwyddyn o fewn cof neb. Oyfarfu mor gynnar a'r 9fed o Chwefror, a pharhaodd hyd y 13p,g o Awst, pryd y gohiriwyd hi am dymmor. Ail gyfarfu drachefn yn mis Tachwedd, ac eisteddodd hyd ftyliau y Nadolig. Parhaodd y ddadl ar yr anerchiad o'r orsedd o'r 9fed o Chwefror hyd y 23ain o'r un mis; a chafodd llawer o faterion cyhoeddus sylw yn ystod y ddadl hirfaith hono. Ond sefyllfa yr Iwerddon, a gwleidyddiaeth Wyddelig y llyw- odraeth, a gafodd y sylw penaf; yr hyn a feirniadid yn Llym, ac a gondemnid yn ddiarbed gan yr aelodau Gwyddelig a blaenoriaid y blaid Ryddfrydig. Y peth eyntaf a gafodd sylw Ty y Oyffredin fel cwestiwn ymarferol ydoedd, cyfnewidiad yn y rheolau er dwyn gwaith y Ty yn mlaen. Oymmerodd hyn gryn lawer o amser. Ar y 9fed o Fawrth, dygodd Mr. GOSCHEN ei fesur a'i gynllun i mewn er Ueihau y ddyled wladol; a chafodd ei gynnygion dderbyniad boddhaol gan y gwahanol bleidiau yn y Ty. Ar y 26ain o Fawrth, dygodd Mr. GOSCHEN y gyllideb (budget) i mewn, yn yr hon y gwneid darpar- iaeth er lleihau treth yr inewm geiniog yn y bunt, ynghyd a rhai cyfnewidiadau eraill. Ar y 19eg o Fawrth, dygwyd Mesur y Llyw- odraeth Leol i mewn gan Mr. RITCHIE yr hwn, yn ddiiu, oedd prif feaur y senedd dymmor; a chafodd, ar y cyfan, dderbyniad ffafriol ar ei ymddangosiad cyntaf. Ond cafodd cyfnewid- iadau pwysig eu gwneuthur ynddo tra yr oedd o flaen y senedd-rhai gan ddwylaw y weinydd iaeth ei hun, ac eraill gan aelodau y Ty. Erbyn hyn, y mae yn tynu mwy o sylw, ae yn cael ei fyfyrio yn fwy manwl nag unrhyw ddeddf a wnaed o fewn y blynyddoedd diweddaf. Ar yr 8fed o Fehefin, pan gynnygiwyd fod y Ty i ymffurfio yn bwyllgor er ei gymmeryd i ystyriaeth pellach, eynnygiodd Mr. CAREW ail ddarlleniad mesur cyffelyb iddo i'r Iwerddon. Gwrthodwyd ail ddarllen y mesur; ond rhoddodd yr achlysur gyfleusdra i Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL i draddodi un o'r areithian goreu a draddodwyd yn ystod yr holl senedd-dymmor. Ar y 25ain o Fehefln cynnygiwyd pleidlais o ddiffyg ymddiried yn y llywodraeth gan Mr. JOHN MORLEY, o herwydd prawf a charchariad creulawn ac anghyfiawn Mr. DILLON. Ar ol dadl am ddwy noswaith gwrthodwyd y cyn- nygiad gan fwyafrif o 93. Y mater nesaf o ddyddordeb a gafodd sylw ein seneddwyr ydoedd, y mesur er ffurfio Dir- prwyaeth o Farnwyr, a rheoleiddio gweithred- iadau y ddirprwyaeth hono, er gwneuthur ym. chwiliad i'r cyhuddiadau a ddygid gan y Times yn erbyn Mr. PARNELL, ac eraill o'r Cenedlaeth- olwyr Gwyddelig. Disgwylid i'r mesur hwn! ddwyn pethau pwysig a thra niweidiol i'r aelod- an Gwyddelig, ac i achos Ymreolaeth i'r Iwerdd.1 on, i'r golwg; ond er fod tri o farnwyr galluog wedi bod yn eistedd am dymmor hir, bellach, a ehyfreithwyr galluocaf y deyrnas wedi cym- meryd rhan yn y gweithrediadau, a Ha mawr o dystion wedi rboddi eu tystiolaethau, nid oes hyd yn hyn ddim o bwysigrwydd neillduol wedi dyfod i'r golwg er profi euogrwydd yr aelodau seneddol Gwyddelig yn wyneb y oybuddiadan B! roddwyd yn eu herbyn gan eu gelynion. Ae I yn ol pob ymddangosiad presennol, bydd i'r ym- chwiliad hwn, er y g6st fawr mewn arian, a'r gwastraff ar amser sydd yn gyssylltiedig ag ef, droi allan yn hollol ofer—pe ofer hefyd, os try! yn siomedigaeth fawr i'r Toriaid a'r Undebwyr.1 Cymmf rodd y mesur hwn, yngbyd a Mesnr y i Llywodraeth Leol, a mesurau lied ddibwys eraill, gymmaint o amser y senedd nes y-pender- fynodd y llywodraeth gynnal eisteddiad hyd- refol; ac felly gohiriwyd ar y 13eg o A wat. Ar ol gorphwys am dymmor byr, dechreuodd ein seneddwyr ar y gwaith o anerch cyfarfod ydd mewn gwahanol ranau o'r wlad a phen- derfynodd ein Rhyddfrydwyr mwyaf blaenllaw wneuthur y defnydd goreu o'u hamser cyn yr ail gyfarfyddiad. Anerchwyd cyfarfodydd cy- hoeddus mawrion gan Mr. GLADSTONE, Mr. JOHN MORLEY, Svr WILLIAM HARCOURT, ac eraill o aelodau y Ty Isaf; a chan Arglwydd GRANVILLE, Arglwydd SPENCER, Arglwydd Bi- PON, a Rhyddfrydwyr eraill perthynol i'r Ty Uchaf; yn mha rai y beirniedid gweithrediad- au y llywodraeth yn llym, ac yn neillduol eu gwladlywiaeth Wyddelig. Ni bu y Toriaid, chwaith, yn ddistaw. Bu y Meistri BALFOUR, GOSCHEN, a W. H. SMITH, yn traethu eu barn o'u tu hwythau; a chafodd ttifodau Arglwydd HAKTINGTON, ac eraill o'r Undebwyr, eu defn- yddio, yn ol eu harfer. Bu yr aelodau Gwydd elig hefyd yn hynod ddiwyd ar y llwyfanau yn ngwahanol ranau y deyrnas. Yn mis Hydref, cynnaliwyd eyfarfodydd lliosog o Ryddfrydwyr Oymreig yn y Drefnewydd, ac yn ddilynol i hyny yn Ngwrecsam, y rhai a anrhydeddwyd a phresennoldeb amryw o aelodau seneddol; ac yn eu plith, Mr. JOHN MORLEY, yr hwn a dra- ddododd anerchiadau gorchestol. Ail gyfarfu y senedd ddechreu mis Tachwedd, a chynnaliwyd oyfarfodydd mawrion y Cynghrair Rhyddfrydol yn Birmingham tua'r un adeg-yn roha rai y traddodwyd areithiau teilwng o hono ei hun gan Mr. GLADSTONE, ac eraill. Yn mhlith materion eraill a gafodd sylw neillduol yn y cyfarfodydd Rhyddfrydig, cafodd Badgyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru le neillduol; yr angenrheidrwydd am gyfnewidiad pwysig yn nghyfansoddiad Ty yr Arglwyddi, ae am seneddau byrach; ynghyd ag amryw faterion dyddorol eraill. ARIAN BENTHYG I'R AMAETHWYR GWYDDELIG. Yn senedd yr Hydref, y prif fesurau a ddygid i syl w oeddynt y Mesur ar Bryniad Tiroedd yn yr Iwerddon; yr hwn a basiwyd—a thrwy yr hwn y galluogir y Uywodraeth i roddi bentbyg pair miliwn o bunnau (5,OOO,OO0p). i denant. iaid-fr lwerddon i brynu eu flermydd. Dadl euaiy weinyddiaeth fod hyn yn cael ei wneyd o gytlymdeimlad a'r amaethwyr. Ond y mae yn amhrg mai gwir amcan y mesur oedd estyn ym wared i dirfeddiannwyr y wlad hono yn wyoob dylanwad a gweithrediadau y Cynghrair Tirol Gwyddelig. Dywedodd y Rhyddfrydwyr a'r aelodau Gwyddelig yn eglur yn y Ty mai gofal tyner Toriaid ac Undebwyr Prydain am eu brodyr, y tirfeddiannwyr Gwyddelig, oedd wrtli wraidd y cynnygiad; a'u bod yn ymdrechu gal la gwneyd darpariaethau cysurus ar eu cyfer cyn i Ymreolaeth ddyfod yn ffaith yn yr Iwer- ddon. Gweithied y Cynghrair Tirol Cymreig hefyd ei gynkuniau yn mlaen allan gyda'r penderfyniad a'r pybyrwch sydd yn deilwng o'u hamcanion mawrion; a bydded i'r genedl, o bob dosbarth, eu cefnogi yn wresog-ac ni raid i ni fod yn hfr lawn heb Lys Tirol i benderfynu ar renti teg i'r amaethwyr, sicrwydd am barh&d eu ten. antiieth, ac iawn lIawn am welliantau a wnaed yn eu ffermydd pan yn ymadael. Cawn hefyd yn ddian gan y Rhyddfrydwyr—neu y Toriaid, fe allai-fenthyg pum miliwn, neu ddeg, neu ragor, o arian am 13g isel i gynnorthwyo am- aethwyr Cymru i brynu eu ffermydd ar am- modaa rhesymoL A chawn, gyda hyny, ddarnau byt,'iain o dir i'r gweithwyr; ac ymwared hefyd i'r miloedd sydd drwy y wlad wedi adeiladu eu tai U brydlesoedd. Y WLAD b'iau'r tiroedd oil, ac y mae genym hawl i ammodau llawer iawn ysgafnach gyda golwg arnynt. Y mae yn eglur oddi wrth araeth Arglwydd SALISBURY yn Scarborough, yr wythnos cyn y ddiweddaf, fod 4 CM P bychan yn llestr ei arglwyddiaeth-fod Cynghrair Tirol Cymru, a'r Symmudiad Gwrth- ddegymol, fe allai, yn barod wedi ei argyboeddi fod 'newyn am dir' (' land hunger), fel y dy- wedodd, wedi meddiannu cenhedloedd Celtaidd y deyrnas; a hanner awgrymodd fod yn rhaid gwneyd rhywbeth i'w cyfarfod. Parhaed yr Vsgotiaid, a'r Oymry, gyda'r Gwyddelod-tair cangea'Geitaidd' y deyrnas—i argyhoeddi a goleuo y wlad ar y cwestiynau hyn, nes mynu— ïe, meddwn, nes mynu gwaredigaeth o ryw gyf- eiriad nea gilydd, er pob gwrthwynebiadau. Cymmerwyd y gweddill o amser y senedd- dymmor i fyny, yn benaf, mewn dadleu a phleid- leiato arian y deyrnas at wahanol amcauion yn mhwyllgor y cyflenwad. Cafodd yr amcan- gyfrifon hyn sylw neillduol y flwyddyn ddi weddaf a chafwyd dadleuon pwysig, yn mha rai y condemniwyd y gwastraff ofnadwy sydd yu cymmeryd lie ar arian y cyhoedd mewn eyflogau a threuliau eraill perthynol i'r gwahanol swydd- feydd cyhoeddus, Pasiwyd amryw fesurau eraill, a gwrthodwyd amryw-yn mysg pa rai y mae'n ddrwg genym weled Mesur Cau y Tafaxnau ar y Sabbath yn Lloegr. Yna ym- wahallwyd hyd Chwefror nesaf. YR IWERDDON. Cafodd flwyddyn o brofiad chwerw trwy gael ei llywodraethu dan y 'Ddeddf Orfodol;' ond aflwyddodd y weinyddiaeth i gyrhaedd ei ham- can drwyddL Nis gallodd gynnhyrfu y Gwydd. elod i wrthryfel o un tu, ac nis gallodd ddistewi, dychrynu, n& rhoddi attalfa ar weithrediadau gymmaint ag un o ganghenau y Cynghrair Cen- edketholi CynnaU4saat nifer liosog o gyfarfodydd cy- hoeddus, a defnyddiasant y wasg yn ddibi in er gwmeathar en ewynion yn hysbys, ac er dadleu ?acamd6ffyaeahachosa'ubawliau. Y mae yn I wit,i gannoedd o honynt gael eu carcharu yn yatod y Swyddyn dan y ddeddf ormesol ac ang- hyfiawn hon; ac yn eu plith amryw o'u prif aew&u geneddol, ite amryw o offeiriaid Pabaidd, a gwleidyddwyr blaenllaw. A cbyda hyn, y mae nifer liosog o achosion yn breaennol yn aroa i gael eu profi, ac yn eu plith achwynion yn erbyn amryw o aelodau Beneddol-v rhai, yn I ddtsu, a garcherir 4 hyd eithaf y gyfraith' gan Mr. BALFOUR, a'i frodyr. Er hyn i gyd, methiant hollol yw y Ddeddf Orfodol wedi bod yn yr Iwerddon yn ystod y flwyddyn; ac y mae yn eglur fod ar Mr. BAL- FOUR, a'i ewythr, ofn y canlyniadau, er mor hyderus yr ymddangosant o flaen y cyhoedd. Y CYFNEWIDIADAU YN Y SENFDD. Yn ystod y flwyddyn, ni buont nac yn lliosog na phwysig. Cymmerodd tua 30 o etboliadau le; ond gadawant y pleidiau gwleidyddol, o ran eu rhifedi cymmharol yn y senedd, yr un fath ag oeddynt ar ddechreu y flwyddyn hon, gyda ehwanegiad o ddwy bleidlais i'r Rhyddfrydwyr. Collodd Cymru, yn ystod y flwyddyn, ddau aelod tra gwerthfawr trwy farwolaeth; sef, Mr. HENRY RICHARD, yr aelod dros fwrdeisdrefi Merthyr ac Aberdar, a Mr. F. A. YEO, yr ael- od dros orllewinbarth Morganwg. Er mai Rhyddfrydwyr a etholwyd yn eu lie, teimlir fod bwlch mawr iawn wedi ei wneuthur yn rhengoedd y fyddin fach Ryddfrydig yn Nhy y Cyffredin drwy farwolaeth y Rhyddfrydwyr pybyr a enwyd. 1-. TRAMOR. Ofnid yn fynych, y flwyddyn ddiweddaf, tod cymmylan dnon rhyfel yn ymgasgln awch ben rhai rhanau o Gyfandir Ewrop; ond yn ffodus, cawsant eu gwasgaru cyn i'r storm dori allan. GERMANY.—Nid oedd pethau yn ymddangos, ar un adeg, mor ddymunol ag y dymunid rhwng y wlad hono a Ffraingc; ond aymmudwyd yr annealltwriaeth. Collodd yr Almaen ddau ymherawdwr yn ystod y flwyddyn. Bu farw yr Ymherawdwr WILLIAM ar y 9fed o Fawrth; a dilynwyd ef i'r orsedd gan ei fab FREDERICK- mab-yn-nghyfraith ein brenhines ni. Ond rhoddodd angeu derfyn ar ei fywyd yntau ar y 15fed o fis Mehefin, ar ol teyrnasu ond ychydig o fisoedd, er gofid a galar i laweroedd y tu allan i'w wlad, yn gystal ag i'w ddeiliaid. Yr oedd yn *r a berchid yn fawr; a disgwylid y caffai Germany lywodraethwr pwyllog a goleuedig ynddo. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab WILLIAM; yr hwn, hyd yn hyn, sydd heb gael amser na chyfleusdra i roddi ond ychydig o brofion o'i gymmhwysder i'r swydd. Ond y mae yn debyg o droi allan yn llawn gwell na'r ofnau oedd am dano. Y mae ganddo yn y Tywysog BISMARC un o wleidyddwyr blaenaf Ewrop fel cynghorwr. FFRAINGC.-Nid ydyw pethau wedi bod mor dawel ag y gallesid dymuno yno yn ystod y flwyddyn; er fod y Weriniaeth yn ymddangos fel yn gwreiddio yn ddyfnach, ddyfnach, yn nheimlad y bob!, ac yn ennill nerth chwanegol y naill flwyddyn ar ol y Hall. Y Cadfridog BOULANGER ydyw ei fflangell yn awr. Trwy ei uchelgais, a'i awydd cryf i ymyraeth a. chyfan- soddiad y wlad hono, yn ogystal ag a'i hachosion milwraidd, y mae efe yn peri peth gofid ac an- esmwythder mewn rhai cylchoedd. Ond amser a ddengys pa beth fydd y canlyniadau. lTALY.- Y mae y Pab, LEO XIII, wedi bod yn dadgan ei farn ar faterion gwleidyddol mewn modd tra annerbyniol i'r Ilywodraeth a'i deiliaid. Yn ddiweddar, dangosodd yn eglur ei fod yn aw yddus, pe y gwyddai pa fodd, i adsefydlu ei awdurdod gwladol yno; a thrwy hyny ym. yraeth i raddau mawr a gorchwylion llywodr- aethau y byd. Ond nid oes y tebygolrwydd Ileiaf y bydd iddo gyrhaedd ei amcan, hyd yn oed yn Italy ei huu-ac y mae yn anobeithiol iddo bullach allu gwenwyno rhyddid ac anni- byniaeth trillion gwledydd eraill, SERVIA.—Y mae breniu a senedd y wlad wedi treulio rhan helaeth o'r flwyddyn mewn ad drefnu y cyfansoddiad gwladol. Yn wir, v maent wedi mabwysiadu cyfansoddiad. newydd i raddau helaeth. AFFRicA.-Helbulus ydyw y flwyddyn wedi bod mewn amryw ratlau o'r cyfandir mawr hwn. Y mae amryw ryfeloedd ar raddfa fechan wedi cymmeryd Ile-dadgviddiedigaetb- au pwysig wedi eu gwneuthur mewn perthynas i ë'mgdtJr a chreulondeb y gaethfasnach a ddygir yn mlaen mewn rhiii rhanau o'r wlad hono; a sicrwydd wedi ei gael fod ein cydwlad- wr anturiaethus ac enwog, Mr. H. M. STANLEY, yn fy?, ac yn parhau i weithio allan amcanion loi ymweliad chanolbarth y wlad. RwssiA. Gwnaed ymdrech egniol yn ystod y flwyddyn gan y Count TOLSTOI, ei gweinidog car; trefol, la chymmeradwyaeth yr ymherawdwr el hun, i wneyd cyfnewidiadau pwysig yn ngbyfangodd- iad y wlad hono drwy roddi mwy o awduidod i'r