Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
I CYNNWYSIAD: I
I CYNNWYSIAD: Digwyddiadau, &c 1 Vr Amaf thwyr a'u Hawliau 2 froseddau a Damweiniau 2 Conde.nniad Guiteau. 3 Cenad y Breuin 3 GenecU¡;aethau, &c. 4 Prif Erthyglau. n. 4 Newyddion Cymreig 4 Bethesda-Bala, &e. 5 Marchnadoedù. n' 6 Bard.loniacth n G Gohebiaethau 6 Newyddion Tramor 7 Qfergooledd Llongwyr 7 Hysbysiadau n.
[No title]
O'R holl flaenoriaid Torïaidd y mwyaf cym- niedrol yn ei areithiau ydyw yr aelod dros Westminster, Mr. W. H. SMITH, y llyfr- werthydd enwog. Nos Lun, efe a roddai gyfrif o'i oruchwyliaeth i'w etholwyr, ac yr oedd yr araeth a draddodwyd ganddo yn gvnllun o'r hyn y dylai beirniadaeth deg ar weithredoedd a mesurau gwrthwynebwyr politicaidd fod. Nid i RANDOLPH CHURCHILL a JAMES LOWTHER a'u cyffelyb yn unig y mae Mi. SMITH yn esampl deilwng o efelychiad, ond hyd yn oed i Ardalydd SALISBURY ei hun. Y mae tegwch a boneddigeiddrwydd yn elfenau arbenig yn ei gymmeriad ef.
[No title]
Yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. JOSEPH COWEN, yr aelod hyawdl dros Newcastle, yn gwneyd ymosodiad cethin ar y Llywodraeth wrth anerch ei etholwyr yntau. A ydyw y g\ÎT hwn yn parhau i ystyried ei hun yn aelod yn y blaid Ryddfrydig nis gwyddom. Hyn a wyddom-mai gwrthwynebwr cyndyn a diarbed ar bob achlysur i'r llywodraeth brescnnol ydyw efe wedi ac yn parhau i fod. Nid ydyw yn gadael i unrhyw gyfleusdra fvned heibio heb gymmeryd mantais arno i greu cymmaint o ragfarn ag a all ef yn erbyn Mr. GLADSTONE a'i Weinyddiaeth. Pa ham, efe ei hun a wyr.
[No title]
Yn chwanegol at yr hyn a ddywedir gen- ym. yn ein herthygl ar Y Twnel dan y sianel Brydeinig,' dylem nodi fod pwyllgor neill- duol, yr hwn a gyfansoddir o foneddigion o swyddfeydd y Bwrdd Masnach, y Morlys, a Llys y Fyddin, yn awr yn eistedd mewn cyughor i ystyried a ydyw y twnel hwn yn ymarferol ac yn ddymunol; neu mewn geiriau creill, a ellir ei wneyd; ac os gellir, a dlylid. Gellir bod yn sicr y bydd y ddwy ochr i'r cwestiwn yn cael eu dadleu yn gryf yn y gynnadledd hon. Ein gobaith yw na wa- hcrddir ei wneuthuriad.
[No title]
Ar hyd eu holl hanes yr ydym yn cael y Caidwadwyr yn ymladd yn galed a phender- fynol dros y prawflwon crefyddol yn y souedd, ac yn mhob man arall. Nid am fod cu. parch i grefydd yn fwy nag eiddo pobl traill, oad o herwydd eu hawydd i gadw &wyddau y wladwriaeth yn eiddo iddynt eu hunain. Yn eu gwrtbwynebiad i Mr. BLUDLAUGH gymmeryd y llVv, neu wneuthur daaganiad fel aelod, byddant yn ymladd dros y cerpyn diweddaf sydd wedi ei adael o'r ormes gy wilyddus hon. Nis gellir eu cyhuddo hwy o anghyssondeb, a dyweyd y lleiaf. Und pa beth a ddywedwn am Ryddfrydwyr hannerog hyny sydd yn eu cynDorthwyo i rwystro y Llywodraeth rhag llwyr ddiddymu yr olion diweddaf hyn o draha Eglwysig a riiagfarn dan gochl crefydd. I a I
[No title]
Ar hyd y dydd Sadwrn diweddaf, bu yr Arglwydd Brif Farnwr COLERIDGE, a r nifer iii'ferol o reithwyr, yn Exeter yn profi achos o dori ammod priodas a ddygid gan amaeth- wr o'r enw HOLE yn erbyn merch ai-ianog (iouddeg-ar-hugain mlwydd oed dr enw Miss HARDING. A brawd HOLE y carai Miss HARDING gyntaf; ond wedi 'tori i f)"'Y' Ao- ef, addawodd briodi HOLE ei hun. Ymddengys fod gan ei thad a'i mam gryn williwynebiad i'r briodas; ac am hyny, yn alien yr banner blwyddyn, hi a roes ar dtiCttlJ iddo nas gallai ei briodi. Anfonodd yntau lythyr twrnai ati, yr hyn a barodd fraw anferth iddi, dybygid; canys daeth ato, a dywedodd ei bod yn barod i 'garu' megys cynt, os peidiai 'rhoddi cyfraith' arni. Gommeddodd yntau, am ei fod wedi gwario pum punt ar y Ilythyr twrnai.' Mynodd ddwyn yr achos i'r frawdlys —' er mwyn dangos i ferched,' meddai, 'nad ydynt i chwareu a theimladau dynion.' Cafodd y ddedfryd o'i blaid :-ffyrling o iawn, a thalu ei gostau ei hun.
[No title]
Mewn paragraph arall, yr ydym yn cyfeirio eisoes at yr Ysgotyn JOHN DUNN, sydd wedi ei wneyd yn un o benaethiaid Eululand, ar ol diorseddiad CETEWAYO. Nid ydyw y dynyn hwn yn ddiffygiol mewn haerllug- rwydd, gan nad pa beth arall y gall fod yn amddifad o hono. Ychydig amser yn ol, cyfododd terfysg mewn rhanbarth o'r wlad sydd dan reolaeth penaeth arall. Mynai deiliaid hwnw gael gwared o hono, a dewis un arall yn ei le. Daeth gwrthodedig ei bobl at DUNN i ddyweyd ei gftyn. Yn falch o'r cyfleusdra, cymmerodd yntau ei blaid; gwnaeth ruthr ar y diriogaeth, a chyflafan ar ei phreswylwyr. Ymddengys iddo, y mae yn wir, gael rhyw fath o ganiatad gan y cynnrychiolydd Prydeinig i wneyd hyn. Ond da genym ydyw deall fod y Llywodraeth gartref wedi anfon ato am iddo, os myn gadw ei le, ofalu yn unig am ei amgylchiadau ei hun yn y dyfodol.
[No title]
Ychydig ddyddiau, neu yn hytrach nos- weithiau, yn ol cafodd perlau a meini gwerth- fawr yr Ardalyddes DOWNSHIRE eu cadw rhag cael eu lIadrata-nid o herwydd fod yr heddgeid waid wedi gwneyd yr oil a ddylasent, na gweision a morwynion y palasdy wedi arddangos mymryn o'r callineb mwyaf cyff redin yn yr amgylchiad, ond unig ac yn holl- ol o herwydd bonglerwch y lladron eu hun- ain. Bu yr ysbeilwyr yn eithaf deheuig, y mae yn wir, yn null eu dyfodiad i mewn i'r ty ond ar ol dyfod, aethant i ystafell hollol wahanol i'r hon yr arferai yr arglwyddes gadw ei gemau ynddi. Bu raid iddynt o'r herwydd fyned ymaith heb gyrhaedd eu hamcan mewn canlyniad. Yr hyn sydd yn hynod ynglyn a'r amgylchiad ydyw, iddynt wneyd ymosodiad ar y brif-ffordd ar ddau o'r gweision; ond y rhai a ddiangasant i'r palas, nid i roddi pawb areugwyliadwriaeth, pa fodd bynag—ond i ymroddi, gydag eraill, i fwynhau noswaith lawen.
[No title]
Dau yn unig o allu ac enwogrwydd arbenig sydd yn ngweinyddiaeth newydd M. DE FEYCINET yn Ffraingc, sef M. LEON SAY, a M. JULES FERRY. Gyda llaw, onid ydyw yn rhyfeddod, nid bychan, mor fuan ygwywodd, 'ft dd M G ac y diflanodd "cicaion" M. GAMBETTA. Nid oes ond ychydig fisoedd wedi myned heibio er pan yr ymaflodd efe yn yr awenau fel Prif Weinidog, a chan fod ei ddylanwad y fath ar y wlad, credai pawb y pryd hwnw y byddai cryn barhad yn oes ei weinyddiaeth ef yn anad neb. Ond ebrwydd y darfyddodd, ac yr ehedodd yntau ymaith fel prif weinidog.
[No title]
Cyn pen ychydig fisoedd etto, daw i'n plith tr ag y bydd myrddiynau yn sicr yn ymdyru i gael cipolwg arno, nid amgen CETEWAYO. Trwy ganiatad arbemg y Llyw- odraeth (wedi deall ei fod ef ei hun yn awyddus iawn am gael dyfod ar ymweliad i Brydain), gellir ei ddisgwyl drosodd mor gynted ag y bydd yr hinon wedi tyneru yn ddigonol iddo, fel brodor gwlad boeth, allu ei ddioddef. Yr ydym yn gobeithio y caiff ddychwelyd yn ol, nid fel carcharor mwy, ond fel penaeth ei wlad unwaith yn rbagor. Adferer ef i'w hawlfremtiau eyntefig, ac anfoner JOHN DuNN-yr Ysgotyn ami ei wragedd-ynghylch ei fusnes.
[No title]
Ofnwn fod teimlad y wlad i gael ei archolli unwaith yn rhagor gan gam-weinyddiad ar gyfiawnder a cbarchanad diachos, fel a l ddioddefwyd gan y ddau amaethwr o swydd I. Stafford-y rhai, y mae yn dda genym ddeall, ydynt nid yn unig wedi eu gollwng yn rhydd- ion, ond i dderbyn pum cant o bunnau o iawn am y camwri a wnaed a hwy. Yn yr amgylchiad presennol, merch o'r enw AMELIA JORDAN y tybir ei bod mewn dalfa ar gam. Anfonwyd hi i benyd-wasanaeth am bedair- blynedd-ar-ddeg, o ddeutu pedair blynedd yn oJ, am ladrata gwerth rhyw gan punt o emau perthynol i'w meistre3 yn swydd Suffolk. Nid oedd y tystiolaethau ar y pryd yn eglur a phendant iawn yn ei herbyn; er hyny, yn ddigonol felly, dybygid, i foddloni y rheith- wyr a'r Arglwydd Farnwr COCKBURN i'w hanfon i gaethiwed am yr ysbaid maith a nodwyd. Erbyn hyn, fe ymddengys fod ffeithiau newyddion wedi eu dwyn i'r amlwg; ac y mae trigolion y rhanbarth hwnw o'r wlad, yn y dyddiau hyn, yn dra phrysur yn ysgrifenu deiseb at yr Ysgrifenydd Cartrefol, i ddymuno arno orchymyn i ymchwiliad gael ei wneuthur i'r holl amgylchiadau.
[No title]
Pan fydd y Frenhines yn teitbio o'r naill ran o'r deyrnas i ran arall, ar hyd y ffyrdd haiarn, rheol sefydlog ydyw, fod yn rhaid i bob tren nwyddau fydd yn myned mewn cyfeiriad gwrthgyferbyniol iddi aros hyd nes y byddo y gerbydres frenhinol wedi pasio. Wrth gwrs, yr unig amcan i hyn ydyw rhag digwyddo damwain i'r penadur, ac nis gellir ammheu doetliineb y rheol am foment. Ym- ddengys mai y wers arbenig sydd i'w dysgu oddi wrth y gwrthdarawiad mawr a ddig- wyddodd yn Llundain ddydd Sadwrn diwedd- af ydyw, y dylai y rheol dda hon gael ei rhoddi mewn grym mewn cyssylltiad a phob jtren fydd yn eludo teithwyr.
[No title]
Yn sicr, nid golygfa annyddorol oedd yr un a geid yn senedd Ffraingc ddydd Llun diweddaf. Y diwrnod hwnw, gallesid gweled M. GAMBETTA yn cymmeryd ei sedd fel aelod cyffredin o'r Ty, a'i ran mewn dadl, heb fod ystyriaethau swyddol yn llyffetheirio dim arno. Yr wythnos flaenorol, efe oedd y Prif Weinidog. Fis yn ol, efe oedd y gwr uchaf a chryfaf ei ddylanwad trwy holl Ffraingc. Nid ydym yn sicr nad ydyw felly etto befyd. Ond os ydyw efe am gadw a chadarnhau ei afael ar ei gydwladwyr, rhaid iddo ymddwyn gyda mwy o bwyll nag y gwnaeth yn ddiweddar.
[No title]
Mor bell ag y mae yr amgylchiadau yn wybyddus, dywedir mai yr achos o'r afiechyd yn mhlith yr eogiaid a'r brithylliaid yn yr afon Tweed, at yr hyn y cyfeirir mewn para- graph arall ydyw, fod gor-ddreniaeth wedi gostwng lefel y dwfr i'r fath raddau fel nad ydyw yr afon yn yr haf namyn ffos anferth Gan y llaw-weithfeydd ar hyd y glanau hefyd llenwir y ffos hon a bodreddi. Er fod yr afon yn llai, y mae rhif y pysg yn fwy, o herwydd amddiffyniad y gyfraith arnynt, Mewn canlyniad, crynhoirhwy ynghyd mewn dwfr nad ydyw yn ddigon pur, nacynddigon llydan a dwfn iddynt fyw yn iach ynddo. Effaith uniongyrchol hyn ydyw fod anhwyl- der marwol wedi tori allan yn eu plith.
[No title]
Ymiedu a  l i bob dydd y rnae Ymledu a chasglu nerth bob dydd y mae y gwrthryfel yn erbyn Awstria yn Herzego- vina a Bosnia, dybygid, ae y caiff FRANCIS JOSEPH fwy o waith nag a ddychymygodd ei galon i'w ddarostwng, nid oes dim yn fwy amlwg. Ymddengys fod Bwlgaria, hefyd, yn estyn cymmhorth mewn arian a dynion i'r gwrthryfelwyr-neu y 'gwladgarwyr,' fel y dylid eu galw yn hytrach. Mewn rhai cylchoedd, ofnir drwg mwy fyth, nid amgen i'r gwrthryfel hwn fod yn achos rhyfel rhwng Awstria a Rwssia, ni byddai raid rhyfeddu dim pe digwyddai hyny, meddir. Ai tybed mai "blwyddyn y gwaed" fydd 18821
[No title]
Pa bryd bynag y llywodraethir Yspaen gan weinyddiaeth Ryddfrydig, bydd y Car- listiaid yn 11awn yni a gweithgarwch yn blino yr awdurdodau, ac yn ceisio cario eu ham- canion eu hunain i ben. Gyda u cyfrwysdra arferol, y maent yn awr yn gwneuthur eu goreu i ennyn eiddigedd y Pabyddion yn erbyn y mesurau Rhyddfrydig i wneyd priodasau gwladol yn gyfreithlawn, ac i gan- iatau rhyddid crefyddol i Brotestaniaid ac Iuddewon. Hwynthwy, hefyd, sydd wrth' wraidd yr holl helynt ynghylch gwneyd pererindod i Rhufain i gydymdeimlo a'r Pab fel careharor yn y ddinas dragwyddola'r cyf an, wrth gwrs, er mwyn ceisio dymchwelyd y deyrnach bresennol, a chael DON CARLOS yn frenin. —
[No title]
Dydd Mawrth nesaf, bydd y senedd yn cyfarfod; ac yn ol pob argoelion, nis gall lai na bod yn un bwysig yn hanes ein gwlad. Hwyrach mai ynglyn a'r aelod dros North- ampton y cymmer yr ystorm gyntaf le. Y mae Syr STAFFORD HORTHCOTE wedi anfon "chwip dair llinell" allan at ei ganlynwyr er's mwy nag wythnos, yn dymuno arnynt oil ofalu am fod yn eu lleoedd am bedwar o'r gloch y diwrnod cyntaf, o herwydd fod Mr. BRADLAUGH wedi dadgan ei fwriad i ddyfod yn mlaen y pryd hwnw i gymmeryd y llw." Y mae y blaenoriaid Torïaidd wedi gwneuth- ur cymmaint o ddefnydd o'r helynt hwn fel nad yw yn syn o gwbl eu bod yn benderfyn- ol o gadw y bel i redeg cyhyd fyth ag y byddo hyny yn bossibl.
[No title]
Ymddengys fod afiechyd mawr a chyffred- inol wedi tori allan yn mysg y pysgod, yn enwedig eogiaid, yn y Tweed, un o brif afon- ydd Ysgotland. Torodd yr haint hwn allan gyntaf yn yr haf diweddaf; ond am rai mis- oedd, ymddangosai fel yn graddol ddiflanu. Yn awr, modd bynag, y mae wedi tori allan gyda mwy o ffyrnigrwydd nag erioed; ac fe ddywedir fod y Proffeswr HUXLEY, a dau neu dri o wyddonwyr cyfarwydd eraill, wedi eu hanfon gan y Llywodraeth i gymmydogaeth Berwick i wneyd ymchwiliadau i'r achos o hono, a pba beth a ellir ei wneyd i'w attal. Ofnir gan rai sydd wedi sylwi ar ei ymled- iad mai yn uwch o lawer na dinas Berwick y mae y drwg.
[No title]
Nid ydyw yn hawdd penderfynu yn mha berthynas y safai M. GAMBETTA, pan mewn swydd, at y rhuthrgyrch a wnaeth Ffraingc yn erbyn Tunis. Ar rai o'i areithiau, gall- esid tybio mai gwrthwynebwr pendant i'r wladweiniaeth waedsychedig a arweiniodd i'r rhuthrgyrch hwn ydoedd. Ond os felly, pa ham na fuasai yn rhoddi gorchymyn i olygydd ei organ swyddol i beidio cefnogi y wladweiniaeth hono mor eithafol1 Awgrym oddi wrtho a fuasai yn ddigonol i ddistewi yr ysgriblydd newyddiadurol hwnw yn y fan. Heb law hyny, yr oedd ei ddylanwad ar y senedd y pryd hwnw mor fawr fel y buasai yn gallu gwrthdroi gwladweiniaeth y llyw- odraeth gyda rhwyddineb, pe yn dewis. Ai tybed ei fod o ddifrif pan yn gwrthwynebu y rhyfelgyrch 1
[No title]
Wrth ddywedyd hyn am Mr. SMITH, na feddylied neb ein bod yn golygu ddarfod iddo, trwy ei ymresymiadau, brofi fod yr egwyddor- ion ar ba rai y mae y IIywodraeth bresen- nol wedi cario ei mesurau yn mlaen yn rhai drwg neu niweidiol. Pell ydym oddi wrth hyny. Yr oil y aymunem ei awgrymu ydyw ei fod yn feirniad teg, ac yn dadgan ei ang- hymmeradwyaeth heb ymostwng i arfer dyl- orniaeth. Oddi ar safie y Tory, ni phetrus- wn ddyweyd y buasai yn anhawdd gwneyd araeth well na'r un a draddododd efe.
[No title]
Nid yw Mr. COWEN chwaith yn galln gweled dim yn mwriad y llywodraeth i ddiw- ygio y dull presennol o gario gweithrediadau Ty y Cyffredin yn mlaen ond amcan maieis- us ac ymgais gywilyddus i ddistewi y itetaf- rif. Nid yw yn dewis cofio nac ystyried dim ynghylch rhwystraeth; ynghylch yr angen- rheidrwydd am gadw urddas cymmenad y Ty i fyny; nac ynghylch yr anhawsder « gario y' yn mlaen dan reolau sydd yn eadiatau i g]3,mblaid feh- an attal pob peth Nid yw efe yn nialio dini yn hyn, Mwy cyfleus ilw anican ef yw w hanwybyddu cr lllwyn id Jo. gael mantais