Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YR YMGYROH YN NGHYMRU.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YMGYROH YN NGHYMRU. PAN yn ysgrifenu dan y penawd hwn yr wyth- nos ddiweddaf, yr oedd y frwydr yn, neu i gael ei hymladd yn yr etholaethau caiilynol:-sef, Dwyreinbaith Sir Ddinbycli; Meirionydd; Arfon Eifion, a'r bwrdeisdrefi; Mon Bwr deisdrefi Sir Ddinbych; Maldwyn, a'i bwrdeis- drefi Bwrdeisdrefi Sir Fflint; Caerdydd; Cer- edi-ion Sir Frycheiniog; Gorllewin Gwlad Myrddin Bwrdeisdreti Caerfyrddin a Llanelli; Penfro a Hwlffordd; Sir Faesyfed; a Sir Benfro. Gair am bob un o'r rhai hyn lydd genym hedd- yw, er nad ydyw y frwydr drosodd yn yr oil o honynt. Dechreuwn gyda DWYREINBARTII SIR DDINBYCH. I Ar amryw gyfrifon, yma yr oedd brwydr galetaf y rhyfelgyrch yn Nghymru. Yr oedd yr boll alluoedd oedd yn bossibl i'w casglu yn nghyd-yn Doriaid ac Undebwyr—wedi ym- gynghreirio yn erbyn Mr. OSBORNE MORGAN, ac o blaid Syr WATCYN WYNN, Ac oni bae fod Rhyddfrydiaeth wedi gwreiddio yn orddwfn yn y tir, colli y dydd ya sicr y buasai ein cydwlad wr enwog y waith hon. Heb law hyny, y mae yn hynod ddrwg genym ddeall nad oedd ei iechyd ef ei hun agos yn gryf chwaith. Felly, nis gallai efe wneyd cymmaint o ymdrech ag y buasai pe yn iach. Collodd bleidleisiau lawer o herwydd clauarineb Rhvddfrydwyr yn ymesgus- odi rhag dyfod i'r pol o herwydd prysurdeb y cynhauaf gwair. Gwnaeth Mr. CHAMBERLAIN hefyd, fel y mae yn ofidus dyweyd, yr hyn a allai efe i'w wrthwynebu, trwy ysgrifenu llythyr i bleidio Syr WATCYN. Ond glöwyr pybyr a plienderfynol y rhanbarth, a Rhyddfrydwyr eg- wyddorol, a'u mynasant i mewn trwy fwyafrif o 26ain. Y ffigyrau oeddynt:— Mr. Morgan 3,536 Syr W. W. IVyiin 2,510 Mwyafrif I. 26 Uigwyddodd anflawd ddifnfol ynglyn a chyfrif y pleidleisiau, yr hon sydd yn werth ei choff hau; yr hon a ddengys hefyd y bu Syr WATCYN yn mron a chael ei ddychwelyd fel aelod dros y rhanbarth. Er egluro hyn, dyleni hyshysu pa fodd y gwneir wrth eu cyfrif ar y diwrnod pan y penderfynir pwy fydd yr ymgeisydd llwydd. iannus. Wedi i'r holl gistiau gael eu dwyn i'r ystafell, a chael boddlonrwydd fod pob peth yn iawn yn mherthynas iddynt, tyweiltir yr holl bapyrau pleidleisio fydd yn mhob un ar fwrdd, a chymmysgir hwynt yn drwyadl, fel nas gellir gwybod pa nifer y bydd pob ymgeisydd wedi ei gael mewn un rhan o'r sir. Yna dechreuir eu didoli-er esampl, gosodwyd rhai Mr. MORGAN gyda'u gilydd, a rhai Syr W ATGYN gyda'u gil- ydd; a chyfrifwyd hwynt yn sypiau o hanner cannoedd. Yna rhoddwyd gafaelion (clips) ar bob hanner cant, er hwylusdod i'w cyfrif. Yr oedd dau liw o honynt—rhai gwynion a duon. Rhoddwyd y rhai gwynion ar hanner cannoedd Mr. MORGAN, a'r rhai duon ar rai Syr WATCYN. Yna cyfrifwyd hwynt, a cbafwyd fod Syr WAT- CYN wedi cael mwyafrif o un ar bymtheg a-deu- gain. Aeth calon Mr. MORGAN i'w esgidiau,' gallwn dybied, ac ymddyrchafodd Syr WATCYN, yn ddiau, fel y gallesid disgwyl, i'r cymmylau! Ysgydwodd cyfeillion Syr WATCYN ddwylaw ho, ef, gan ei lougyfarch ar ei lwyddiant. Felly hefyd y gwnaeth Mr. MORGAN, fel y gallesid dis- gwyl i'r iiaill foneddig longyfarch y Hall dan yr amgylchiadau, er caleted ydoedd. Ond cyn ym- adael o'r ystafell, dywedodd prif swyddog ethol- iadol Mr. MORGAN y buasai yn dda ganddo gael edrych dros y sypiau drachefn—yr hyn a gania tawyd id do. Aeth drostynt yn lied frysiog, er gweled nad oedd dim o bapyrau Mr. MORGAN wedi diangc rywfodd i blith rhai Syr WATCYN Aeth drwyddynt felly o un i un heb gael dim o'i le, nes y daeth heibio'r trigeinfed sypyn. Ond yma gwnaeth ddarganfyddiad a drodd y fantol o blaid Mr. MORGAN. Yr oedd un hanner cant o eiddo Mr. MORGAN a gafaelyn (clip) du arnyrit; ac felly, wedi eu cyfrif i Syr WATCYN Parodd hyn, fel y gellir tybied, gyiiro a chynnhwrf cyff- redinol drwy yr ystafell; a gobaith ar un ochr, a siomiant ar yr ochr arall. Ond, heb i ni fanylu yn mhellach, digon yw dywedyd fod mwyafrif' Syr WATCYN wedi troi yn fwyafrif o chweeh-ar- hugain i Mr. MORGAN. Pa fodd y digwyddodd hyn, nis gallwn ddirnad. Dywed rhai, mai un o lawer o ddichellion y Toriaid ydoedd; ond nis gallwn ni feddwl fod un swyddog wedi ymostwng i gyflawni gweithred mor hollol anonest. Pa fodd bynag, dyna fel y bu. Clywsom fod dig. wyddiadau cyffelyb wedi cymmeryd lie mewn rhai etholiadau eraill; a bod y camgymmeriadau wedi bod bob tro yn ffafr y blaid Doriaidd Dyma fel y digwyddodd y tro hwn beth bynag, ac yr ydym yn nodi y ffaith fel y gall ein cyf- eillion fod ar eu gwyliadwriaeth rbag i'r eyffelyb ddigwydd etto. BWRDEISDREFI SIR DDINBYCH. Methiant fu yr ymdrech galed a wnaed ddydd I Gwener diweddaf i ddisodli yr hen aelod Tori- aidd yn y bwrdeisdrefi hyn. Yr ydym er hyny yn lIawenyehu yn y ffaith i ni allu tynu yn agos i gant ar fwyafrif Mr. KENYON i lawr, a hyny er gwaethaf y trefiiiadau goreu ar ran y Toriaid byth er yr etholiad diweddaf, ac er gwaethaf holl ymdrechiadau 'Cynghrair y Briallu' yn gwrecsam, Rhuthyn, a Dinbych. Gweithiasant eu goreu ar ran Mr. KENYON, ond fel yma y bu y can yniad. Heb law hyny, nid oedd ein hym- geisydd ni yn adnabyddus yn yr etholaeth o gwbl ychydig gyda mis yn ol. 0 herwydd hyn, yr ydym yn hyderu nad oes i Mr. KENYON hir oes fel ein cynnrychiolydd, ac mai Mr. BARLOW fydd ei olynydd-hwyrach, y tro nesaf. Gwnaed y canlyniad yn hysbys ddydd Sadwrn, fel hvn;- Mr. Kenyon 1,057  Kenyon 1,657 Mr. Mow ? t?e Mwyafnf .? 2? I Mwyafrif Mr. KESYON, chwe mis yn ol, oedd 306. I CAERDYDD. Gweithiodd Rhyddfrydwyr Caerdydd yn odidog, ac er i Ardalydd HARTINGTON a Mr. OHAMBERLAIN ddyfod i lawr i geisio hud-ddenu yr etholwyr i ddewis Mr. BRAND, yr hen aelod Gladstonaidd, Syr EDWARD J. REED, a ddewis- wyd, yn ol y ffigyrau canlvnol:- Syr E. J. Reed 5,307 Mr. Brand 4,965 Mwy af]-if 342 I CAERFYRDDIN A LLANELLI. Yn Hawn cystal, os nad peth gwell, y gwnaeth y bwrdeisdrefi Rhyddfrydig hyn hefyd. Yr oedd Syr J. JONES JENKINS yn y perygl 0 dybio nad oedd gan yr etholwyr ddim i'w wneyd end ufuddhau i'w amneidiau ef. Pan y meiddiodd rhai 0 honynt ddadgan eu hanghymmeradwyaeth o'i waith yn pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o ymreolaeth i'r Ynys Werdd, 'pwdodd' Syr JoiiN; a dywedodd nad oedd efe am gynnyg ei hun iddynt fel ymgeisydd yn yr etholiad agos- haol. O'r goreu,' ydoedd iaith eu hymddygiad hwythau; ni a ddewiswn tfr a ddaw gyda ni yr holl ffordd yn eich lie. Diolch i chwi am droi eich cefn' Dewiswyd Syr ARTHUR STEP- NFY yn ymgeisydd. Ond pan glywodd Syr JOHN fod Syr ARTHUR wedi ei ddewis, dywed odd-' ki i throf fy nghefn arnoch, ac ni cliaiff STEPNEY eich cynnrychioli.' Dydd Mercher, cymmerodd y bobl y cwestiwn i'w dwylaw eu hunain i'w benderfynu ac fel hyn y penderfyn asant:— Syr Arthur Stepney 2,120 Syr J. J. Jenkins 1,897 Mwyafrif 223 1 I Y Toriaid a'r Undebwyr a gefnogasant Syr I JOlIN; y werin Ryddfrydol gyffredin ydoedd I nerth Syr ARTHUR-mab i hn aelod dros y sir. I BWRDEISDREFI ARFON. I Goreu po lleiaf a ddyweder am y canlyniad I yn yr etholaeth hon. Trwy i lu mawr o Rydd- frydwyr aros yn eu pebyll, o herwydd rhyw reswm neu gilydd, ennillwyd sedd i'r Toriaid yn nychweliad y bargyfreithiwr adnabyddus Mr. SWETENHAM, o Gaerlleon. Fel hyn y safai y pleieisiall .Mr. HwetenJuun. 1,820 Mr. Jones-Parry 1,684 Mwyafrif 136 I BWRDEISDREFI SIR FFLINT. Yn ol eu harfer y gwnaeth bwrdeisdrefi Callestr —ethol y Rhyddfrydwr-eu hen aelod, Mr, J. ROBERTS; a gwrthod Syr HENRY M. JACKSON, yr Undebwr, i gynnorthwyo yr hwn yr ymdyng- hedasai yr holl Doriaid, ac y ciliasai y Cadben W. JONES, Olinda, o'r maes. Rhoddwyd agos gymmaint deirgwaith o fwyafrif iddo hefyd ag a gawsai ar Mr. PENNANT ychydig fisoedd yn ol. Ffolineb, yu ddïau, yn y Toriaid oedd meddwl y buasai barwnig Castell y Gym yn gryfach ym. geisydd nag yswain Nantllys. Ond hwyrach na ddaethai Mr. PENNANT allan am y bummed waith. Digon i wala unrhyw ddyn yw pedair cys- twyaeth. A gaiff Mr ROBERTS lonydd bellacii 7 A fedr Toriaid sir Fflint fod yn llonydd iddo, yw y cwestiwn. Y Ifigyrau oeddynt:— Mr. Itoberts 1,827 Syr H. M. Jackson 1,403 I Mwyafrif 424 BWRDEISDREFI MALDWYN. Eleni, sychodd y bwrdeisdrefi hyn ymaith y gwaradwydd a dynasant arnynt eu hunain yn yr etholiad yn yr Hydref diweddaf, trwy ddy- chwelyd at eu 'cariad cyntaf.' Anfonwyd Mr. PRYCE JONES ynghylch ei helynt ei hun, ar ol chwe mis 0 senedda distaw. Ail gyflogwyd Mr. HANBURY TRACY, gan ennill sedd newydd i'r Llywodraeth, i wneyd iawn am y golled yn Ar- fon. Y ffiirvrau oeddynt:— Mr. Tracy 1,424 Mr. Jones 1,251 M-Nvyafrif. 173 DWYREINBARTH MORGANWG. Ar y funyd olaf, torodd y ddau oedd wedi arfaethu rbwystro Mr. ALFRED THOMAS, y Rhyddfrydwr, i adfeddiannu ei sedd dros Ddwyrain Morganwg, eu calonau. Y ddau wron' tligalon hyn oeddynt, Mr. BRIGHT, yr Undebwr; a Mr. CLARK, y Tori. Wythnos i beddyw, cafodd Mr. THOMAS ei cnwi, a'i gy- hoeddi yr un pryd yn etholedig y rhanbarth. Hyd yn oed pe y gwrthwynebasid ef, ennill a wnaethai. BWRDEISDREFI SIR BENFRO. I Mewn enw, i feuur helaeth, yr oedd Mr. If. I G. ALLEN, yr hen aelod dros y bwrdeisdrefi hyn, yn Rhyddfrydwr. O'r holl aelodau Cyuireig a broffesent Ilyddfrydiaeth, efe oedd yr unig un nad oedd yn ddigon pell yn mlaen i bleidio Dadsefydhad. Yn yr etholiad presennol, efe a giliodd 0 r maes, a chafodd y Rhyddfryd wyr afael ar wr 0 fn ac egwyddor drwyadl i flaenori eu cid-nid amgen yr enwog Mr. LEWIS MORRIS. Drwg genym chwaneSu i Doriaeth ac Undeb- iaeth fod yn rhy gryfion iddo y waith hon, ac mai y Llyngesydd MAYNE yw yr aelod ethol- edig. Y tro nesaf, ni a hyderwn y bydd llwydd ar faner ein cydwladwr talentog, ac yr anfonir y mor-filwr din6d i'w longau, yn lie i Dy y Cyfiredin. Byddai yn anrhydedd i'r bwrdeis- drefi hyn, ac unrhyw etholaeth, o ran hyny, gael eu cynnrychioli gan wleidyddwr 0 fesur Mr. MORRIS. Saif y Ifigyrau fel y canlyn Mr. Mayne 2,30.1 Mr. Morns 2,033 Mwyafrif 272 SIR FAESVFED. Diagwyliodd llawer y buasai y sir hon yn gyru yr Anrhydeddus A. WALSH i wneyd gwaith mwy cydnaws âï anianawd na senedda, ac yn dewis yr hen Ryddfrydwr profedig a phrofiad- ol, Syr RICHARD GREEN PRICE, i wleidydda iddo. Ond fel arall y gwelodd hi yn dda wneyd ddydd lau diweddaf sef. rhoddi i Mr. Walsh 1,910 Syr II. G.Price 1)668 Mwyafrif 242 I CEREDIGION. Cymmerodd yr ymdrechfa etholiadol le yn Ngheredigion, ddydd Gwener, rhwng Mr. BOWEN ROWLANDS, Q. C., y Rhyddfrydwr Glad- stonaidd, a Mr. DAVID DAVIES, yr hen aelod, fel Undebwr. Erbyn i'r canlyniad gael ei wneyd yn hysbys, dfau ei bod yn ddrwg gan Mr. DAVIES iddo ymdrafferthu tynu ei ymddi- swyddiad yn ol. Gwir nad oedd y mwyafrif yn ei erbyn ond naw-y lleiaf yn Nghymru. Y fligyrau oeddynt:— Mr. Rowlands 4,252 Mr. Davies 4,243 Mwyafrif 9 EIFIONYDD. Yr un diwrnod, yr oedd yr etholaeth hon yn gogoneddu ei hun trwy ragori hyd yn oed ar y gwrhydri a gyflawnodd hi saith mis yn ol. Tri ar hugain oedd yn eisieu i wneyd mwyafrif Mr. BIWN ROBERTS yn dair mil! ac yr oedd yn fil a phymtheg chwaneg nag a roddwyd iddo pan oedd Mr. BLLIS NANNAU ar y maes yn ei erbyn. Gwir fod ei wrthymgeisydd y tro hwn yn un o'r rhai gwanaf y gallesid meddwl am dano yn wael ei iechyd yn anadnabyddus; heb gynnal cymmaint ag un cyfarfod, oddigerth yr un a fu ganddo ar fwrdd ei bleserlong ger llaw Llanael- haiarn ac etto, yr oedd y Toriaid yn rhoddi eu holl gefnogaeth iddo. Teimlad Mr. FARRIPX, yn ddios, ydyw, y buasai yn well iddo beidio bod yn ymgeisydd, nac fel Undebwr, nac un- rhyw fel arall, canvs v canlvniad fu ..hnftr); MI'J. H. Roberts. 4,244 Mr. J. ii. Roberts 4 244 Mr. G. Farren ]t'2'67 Mwyafrif 2,977 DEHEUBARTH MORGANWG. Gwr o'r enw Mr. L. MOWATT oedd yn gwrth- wynebu Mr. ARTHUR J. WILLIAMS, fel Undeb- wr, yn yr etholaeth Ryddfrydig hon; ond meth- odd yn erwin. Dydd Gwener, trodd yr ethol- iad fel y canlyn Mr. W llhanis -J *07 Mr. Mowatt 2) 177 Mwyafrif 1^)20 MON. Po. ham y meiddiodd neb ammheu v buasai Mon yn tori ar ei harfer yn yr etholiad hwn ? Wrth gwrs, ceir cryn lawer o ddigrifwch wrth wrandaw ar y doniol Gttdben PRZTCHARD RAY- NER yn cynnal ei gyfarfodydd; ond y mae y Monwysiaid yn deall gwleidyddiaeth yn rhy dda i wneyd cynnrychiolydd seneddol o hono nac o unrhyw Dori arall, mwy nag yntau. I weithio drostynt yn senedd eu gwlad, dyn o farn a gwybodaeth Mr. PALESTINA LEWIS, a fynant hwy. Cariwyd yr ymdrechfa yn mlaen ddydd Sadwrn, a gwnaed y canlyniad yn hys bys ddydd Llun. Y ffigvrau fel v eanlvn 001 -J Mr. Lewis 3,727 Rayner 3,420 Mwyafrif 307 MEIRIONYDD. Heddyw (dydd Mercher) y bydd gornest Meirion, rhwng y g\vr ieuangc galluog, Mr. T. E. ELLIS, a CynJas, a Mr. JOHN VAUGHAN, a Nannau (Tori). Nid ydym yn petruso dim am y canlyniad. Byddai mor syn genym weled Meirion yn ethol Tori a phe bae Liverpool yn dewis naw o Ryddfrydwyr yn ddïwrthwynebiad. ARFON, MYRDDIN ORLLEWINOL, A SIR BENFRO. Yn y tair etholaeth hyn, cymmerodd yr ym- drechfa le ddydd Llun; yn y lfaenaf rhwng Mr. RATHBONE (R.) a'r Uchgadbnn PLATT (T.); yn yr ail, rhwng Mr. W. R. H. POWILL (R.) a Syr JAMES LAWRENCE (Undebwr); ac yn y drydedd, rhwng Mr.W. DAVIES (R) a Mr PIIILLIPS (T.). Gwnaed y canlyniad yn hysbys prydnawn dra- noeth; ond nid cyn ein bod wedi myned i'r wasg. AIALDWYN. Cymmerodd y frwydr rhwng Mr, STUART RENDEL a'r Cadben MYTTON le ddoe (ddydd

I TRAMOR.