Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Hide Articles List
14 articles on this Page
SIR ABERTEIFI.
News
Cite
Share
SIR ABERTEIFI. TII; yr fs-sirydd—Mr. William Pioton Evans- -yn eis tedd yn Y Neuadd Sirol, yn Aborteifi, o ddeg o'r cloch y boreu hyd hanner dydd ddydd Llun, i'rdyben o dderbyn papyrau yn enwi ymgeiswyr. Estynwyd tri o'r papyrau hyny ar ran Mr. Bowen Rowlands, « C Y cynnygiwr yn y cyntaf ydoedd Mr. William Jones, Glasgow House, Pendre, Aberteifi a'reefnog- iN-r, Mr. Ivor Evans, Pen'ralltcadogau, Cilgeran. Yn Yr ail bapyr, Mr. Thomas Griffiths, 2, Catherine Terrace, Aberteifi a Mr. Thomas Harris, Llechryd. Ac yn y trydydd, Mr. Lewis Evans, 17, High Street, Aberteifi. Estynwyd pedwar o bapyrau ar ran Mr. David Davies, Broneirion, Llandinam, a'r cynnyg- wyr oeddyntlaf, Mr. John William Stephens, Ty'rlfynnon; a Mr. Levi James, St. Mary Street, Aberteifi: 2il, Mr. Thomas Powell, Little Darkgate Street, Aberteifi a Mr. Griffith Davies, Argoed, sir Aberteili. Sydd, Mr. Abraham James, Dolybont; a Mr. Henry Tobit Evans, Noyadd, Llanarth. 4ydd, Mr. Robert Joseph Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho a Mr. James Morgan, Llanbadarn Road, Aberyst- wyth..
DWYREINBARTH SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
DWYREINBARTH SIR GAERFYRDDIN. AlL ETHOLIAD MR. I). FUGH. Nl enwyd neb yn ymgeisydd am y rhanDartn nwn ona iur, D I'ugh, cefnogwr y Uywodraeth. Bu yr uchel-sirydd-y Cadfridog Syr James Hill-Johnes-ynghyd â'r isel-sirydd— Mr. D. Long Price—yn eistedd yn y Neuadd Sirol yn Uan- deilo, o banner dydd i ddau o'r gloch ddydd Mawrth,.i dderbyn papvrau enwi ymgeiswyr. Estynwyd tri ar ran Mr. Pugh. Yn y cyntaf, y cynnygiwr ydoedd Mr. T. l'owell, Caregcenen; a'r cefnogwr ydoedd Mr. Morgan Davies, Cwmiddor. Yn yr ail, y cynnygiwr ydoedd Mr. J. Lewis, Royston House, Lianymddyfri; a'r cefnogwr ydoedd Mr. John James, High street, Lianymddyfri. Yii y trydydd, y cynnygiwr ydoedd Mr. J. Thomas, Bank House, Llan- deilo; a'r cefnogwr ydoedd Mr. W. J. Williams, fferyllydd, Llandeilo.
DEHEU SIR GAERNARFON. I
News
Cite
Share
DEHEU SIR GAERNARFON. I YN y Nenadd Sirol, yn Nghaernarfon, ddydd Mawrth, enwid yr ymgeiswyr am y rhanbarth dde- beuol o'r sir, o ilaen yr Uchelsirydd—Syr Llewelyn Turner. Ni wnaeth Mr. Farren, yr Undebwr Rhydd- frydia-),n unol ft chyfarwvddyd ei feddyg—ei ym- ddangoslad; ond cynnrychiolid ef gan ei frawd, a Mr. Richard, ei oruchwvliwr etboliadol. Ei gynnygydd a'i gefnogydd oeddynt Mr. Humphreys, Royal Hotel, a Mr. T. Jones, conjeeiioner—Am. Geidwadwr tra adnabyddus. Enwyd Mr. J. Bryn Roberts, yr ym- geisydd Rhvddfrydig, gyda'r hwn yr oedd Mr. W. J. Williams, ei oruchwyliwr etboliadol, ychydig cyn dau o'r gloch. Estynwyd tri o bapyrau ar ran Mr. Roberts. Yn y cyntaf, cynnygid ef gan Mr. T. L. D. Jones-Parry, Pare Madryn, Pwllheli; a chefnogid ef gan Mr. Morris Davies, Uxbridge House, Caernar- fon. Yn yr ail bapyr, cynnygid ef gan y Parch. Evan Herber Evans, Caernarfon a chefnogid ef gan y Parch. Owen Davies, Cefnfaes. Ac yn y trydydd papyr, y cynnygiwr ydoedd Mr. J. T. Jones, Parciau, Criccieth; a'r cefnogwr, Mr. Robert Roberts, Tuhwnt- i'r hwleh, Porthmadog. Y noson bono, bu Mr. J. Bryn Roberts yn anerch cyfarfod cyhoeddus yn Rhostryfan. Gan fod Mr. Fairen wedi cael ei orcliymyn i ochel pob cyffro, nid ydyw yn debygol y bydd iddo wneyd ei yniddangosiad cyhoeddus.
[No title]
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYMMEKODD etholiad Eifion, nen y rhan ddeheuol o sir Gaernarfon, le ddydd Gwener diweddaf. Nid oedd unrhyw frwdfrydedd yn cael ei ddangos. Yn yr etholiad diweddaf, dycliwelwyd yr aelod diweddar a'r ymgeisydd eefnogol i'r Dywodra.eth—Mr. John Bryn Roberts—gyda mwyafrif o 1,962, ar yr ymgeis- ydd Ceidwadol (Mr. H.i. Ellis Nanney), yr hwn a wrthododd sefyll yn yr etholiad bresennol. Cymmer- wyd ei le y waith hon gan Mr. George Farren, y llliyddfrvdwr enciliedig. Cludwyd y boeses i'r Neu. add Sirol yn Nghaernarfon, nos Wener, a dechreuwyd ar'v gwaith o gyfrif y pleidleisian foreu Sadwrn. Y cllydi iawn oedd wedi yingynnull y tu allan i'r N ??.d Sirol, pan y cyhoeddodd Syr Llewelyn Turner, yr uchelsirydd, y pOl, yr hwn oedd fel y canl vn Mr. J. B. Roberts 4,244 1 Mr. George Farren 1,267 Mwyafrif 2,977 Anercbodd Mr. Bryn Roberts, A.S., yr hwn a dder- byniwyd gyda chymmeradwyaeth uchel, gyfarfod o Kvddfrydwyr yn ysgwftr y Castell, a llongyfarchai Ryddfrydwyr Deheu sir Gaernarfon ar eu gwaith yn sicrhau y fatli fwyafrif mawr.
-LLANGEFNI.-I
News
Cite
Share
LLANGEFNI. I Yr ymgeisydd Myddfrydia.— Prvdnawn ddydd I Iau diweddaf, cynnahwyd cyfarfod lliosog a brwd. I frvdie yn y B'dkcley Square, yn y He uehod, i gefn- o"iY?ei?ethMr. ThoiMS Lewis, yr ym;.e?M R!n'?!frydig droa MOn. Ca wyd ?reittuM )YN?O', ? Mr Lewis, i'r hwn y rhoddwyd y de?ym? SS wyafgwesog° ;Mr. W. Jones, I n in PMchn. R ?ow!ands TreHys; D. Rees, Capel Mawr. Dvwvddid y cyMod gan Mr. TkomM Jones, Porth- a.ethwv Ac yn ystod dydd Sadwrn diwrnod y polio-yr oedd yma weithio egnio! 0 blaid dychwel- iad buddugoliaethus Mr. Lewis.
BWRDEISDREFI CAERNARFON.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
BWRDEISDREFI CAERNARFON. Y NOSON 0 FLAEN YR ETHOLIAD. CYNNALIWYD arddangosiadau er cefnogi ymgeisiaetli Mr. Jones-Parry, nos Lun, yn yr boll fwrdeisdrefi. Hysbyswyd y byddai i Mr. T. P. O'Connor siarad yn Nghaernarfon a Bangor, er cefnogi ymgeisiaeth Mr. Jones-Parry. Yroedd y Ceidwadwyr wedi llogi yr boll ystafeIloedd cyhoeddus yn Nghaernarfon nos Lun, er nad oedd unrhyw gyfarfodydd wedi cael eu trefnll, nac yn cael eu cynnal y noson hono, fel nad oedd gan y Rhyddfrydwyr ddirn i'w wneyd ond cyn- nal y cyfarfod yn yr awyr agored. Pellebrodd Mr. T. P. O'Connor, gan ei fod yn dioddef oddi wrth an- wyd trwiti, nas gallai efe siarad allan, a gwnaed ym- drecli i sicrhau Dr. Commins, neu un o'r aelodau Gwyddelig eraill, ond trodd eu bymdrecbion yn aflwyddiannus. Llywyddirl gan Mr. J. R. Hughes yn y cyfarfod a gynnaliwyd yn Castle Square, Caer- narfon. Y siaradwyr oeddynt y Parclin. E. Herber Evans, Evan Jones, Dr. Davies, Mr. J. Davies, (Gwyncddon), Mr. John Bryn Roberts, Mr. Davies, Rhynini: a Mr. Jones-Parry. Cafwyd cyfarfod rhagorol. DIWRNOD YR ETHOLIAD. Cymmerodd yr etholiad lion le ddydd Mawrth di- I wetltlaf, pan y gwrthwynebid yr ymgeisydd Hhydd- frydig, Mr. Jones-Parry, gan Mr. Swetenham, yr lni'ii, yn etholiad Tachwedd diweildaf, a orcbf.yg- wyd trwy fwyafrif o 65. Ychydig iawn o gytt'ro oedd i'w ganfod yn un o'r bwrdeisdreif. Yr oedd gan y Rliyddfrydwyr gryn anhawsderau i weithio yn eu herbyn. Dywedir fod eu trefniadau yn Mangor yn mllelI ar ol nid oedd yna ganfasio gwirioneddol wedi bod ar yr etholwyr; tra y darfu i ymosodiad Uym o'r bronchitis, a gafwyd trwy fod yn bresennol mewn cyfarfod yn yr awyr agored yn Nghaeniarfon, nos Lun, attal Mr. Jones-Parry rliag talu syhv personol i'r pleidleisio ddvdd Mawrth. Fe ymwelodd Mr. Swetenham, o'r ochr arall, a phob bwrdeisdref yn mron, ac yr oedd yn meddu y fantais o gael nifer liosog o gerbydau a anfonwyd gan y Mil. Platt, Mr. Assheton Smith, Milwriad Sackville West, Cadben Stewart, ac eraill. CYHOEDDI'R POL. Boreu ddydd Mercher, dechreuwyd cyfrif y pleid- leisiau o flaen y Maer-yr Henadur Lewis. Gwnaeth canlvniad yr etholiad yn bysbys am ddeng munyd wedi hanner, yr hwn oedd fel y canlyn Mr. Swetenh,,trn (C.), 1,820 Mr.Jones-Parry(G.), 1,684 Mwyafrif 136 Mr. Swetenham a anerchodd y dyrfa, a cliydna- byddodd ei gyfeillion am eu ifyddlondeb ar ei ran. Anerchodd Mr. Jones-Parry gyfarfod hefyd o ffenestr y Chvb Diwygiadol. Gobeithiai fod yn allu- og i ennill yr eisteddle yn ol. Yr oedd yn debygol y cymmerai etholiad arall le o fewn y deuddeng mis nesaf, ae yr oedd yn rhaid iddynt fod yn barod ar ei chyfei.
I ETHOLIAD MEIRIONYDD.
News
Cite
Share
I ETHOLIAD MEIRIONYDD. I MR. T. E. ELLIS YN CORRIS. DYDD Sadwrn diweddaf, talodd yr mgeisydd Rhydcl. frydig dros y sir hon-Mr. T. E. E))is—ymwetiad & Chords, lie sydd yn cael ei ystyried fel cadamie Rhyddfrydiaeth yn y rhan ddeheu-orllewinol o Meir- ionydd. Cyfarfyddwyd yr ymgeisydd ieuangc, yn nghyd ftg amryw o'i gefnogwyr a'i gyfeillion, yn ngorsaf y ffordd baiarn gan seindorf bres Corris, a gorymdelthiwyd oddi yno yn nghanol banllefau cym- meradwyol y dyrfa oedd yn wasgaredig ar hyd y ffordd i'r cae, lie y trefnid i gynnal y cyfarfod. Wedi cyrhaedd y cae, etholwyd Mr. Humphrey Davies, U.H., i'r gadair, yr hwn a ddywedodd ei fod yn teimlo yn falch gweled boneddwr ieuangc fel Mr. Ellis yn dyfod allan fel ymgeisydd am gynnrvcliiol- iad Meirionydd, a hyderai yn galonog y dychwelid ef ar ben y rhestr gyda mwyafrif gogoneddus. Yna galwodd ar Mr. Ellis, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymmer- adwvaeth mawr. Dywedodd rnai nid ymgyrch rhwng Rhyildfrydiaeth a Thoriaeth ydoedd pwngc mawr yr etholiad'hon, ond cwestiwn o gyfiawnder-ewlistiwn o hawliau dyn—cwestiwn pa un a ddylai yrlwerddon gael ei llywodraethu gan ei phobl ei hun, yn gym- maint a'u bod yn alluog i lywodraethu eu lmnain. Pwy sydd yn gwybod yn well am glvynion y Gwydd- elod na'r Gwyddelod eu hunain ? A phwy wyr oreu am gwynion y Cymry ond y Cymry eu hunain ? Nid oes ond ychydig iawn o wahaniaeth rhwng cwynion y Cymry ag eiddo y Gwyddelod. Nis gellwch ea gwaliatiu. Llywodraethir y Gwyddelod gan y Saeson yn hollol yr un fath ag y llywodraethir y Pwyliaid gan Rwssia. Nis gall y Gwyddel anffodus droi ei wyneb i unman heb gyfarfod a milwr gyda'i fidog yn barod i'w roddi i lawr. Nid oes dim llai na 30,000 o filwyr yn cael eu gosod yno i edrych ar ol y Gwycldel tlawd. Pa faint odeuluoedd dedwydd oedd wedi cael eu troi o'u cartrefi gan eu tirfeddiannwyr gor- mesol yn yr Iwerddon ? Dim llai na 1,027. Dywed rhai pobl nad ydyw y Gwyddelod yn alluog i lywodr- aethu eu liamgylehiadau eu hunain, ond y mae y Gwyddelod yn ddvnion galluog. Beth ydyw rhai o'u prif ddvnion ? Edrychwch ar Arglwydd Dufferin, Arslwydd Wolseley, y Cadfridog Frederick Roberts. A tllroweh yn ol i hanesyddiaeth. Beth am Burke, A t l Grattan, a Shiel? Y mae yn ddirmyg mawr ar y Gwyddelod i ddyweyd nas gallant lywodraethu eu gwlad eu hunain; ac oddi eithr i ni fedru argyhoeddi pobl fod y Gwyddelod yn hollol alluog i lywodraethu eu hunain, ni bydd iddynt byth gael Ymreolaeth; ond mor fuan ag yr ystyria trigolion y wlad hon fod y Gwyddel yn alluog i lywodraethu ei amgylchiadau ei hun, ni bydd yr Iwerddon yn ddraen yn oehr Lloegr, ond bydd yn glod i'n gwlad, a theimlant hwytliau yn ddedivydd yn eu gwlad eu hunain. Nid ydyw yr Iwerddon yn awr yr un ag ydoedd lawer o flynyddoedd yn ol. Y mae addysg wedi gwneyd cynnydd mawr yn yr Iwerddon, ac wedi cymmhwyso y Gwyddel i gymmeryd awenau y wlad i'w ddwylaw ei hun. Mr. Owen Roberts, chwarelwr, a gynnygiodd, gan fod Mr. Ellis yn ddyn o fysg y bobl, ae yn fab i fferin- wr, yr hwn a wyddai yn dda am eu cwynion, ei fod yn berson priodol a chymmhwys i'w cynnrychioli yn y senedd. Cefnogwyd hyn gan Mr. Evan Evans, Tan-y-coed, a chariwyd ef yn unfrydol. Wedi hyny, codod'd Mr. Evan Jones, Bala, yn nghanol cymmeradwyMth i ddywedyd ychydig o hanes bywyd Mr. Ellis tra yn Rhydychain. Yr han?el 8M? ,E?li. yn arweinydd y? ei goieg ei hnn-sef y 'New College'—un o'r ddau goleg goreu yn Uhyd: vehain. Yr oedd yn aeJod o Gymdeithaa y Traeth- 'ychain. Yr oedd yn aelorl 0 Gymrleithas y Traeth- odau—yr lion oedd yn un bur ddetlloledig-nid oedd ond 14 allan o 200 o rai oedd yn y coleg yn cael eu dethol. Yr oedd yn ysgrifenydd I Gymdeithas Han- esyddol Rhydychain. Tua phedair blynedd yn ol, darllenodd bapur o flaen y gymdeithas enwog lion ar SefyUfa y Cyffredin yn Lloegr.' Parheir i siarad am y papur hwn yn Rhydychain. Gwnaeth lawer i glirio syniadau dynion gyda golwg ar Gymru. Ad- i'r yn am! y modd y tnniodd fab Anlalydd Salis- bury yn un o'n cyfarfodydd. Yr oedd yn aelod 0 bwyUgor yr Undeb,' yr hyn sydd yn bet)l anhawdù iawn i Radical ei gyrhaedd, oddi eithr ei fod yn ar- (Idanaos gallii a hyawdledd anghyffredin. Yr oedd Mr. Ellis hefyd yn-ysgrifenydd i Glwh Palmerston- elwb oedd yn cael ei wneyd i fyny o fyiyrwyr goreu Rhydychain. Tra yn y swydd hono, daeth i gydna- byddiaeth bersonol ft nifer liosog o brif anveillwyr y Rliyddfrydwyr yn y wlarl, Er ei fod yn rhoddi y rhan fwyaf o'i amser at wleidyddiaeth, nid oedd ei waith yn yr ysgol chwaith yn annheilwng. Catodd anrhydedd y trydydd dosbarth mewn elasuron, ar ail ddosbarth mewn hanesyddiaeth ddiweddar. Wedi i'r Parch. W. Williams, Corris, a Mr. Davies, Dolcaradog, wneyd rhai sylwadau, dygwyd y gweith- rediadau i derfyniad.
C O R W E N.
News
Cite
Share
C O R W E N. Mr. T. E. Ellis yn anerch yr etholwyr.—^Nos Wener, yr oedd nifer liosog wediymgynnull fr Ysgol Frytanaitld er cefnogi ymgeisiaeth Mr. T. E. Ellis, Yr ymgeisydd Rhvddfrydig dros sir lemonydd. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch. H. Cernyw Wil- liams, yr hwn, wedi gwneyd rhai sylwadau annog- liailis' i Hydd)ondeb o Maid ymgeisiaeth Mr. Ellis, a alwodd ar Mr. T. Jones, Brynmelyn, i gynnyg y pen- derfyniad eanlynol: Fod y cyfarfod hwn yn dadgan ei ymddiriedaeth Iwyraf yn y Gwir Anrhyd. W. K Gladstone, ac yn credu ei tod yn gweithredu oddi ar amcanion urddasol wrth geisio cadarnhau undeb yr Iwerddon a Plirydain Fawr trwy ymgymiuodiad, yn hytrach na gorfodaeth, ac yn galw ar bawb i gyn- nortbwyo i ddwyn hyny oddi amgylch.' Rhoddwyd derbyniad gwresog iawn i Mr. T. E. Ellis, yr hwn p, gefnogodd y cynnygiad. Siaradodd yn lied lielaetit ar gwestiwn y tir, gan gyfeirio atbrydlesi a royalties, &e. Yr eedd yn cefnogi yn galonog Fesur Ymreol- aeth Mr. Gladstone. Pasiwyd pleidlais o ymddiried- aeth yn Mr. Ellis, ar gynnygiad Mr. E. Davies, a chefnogiad Mr. J. Davies, a chariwyd hyny yn nghanol cymmeradwyaeth brwdfrydig.
I ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
I ABERYSTWYTH. Yr etholiad.—Bu yma frwydro brwd. Y mae y Cardis yn dyfod ac wedi dyfod allan fel cewri yn y dyddiau hyn. Drwg genym fod yr ad ran Ryddfrydol wedi ynuldryllio ar tater Ymreolaeth yr Iwerddon. Bydd yn rhaid rhoddi Ymreolaeth i'r Iwerddon yn hwyr neu liwyrach. Onid ydyw y wlad wedi deffro o'i phlaid bellacli. Cawn etholiad etto yn fuan ar ol hyn, gan na fydd y mwyafrif yn ddigon i wneyd un ochr yn gadam. Y mae yn dra thebyg y bydd raid i'r dosbarthiadau gweithiol gael dysgu gwers galed o brotiad cyn byth y deuant yn iach wleidylldol. Rhy- fedd mor ffol y siarada dynion hefyd. Gweithiwr yn Nghasnewydd wedi cael swydd fechan o dan Syr George Elliot, a ddywedai mai dros ei feistr y byddai iddo fotio, ae yr ystyriai ei hunan yn ddyn sal i beidio bod ynffyddlawn i'w feistr yn y ffordd bono. Dylid cofio nad oes gan yr un meistr hawl i rutbro i gyssegr sancteiddiolaf cydwybod yr un dyn. Gwelaf fod cylch y bleidlais wedi ei hestyn evn fod y bobl wedi dyfod i ddeall ei gwerth, na pa fodd i'w defn- yddio. Un o'r breintiau aruchelaf a phwysicaf i ddyn ydyw hawl pleidlais, ac Ocli! gan lleied sydd yn deall pa fodd l w defnyddio. Y mae cyfoetli yr aristocratiaid fel gwenwyn dinystriol yn gweithio yn angeuol trwy waed cymdeithas yn y blynyddau dir- wasgol hyn. Y mae yr ymresymiad direswm o roddi pleidlais i unrhyw ddyn am ei roddion yn ddiraddiad ar y naill berson yn ogystal a'r llall—y pleidleisiwr a'r ymgeisydd. Da genym ein bod yn dysgu gwers i Mr. D. Davies yn yr etholiad hon, ac sydd yn sicr o fod yn werthfawrocach iddo na'i holl aur i gyd. Buasai yn well iddo fod wedi gwrandaw ar ei gared- igion a'i ewyllyswyr da. Da genym i Mr. Bowen Rowlands fyned i mewn. Ennillodd y frwydr yn erbyn dall allu-gallll y fyddin Doriaidd, a gallu dosbarth lliosog o Ryddfrydwyr glasdwraidd. Wele Mr. Bowen Rowlands i mewn gyda mwyafrif o naw. Y mae sir Aberteili wedi profi ei hun tu liwnt i bob dadl yn ffyddlawn i'r aclios Rhyddfrydig. loan Ddenven o Fûn.
I RYN A'R LLALL YN ETHOLIADOL.…
News
Cite
Share
I RYN A'R LLALL YN ETHOLIADOL. I Y MAE cynfaeswyr Mr. Stuart Rendel wedi bod ar hyd a Iled pob troedfedd o'r frwydr, ac heb gael yn yr holl eir ddim cymmaint ag un Cymro Cymreig wedi troi oddi wrth Gladstone. Boreu heddyw (ddydd Mercher), nid oes yma yr un ammheuaeth na bydd Rendel ar ben nchaf y pfll. Llandinam— Er nad ydyw sir Drefaldwyri, na nemawr i Ryddfrydwr yn y sir, yn cydolygu a Mr. David Davies, Llandinam, o barth ymreolaeth, y mae gan bawb—yn Dori ac yn Radical, yn dlawd ac yn gyfoethog—barch trwyadl tuag ato, ac edmygedd o holl weithredoedd anrhydeddus ei einioes. Pan yr oedd Mr. Davies, a thua hanner cant o bobl ddyeithr, yn sefyll ar orsaf y Llan hwnw, tua phedwar o'r gloch ddydd Sadwrn diweddaf, yn disgwyl am (telegram o air Aberteifi, daeth y trfin â'r genadwri i mewn. Cyn agor y telegram, 'Faint o fwyafrif, y machgen it' ebe Mr. D D. wrth y negesydd. 'Yr ydyeh wedi colli efo naw yn eich erbyn, medd yntau.' Trodd Mr. D. D. ar ei sawdl tuag adref heb ddyweyd gair. Gydag iddo fyned ychydig ar hyd y ffordd, banllefwyd 'Hwr6' orfoleddus gan dyrfa y platform. Aed oddi yno dros yr Hafren, ac hwrewyd dra- chefu a thrachefn. Gresyn dirfawr, ac nis gelhr ei faddeu ar unwaith, fod y fod y en gwawdus, a'r ysgrech ddirmyglyd hon, wedi disgyn ar glyw Mr. Davies yn mhentref Llandinam, yn ymyl ei dy, ac yn nghanol ei bobl a'i berthynasau anwylaf—i ba rai y bu yn well na brawd, ac yn gefn gwell na thad na thaid i ugeiniau o honynt. Y mae brwdfrydedd etholiadol yn annoeth, yn anghyfiawn, lie yn angharedig yn fynych; ae yr ydym yn gallu maddeu ae anghofio troion o'r fath yn mhen amser. Gobeithio y gellir cael dyfroedd ebargofiant yn y gymmydogaeth i olchi ymaith yr ysmotyn hyll bwn a welwyd ddydd Sadwrn ar ardal ddiddiolch anglo-Sacionaidd Llandinam. Dylai Mr. Davies gaelgwybodmaidyeithriaid ar y platform a floeddiasant, ac nid un o'i gymmydogion. Eu hanffawd hwy oedd bod, fel Mr. Davies ei hun, yn bres- ennol yn nghwmpeini nifer o Doriaid. Ddiwrnod y pol, Pan oedd y teirw (w.w.w.) ar ol, Efo dau ddeg a chwech, Fe wefrwyd gair I Lanbrynmair, Fod y teirw 'n drech. Ac mewn canlyniad i 'anwiredd yr hen weiren,' a direidi drwg y sawl a ddanfonodd yno fod Syr Herbert W. W. Wynne wedi ennill, agorwyd yr holl selerydd; a bu yno am dymmor byr, ond rhy fyr i waghau yr holl farilau, lawen- ydd mawr! Bob yn dipyn, daeth y si allan mai Mr. Osborne Morgan oedd yn fuddugol! Ond pwy oedd mor wirion a chredu? Na, na, 'On with the dance, let joy be un- confined? ac felly, yn mlaen yr aeth y rhialtwch yn y selerydd. Ond beth ydyw y swn yna-y tu allan ar y palmant? Pobl yn ysgrechian, chwertbin, a tharanau yn baullefain 'Osborne Morgan i mewn!' o dan fanerau tryliwiog a thonog y Torïaid Choeliai pobl y selerydd etto ddim o'r chwedl. Gofynwyd i Groeaoawallt, a'r atteb oedd, 'Morgan efo chwech ar hugain!' Beth a ddy wed yr Amwythig. y mae y swyddog yno yn Dorl, a gelhr ymddibynu arn Buwyd awr gron yn disgwyl am atteb. Yntau a ddaeth— 'Chwech ar hugain yn erbyn Wynn.' Ai unwaith, bu dis. tawrwydd mawr! ac yr oedd lliaws yn troi adref yn gynffon- isel trwy ddrysau y cefn! Pwy oedd i dalu am y cwrw » Cododd bwrn ar ystumog yr holl sychedigion; ac nid am y tro cyntaf yn hanes bywyd Syr John Heidden. Ar ot myned i lawr, fe gododd i fyny. Yr oedd y ddau delegrmn diweddaf wedi codi daeargryn yn mherfeddion y mynydd- oedd, ac yn ngholuddion y creigiau; ac y mae yno saldra 0 bump o'r gloch y prydnawn hwnw hyd y dydd heddyw Y rhyfeddod ydyw fod pawb oil wedi myned yn sal ar un- waith; a gobeithio fod y meddygon yn darogan y gwir; sef, yr iachilnt oil, o un i un, fel y delont yn gallach Y mae gan Mr. Pryce Jones, y diweddar A. S. dros fwr. deisdrefi Trefaldwyn, ffonten o lytliyrenau yrigliyd a gwasg, &c., yn ei ystorfa wlanen. Yr oedd hono fel pobl Doriaidd Llanbrynmair, wedi derbyn y newydd i Mr. Pryco Jones 'ennill gyda mwyafrif mawr!' ac wedi gosod ei goir. iau wrth eu gilydd, yn diolch am yr anrhydedd "nwaiti, etto o fod fel hyn ao fel arall am -? ïe, am beth ? BQ attal dyweyd ar leferydd y ffonten! Ond pa Ie y 1II, seindorf pres-offer gweision ffyddlawn Mr. Pryce Jones H hun? Y mae rhai wedi poeri gormod I w cyrn canu; eraitf ynchwythu, ond yn methu gwneyd Slvn; eraill yn ceisio, ond yn methu cael eu hanadl, heb s6n am wynt!-a dyna fel y maent yn parhau.-Gohebydd.
I CYFARFODYDD MR. RATHBONE.
News
Cite
Share
I CYFARFODYDD MR. RATHBONE. I DYFFRYN CONWY. DYDD Mercher diweddaf, talodd Mr. Rathbone yiii- weliad fig ardal Tal-y-bont, pryd y cynnalnvyd eyf. arfod poblogaidd yn Ysgol y Bwrdù, am chwech o r glocli vn yr hwyr, o dan lywyddiaeth Lewis Hughes, Ysw„Tan-y-bryn. Anerchwyd y cyfarfod gan y llvwvdd; Mr. Rathbone; Mr. J. D?vies (C!?<e?M), Caernarfon; y Parch. M. Evans (A.), Trefnw; a Mr. Griffith Davies, Llidiart fadog, Tal-y-bont. Arwydd- wyd pleidlais o ymddiriedaeth yn Mr. Rathbone heb gyinmaint ag un law i'r gwrthwyneb. Cafwyd cyi- arforl rhagorol o dda.. Am wyth o'r gloch yn yr hwyr, yr un noswaitli, cynnaliwyd cyfarfod yn ROEWEN. Cvmnierwyd y gadair gan Lewis Hughes, Ysw., Tan- y-bryn. Cafwyd un o'r cyfarfodydd inwyaf brwd- frydig ag y buom ynddo un amser. W edi cael an- erehiad gan y llywydd, anercliwyd y cytarfod gan Mr. W. Rathbone, ein haelod seneddol dros Arfon Mr. John Davies (Gwyneddon) y Parch. M. brans. Trefriw; a Mr. W. Parry (Llechidon). Rhoddwyd pleidlais unfrydol o ymddiriedaeth yn Mr. Gladstone a Mr. Ratlibone.- Gohebydd. I MAENAN, LLANRWST. Nos Sadwm diweddaf, cynnaliodd Rhyddtrydwyr Maenan gyfarfod cyhoeddus yn yr awyr agoi-ed i gefnogi ymgeisiaeth Mr. Rathbone fel un teilwng i n cvnnrvchioli yn y senedd unwaith yn rhagor. Cyin- merwyd y gadair gan Mr. Richard Morris, Pant 11m mawr. Cafwyd anerchiad byr gan y llywydd; ac yna Tal "d ar y Parch. Enoch Jones, Llanrwst, i anerch y dorf. Profodd yn ei araeth ei fod yn ym- ddiried yn Mr. Gladstone, a'i fod yn credu nad oedd y gwron yn cynnyg ond yr hyn oedd deg a chyfiawn i'r Gwyddelod wrth roddi llywodraetluad gartrefol iddynt. Y Parch. M. Evans, Trefriw, a siaradodd yn hynod ddyddorol a nertliol o blaid Ymreolaeth. Yna cynnygiwyd i'r eyfarfod ein hymddiriedaeth yn Mr. Gladstone fel gwladweinydd, ac yn Mr. Rath- bone fel ein cynnrychiolydd yn St. Stephan unwaith etto. Pasiwyd y cynnygia yn unfrydol a llawii brwdfrydedd. Darllenwyd llythyr oddi wrth Mr. R. Hughes (Glan Collen), yn dadgan nad allai (lt)i. fod i'r cyfarfod i'r awyr agored, ond y byddai ei gèr. byd ef, ac eiddo Mr. Evans, Plas madog, at eu gwa. anaeth trwy'r dydd ddydd Lllln i gludo yr etholwyr. Derbyniwyd y cynnygiad gyda chynimeradwyaeth mawr. Wedi talu y diolchiadau arferol, aeth pawb adref mewn hwyl a sel wedi cael eyfarfod gwirion- eddol dda.-Gohebydd. LLANDUDNO. Ymgeisiaeth Mr. Rathbone.—Ymgynnullodd nifer liosog i'r Pavilion sydd ar y borthfa, nos Wener, er cefnogi ym- gaisiaeth Mr. W. Rathbone. Cymmerwyd y gadair gan Mr. T. Barker, yr hwn a hysbysodd fod Uythyrau a tholegram- au wedi eu derbvn oddi wrth dri o aelodau sef, y Mri. G. Osborne Morgan, Henry Richard, a Broadhurst, a'r Parch. Herber Evans, ae eraill, yn ymesgusodi am nas gallent fod yn bresennol. Cafwyd araeth faith gan Mr. Rathbone, yn yr hon yr eglurai ei olygiadau ar gwestiwn yr Iwerddon, Dangosodd, os dychwelid y Toriaid i awdurdod, mai gobaith gwael oedd gan Gymru am unrhyw ddiwygiadau -yr hyn y mae y blaid hono yn gwneyd cymmaint yn ei erbyn, a'r hyn y maent hefyd, yn ol eu hen arfer, yn ei gashau & cbls cynawn—am chwe blynedd, o Jeiaf. Cyn- nygiodd y Parch. Dr. Thomas, a chefnogodd y Parch. J. S. Jones, bleidlais o gefnogaeth i Mr. Rathbone, a chaed areithiau rhagorol gan y boneddigion hyn. Dilynwyd hwy gan Mr. J. Davies (Gwyneddon), a siaradwyr eraill; a mab- wysiadwyd y penderfyniad canlynol :Y dylai, ynolbarn y cyfarfod hwn, gwynion a hawliau arbenig Cymru gael sylw dioed y llywodraethau deddfwrol a gweinyddol, a meaurau gael eu dwyn yn mlaen yn ddioed i ymwneyd a Dadsefydllad Eglwys Loegr yn Ngbymru; cynllun o addysg ganolradd mesur tirol Cymreig; rhyddfreiniad prydles- wyr; gosod llettyau, o ran y doll ar dai, ar yr un tir ag ad- eiladau eraill o fusnes a bod pob person a bennodir i wein- yddu y gyfraith yn y Dywysogaeth, ac arolygu mwnglodd- iau, chwarelau, llaw-weithfeydd, ac i ymwneyd a'r cyllid mewnol, yn gwybod iaith y wlad.' PENMAENMAWR. RHODDWYD y derbyniad mwyaf calonog i Mr. Rath- bone yn y cyfarfod a gynnaliwyd yn Neuadd Glad- stone, yn y lie uchod, nos Sadwrn (liweddaf. Llan- wyd y gadair gan Mr. C. H. Darbishire, u. H. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu Gorynidaith Gwjr Harlech.' Diweddodd y eadeirydd ei sylwadau agoriadol trwy alw am dair banllef gymmeradwyol i Mr. Gladstone, yr hyn a roddwyd yn galonog iawn. Yna caed anerchiad gan Mr. Rathbone, yn yr hon yr ymdriniodd yn lied fanwl ar gwestiwn yr Iwerddon, a galwai ar yr etholwyr i roddi eu cefnogaeth i wlad- lywiaeth Wyddelig Mr. Gladstone, trwyeiddychwel- yd ef i'r senedd i gynnorthwyo yn y gwaith da hwnw. Pasiwyd penderfyniad unfrydol o ymddiriellaeth yn Mr. Rathbone.
PONTMENAI.
News
Cite
Share
PONTMENAI. Yr etholiad.—Ymwelodd y Cadben Pritehard Ray- ner, yr ymgeisydd Ceidwadol, a'r lie hwn, ddydd Mawrth diweddaf ac vn y cyfarfod a gynnaliwyd ganddo y noson hono, llywyddid gan yr ijchgadben Tluiiter, yr liwn oedd Ilywydd y t?all yr gviinaliivyd Hunter, yr hwn oedd llywydd y Gymdeithas Rydll. frydig hyd yr amser y mabwysiadwyd Mr. Lewis yn ymgeisydd y blaid hono. Cafodd yr uchgadbengryn anhawsder i gael gwrandawiad. Dydd Mercher, an- erchodd Mr. Lewis gyfarfod lliosog o Ryddfrydwyr, a rhoddwyd iddo dderbyniad gwresog iawn.
ETHOLIAD SIR FON.
News
Cite
Share
ETHOLIAD SIR FON. Nis gellir dyweyd fod rhyw lawer o fywiogrwydd yn cael ei arddangos yn yr ethoIiad hon ddydd Sadwrn. Pan gyrhaeddodd y newydd am y mwyafrif enfawr a gafodd Mr. J. Bryn Roberts yn Neheubarth sir Gaer- n'r fE ar yr Undebwr, rhoddodd hyny yni adnew- yddol trwy holl wersylloedll y blaid Ryddfrydig yn Môn. Ni choleddid unrhyw amniheuon am dl y.
BWRDEISDREFI FFLINT.
News
Cite
Share
ystod y dydcl gan y ddwy blaid. Yr oedd cerbydau y blaid Geidwadol at wasanaeth Syr Henry Jack- son, gan y l'hai y cefnogid ef yn benaf, yn gystal a chan y Due o Westminster, Mr. J. Scott Bankes, ae eraill. I fyny i un o'r glocli, nid oedd ond hanner y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddaf wedi cofrestru eu pleidleisiau. Nid oedd y polio yn fyw- iog yn Bagillt; ond yn Filint, lie y preswvlia yr etholwyr Gwyddelig yn henaf, yr oedd yno lawer o frwdfrydedd yn Ifafr Mr. Roberts. Yr oedd y polio yn v hwrdeisdrefi eraill yn cael ei gaiio yr. mlaen yn dawel. Y farn gvflrcdin ydoedd, y hylldai nifer y pleidleisiau vn llawer llai nag Itr yr achly&ur blaen. orol. Yn yst..d y dydd, ymwelodd Mr. John Roberts a Syr Henry Jackson a'r gwahanol fwrdeisdrefi, a rhoddwyd derbyniad gwresog iddynt gan eu cetn- ogwyr. °gCyfrifwyd y pleidleisiau yn y Neuadd Drefol yn Filint boreu ddydd Mercher, yn mhresennoIrleb y lnaer a'r ddan ymgeisydd; ac yn fuan wedi un ar ddeg, hysbvswyd fod yr ymgeiswyr yn sefyll fel y nnnlvll: — Mr. John Roberts (Gladstonian) J,»^ Syr H. M. Jackson (Rbydd. Undebol) 1,403 Mwyafrif 424 I _1_ J.1 l Derbyniwyd y newydd gyda. cnynimerau\vy<tewi mawr gan gefnogwyr Mr. Roberts. Mr. John Roberts a ddiolchodd iddynt am ei ethol, ac yr oedd ganddo y pleser o ymddangos o u blaen am y bedwarcdd waith fel cynnrychiolydd bwrdeis- Jreli sir Filint. Yr oedd wedi ei ethol y troion blaen- orol gyda niwyafrifoedd da, pan nad oedd ganddynt ond Ceidwadwyr i ymladd it hwy ond gwrthwyneb- wyd ef y waitli lion gan gyfnniad o Geidwadwyr a Rliyddfrydwyr; ae er hyn oil, yr oeddynt wedi Ihvyddo i gael buddugoliaeth ardderchog. Syr Henry Jackson, yr ymgeisydd gorclifygedig, yr hwn a ddcrbyniwyd gyda hwtiadau ucliel, a ddiolch- odd i'r rliai oedd wedi ei gefnogi. Cafwyll areitbiau wedi hyny gan Mr. Herbert Lewis a Mr. Herbert Roberts. Wedi i Mr. Roberts ddyfod allan o'r Neuadd Drefol, cafodd dderbyniad brwdfrydig iawn gan ei gefnogwyr, ac aeth oddi yno i Bagillt a Threirynnon, lie y cydnabyddodd ei gefll- ogwyr gyda diolcbgarwcb calon am eu bynidrecluon calonog o'i blaid.