Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y LLATHEN. I

News
Cite
Share

Y LLATHEN. I YR wyf yn ysgrifenu heddyw mewn teimladau dig- ofus, mewn teimladau pruddglwyfus, a theimladau, pe gollyngid y ffrwyn ar eu gwarau, a roddent holl wersylloedd y Philistiaid Radicalaidd yn y dref hon a Bangor ar dln 1 Paham? Nid oes eisieu gofyn paham; o blegid y mae yr achos mor amlwg. Ond er mwyn hwylusdod i lathenu ychydig, gwell fyddai dyweyd fod Jones-Parry, yr hen wron a wnaeth fwy o hlaid yr achos Rhyddfrydig yn Arfon nag un dyn o'i tlaen, nac a wna yr un dyn byth ar ei ol chwaith, wedi ei adael allan yn yr I oerfei,' a Mr. bwetenham sych sancteiddiol a rhagrithiol, wedi ei ethol yn ei le dros y bwrdeisdreii; a hyny trwy ddiofalwcn, afler- wch, a diogi anesgusodol bagad o glebrwyr Radical- aidd, a dyrnaid o wfr a haerant trwy eu gweithred- oedd mai hwynthwy yw ceidwaid moesoldeb a chref- ydd yn y wlad. It is of no use crying over spilt milk, meddai y Saeson; ond a fydd rhyw un yn ei synwyr yn crfo pan fydd ei lefi-itli yn y shwg ? Y mae hwn yn spilt milk, fel y dywedais eisoes, trwy ddiogi y pleidgeis- wyr, annhrefn y meistri ysgrifenyddion, ac athrocl blaenoriaid,' pondigrybwyll — blaenonaul a fuont ar hvd y blynyddoedd yn clebran am Ddadgyssyllt, iad a Dadwaddoliad Ai trwy helpio yr achos Tori- aidd mae y boneddwyr hyny yn bwnadu dwyn y ewestiwn hwnw i derfyniad. Ffordd debygol iawn Cvwilvddied y cyfryw os gallant. Wrth ddychwelyd o Fethesda ychydig nosweithiau yn ol, mi droais i mewn i smoking room y Rhyddfrydwyr; yr hon a elwir hefyd yn Reform Club Room; a thyna lie yr oedd degau o'r Rods fel eostrelau mewn mwg, yn cymmeryd eu byd yn ddiofal a difyr iawn, pan yr oedd ell gwrthwynebwyr Torïaidd, yn wrryw a benyw —o'r Mil. West 1lawr hyd hiliocraeth Jack Sweep; ac o ferched y deon i lawr hyd Betsan Willi as, Heol Huw, Hirael, allan yn gweithio o blaid eu dyn Nid vw yn beth i'w ryfeddu ato fod Glanadda, Lfin y pob- ty, Yr Ardd Fawr, Hirael, a manau eraill, heb eu canfasio gan y Rhyddfrydwyr. Collwyd pleulleis- inu Gwyddelig v lie olaf a enwyd oil drwy y difater- wch hwn, fel y ii)ae'n amlwg, wrth waith y Gwydd- elod yn llongyfarch Mr. Swetenham ar ei ymdaith fuddugoliaethus drwy y lie. Chwareu teg i ni yn y dref hon, ni buom mor ofn. adwy o esgellllls a diog a Rhyddfrydwyr Bangor; canys nid oes ond un lie yma-sef y Ward Fawr-heb ei chanfasio o ryw fath 0 ryw fath, meddaf, am iddo gael ei wneyd yn hollol afreolaidd a difywycl, fel pe na buasai gan neb galon yn y gwaith o gwbi. Gan gynted ag y dealiodd yr ymgeisydd Toriaidd ei fod wedi ei et ol, dychlamodd ei galon yn ei fynwes; ae i fyny fig ef ar y stwmp i ddiolch i'w ethohvyr am yr anrhydedd yr oeddynt newydd osod arno. Ebe fe, Chwi a ymladdasoch yn wrol a beiddgar; ond yn anterth ein llwyddiant, peidiweh a meddwl y bydd i mi anghotio fy ngwrthwynebwyr trechedig, na dy. weyd dim ond a fo'n garedig am danynt. Gresyn na ddeclireuasai yn nghynt. Os bydd i mi gyn- nrychioli y bwrdeisdrefi yn y Parliament, ymdrechaf gynnrycluoli pob 1//1 o' ctltolw,!jl' Poo un o'r etholwyr ?' Fetiy Gadewch i ni gael Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghy- mru, a Mesur Tir da, o flaen y Tj>—a gynnrychiola efe bob un o'r etholwyr' ar y cwestiynau yna? Na wna, ebe efe ei hunan. Pa reswin sydd i'w roddi dros fod Nefvn wedi polio gan lleied ? Buasid yn meddwl y buasai hen gym- mydogion Mr. Jones-Parry yn ymfyddino ar ei ochr. Ond nis gwnaethant. Hwyrach eu bod hwy, fel y dywedir am bobl yn ofni i'r Gwyddelod gym- meryd yn eu penau i ddyfod trosodd i'w lladd Hwrt i Tair mil o fwyafrif i Mr. John Bryn Roberts I Dyma fwyafrif gwerth ei gael, a gwerth ymtfrostio ynddo. Nid oedd y Toriaid erioea wedi meddwl am foment y buasent yn llwyddo i drechu Mr. Roberts; a dygasant Mr. Farren allan o bwrpas i beri trafferth a cbflst iddo Ond gan gynted ag y gwnaed yn hysbys faint y mwyafrif a gafodd, tarawyd hwynt ft syndod eithafol, ac aethant i'w llochesau A'II cynffonau rhwng eu coesau fel ctvn a fo'n euog o droseddu yn erbyn eu meistri. Poor fellows, y mae'n resyn drostynt hefyd. LLATHENYDD.

[No title]

thtudi Mmrm.I Nos SADWRN,…

CYMMANFA GYFFREDINOL Y METHODISTIAID…

LLOFRUDDIAETH DDWBL, AC YMGAIS…

[No title]

| I FPJJIFJJFR glUU4,4%$.…