Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y C YNS W YS I AD. J
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y C YNS W YS I AD. J YrEthoIiadMtrwyyDeyrnM ?5 Yn!t()onYmneiUduotyn6irFHint. ]JythyrLIundam n. 3 Y Llathcn n. n. on 4 Dcheudir Cymru w n. 4 Y Gymmaufa Gytfrodinol yn Nghaergybi 4 Yr Ktholiadau .n. 5-6 Canlyiiiad yr Etholiad 7 Gen#-di,-aethau, &c. 8 Digwyddiadau ° Prif Ertbyglau 9 Newyddion Cymreig 10 Y ftrawdlysoedd Chwarterol 10 blarchiiadt)edd. 12 Oohebiaethau on on 13 Cyfarfodydd Misol 14 Newyddion Diweddaf 14 Cymmaufa Croososwallt 14 Hyfibysiadan 1>2—15,16
YR ETHOLIADAU TRWY Y DEYRNAS.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR ETHOLIADAU TRWY Y DEYRNAS. ERBYN hyn, y mae agos yr oil o'r etholiadau drosodd. Nid oes ond tua hanner cant o ael- odau i'w dewis etto. Cyn wythnos i heddyw, bydd yr olaf-yr aelod dros Ynysoedd Orkney a Shetland—wedi ei ethol. Yn awr y mae y pleidiau yn sefyll fel y canlyn :— Rhyddfrydwyr 162 Undebwyr 61 Parnelliaid 74 Toriaid 291 588 Fe welir gan hyny yn awr fod y Toriaid mewn lleiafrif o saith, ond cyfrif y pleidiau eraill gyda'u gilydd. Y cwestiwn a ofynir gan lawer ydyw-Pa un a fydd i Mr. GLADSTONE ymddiswyddo yn uniongyrchol wedi y gwneler yr oil o'r canlyn- iadau yn hysbys, ai nis gwna ? A barnu oddi wrth yr hyn sydd yn wybyddus am [dano fel gwladweinydd, ac yn enwedig fel arweinydd plaid, yn gystal ag oddi wrth amryw awgrym- iadau sydd wedi eu gwneyd ganddo o bryd i bryd, y tebygolrwydd cryf ydyw, y bydd iddo ymddiswyddo mor gynted ag y bydd hyny yn bossibl. Yn y cyssylltiad hwn y mae gwahan- iaeth rhyngddo a blaenor y Toriaid. Dal eu gafacl yn yr awenau hyd y gallant y bydd y Toriaid yn gyfl'redin. Felly y gwnaeth Ar- glwydd SALISBURY tua chwe mis yn ol; ac y mae'n debygol mai felly y gwna y tro nesaf y caiffgyfleusdi-ahefyd. Ond mae Mr. GLADSTONE uwch law hyn. Y mae gormod o anrhydedd yn nghyfansoddiad ei feddwl, a gormod o'r dyn yn ei natur foesol, i garu swydd er ei mwyn ei hun a'i breintiau. Nid ydyw, ac ni bu, swydd erioed iddo ef yn ddim ond cyfleusdra yn gosod gallu yn ei law i wasanaethu y deyrnas, ac i ddwyn yu mlaen y diwygiadau y mae efe wedi gosod ei galon arnynt. Ni wyddys am gyfnod yn hanes y gwladweinydd mawr o Ben-ar-lao, ag yr oedd efe yn barod i aros mewn swydd yn unig am fod ei elynion politicaidd yn foddlawn i'w oddef i aros ynddi. Am hyny, yr ydys yn dyfod yn anoeheladwy i'r casgliad mai ymddiswyddo a wna efe yn ddioedi, fel yr unig Iwybr anrhyd- eddus fydd yn agored iddo. Diwrnod neu ddau cyn dadgorphoriad y sen- edd, dywedodd Mr. GLADSTONE yn bendant, mewn attebiad i gwestiwn a ofynwyd iddo gan arweinydd y Toriaid yn Nhy y Cyffredin, y byddai iddo alw y senedd ynghyd yn ddioed, os byddai y wlad yn dadgan ei barn yn glir a di- ammwys ar bwngc Ymreolaeth i'r Iwerddon. Gan hyny, fe gesglid, os byddai mwyafrif teg i'r Toriaid, y canlynid hyny gan ymddiswyddiad diattreg pan elwid y senedd ynghyd. Ymddengys yn fuan pa fodd y saif y pleidiau ar derfyn yr etholiad. Ar ol hyny, gellir dyfalu yn well pa un ai Mr. GLADSTONE, Arglwydd HARTINGTON, neu Arglwydd SALISBURY fydd yn debyg o ddal yr awenau. 0 ran hyny, fe allai y ceir rhyw awgrym o fwriadau Mr. GLADSTONE ei hun. Gan gymmeryd pen llinyn ein hanes' i fyny yn y man y gollyngasom ef o'n llaw yr wythnos ddiweddaf, ni a ddechreuwn gyda'r canlyniadau a wnaed yn hysbys ddydd Mercher. I ddechreu, yr ydym yn cael Bradford yn cadw at ei hen draddodiadau Rhyddfrydig, trwy ddychwelyd ei dau hen aelod, a fyddant yn anrhydedd i'r Ty, sef Mr. SHAW LEFEVRE, yr hwn sydd yn aelod o'r Weinyddiaeth, a Mr. ILLINGWORTH, yr hwn sydd yn un o bencampwyr Dadsefydliad. Drwg genym fod Caerlleon wedi dianrhydeddu ei hun trwy ethol Tori yn lie ei hen aelod Radicalaidd, Dr. FOSTER I ddylanwad y Due o WESTMIN- STER y mae hyn i'w briodoli. Rhoddodd efe gymmaint o gefnogaeth ag a allai i'r ymgeisydd Toriaidd, ac aeth yr Undebwyr gydag ef, wrth gwrs—a dyna fu y canlyniad. Y diwrnod hwn y cafodd yr Undebwyr y ddyrnod drymaf a gawsant ar hyd yr ymgyrch sef, colli Mr. GOSCIIEN yn Edinburgh. Nid ydym yn meddwl y dylai y Rhyddfrydwyr wneyd dim ond llawenychu o herwydd gor- threchiad y gwr hwn. Y mae efe yn hynod alluog; ond ar hyd y blynyddoedd-ac nid ar Bwngc yr Ymreolaeth yn unig-y mae efe wedi bod yn ein herbyn, yn hytrach nag o'n plaid, er ei fod yn proffesu bod yn Rhyddfrydwr. Yr oedd efe yn un o wrthwynebwyr penaf Helaeth- iad yr Etholfraint yn y Siroedd. Ac a'i dalentau disglaer, nid ydyw wedi gwneyd nemawr i ddim er's amser maith ond gwasanaethu Toriaeth. Bydd y gir a'i gorchfygodd, sef, Dr. WALLACE, yn nerth i'r blaid. Hefyd, yr oedd y mwyafrif yn erbyn Mr. GOSCHEN-er gwaethaf pleidiaeth y Toriaid a'i gyd-Undebwyr yn ddangosiad eglur iddo mai Radical y myn yr Edinburghiaid ei gael i'w cynnrychioli, hyd yn oed os na bydd efe mor alluog a'i wrthwynebydd. Cadwodd Mr. CHILDEKS ei sedd dros Edin- burgh yn anrbydeddus, gyda 1,587 o fwyafrif ar yr Undebwr. Gwaredigaeth gyfyng a gafodd Mr. C. E. LEWIS, y Tori. sydd yn eistedd dros Londonderry er's llawer o flynyddoedd, rhag colli ei sedd i Mr. JUSTIN MCCARTHY. Tri yn unig oedd ei fwyafrif. Yn Newcastle yr ymleddid un o frwydrau pwysicaf yr etholiad hwn. Rhoddodd yr Un- debwyr a'r Toriaid eu bryd ar droi Mr. JOHN MORLEY, Ysgrifenydd yr Iwerddon, allan. Dyg- asant y ddau ymgeisydd cryfaf oedd yn bossibl allan yn ei erbyn ef a Mr. J AMEiI CRAIG-nid amgen Syr WILLIAM ARMSTRONG, y gwneuthur- wr enwog ar fagnelau, fel Undebwr; a Syr MAT- THEW WHITE RIDLEY, un o'r gwyr galluocaf a fedd y blaid Doriaidd. Yn anffodus hefyd, yr oedd Mr. JOSEPH COWEN, yr hen aelod, a'i new- '?ddiadur, a'u dylanwad goreu yn erbyn Mr. ? ?ORLEY. Ond dydd y p61, nithiwyd Newcastle vn drwyadl. Daeth trwy y prawf yn ogoneddus. ?h6ddodd i Mr. MORLEY 10,681, a Mr. CRAIG 0,172 o bleidleisiau; tra na chafodd y ddau farwnig ond 9,657 i'r Undebwr, a 9,580 i'r Tori. Dydd Iau, cafwyd hysbysrwydd am fuddug- oliaeth a gymmerodd le ddydd Mercher, yr hon a lawenychodd galon y blaid Barnellaidd; sef, eiddo Mr. SEXTON yn Belfast:—y lie diweddaf y gallesid disgwyl i un o'i fath ef ennill. Mae'n wir nad oedd ei fwyafrif ond 103; ond ni bu Rhyddfrydwr, heb s6n am Barnellydd, yn eis- tedd dros Belfast erioed o'r blaen. Collodd 'meibion llafur' un o'u cynnrychiolwyr ffydd- lonaf trwy y gwrthodiad o Mr. JOSEPH LEICES- TER yn Hampshire Orllewinol y diwrnod hwn; a Thori gafodd ei le. Ar y cyfan, yr oedd ymdrechfeydd ddydd Iau ychydig yn llai trychinebus i'r Rhyddfrydwyr na rhai y dyddiau blaenoroi. Ond yr oedd y drwg a wnaed eisoes wedi myned yn rhy bell, fel nas gellid diagwyl yr uniawnid pethau, ac nad oes un tebygolrwydd y rhwystrir Ardalydd SALISBURY i ddyfod i'r awdurdod. 0 Ysgotiand, yr oedd y newyddion yn dra chalonogol. Yn Mwrdeisdrefi Dumfries, ennill- odd Mr. REID y sedd i'r Llywodraeth; ac yn Nwyreinbarth Fife, cafwyd buddugoliaeth ddis. gleiriach fyth. Yno, yr oedd estronhollol-sef, Mr. HERBERT ASQUITH-yn ymgeisio fel cefnog- ydd i Mr. GLADSTONE yn erbyn Mr. BOYD KIN- NEAR; yr hwn a ddewiswyd y llynedd am ei fod yn Radical trwyadl, ond a welodd yn dda wrth- wynebu y Mesur ar Ymreolaeth. Ar y llaw arall, collodd Mr. JOHN HAMILTON y dydd yn Neheubarth sir Lanark. Caed colled i Rydd- frydiaeth drwyadl yn Stretford, trwy orthrech- iad Mr. AGNEW gan Dori o'r enw Mr. MACLURE; ond pan yr elo y gwynt' presennol heibio, ac y ceir etholrestr newydd, bydd i Mr. AGNEW adannPl y sedd. Ni wtaaeth dydd Gwener bethau yn well i'r Llywodraeth; a gwellhaodd gryn lawer ar gyf- lwr y Toriaid ar draul yr Undebwyr. CoHodd y Rhyddfrydwyr sedd yn adran Chippenham o sir Wilts, lie yr olynir Mr. BANISTER FLETCHER gan yr Arglwydd HENRY BRUCE. Cadwodd Syr HENRY HAVFLocK-ALLAN yr hwn sydd yn Undebwr-ei le yn Ne-ddwyrain Durham; a Mr FINLAY-Undebwr arall-yn Inverness, er fod Syr ROBERT PEEL, yr hwn sydd wedi gadael y Toriaid ar Bwngc yr Iwerddon, yn curo yn drwm wrth ei sodlau. Ugain oedd yr holl fwyafrif a gafodd Mr. SINCLAIR—yr Un- debwr-ar Mr. HARRY SMITH, y Gladstoniad, yn mwrdeisdrefi Falkirk; a chadwodd Mr. BARCLAY, Undebwr arall, ei sedd yn sir Forfar, gyda phedwar cant o fwyafrif. Lladrataodd y Toriaid eu seddau oddi ar yr Undebwyr yn adran Maldon o Essex, ac a dran Middleton o sir Lancaster. Y flwyddyn ddiw" eddaf, ennillodd Mr. HALDANE, cefnogydd cryf i Mr. GLADSTONE, fuddugoliaeth fawr ar Arglwydd ELCHO yn Lothian Ddwyreiniol; ac eleni, cadw odd ei safle yn rhwydd yn wyneb ymosodiad Undebwr arno. Yr ydym erbyn hyn wedi cyrhaedd'dydd Sad- wrn; ac y mae y Toriaid yn parhau i ennill tir. Yn adran Romford o Essex, aeth Mr. THEO- BALD, Tori rhongc, i mewn gyda mwyafrif o dros ddwy fil a hanner. Wrth gwrs, ennill a wnaeth Ardalydd HAR- TINGTON yn Rossendale. Dyna a ddisgwyliwyd iddo wneyd. Efe ydyw blaenor yr Undebwyr, y mae'n wir; ac addefwn yn rhwydd ei fod wedi cario yr ymgyrch yn mlaen yn anrhyd- eddus. Ond, dyIai yr ardalydd gofio mai trwy ras' y Toriaid y mae efe yn aelod y waith hon. Un o 'ryfeddodau' yr etholiad, dydd Sadwrn, oedd gortbrechiad Syr GEORGE TREYELYAN yn Hawick, a'r bwrdeisdrefi ar derfyn Ysgotland. Yn y blynyddoedd a aethant heibio, nid oedd wiw i Dori ymgeisio yn ei erbyn a chan fyn- ychaf, dychweliad diwrthwynebiad a roddid iddo. Ond, pan aeth efe yn erbyn y Mesur ar Ymreol- aeth, gan ymneillduo o'r Llywodraeth, digiodd ei etholwyr mwyaf RadicaIaidd gymmaint wrtho fel y penderfynasant ddwyn ymgeisydd yn ei erbyn a llwyddasant i roddi deg ar hugain o fwyafrif iddo, er gwaethaf cydymdrech egniol y Toriaid a'r Undebwyr drosto. Ond colled ddirfawr i Ryddfrydiaeth ydyw hon er hyny. Collodd tri g*r arall, tra adnabyddus, eu seddau ddydd Sadwrn; sef, Mr. JOSEPH ARCH (cyfaill y llafurwyr amaethyddol), Mr. TIMOTHY HEALY, a Mr. ALBERT GREY. Ugain oedd y mwyafrif yn erbyn Mr. ARCH mewn p61 o dros wyth mil. Ei wrthwynebydd ydoedd yr Ar glwydd HENRY BENTINCK-Tori mawr; dros yr hwn, fel y mae yn syn adrodd, y gweithiodd Mr. JESSE COLLINGS a'i holl egni. Wrth gwrs, y mae yr Oreinwyr yn falch o'u buddugoliaeth ar Mr. HEALY, yn Londonderry, am ei bod yn mantoli buddugoliaeth Mr. SEXTON arnynt hwy yn Belfast. Yr oedd Mr. GREY wedi cymmeryd rhan mor flaenllaw fel Undebwr, fel y teimla y Gladstoniaid yn hynod o falch o herwydd fod y drws wedi ei gau yn ei erbyn. Mynodd Rhyddfrydwyr adran Crewe o sir Gaerlleon gadw meddiant o'r tir a ennilIasapt yn yr etholiad diweddaf. Nid ydoedd Mr. LATHAM, y gr a gariodd y dydd y pryd hwnw, yn abl, o herwydd ystid ei iechyd, i sefyll y tro hwn. Ciliodd o'r maes; ond caed ymgeisydd rhagorol yn ei le yn mherson Mr. M'LAREN. Ymgeisydd y blaid wrthwynebol oedd Mr. TWEMLOW. Gwnaeth y Toriaid eu gwaethaf yn erbyn y Rhyddfrydwr, ac aeth eu horgan new- yddiadurol mor bell ag awgrymu y gallai mai un o ganlyniadau cyntaf gorthrechiad Mr. TWEMLOW fyddai fod gweithfeydd mawrion Cwmni Llinell Ffordd Haiarn Llundain a'r Gogledd Orllewin yn cael eu cau i fyny Er hyny, rhoddwyd yn agos i chwe chant a hanner o fwyafrif i'r Rhyddfrydwr. Wedi colli y dydd yn Liverpool, penderfyHodd Syr THOMAS BRASSEY 'dreio ei lwc' yn mwrdeisdrefi St. Andreas, yn Ysgotland, yn erbyn Syr ROBERT ANSTRUTHER, yr hwn sydd yn Undebwr cryf. Y mae yn ddrwg genym mai aflwyddiannus a fu ei ymgeisiaeth y waith hon hefyd; canys yr oedd efe dros bum cant o bleidleisiau yn fyr o gyrhaedd y nod. Yr ydys i ddisgwyl y canlyn- iadau o ryw bedwar ugain o etholaethau ettoi
YNADON YMNEILLDUOL YN SIR…
News
Cite
Share
YNADON YMNEILLDUOL YN SIR FFLINT. Y MAE gohebiaeth hynod yn cael ei chario yn mlaen rhwn Mr. Samuel Smith, A.S., a Mr. Hughes, Ar- glwydd Raglaw sir Fflint, yn cynnwys saith a phed- war ugain 0 foneddigion, M nad oedd ymraaint ag un o honynt yn YmneUIduwr.ac yn gdyn ai ni ethd pennodi (Lu neu dri o Ymneil duwyr. Attebodd yr ?rglwydd Ragl?w, &UMO saith a phedwar ugain o ynadon, ei folef yn gyMol ambym?egar hugain. O'r holl fMngc, yr oedd naw y Rhyddfrydwyr, a dau na wyddent beth oeddynt. El amcan ef, a mabwys- i?ducynghor Blacktone, ydoedd pennodi y dynion mwva.ft?Iwng, ac o'r cymmenad goreu. Pmy bydd- S?ad Mr. Smith yn sir Fflint wedi ei eangu, bYddai?i alluog i fMiu pa un a oedd ynarai yn mysg eieth??? oed y yn dyfoa i fyny D.?r hyn a ofynai of ?u a?ed? mewn ystyron eraul yn fedd_iMMlary  angenrbeidiol. Mweddod7 yr AT-   i &rh? FESSWI fy noethineb fy bun. heb gaef lylanwadu arnaf gan yr ysgogiad eyhoeddus & pha un i bygytMwch n.'
[No title]
News
Cite
Share
Syrthiodd merch ieuangc yn Lewisham i lesmair, tra yn vindrochi, a boddodd. Cafodd dyn ei anfon i garchar i chwe mis am anfon newyddion twyllodrus i r Times. Yn Wolverhampton, bwytaodd geneth fach fara ac ymenyn oedd wedi cael ei wenwyno i lygod mawr, a tiu farw.
| I FPJJIFJJFR glUU4,4%$.…
News
Cite
Share
FPJJIFJJFR glUU4,4%$. BOREU LLUN, Gorphenaf (Oddi wrth ein Gohebydd Neillduol). Canlyniadau'¡' etholiad,—Buddugoliaeth Dorutidd. Dylanwad camsyniol Ehyddfnfdiaeth.— toUemon yr Undebwyr.—Y Ithagolwg am Home Mule. Llwyddiant y Parnelliaid.—Gwleidiadacthdramor. -Dihod ar filwyr yn yr A* lht -Dieliell Meirion. Priodas Miss Rendel. Cyngherdd Madame Edith Wynne. N ID yw yretholiatl drosodd etto, ondfe wyddom yn eitti- afdaerbyn hyn pafoddyrVflymyn sefyll. Trwy fwyaf- rif mawr y mae y wlad wedi gwrthod Mr. Gladstone, a'i gynlluniau tuag at benderfynu 'Y cwestiwn Gwyddelig,' sydd fel hunllef yn gorwedd arnom. l r unig bryder yn awr ydyw a ddychwelir pleidwyr policy Iarfl Salisbury mewn digon o nerth i gybawnhau dodiad y, prif awdurdod yn nwylaw Gweinyddiaetn Dorïáidd. Fel yr awgrynuiis amryw weithiau yn ystod yr wythnosau diweddaf, etl'aith ymdrechion yr Un- debwyr Rhyddfrydol ydyw dycliwelyd i DJ y Cyff- redin Doriaid penboeth, sydd ar bob cwestiwn, ond yr un Gwyddelig yn unig, yn anghyttuno yn gwbl acyn hollol k hwynt, Dwy o agweddau fwyaf pruddaidd yr ymryson presennol ydyw gwaith Rhyddfrydwyr goleuedig yn troi eu dylanwad a'u nerth i ddychwel- yd cynnrychiolwyr sydd yn rhwym yn y dyfodol agos o saihau a mathru dan eu traed yregwyddorion hyny sydd yngln a bywyd Rhyddfrydiaeth a chynnydd gwleidyddol. Ofer yw dyweyd mai penderfyniad ar un pwngc yw yr etholiad sydd ar ddibenu. A chan- iatau, os daw Gweinyddiaeth Dofiaidd i mewn, na pherv yr awdurdod yn ei dwylaw ond am fyr amber, ni raid i mi appelio at hanesiaeth i broft y gall chwe mis o lywodraeth o'r fath dafiu y wleidiadaeth gyn- nyddol yn ol am ddeg neu bymtheg mlynedd. Yn ngwyneb hyn, metliaf yIllán a chyfiawnhau i mi fy hun y cenedlgarwyr Cymreig hyny a arferasant eu dylanwad yn anfon i'r senedd Doriaid fel Mayne, Walsh, a Swetenham i gamgynnrychioli Cymru. Yr agwedd bruddaidd arall ar yr ymryson yw ein bod yn gorfod derbyn Toriaeth ar draul colli gwasanaeth dynion a fuont un waith, a dyweyd y Ileiaf, yu golofnau i achos Rhyddfrydiaeth—dynion galluog fel Mr. Goschen, dynion cydwybodol fel Mr., yn awr Syr George Trevelyan, a dynion gobeithiol fel Mr. Henry Brand. Rhaid cydnabod mai hynod anffodus y trodd yr ymgyrch i'r Rhyddfrydwyr hyny a droisant y fan- tol yn erbyn Mr. Gladstone. Yn Nghymru y maent naill ai wedi diflanu, nen wedi edifarhau. Mae hyd yn n6d y boneddwr haelionus oLandinam, er gwaeth- af holl nerth Toriaeth, a chynnorthwy Rhyddfrydwyr oerion Ceredigion, wedi gorfod rhoddi ffordd l fargyf- teithiwr Radicalaid'd yn mherson Mr. Bowen Ac nid yw eu ffawd wedi bod nemawr gwell manteisio nidRhyddfrydiaeth, ond Toiraeth, sydd wedyi n Lloegr, ar ell hllndebiaeth. Mae'r wlad wedi condemnio y Mesurau Gwyddelig (yn fwyaf neillduol ei Fesur Tir) ond nid yw mewn Ull modd wedi Hadd Home Rule. Beth bynag am effaith y bleidlais Wyddelig yn yr etholiadan Seisnig, nid oes lie i ammheu fod yr Iwerddon yn fwy llwyr ei hymddiried yn Parnell a'i blaid nag erioed. Bydd llais yr Iwerddon i'w glywed yn gryfach nag o'rblaen yn Nhy y Cyfiredin, a gallu y blaid i ddylanwadu ar wleidiadaeth y senedd yr un mor effeithiol. Mae'n wir fod Mr. Healy, un o lieutenants galluocaf Mr. Parnell, wedi colli y dydd am y tro yn South London- derry, ond nid hir yr erys ar ol. O'r ochr arall, y mae Mr. [Sexton wedi ennill buddugoliaeth yn Belfast, canol-fan yr Oreinwyr, ac ychydig iawn fu rhwng Mr. Justin Mc'Carthy a chyflawni gwrhydri cyfltelybyn Londonderry City. Yn wir, nid; yw yn ammhossibl y troir ei leiafrif o dri ar ymchwiliad yn fwyafrif o'i blaid. [Cadwodd Mr. T. P. O'Connor ei sedd yn Liver- pool, tra y mae Mr. Parnell, Mr. Biggar. a llu i'w canlyn, wedi eu dychwelyd heb gysgod gwrthwyneb- iaeth. Hanes y blaid Barnellaidd hyd yn hyn^ydyw ei bod wedi lhvyddd i fesur mawr i sicrhan y peth y gweithiai am dano. Bu adeg lawer mwy eymmylog arni nag sydd yn awr, ond yn mlaen y mae wedi par- hau i fyne'd. Cyn y ceir gwared o'i chais yn y pwngc o Ymreolaeth, bydd raid ei sathru i ddifodiant. Pwy tybed sydd ddigonol i'r gorchwyl ? Tra y mae yr etholiad a'r cwestiwn Gwyddelig yn llenwi bryd y wlad, erys materion eraill o'r pwysig- rwydd mwyaf yn ddisylw. Oni bae am y pethau hyn, dyau y elywid mwy am yr aflwydd sydd yn goddiweddyd ein milwyr yn Assouan, ac yn ein byg- wth yn Burmah. Yn y lie cyntaf a enwyd, y mae ein policy yn yr Aipht wedi gweled yn dda adael dyrnaid o fjlwyr Seisnig. Yn ol adroddiadau sydd wedi cyrhaedd oddi yno, y mae y rhai hyn yn prysur ddifianu dan effaith yr hin grasboeth a'r tlefydon sydd yn dilyn, Gan mai ymadael o'r Aipht ydyw y eynllun sydd yn ein haros, y mae yn drnenus nieddwl fod yr oediad yn ei gario allan yn golygu aberthiad llawer o fywydau gwerthfawr o dan aragyichiadau mwyaf poenus. Yn Burmah drachefn nid ydyw agweddau pethau mor ddymunol ag y gellid disgwyl. Yn barbans,, ymosodir ar ein milwyr, a lleddir eu Bwyddogion, ac nid ymddengys fod y diwedd mewn un moda yn ymyl. Gyda'i chnafeidd-dra arferol, y mae Rwssia yn cyinmeryd niantais ar yr achlysur presennol i wneuthur rhwygind newydd ar y cyttun- deb diwerth a ddygwyd oddi amgylch gan Lywodr- aeth Dorïaidd Prydain. Fel, os edrychwn o'n ewm- pas, y mae llawer o ddefnyddiau anesmwythder i'w canfod, yr hyn a wna y rhagohve o ddvfodiad Iarll Salisbury i awdurdod yn achos o bmdd-der a thrist. weh i bawb a wyddant rywbeth am yr hyn a eilw y Toriaid foreign policy. Y taae'n bleser genyf ddeall fod Cymry Llundain yngweithio yn anrhydeddus tuag a ddwyn riiaii o dreuliaiI etholiad Mr. Thomas E. Ellis dros Meinon- ydd. Yn nwylaw Mr. Bnrrell, y mae y tanysgnfiadau eisoes wedi cyrhaelld hanner cant o bunnan; a chyn y cauir y rhestr i fyny, ,Wau y bydd y cyfan?vm yn hawer mwy. Teimiir ?ligoiai?t neilMuol tuag at Doriaid Meirion am eu gwaith yn dwyn allan fel last resource ddyn fel Mr. John Vaughan, Nanuau, I r