Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
Y CYNNWYSIAD. I
Y CYNNWYSIAD. Digwyddiadau 1 Yr Etholiadau.n 2-3 Dyddiad yr Etholiadau yn Nghymru 2 Genedigaethau, ko. 4 Prif Erthyglau 4 Newyddion Cymreig 5 Nodion o Mynwy a Morganwg 5 A. B. C. 5 Y Nofel 6 Barddoniaeth n 6 Marchnadoedd 6 Gohebiaethau 6 Newyd(lion Diweddif 7 Hyabysiadau n. 7-8
[No title]
YN Rwssia, cedwir llygad manwl ar gwrs yr etholiadau yn y Deyrnas Gyfunol yn y dydd- iau hyn. Credir y byddai gorthrechiad Mr. GLADSTONE, ac i hyny beri fod Ardalydd SALIS- BURY yn myned yn Brif Weinidog, effeithio ar Rwssia ei bun, yn enwedig yn ei pherthynas a chwestiwn y Dwyrain. Y dybiaeth hon, yn ddiau, sydd gywir, hefyd, canys nis gal] yr ardalydd ffrystiog gadw ei fysedd allan o frywes ei gymmydogion.
[No title]
0 hyd llenwir enaid y Maharajah DHULEEP SNIGII ag ysbryd gelynol yn erbyn Brydain, er yr holl garedigrwydd a ddangoswyd iddo pan yn bererin yn ein mysg. Mewn llythyr a ysgrifen- wyd ganddo i un o'r newyddiaduron mwyaf dy lanwadol yn yr India, i wrthdystio yn erbyn gwaith yr awdurdodau Prydeinig yn ei gym- meryd ef yn garcharor, heb raith na gwys, yn Aden; a bygythia, os mai gwrthod ei appel ef at y tywysogion Indlaidd am gymmhorth arian- ol a wna Llywodraeth Brydain, y bydd iddo yntau drosglwyddo ei warogaeth fel teyrn i ryw allu gwladol arall.
[No title]
Bu damwain fawr, ac un a allasai droi allan yn dra alaethus, ar linell Ysgotaidd y' Caledon- aidd,' rhwng dau dren cyflym, dydd Llun di- weddaf. Deuai y naill o Glasgow, a'r llall o Edinburgh; ac yn rhywle tua chanol y ffordd aethant ar draws eu gilydd. Gwnaed lliaws o'r cerbydau yn ddrylliau. Yn ffodus, ni chafodd neb eu Iladd, er i lawer gael eu niweidio. Di- oddefodd gyriedydd un o'r ddau dren yn ar swydus, cauys torwyd ei ddwy goes, ac ychydig obaith sydd am ei adferiad. Yr achos o'r ddamwain, fel y tybir, ydoedd fod rhyw atn- mhariaeth ar olwynion un o'r peiriannau wedi peri iddo neidio o'i linell ei hun ar y llinell y cyflymai y gerbydres arall ar hyd-ddo i'w gyfarfod.
[No title]
Rhoddwyd cyfleusdra o'r fath fwyaf dymunol i heddynndon Southport i gyflawni eu dyled- swydd fel gweinyddwyr cyfiawnder ddydd Llun. Boneddiges ieuangc, o'r enw Miss OLIVER, a gyhuddai y carcharor oedd ger bron o ddyfod ati hi prydnawn y Sadwrn blaenorol i gardota; hi a'l gwrthododd yntau a aeth ymaith; ond yn fuan wedi hyny efe a'i cyfarfyddodd hi a'i mam allan yn rhodiana mewn lie oedd i fesur yn neillduedig; ac yna, yn hollol ddirybudd, efe a roddodd ddyrnod dost i'r fam yn ei geneu. Nid oedd yr un o honynt wedi yngan hanner gair wrtho Onid oedd hwn yn gyfleusdra rhagorol i'r ustusiaid ddangos eu barn am, a'u teimlad at y dynyn a alIui gyflawni gweithred mor llyfr- giaidd ac isel-wael ? Saith niwrnod o garehar a gafodd.
[No title]
Nos Sadwrn diweddaf, bu brwydr dost yn culel ei hynlladd rhwng nifer o Montenegriaid, ac o ddeutu yr un nifer o Dyrciaid, ar y terfyndir rwg y ddwy wlad. Nid yw y Tyrciaid etto e¡ arodd Y1' Ianes; yr hyn a fu, yn ol yr adlOddlad a roddir gan y Montenegriaid eu hun- ain, ydoedd fod amryw gannoedd o Dyrciaid arfog, foreu y dydd Gwener blaenorol, wedi croesi dros yr afon Tara, o Kolasliin, i diriogaeth Montenegro, gan losgi tai ac eiddo yno, a chym- meryd dau gadben Montenegraidd a geisient ddiangc rhag y fflamau yn garcharorion. Cym- merwyd y ddau gadben gan y gwylliaid i gaerfa ar y terfyn, Anfonwyd yr hanes am yr hyn a ddigwyddasai i'r gwarcliodwyr mewn rhanau eraill o'r terfyndir, y rhai a ymgasglasant ynghyd, ac a wnaethant ymosodiad nos dranoeth ar y Tyrciaid yn y gaerfa. Buont yn ymladd yn galed hyd nes ydoedd yn ddau o'r gloch boreu Sul. Y pryd hwnw, llwyddodd y Mon- tenegriaid i gilgwtbio y Tyrciaid allan o'r am- ddiffynfa, gan ladd amryw o honynt. Clodd o hanner cant i drigain o honynt eu hunain i fyny mewn nifer o dai cyfagos, gan gymmeryd y ddau gadben y soniwyd am danynt gyda hwy. Ar eu gwaith yn rhoddi y ddau garcharor i fyny, ac yn addaw ymadael o'r diriogaeth yn ddioed, wele terfynwyd yr ymrafael. Nifer y Monten egriaid a laddwyd ydoedd saith, heb law fod tri ar ddeg wedi eu clwyfo.
[No title]
Gofidiwn yn fawr o herwydd fod etholwyr Chelsea wedi gwrthod Syr CHARLES DILKE, a dewis Tori o'r fath fwyaf din6d yn ei le. Ym- unodd yr Undebwyr a'r Torïaid ynghyd yn ei erbyn; ond prin y buasai hyny yn ddigon i droi y fantol oni bae i lawer o'r etholwyr wrth od pleidleisio iddo, o herwydd y chwedlau gwrachiaidd a ledaenwyd yn ei gylch yehydia, fisoedd yn ol. Modd bynag, colled i Rydd. frydiaeth y deyrnas fydd absennoldeb Syr CHARLES DILI\E o Dy y Cyffredin.
[No title]
Condemnir ymddygiad Syr ROBERT CUNLIFFE ynglyn a'r etholiad presennol yn ddiarbed yn y dref hon (Dinbych.) Heno (nos Iau) efe a fydd mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Drill Hall, yn areithio o blaid y g*r y gwnaeth ei oreu (yn ofer, mae'n wir) yn ei erbyn yn yr etholiad di- weddaf. Syr ROBERT CUNLIFFE yn areithio o blaid Mr. KENYON Yr ydym yn synu na fuas ai ganddo fwy o barch i Ryddfrydwyr Dinbych, y rhai fu yn gweithio mor galed drosto mewn dau etholiad, nag y daethai byth i'n tref in gwaradwyddo yn gyhoeddus yn y modd yma.
[No title]
Os ydyw Syr CHARLES DILKE wedi gosod ei fryd ar wasanaethu ei wlad trwy senedda iddi, ac os nad oes ganddo olwg neillduol ar ym- geisio yn Chelsea yn yr ymdrechfa nesaf (yr hon a ddigwydd yn fuan, gellir bod yn sicr), dyrch- afer ef i Dy yr Arglwyddi. Byddai cael hanner dwsin o'i fath ef yn y Ty uchaf yn iachawdwr- iaeth boliticaidd iddo, neu, o'r hyn lleiaf, yn halen i'w gadw rhag llygredigaeth. Ond hwyr- ach nad oes gan y barwnig ddigon o barch i'r Ty hwnw i ddewis myned iddo.
[No title]
Mewn cyfarfod a gynnaliwyd yn Wolver- hamptom y nos o'r blaen, dywedodd Syr WIL- LIAM HARCOURT fod yr etholwyr, wrth wrthod cyfiawnder i'r Iwerddon, ar yr un pryd yn sicr. hau dychweliad Ardalydd SALISBURY at y llyw, i gymmeryd mesurau gorfodol at y Gwyddelod. Ond ymddengys na fyn yr etholwyr gael agoryd eu llygaid. 0
[No title]
Fel y gallesid disgwyl, teimla y Toriaid yn Liverpool yn dra chythruddedig o herwydd fod Mr. DAVID DUNCAN wedi ei wneyd yn A.s. dros un o ranbarthau y ddinas; ac yn angerdd eu digofaint tuag ato, hwy a fygythiant ddwyn deiseb gyfreithiol yn ei erbyn i geisio dyrysu ei etholiad. Nid ydyw o gwbl yn debygol y rhoddant eu drwg fwriad mewn gweithrediad, o blegid dau reswm. Un ydyw, na fedrant gael profion digonol o lygredigaeth; a'r llall, y bydd- ai eu gwaith hwy yn eymmeryd gweithrediadau yn erbyn Mr. DUNCAN yn foddion i beri i'r Rhyddfrydwyr gymmeryd gweithrediadau yn erbyn mwy nag un o'r aelodau Toriaidd. Heb law hyny, y mae rhai a bleidleisiodd yn erbyn Mr. DUNCAN yn anghymmeradwyo y bwriad hyd yr eithaf. Ar ol clywed am dano, ysgrifenodd Undebwr' at y boneddwr anrhydeddus i ddy- weyd, er ei fod ef wedi rhoddi ei bleidlais yn ei erbyn, nas gallai lai na ffieiddio ymddygiad y Toriaid; ac os bydd trysorfa yn cael ei chasglu i'w gynnorthwyo i ymladd y frwydr a. hwy, y bydd yn dda ganddo ef gael cyfleusdra i dan- ysgrifio iddi. I
[No title]
Unwaith yn rhagor y mae teimladau da yn bethau estronol rhwng y Fatican a Llywodraeth Ffraingc. Y dydd o'r blaen, ysgrifenai y Car dinal JACOBINI, yr hwn, gyda Haw, ydyw prif wleidydd, a gweinidog tramor, LEO XIII., at M. DE FREYCINET, Prif Weinidog y Weriniaeth, i wrthdystio, yn y modd cryfaf, yn erbyn y cyt- tundeb sydd wedi ei wneyd yn ddiweddar rhvfng Ffraingc a Corea, yn eithafoedd dwyrein- iol Asia. Myn y cardinal, yn ei wrthdystiad, fod ammodau y cyttundeb yn dinystrio holl hawliau y cenadon a'r dychweledigion Pabaidd yn y wlad, am fod Ffrainge yn cymmeryd eu hamddiffyniad arni ei hun Ni wel JACOBINI un llwybr agored o'r anhawsder ond i Ffraingc ymbstwng, gan drosglwyddo amddiffyniad y dychweledigion i'r Fatican. Ond, druan pa amddiffyniad a all efe na'i feistr eiroddiiddynt? Nid oes ganddynt na byddin na llynges i'w hamddiffyn, pe digwyddai enbydrwyddeugoddi- weddyd.
[No title]
Oddi wrth yr erthyglau a gyhoeddir yn new- yddiaduron Rwssia, yr ydys yn casglu eu bod yn edfych ar gwestiwn Bwlgaria fel un o'r di- frifwch mwyaf. A rhai o honynt mor bell a dyweyd y byddai pob perygl yn diflanu pe ceid gan Twrci ddiorseddu y Tywysog ALEXANDER, a gosod un i fyny yn ei le na byddai raid i Rwssia edrych arno fel ei gelyn hi. Yn awr y mae siarad fel hyn yn sawru yn drwm o haerllug- rwydd. Pa I fusnes' i deyrnas Rwssia pwy a ddewisa y Bwlgariaid i'w llywodraethu ? Pa beth a ddywedai y newyddiaduron hyn pe gwaeddai y Bwlgariaid am ddiorseddu yr Ym- herawdwr ALEXANDER, a gosod un i fyny yn ei le na byddont hwy a'u tywysog yn gorfod edrych arno fel eu gelyn ? Ystyrient hyny yn haerllugrwydd o'r fath fwyaf digywilydd.' Nid ydyw yn newid dim ar ei nodwedd pan yn cael ei gyflawni ganddynt hwy.
[No title]
Mynodd bwrdeisdrefi Arfon y waith hon wneyd eu hunain yn hynod. Mynasant dynu gwaradwydd arnynt eu hunain, trwy ddewis bargyfreithiwr o Dori yn lie boneddwr o Rydd- frydwr, a hen was ffyddlawn. Yn yr etholiad nesaf, yr hwn a ddigwydd yn fuan, hwy a glut gyfleusdra i ymlanhau. 1
[No title]
n ol eu harfer, wrth gwrs, y gwnaeth ethol- wyriRhyddfrydigbwrdeisdrefisirFflint. Dewis eu en aelod a wnaethant, a rhoddi mwy o dri chant o fwyafrif iddo nag yn yr etholiad yn Nhachwedd diweddaf. Nid oes ond y ganmol- iaeth uchaf iddynt am eu ffyddlondeb i'w heg- wyddorion. I
[No title]
Yn senedd Ffraingc, ddydd Llun diweddaf, traddodwyd araeth o'r fath alluocaf gan senedd wr o'r enw RouviER, o blaid Masnach Rydd. Gwneyd cyfnewidiad yn neddfau yr yd ydoedd y ddadl o flaen y Ty. Dwg y Llywodraeth fesur i mewn, yn yr hwn yr arfaethir rhoddi toll ddiffynol ar yr yd tramor a ddygir i'r wlad, er budd, meddir, i amaethwyr y wlad ei hun. Yn ei araeth nerthol, dywedai M. ROUVIER nas gallai Ffraingc byth ddyfod yn wlad o borfawyr anifeiliaid a diwyllwyr tir yn unig. Yr oedd hi yn rhwym o gymmeryd ei lie, yn mysg y gwledydd eraill, fel gwlad canghenau o ddiwyd. rwydd. Nis gall hi fyw heb anfon ei nwyddau i wledydd eraill. Nis gall fyw heb dderbyn nwyddau o wledydd eraill. Ac os ydyw hi am lwyddo yn y naill a'r llall, rhaid iddi fab wysiadu egwyddorion masnach rydd. Cariodd yr araeth hon ddvlanwad mawr ar y Ty.
[No title]
Cyffrowyd un o rodfeydd (boulevards) Paris yn ddirfawr prydnawn Sul diweddaf, gan waith dyn yn tanio tair o ergydion o'i lawddryll, gan archolli dau efrydydd ac un ddynes yn dost. Erbyn ei ddal, cafwyd profion digonol mai gwall- gofddyn oedd y cythryblwr.
[No title]
Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo at ethol wyr rhanbarth yn sir Warwick, dywed Mr. GLADSTONE, os nad oedd gan y wlad eisieu myned dan draed duciaid ac iarllod, a'i hiawnderau gael eu mathru fel torn yn yr heolydd, ei bod yn rhaid iddi ddewis yr ymgeiswyr Rhyddfrydig, ac ymwrthod, nid yn unig a'r Toriaid, ond hefyd a'r gwrthgilwyr oddi wrth y blaid Rydd- frydig yn ogystal.
[No title]
Nos Fawrth diweddaf, gwnaeth Mr. CHAM BERLAIN ymosodiad cethin yn Nghaerdydd ar -wrs, nid oes dim arall Mr. GLADSTONE. Wrth gwrs, nid oes dim arall i'w ddisgwyl oddi wrth y dyn y mae yn well ganddo ymgeiswyr Toriaidd na rhai Rhydd- frydol.
[No title]
Yr wythnos hon, yr oedd amryw gatrodau o'r fyddin Ffrengig yn cyrhaedd gartref o Tonquin. Yn Paris, rhoddwyd derbyniad o'r fath fwyaf croesawus iddynt, yn gymmhwys fel pe buasent hwy wedi eyflawni gwrhydri, ac ennill buddug- II iaethau gogoneddus yn erbyn yr Annamitiaid.
[No title]
I' Torfynyglwyd dylanwad Wynnstay unwaith yn rhagor, ddydd Mawrth diweddaf. Aeth cefn- ogaeth Mr. CHAMBERLAIN, ac areithiau a phleid- leisiau Mr. HENRY ROBERTSON a Syr ROBERT CUNLIFFE, yn ofer. Egwyddor a gariodd y dydd. Mr. OSBORNE MORGAN yw yr aelod etholedig. Caiff Syr W ATCYN ymblesera etto gyda chftn ac ysgyfarnogod. Y tro nesaf, bydd mwyafrif Mr. MORGAN yn Uawer mwy, hefyd. » ■■■
[No title]
I Nid gormes y Twrc ydyw unig Binder Ar- menia. Fe'i blinir yn dost gan wylliaid ysbeil- gar, yn ogystal Cyflawnwyd ysbeiliad o'r fath fwyaf beiddgar ddechreu y mis hwn rhwng Elenovka a Jachta, gan fintai o dan arweiniad ¡ brigand' o'r enw KIARIM. Mewn llai na dwy awr yr oedd mintai fasnachol o tua thrigain o bersonau, a'u cerbydau, wedi eu llwyr ddihatru o bob peth o werth oedd ganddynt ac ynddynt. Lladdwyd dau o'r masnachwyr, a niweidiwyd un arall, gan yr ysbeilwyr. Yna dringasant gyda'r ysbail i'r mynyddoedd, heb ofni unrhyw berygl i'r awdurdodau wneuthur yr ymgais lleiaf i geisio eu dal a'u cospi.
[No title]
Cymmerwyd Mr. OTTER, yr ymgeisydd Glad stonaidd yn rhanbarth Louth, sir Lincoln, yn glaf, yn dra disymmwth, ychydig ddyddiau cyn enwi yr ymgeiswyr, fel y bu raid iddo gilio o'r maes. Mewn canlyniad cafodd y Tori, g*r o'r enw Mr. H EATH, ei ddewis yn ddiwrthwynebiad. Erbyn yr etholiad nesaf, gobeithiwn y bydd Mr. OTTER wedi gwella digon i gipio y sedd oddi arno etto.
[No title]
Ar un o linellau ffordd haiarn yn Ngogledd- barth yr Iwerddon, ddechreu yr wythnos hon, darganfyddwyd ymgais bradwrus i ddinystrio cerbydres pleserdeithwyr. Ycliydig cyn i'r tren gychwyn, dododd rhywun ddeuddeg o feini trymion ar y llinell. Yn ffodus, gwelodd y gyriedydd hwy; ac felly, dyfethwyd yr amcan dieflig, onid 6, buasai trychineb ofnadwy yn rhwym o gymmeryd He. Gan fod y gerbydres yn 11awn, diau y buasai rhai degau, os nad ugeiniau, o'r ymbleserwyr wedi eu lladd.
[No title]
Os ydys i gymmeryd y Canghellydd ESPIN, o Gaerlleon, yn awdurdod ar y pwngc—a materioD o'r fath sydd wedi cael ei ystynaeth l'euaf ar hyd ei oes-y mae gosod eisteddleoedd dan ardrethoedd mewn eglwysi plwyfol yn beth hollol anghyfreith- lawn. Cyn y gellir codi tâl am 'sat' mewn eglwys a fo yn perthyn i blwyf, rhaid cael gweithred seneddol yn rhoddi awdurdod i hyny.
[No title]
Mr. SPURGEON oedd y cyntaf i ensynio fod y Prif Weinidog yn wallgof. Yr ail oedd yr Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL. Y trydydd ydoedd Mr. John Bright. A'r olaf ydyw Ardalydd SALIS- BURY ei hun. Wrth gwrs, dilynir esampl y mawrion hyn gan y manion Toriaidd. Y mae y blaenaf wedi gwneyd iawn am ei gamwri trwy ddyweyd mai rhaid ydoedd ei fod ef ei hun yn wallgof pan y dywedodd fod Mr. GLADSTONE felly.
[No title]
Dywed Arglwydd CAERNARFON nad oes ganddo ef ddim i'w chwanegu at yr hyn a ddywedwyd ganddo yn barod ynghylch ei ymddiddan ef a Mr. PARNELL. Ond teimlad y, oyffredin ydyw, y dy- lasai efe chwanegu gryn lawer, ac y gWDaethai, hefyd, oni bae fod ganddo ofn drygu rhagolygon ei blaid yn yr etholiad presennol.
[No title]
Yn sicr, y mae yr Arglwydd Ganghellydd HERS- CHELL wedi rhoddi cam o'r fath fwyaf rhagorol mewn eyfeiriad newydd. Yr ydym yn cyfeirio at ei waith yn pennodi gweithiwr yn heddynad yn Leicester, yr hyn a wnaeth efe y dydd o'r hlaen. Pan y derbyniodd cynghor y dref lythyr oddi wrtho yn mynegu y &ith hon, hoSbdd y peth mor fawr fel yr aufonodd enw gweithiwr ar I ipdodtoh, gan ddymuno arno bennodi hwnw hefyd, Ni cheid y fftth gydnabyddiaeth o rinweddau y dosbartmaa- au gweithiol gan y Toriaid erioed.