Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ETHOLIADAU Y DEYENAS. I

News
Cite
Share

ETHOLIADAU Y DEYENAS. YR ydym yn awr yn nghanol y irwydr. Dechreuodd yr ymdrechfa ddydd Gwener; ond yr oedd amryw wedi eu dewis yn y llys, pan enwyd hwynt y diwrnod blaenorol, am na ddyg- wyd ymgeiswyr yn eu herbyn. Ceir cyfrif manwl am y rhai hyn mewn colofnau eraill a neillduir i newyddion cyffredinol yr etholiadau. Yma, yr ydYill yn bwriadu ymgadw at yr ym- drechfeydd a fu yn y gwahanol fwrdeisdrefi. Ddoe—dydd Mawrth—y dechreuwyd ymladd yn yr etholleydd siroi. Nid oedd y diwrnod cyntaf (Gwener), o'r frwydr yn un drwg ar y cyfan i'r llywodraeth. Ennillodd s6dd yn Liverpool, trwy ddewis Mr. DAVID DUNCAN dros yr Exchange WarcV— y Gyfnewidfa Arianol. Ennillwyd sedd yn Leeds, hefyd; a dwy yn Manchester. Un o'r rhai a gipiwyd oddi ar Doriaeth yno ydoedd, yr un a ennillodd Mr. JACOB BRIGHT, yr hwn sydd yn cymmeryd ochr wahanol i'w frawd enwocacb. Yn Salford, am yr afon & Manchester, collodd y Rhyddfrydwyr ddwy sedd, trwy orthrechiad y Mri. MATIIEB ae ARMITAGE gan y Toriaid. Wrth gwrs, cadw ei sedd a wnaeth yr Argl- wydd RANDOLPH CHURCHILL yn Paddington Ddeheuo), gyda mwyafrif mawr, mwy o 101 na'r etholiad blaenorol. Fel yr eglurasom yr A_ .1 11./1 wythnos ddiweddaf, nid oedd ymgeisiaetn Mr. PAGE Hopps amgen na 'gwrthdystiad' yn erbyn y llysnafedd y mae yr ysbrigyn brwnt hwn o'r tylwyth sydd wedi ei feithrin er's oesoedd ar fiwydd-daliadau Brydain yn ceisio ei daflu ar ddynion til gwell nag ef; ac fel y cyfryw, dylai Mr. Hopps gael diolchgarwch holl Ryddfrydwyr y deyrnas. Enwogodd Mr. WHITBREAD ei hun yn fawr yn Nhy y Cyfl'redin trwy ei araeth nerthol o blaid Y mreolaeth i'r Iwerddon; ac am hyny, da genym ei fod ef wedi ei ddychwel- yd dros Bedford, er fod ei fwyafrif yn llai. Aeth ymgais yr Undebwr yn ofer yn erbyn Mr. PARKER yn Perth, hefyd. Ond drwg genym fod Mr. ARTHUR ARNOLD, yr hwn oedd yn an- rhydedd i'r Ty, wedi ei wrthod yn Salford, am Dori dinod, Cysur Mr. ARNOLD ydyw, mai bychan oedd y mwyafrif, ac y bydd yn sicr o adennill y sedd y tro nesaf. Heb law fod Salford yn gyfan wedi ei cholli, y mae Falmouth a Hentfordd wedi digwydd yr un modd. Mr. CAINE a ennillodd y dydd yn rhwydd yn Barrow. Yn Carlisle, ennillodd plaid Ymreol- aeth y sedd, trwy ddewis Mr. GULLY ond yn rhanbarth deheuol Caerodor, ennillwyd s6dd gan y Toriaid, a ystyrid bob amser yn un ddiogel i'r Rhyddfrydwyr. Etholwyd Mr. GLADSTONE yn ddiwrthwyn ebiad dros ddau le ddydd Gwener; sef, dros Midlothian a bwrdeisdrefi Leith. Pleidleis iodd Mr. JACKS, yr aelod blaenorol, yn erbyn y Llywodraeth; ar ol hyny, parodd i'w etholwyr dybied ei fod wedi edifarhau; ac am hyny, yr oedd yn dra thebyg o gael ei ddewis yn ddi- wrthwynebiad. Ar ol hyny, drachefn, efe a arddelodd ei syniadau presennol; a phan y deallodd y Prif Weinidog hyny, caniataodd iddynt ei enwi ef fel gwrthwynebydd iddo. Y foment y clywodd Mr. JACKS am hyny, ciliodd o'r maes yn ddiattreg; a'r canlyniad ydyw, fod Mr. GLADSTONE yn awr yn aelod dros Leith, yn gystal a Midlothian. Wrth gwrs, dros yr olaf y bydd efe yn eistedd yn y Ty yr hyn a'i gwna yn angenrheidiol i ethol rhywun arall dros Leith; ond nid ydyw yn dehyg mai Mr. JACKS a ddewisir Bhaid i'r etholwyr yn dd-iau gael rhywun y gallant ddibynu arno. Diwrnod trycliinebus i gryn fesur i'r LIyw. odraeth oedd dydd Sadwrn; a chanlyniadau y 'sisni' antyodus sydd yn y blaid yn dyfod i'r golwg. Bydd y diwrnod yn un a gofir yn hir yn Birmiugliam yn enwedig. Yr oedd pump o'i haelodau wedi en dewis yn ddiwrthwynebiad y diwrnod blaenorol. Mewn dau le yr oedd yr ymdrechfa, ac mewn un o bonynt-sef y rhan- barth dwyreiiiiol-Ilwyddodd y Tori, trwy bleid- garweh digel Mr. CHAMBERLAIN iddo, i ennill y dydd ar yr hen aelod, yr Henadur COOK; yr hwn oedd yn Gladstoniad pybyr. Chwith i'r eithaf, a chroes i bod hanes, ydyw fod un Tori yn derbyn ei A.S. o Birmingham. Bu yr in diwrnod etholiad, yn mha un y cafodd y ddau ymgeisydd yr un nifer o bleid- leisiau, 3,049-sef, y Mri. ADDISON (T.), a ROWLEY (R )-yn Ashton under-Lyne, Rhodd | odd maer y dref ei bleidlais swyddol i'r Tori; ond y tebygolrwydd ydyw y mynir cael ail gyf- rif, fel y gwnaed yn mwrdeisdrefi St. Andreas y llynedd, Lie ar bwys Birmingham ydyw Aston Manor, ac yn llawn o'r gwres Rhyddfrydig sydd yn arfer nodweddu y dref fawr; ond o herwydd y dylanwadau rhyfedd sydd yn gweithio yn y gymmydogaeth yr wythnosau hyn, mynodd Aston ddewis Tori rhongc o'r enw Mr. KYNOCK; ymffrost penaf yr hwn, yn un o'i gyfarfodydd, oedd, yr anfonai efe ddeng mil o lawddrylliau, a dwy tiliwn o ergydion, i Ulster cyn pen wyth awr a deugain os byddai yr Oreinwyr yn dy- weyd fod ganddynt eu heisieu. Etholwyd Mr. PETER RVLANDS yn Barnley. Nid oedd ei fwyafrif ond 43, er holl gymmhorth y Toriaid. Collodd llysfab y diweddar Mr. W. E. FORsTER-Mr. ARNOLD FORSTER-y dydd yn Darlingtos, a Mr. T. FRY, y Gladston. iad, yn cipio y sedd. Gwnaeth Derby yn ol ei harfer; sef, dychwelyd Syr WILLIAM HARCOUHT a Mr. ROE trwy fwyafrif anvhydeddus. Devon port, yn ol ei hai-fer hithau, a ddewisodd y Mri. PULESTON a PRICE Toriaid; a rhoddodd Dundee, y fwrdeisdref Ryddfrydig yn YScot- land, mwy nag erioed wrth gefnau y Mri. ROBERTSON a LACAITA. Tra yn llawenycliu yn muddugoliaeth Mr. BROADHURST yn y rhan orllewinol o Notting- ham, nid oes i ni ond gofid digymmysg yn herwydd fod y blaenor Dadgyssylltiol enwog, Mr. CARYELL WILLIAMS, wedi ei orchfygu yn y rhan ddeheuol o'r un dref. Nid hir y bydd efe allan o'r Ty, yr ydym yn hyderu. Er mwyn bod yn rhydd i ddyfod i'r maes i ymladd brwydr a'r hen aelod Toriaidd, Syr GEORGE SITWELL, ymddiswyddodd Mr. ROWNTREE, maer Scarborough; a bu wiw gan yr etholwyr roddi iddo ddymuniad ei galon, ac ennill sedd i'r Rhyddfrydwyr. I Mr. W. L. BRIGHT, mab Mr. JOlIN BRIGHT-Ond yr hwn, yn dra gwahanol i'w enwog dad-,sydd yn seIoer dros Ymreolaeth i'r Gwyddelod, rhoddwyd mwyafrif anrhydeddus yn Stoke-upon-Trent; sef, 1,162. Etholwyd rhyw wyth ar hugain o aelodau y Ty yn ddiwrthwynebiad ddydd Llun-wedi eu rhanu agos yn gyfartal rhwng pleidwyr'a gwrth- wynebwyr y llywodraeth. Nifer yr etholaethau yr oedd ymdrechfa ynddynt ydoedd hanner cant; ac y mae yn ddrwg genym orfod eydnabod nad ydyw llanw y trychineb i'r blaid Rydd- frydig yn ymddangos fel wedi troi. Parha y Toriaid i ennill manteision pwysig. Gellir cyfrif am orthrechiad Syr CHARLES DILKE yn Chelsea, y mae yn debyg, trwy ddy- weyd fod yr hen ystori isel-wael am ei gyssyllt- iad 4 chwaer ei wraig gyntaf wedi gwneyd drwg. Ond colled ddirfawr fydd absennoldeb gr o dalent ddiammheuol Syr CHARLES o'r senedd; ac nid oes genym ond hyderu y bydd efe yn ail gynnyg, ac yn ennill yn yr etholiad nesaf. Cadwodd y Rhyddfrydwyr eu tir yn nwy adran Bethnal Green, Llundain. Yn Finsbury, en- nillasant sedd, a chollasant un arall. Cadwodd Syr CHARLES RUSSELL ei dir yn Hackney; ond y mae yn ofidus meddwl mai efe ydyw yr unig un o swyddogion cyfreithiol y Llywodraeth yn NhS- y Cyffrediu sydd yn meddu sedd yn y Ty canys collodd Syr HORACE DAVEY, y Dadleuydd Cyffredinol, a Mr. MELLOR, y Barnydd Ddadl- euydd Cyffredinol, y dydd. Yr ydym yn llawen o fuddugoliaeth y Proffeswr STUART yn Shore- ditch ond yn gofidio o herwydd colli gwr tra dysgedig arall, y Proffeswr TIIOROLD ROGERS, yn Bermondsey. Diseddwyd Mr. BALTON (R.), gan Mr. BARLIE (T.), yn St. Pancras Ogleddol hefyd, a Mr. GIBB (R.), gan Mr. WEBSTER (T), yn St. Pancras Ddwyreiniol. Nid ydyw Glasgow wedi dyfod i fyny a'i chymmeriad blaenorol, o gryn lawer. Mewnun rhan o honi, dewiswyd yr Undebwr CORBETT, o flaen y Gladstoniad MEIKLEJOHN; a'r Tori BAIRD, yn lie y Rhyddfrydwr BEITH mewn rhanbarth arall. Bu y rhanau eraill, pa fold bynag, yn ffyddlawn i'r blaid. Yn Blackfriars, anfonwyd yr Undebwr, Mr. MITCHELL HENRY, ymaith, a dewiswyd Mr. PROVAND (R.) yn ei Ie; a chadwodd Mr. E. R. RUSSELL, o'r Daily Post, Liverpool, ei sedd yn adran y Coleg gyda mwy- afrif cynnyddol Bydd yn dda gan ein darllen- wyr ddeall fod Mr. STANSFELD wedi ei ail ethol dros Hull, a bod y Mri. LABOUCIIERE a BRAD- LAUGH yn parhau yn gynnrychiolwyr cryddion Rhyddfrydig Northampton. Dechreuodd Cymru hefyd ar ei hetholiadau brwydrol-fel ar ei rhai difrwydroI-yn rhagor- ol, trwy osod tri chant ar ddeg o fwyafrif i Mr. DILLWYN yn Abertawe; yr hyn sydd yn fwy o yn agos i ddau cant nag a gafodd efe chwe mis yn ol.

[No title]

YR YMGYRCH YN NGHYMRU.I

TRAMOR.