Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
Y CYNNWYSIAD. I
Y CYNNWYSIAD. Ptgwyddiadan. „. 11 Y Senedd  2 Dadgorphoriad y Senedd—Y Pr" siwn i;?nhm- *o*l 22 Mr. Parnell yn Ngwrecsam a Chaerdydd 2 Cofnodion Cyffrodinol 2 A. B. C. 3 Gcnedigaethau. &0. 4 Prif Erthyglau Yr Ktholiarlau 4 Y Cycnrychiolaethau Cymreig. 4 Newyddioo Cymreig 5 Marchnadoedd 6 Barddoziiaetti I. 6 Gohebiaethau 6 Hysb)-siadau 7-8
[No title]
FEL rhan o gynllun y Llywodraeth ar Ymreol- aeth yr Iwerddon yr edrycha Mr. 1110BLEY ar fesur pryniad y tir. Ar yr un pryd, efe a eddyf ei fod yn agored i gael ei gyfnewid fel y llall. Ysgatfydd na ellid pasio y ddau yn rhwydd pe gellid nieithrin mwy o ymddiried yn y genedl Wyddelig, fel y cyfryw ac fe ellid meithrin yr ymddiried liwnw yn hawdd pe ceid ni i feddwl mwy am oreugwyr y genedl, a llai am ei gwehilion.
[No title]
Mewn amryw o'i areithiau, y mae y blaenor G wyddelig wedi dadleu yn gryf yn erbyn caniatau senedd ar wahan i Ulster, am y bydd gan yr Iwerddon yn gyffredinol eisieu cym- mhorth talent a medr gwyr goreu y dalaeth yn y senedd genedlaetbol yn Nublin. Nid ydyw Ardalydd HARTINGTON yn credu fod Mr. PARSELL yn ddiragrith wrth ddyweyd hyn; oncl dywed mai yr hyn sydd ganddo ei eisieu mewn gwirionedd ydyw, cyfalaf arianol Ulster. Pwy a wyr feddwl y blaenor Gwyddelig oreu ? Arglwydd HARTINGTON, ai Mr. PARNELL ei hun? ♦
[No title]
Prydnawn Sabbath diweddaf, cyrhaeddodd yr Americanwr enwog, y Parch. HENRY WARD BEECitEK, afon Liverpool; ai ymddangosiad cvhoeddus cyntaf yn y wlad hon ydoedd yn nghyfarfod y Rhyddfrydwyr, i glywed Mr. GLADSTOXE yn areithio. Efe a wrthododd ddyweyd dim ei hun, modd bynag.
[No title]
Alewn cyfarfod a gynnaliwyd gan Gynghor Gweinyddiaeth Twrci y dydd o'r blaen, pen derfvnwyd peidio gwasgaru yr oil o'r fyddin a gasglwyd ynghyd pan oedd rhyfel yn debyg o dori allan rliyngddi a Groeg. Diftyg ymddiried y SULTAN yn niffuantrwydd bwriadau Rwssia ydyw yr achos o hyn, dybygid.
[No title]
Y mae yn ddrwg genym gael ar ddeall fod y 1 sefyll allan' yn mysg gwasanaethyddion y ftyrdd haiarn yn parhau mewn rhai manau yn America.
[No title]
Mewn llytbyr a ysgrifenwyd ganddo at gyfaill yn Nghymru yr awgrymodd Mr. SPUR- (;EOS mai mesurau dyn gwallgof oedd cynlluniau Mr. GLADSTONE i heddychu yr Iwerddon. Mewn llythyr at Gymro arall yr wythnos hon, efe a ddywed :—' Hhaid fy mod i yn wallgof pan feidyliuis fod Mr. GLADSTONE yn wallgof.
[No title]
Ofnwn fod Prif Weinidog Yspaen-y Senor fvKt.ASTA—wedi cyflawni gweithred yr wythnos ddiweddaf a barodd i'w enw gael ei ysgrifenu •V'' 'r '}' Hys yn y fan-a gweithred â'i tiedd yn uijioijgyrcliol i ddigio pawb sydd yli coleddn meddwl yn ucbel o'r frenhiniaeth. attebiad i gwestiwn a ofynwyd iddo, i.duld Sadwrn, gan un o aelodau Gwerinol y I kJleuJ, dywedodd, pe gwelai efe y senedd a' i liuelodii i yn rhifo mwyafrif o Werinwyr, a'r inwyafiif hwnw yn benderfynol o newid ffurf- lywodraetli y wladwriaeth, ac yn ymgymmeryd gWlJeyd liyny mewn modd cyfansoddiadol, yr yiuostyjigai efe yn dawel i'r dyfarniad. Der- i-yuiwyd y sylw gan y mwyafrif o'r aelodau pleidiol i'r Weinyddiaeth-a chan y Gwerinwyr, wrth gwrs-gyda banllefau o gymmcradwyaeth. Ond yn y newyddiaduron Torisidd a Phabaidd, fe'i condemnir yn y modd mwyaf diarbed am yr hyn a ddywedodd. Fel yr awgrymwyd, efe a ddigiodd y llys hefyd. Yn marn pawb diduedd ac agored ei feddwl, ar y llaw arall, fe'i canmolir yn fawr am ei addefiad gonest a synwyrol; canys o dan yr amgylchiadau a dybid ganddo, ni byddai SAGASTA, a phawb arall, yn gwneyd dim ond eu dyledswydd wrth ymostwng.
[No title]
Y dydd o'r blaen, rhoddodd y Dr. BICKERS- TETH, esgob. Exeter, ei waharddeb (veto) ar y gweithrediadau cyfreithiol y bwriedid eu eym- meryd yn erbyn rhyw fieer o fewn yr esgobaeth hono, sydd, fel y eredai yr erlynwyr bwriadedig, yn euog o'r ystrangciau defodol mwyaf eithafol. Yr oedd yr holl drefniadau i'w ddwyn ef i Lys Arglwydd PENZANCE wedi eu gwneyd, ond yn unig cael caniatad y prelad; ac yn awr, wele yntau yn gwahardd-pa un ai o gydymdeimlad, ai ynte rhag yr anghysur sydd yn anwahanol gyssylltiedig & gweithrediadau o'r fath, nis gwyddom. Yr ydym yn rhoddi 'barn cariad' ar y rheswin, ac yn dyfalu mai yr olaf; canys dywedir ei fod ef wedi gorchymyn i'r ficer, yn y dyfodol, beidio ymdrwsio yn y gwisgoedd y gtvr efe eu bod yn anghymmeradwy gan ei gyd-Eglwyswyr Protestanaidd — peidio cadw canwyllau goleuedig ar yr allor ganol dydd ei annog i gynnal gwasanaeth yn yr eglwys ar brydnawn Sabbath; a pheidio offrymu,' neu wneyd casgliadau yn mhob gwasanaeth. A fydd i'r g*r parchedig ufuddhau i archiad ei dad yn NGHBls'f,' amser a ddengys. Hwyrach mai parhau yn ystyfnig i garu defodau a wna. Os felly, a saif yr esgob rhyngddo a'r gwaethaf y tro nesaf y penderfynir cymmeryd erlyniad cyfreithiol yn ei erbyn.
[No title]
Yn sicr, ni raid petruso dal yr Henadur ROBERT FROST, y blawdiwr' enwog i fyny, fel enghraifft o'r Rhyddfrydwr egwyddorol, er nas gall yn y dyddiau hyn fyned yr holl ffordd gyda Mr. GLADSTONE. Y dydd o'r blaen, ysgrifenodd lythyr at Dr. FOSTER, yr ymgeisydd Rhyddfryd- 01 yn Nghaerlleon, yn mha un y dywedai y buasai yn well ganddo ef i I Undebwr' o Ryddfrydwr ddyfod i'r maes, etto mai drosto ef, y Dr., y pleidleisiai, am ei fod wedi ei lwyr argyhoeddi, trwy y ddadguddiadau a wnaethai Mr. PARNELL yn Plymouth, mai pleidio Ymreolaeth i'r Iwerddon, a rhoddi llawer chwaneg o arian i'r tirfeddiannwyr nag a gyn- nygid iddynt gan Mr. GLADSTONE, a wnai y Toriaid pe unwaith y caffent hwy ddyfod i'r awdurdod. Yr ydym yn union o'r un gredo a Mr. FROST; ac yn edrych ar ymddygiad dynion fel y Due o WESTMINSTER, a'i feibion, Mr. HENRY ROBERTSON, ac era ill, yn ]lawn o'r anghyssondeb mwyaf dybryd, yn eu pleidgar- wch presennol i'r Toriaid, ac ar yr un pryd yn proffesu eu bod yn Rhyddfrydwyr.
[No title]
Dadgorphorwyd y senedd ddydd Sadwrn di- weddaf.
[No title]
Yn ei araeth yn Newcastle, dydd Sadwrn, dy- wedodd Mr. JOHK MORLEY nad ydyw T( y Cyffredin yn ddeddfwrfa i drafod amgylchiadau neillduol yr Iwerddon; ac am hyny, y dylid ym- ddiried y gwaith i'w phobl hi ei hun, fel rhai yn deall ei hangenion, ac yn cydymdeimlo <1 hwy. Dywedwn ninnau fod y sylw hwn yr un mor gymmhwysadwy at Gymru.
[No title]
Nos Lun diweddaf, bu Mr. PARNELL yn an erch cyfarfod mawr o Wyddelod o ddeutu pum mil mewn nifer-yn Nghaerdydd, a chaf- odd y derbyniad mwyaf brwdfrydig ganddynt.
[No title]
Gohebydd un o newyddiaduron dyddiol Llun- dain yn New York a ddywed fod arian i gyn- northwyo y Parnelliaid yn cael eu cyfranu yn helaeth yn mhob rhan o Unol Dalaethau yr America.
[No title]
Er's rhai misoedd y mae (Amir' Affghanistan wedi bod yn glaf, ac ar un adeg tybiwyd nad oedd adferiad yn bossibl iddo. Ond, da genym ddeall ei fod ef gryn lawer yn well erbyn hyn. Pan oedd ei gystudd yn ei anterth, ac yntau yn ofni fod ei ym- ddattodiad wrth law, efe a feddyliodd mai doeth ynddo fyddai pennodi ei olynydd, rhag i uurhyw gwestiynau ynghylch yr olyniaeth gael eu cyfodi; a syrthiodd ei ddewisiad ar ei fab o un o'i gaJth- forwynion.
[No title]
Yn ol y newyddion diweddaraf o'r Camer- oons, y mae sefyllfa pethau yn anfoddhaol yno; ac yr ydys i briodoli y cyfan, yn ddiau, i ysbryd ymyrgar yr Allmaeniaid sydd yn y wlad. Ni fi n y brodorion wneyd dim & hwy; yn hytrach, y maent wedi troi i'w 'boycottio.' Gwrthod ant fasnachu a hwy, ac ant mor bell a gwrthod gwerthu defnyddiau ymborth iddynt, hefyd.
[No title]
Boreu dydd LIun diweddaf, cychwynid ar fordaith hynod o anturiaethus, os nad rhyfygus, o'r afon Clyde, yn Ysgotland. Croesi y Werydd am New York oedd y siwrnai; ac mewn eweh, pedair troedfedd ar bymtheg o hyd, gan ddau ddyn y bwriedid ei gwneyd. Yr oeddynt yn gofalu am gymmeryd digon o ymborth gyda hwy i barhau am ddau fis. Mordaith gysurus iddynt.
[No title]
Yn Liverpool-tref ei enedigaeth-y cafodd Mr. GLADSTONE y derbyniad mwyaf tywysogaidd o groesawus a gafodd yn un man er pan y cy- chwynodd i'w ymgyrch etholiadol ar yr 17eg o'r mis diweddaf. Yr oedd rhai o'r Toriaid, y mae yn wir, wedi cynllwyn brad iddo; ond gofalodd yr awdurdodau am wneuthur trefniadau digon efteithiol i ddyrysu eu holl fwriadau. Efe a draddododd araeth ardderchog yn N ghemmaes (circus) Hengler yn y prydnawn, yr hon a gym- merodd iddo awr a deugain munyd i'w thra- ddodL Yna, efe a ymadawodd, gan fyned trwy Birkenhead. Yno, disgwylid y cawsid gair byr ganddo; ond nid oedd amser iddo wneyd chwaneg na moesgyfarch y miloedd oedd wedi ymgynnull ynghyd. Cyrhaeddodd ei Gastell ei hun yn Mhen ar-lag, rhwng saith ac wyth o'r gloch y noson hono. Bydd yn dda gan ein dar- llenwyr ddeall nad ydyw ei iechyd yn waeth ar ol yr ymdrechion mawrion a wnaed ganddo.
[No title]
Y mae Mr. GOSCHEN wedi dyweyd fwy nag unwaith mewn cyfarfodydd cyhoeddus fod y Weinyddiaeth wedi dwyn mesur Ymreolaeth yr Iwerddon o flaen y wlad yn ddirybudd, a hollol annisgwyliadwy. Ar ei ol ef, ceir gwyr llai yn dyweyd yr un peth, gan gwbl greda ei fod, ar ei dystioJaeth ef, yn wir 1 A ydyw Mr. GOSCHEN ei hun yn credu ei fod yn wir 1 Os ydyw, y mae yn anhawdd iawn gwybod ar ba sail. Gwyddom am un nas gall gredu fod y peth wedi dyfod yn sydyn i Mr. GOSCHEN ei hun, gan nad beth am y rhai manach nag ef a hwnw yn neb amgen na Mr. GLADSTONE. Pan oedd y Prif Weinidog yn Ysgotland, y llynedd, bu yr luddew dysgedig gydag ef amryw weithiau yn Dalmeny, palasdy Iarll ROSEBERY ac yno, y mae genym yr awdurdod oreu dros ddyweyd, bu y ddau yn ymddiddan yn ddifrifol ar y pwngc hwn. Dywedai Mr. GLADSTONE wrtho, os dy- chwelid mwyafrif o aelodau Cenedlaethol i'r Ty gan yr Iwerddon (canys nid oedd yr etholiad wedi ei gorphen yr adeg hono), mai yr unig ffordd i benderfynu y'pwngc Gwyddelig fyddai gosod senedd i fyny yn Nublin. I Mr. Gos- CHEN ei hun, o leiaf, nid oedd yn beth dirybudd.
[No title]
Yn ol hen reol a berthyn i'r Cyfansoddiad Prydeinig, gwaherddir aelodau Ty yr Arglwyddi i gymmeryd rhan mewn ymdrechfeydd ethol iadol ar aelodau i Dy y Cyffredin. Cyhyd ag y bom yn ddigon ffol fel gwladwriaeth i gadw Ty o Arglwyddi, credwn y dylai y rheol hon, hefyd, gael ei chadw mewn grym; a phwy bynag a geir yn ei throseddu, ni dylid gadael iddo gael diangc yn ddigerydd. Edmygwn waith Ar- glwydd HOUGHTON yn galw ei gyhoeddiad i fod yn gadeirydd cyfarfod Rhyddfrydig yn rliywle yn ol, o barch i'r rbeol. Ond gwyddom am ddau bendefig sydd wedi ei diystyru; sef, y Due o NORFOLK, ac Iarll DERBY. Nos Sadwrn diweddaf, bu y due yn cadeirio mewn cyfarfod i ymgeisydd Toriaidd mewn man cyfagos i'w balas. Yn nghyfarfod yr Undebwyr,' yn Liverpool, nos Fawrth, y ceid yr iarll yn llanw y gadair. Gresyn na fuasai ymdeimlad o gym- mhwysder ymddygiad yn eu meddiannu hwy- thau fel Arglwydd HOUGHTON.
[No title]
Ychydig ddyddiau yn ol, traddododd Dr. BAGSHAW, Esgob Pabaidd Nottingham, anerch- iad i'r etholwyr Gwyddelig yn y fwrdeisdref hono, yn mha un y cynghorai hwy i gefnogi Mr. GLADSTONE yn ei ymgais presennol i roddi Ym- reolaeth i'r Iwerddon. Fel yr oedd y hysbys i bawb o honynt, meddai, yr oedd efe, yn adeg ffurfiad cyntaf Cynghrair y Briallu,' wedi eu cynghori i wrthod ymuno a'r glymblaid. Gwnai hyny am ei fod yn credu nas gallai un Pabydd gonest fod yn gysson ag ef ei hun wrth ymuno a chymdeithas oedd yn amcanu dyrchafu un math, neu ffurf o grefydd, ar draul darostwng pob un arall. Ar ol hyny, gwnaed rhyw gyf- newidiadau yn rheolau y Cynghrair, ac yr oedd y Pab, mewn canlyniad, wedi cymmeryd y mater dan ei ystyriaeth. Yn y cyfwng presen nol, pa fodd bynag, nid oedd gan Dr. BAGSHAW unrhyw betrusder i gyngbori ei gydwladwyr pa fodd i weithredu. Teimla Torlaid y fwrdeisdref yn nodedig o ddigllawn wrtho am yspwylio eu brywes hwy.
[No title]
Yn un o'i areithiau diweddar yn Edinburgh, awgrymodd Mr. GOSCHEN fod y rhai hyny yn mysg ei etholwyr sydd yn methu cydolygu fig ef ar y priodoldeb o roddi Ymreolaeth i'r Iwerddon—yn enwedig y gweithwyr yn eu plith-yn pennodi dirprwyaeth o honynt hwy eu hunain i'w gyfarfod ef i ddadleu y cwestiwn. Yr ydym yn deall eu bod hwythau wedi derbyn yr awgrym, neu yr her, fel y dylid ei alw yn hytrach.
[No title]
Yn ei araeth yn Plymouth, nos Sadwrn, cyf- eiriodd Mr. PARNELL at yr haeriad a wneir yn dia chyffredin y dyddiau hyn fod gan y mwyaf- rif o Brotestaniaid yr Iwerddon ofn i'r Pab a'r Pabyddion droi i'w herlid pe caniateid Ymreol- aeth i'r Ynys. Efe a wadai hyn yn y modd mwyaf pendant. Yn hytrach, meddai, g*yr y Protestaniaid Gwyddelig y caent hwy bob chwareu teg oddi ar ddwylaw eu cydwladwyr, y Pabyddion. Gan elynion y mesur yn Lloegr yn unig y codir cri yr erledigaeth grefyddol.
[No title]
Dygir cyfundrefn M. PASTEUR o fuchfrechu pobl a font wedi eu brathu gan fwystfilod cyn- ddeiriog i ymarferiad mewn manau heb law Paris; yn Milan a Vienna, er enghraifft. Y dydd o'r blaen, yr oedd y Dr. ULLMAN, un o brif feddygon Vienna, a'r hwn sydd wedi bod yn treulio amryw wythnosau yn Paris, ac a ddygodd swm o'r sylwedd buchfrechol gydag ef oddi yno, yn buchfrechu nifer o bersonau yn mhresennoldeb proffeswyr ac efrydwyr y brif. ysgol. Buchfrechodd dri ar ddeg o ddynion a frathesid gan gwn cynddeiriog, ac un ddynes oedd wedi ei brathu gan fochyn cynddeiriog.
[No title]
Un o'r proffeswyr yn Ngholeg ROBERTS, yn Nghaer Cystenyn, ydyw ein hawdurdod am yr enghraifft ganlynol o'r camwri ar gyfiawnder a gyflawnir yn Nhwrci yn, ac o dan enw y gyf- raith. Trwy yr oil o ymherodraeth y SULTAN, rhaid i'r cyhuddedig allu profi ei fod yn ddieuog o'r hyn a roddir yn ei erbyn, neu ynte fe gym- merir yn ganiataol ei fod yn euog yn ei wyneb, a gweinyddir cosp arno. Yn ddiweddar, daeth Twrc a ddychwelasid at Gristionogaeth at Dr. LORD, y cenadwr Americanaidd adnabyddus, gan ofyn yn ddifrifol iddo a oedd drwg dyweyd celwydd o dan bob amgylchiadau. Ar y cyntaf, yr oedd y Dr. wedi ei syfrdanu gan y cwestiwn, a dywedodd, er mai yr egwyddor gyffredinol, wrth gwrs, ydoedd cadw at y gwir, yr hoffai efe, er hyny, gael gwybod yr amgylchiadau. Yn y fan dechreuoedd y dyn ddadlenu yr achos iddo Yr oedd dyn dyeithr iddo ef, gtir o gymmyd- ogaeth Rustchuk, wedi ei gyhuddo ef o brynu a derbyn mil o ddefaid ganddo, a gwrthod talu am danynt. Nid oedd ganddo ef un ffordd i brofi i'r llys na phrynodd ac na dderbyniodd y defaid; ac am hyny, buasai yr achos yn sicr o fyned yn ei erbyn ef. Boreu y diwrnod y daeth efe at y cenadwr, eynnelid y prawf ar ei achos. Gwnaed y cyhuddiad yn ei erbyn; addefodd yntau iddo dderbyn y defaid, ac iddo dalu eu Ilawn werth am danynt; a hyn oil yn anwiredd noeth. Ond, pan daerai efe ei fod wedi talu, gwaith ei gyhuddwr ef oedd profi na dderbyn- iodd yr arian a hyny nis gallai efe ei wneyd. Y canlyniad fu i'r achos yn ei erbyn ef gael ei daflu allan. Wedi clywed yr hanes hwn, teimlai Dr. LORD, os bu celwydd yn beth ag y gellid ei gyfiawnhau dan unrhyw amgylchiadau erioed, ei fod felly yn yr amgylchiad hwn.