Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

,Y CYNNWYSIAD. j - I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

V Nid ydyw y cynnhyrfiad yn erbyn yr ail argraphiad o Gylchlythyr y Caethion Ffoedig yn llai cyfflediríól a phenderfynol na'r un a barodd i'r cyntaf gael ei dynu yn ol. Cyn- ualiwyd cyfarfodydd poblogaidd mewn llawer o drefydd yn Lloegr ac Y sgotland i'w gon- demnio. Dadleuwyd ef yn nghyfarfod gwein- yddol Cymdeithas y Crynwyr, a eisteddodd yn Devonshire House. Amlygwyd angbym- mei adwyaeth hollol o'r egwyddorion a gyn- nWJsir yn y cylchlythyr newydd; ac ystyriai rhai o'r siaradwyr eu bod hyd yn oed yn waeth na'r rhai oedd yn y cyntaf. Gan fod y senedd i ymgyfarfod yn fuan, ni farnwyd yn angenrheidiol anfon cofeb arall at y Llyw. odraeth ar y mater; a gohiriwyd yr ystyriaeth o hono hyd gyfarfod Desaf y pwyllgor, yr hwn a gynnelir yr wythnos o flaen ymgyfarfyddiad y senedd. Cynnaliodd pwyllgor gweinyddol y Gymdeithas Wrthgaethwasiol hefyd gyfar- fod i ystyried y cylchlythyr newydd. Cyt- tunwyd i wneyd ymdrech egniol i gael gan y Llywodraeth ei alw yn ol yn ffurfiol. Creda y Punch nas gall uurhyw eglurhad y gall Ar- glwydd DERBY ei roddi wneuthur y cyfar- wyddiadau yn dderbyniol gan y wlad. Yr ydym yn gobeithio y ciliff y Rhyddfrydwyr pro- ffesedig, y rhai a oddefasant i Mr. HOPE gael ei orchfygu y dydd o'r blaen yn sir Aberdeen, wers na anghofiant mo honi yn fuan oddi wrth y ffaith mai yr unig lais yn mron a god- wyd o blaid y cylchlythyr caethiwus ydyw yr eiddo eu haelod newydd, y Cadfridog GOR- DON. Wrth ofyn am bleidleisiau, proffesai ei fod mewn llawer o bethau yn dra Rhydd frydig; ond gyda'i fod wedi diogelu ei eis- teddle, wele ef yn amddiffyn un o'r gweith- redoedd gwaethaf a gyflawnwyd erioed gan y Toryaid.

[No title]

[No title]

[No title]