Hide Articles List

3 articles on this Page

_Y CYNNWYSIAD. I

-PERCHENOGAETH TIROEDD YN…

I lMthM M p

News
Cite
Share

I lMthM M p Y BRIFYSGOL I GYMRU. BYDD yr wythnos laon- y drydedd wythnos o'r flwyddyn 1875-yn ffurfio cyfnod newydd yn hanes y Brifysgol i Gymru. Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon hawl-drosglwyddwydy Colegdy yn Aberystwyth i ymddeiriedolwyr (Trustees), i fod yn eiddo i'w ddefnyddio at addysg cyhoeddus o genhedlaeth i genhedlaeth. Dewiawyd yn ymddiriedolwyr y cyfranwyr a gyfranasant bum cant o bunnaif ac uchod tuag at bwrcasu yr adeilad. Mae rhestr enwau Y TRUSTEES I fel y canlyn:-Thomas Barnes, y Quinta; Syr Richard Bulkeley, Baron Hill, Mônj John Cory, TDaeraydd; D. P. Davies, Canada Dock, Liver- pool D. Davies, A. s., Llandinam; Thomas Davies, Bootle; D. Davis, Maes-y-ffynnon; Lewis Davis,| Ferndale; Joseph Evans, Llan- ddoget Park; Stephen Evans, Llundain; John James, Aberystwyth; Thomas Jones, High street, Manchester; George Osborne Morgan, A. s.; Hugh Owen; Henry Parnall, a Robert Parnall, Bishop-gate Without; Love Jones- Parry, Madryn; Hugh Pugh, Carnarvon; Eliezer Pugh, Liverpool; John F. Roberts, Manchester; William Rowland, Manchester; Dr. Evan Thomas, Manchester. Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon, meddwn, trosglwyddwyd yr adeilad yn Aberystwyth ar enwau y boneddigion a enwyd uchod i'w dal, in trust, at wasanaeth y Brifysgol i Gymru. A bydd y weithred yn cael ei registro yn Llys y ".Charity Commissioners" yn unol a darbodion y ddeddf a basiwyd ddwy flynedd yn ol, sef, Charitable Trustees In-corporation Act. A dydd Mercher, yr ugeinfed o'r mis hwn cynnaliwyd cyfarfod o'r tanysgrifwyr yn Aber- ystwyth, i'r dyben 0 ethol LLYWODRAETH NEWYDD Y COLEO, yn unol & threfniadau y New Constitution. Bydd llywodraeth y Coleg yn y dyfodol i gynnwya 1. "The Court of Governors." 2. "The Council." 3. "The Senate." Math o bwyllgor cyffredinol ydyw y "Court of Governors;" a'r "Council" ydyw Pwyllgor gweithiol y sefydliad; a'r "Sen- ate" ydyw athrawon y sefydliad yn eistedd mewn cynghor. Yn y cyfarfod yn Hydref diweddaf cydunwyd yn unfrydol mai y mwyaf cymmhwys o bendefigion Cymra i leuwi'r swydd o Iywydd neu President y Coleg, os buasai yn cydsynio i hyny fuasai ARGLWYDD ABERDAR a phennodwyd yr ysgrifenydd ( Mr. Hugh Owen), yughyd a Rector Nedd, i fyned i weled ei arglwyddiaeth ar y mater. Ac ar ol cymmeryd amser i wneyd ymchwiliad manwl, a chael boddlonrwydd trwyadl mewn perthynas i amear), nodwedd, sefyllfa bresennol, a rhagolygoll Y sefydliad, derbyniwyd llythyr caredig oddi wrtho, yn arwyddo ei barodrwydd i gydsynio ar ca18; ac yn y cyfarfod ddydd Mercher, cadarnhawyd dewisiad ei arglwyddiaeth yn llywydd y 11ICoizri of Governors" am ysbaid tair blynedd. Ethol- wyd hefyd niferois-lywyddion; a David Davies, Ysw., A. s., Llandinam, yn Drysorydd. Ethol. wyd Council;" ae appwyntiwyd nifer o bersonau yn byw yn Aberystwyth i weithredu fel "House Committee," a nifer yn byw yn Llundain yn Finance Committee." Pasiwyd pleidlais o ddi- olchgarwch gwresog i Mr. Hugh Pugh am ei wasanaeth a'i flyddlondeb ynglyn a phryniad yr adeilad, a'i drosglwyddiad, y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon i ddwylaw yr ymddiriedolwyr. Anrhydeddwyd cyfarfodydd yr wythnos hon a. phresennoldeb dau ag oeddynt yn new men-y ddau yn ddynion uehel mewn dysgeidiaeth, ac yn troi 'ill dau mewn cylchoedd lie gallant fod o help anferthol i'r sefydliad mewn llawer ffordd: un o'r ddau y cyfeirir atynt ydyw Mr. John Rhys, M. A., un o school inspectors y Llywodraeth; a'r IIail'ydyw yProffeswrHughea, M. A., F, R. S., o Cambridge. Y mae enw ein cyfaill Mr. Rhys erbyn hyn yn dra hysbys i ddarllenwyr y FANER. Y mae ef yn enedigol o sir Aberteifi, ac yn deall Cymru yn dda—ei phobl, ei manteision, a'i han- fanteision; ac yn cael ei gydnabod fel ieithegwr, er nad ydyw etto ond cymmhariaethol ieuangc, yn mhlith y rhai blaenaf yn ei oes. Mab hynaf'yr Esgob Hughes, Llanelwy, ydyw y Proffeswr Hughes y cyfeirir ,ato. Daeareg {Geology) ydyw hoff-bwngc ei efrydiaeth ef. Ac yr oedd Mr. Hughes wedi ei enwogi ei hun gym- maint yn y ddysgeidiaeth hon fel pan y bu farw y daearegwr'byd-adnabyddus y Profleswr Sedg- wick, ynfunol ag annogaethj Dr. Sedgwick ei hun yn ei fywyd, etholwyd y Cymro, fel y cymmhwys- af o bawb y gwyddid am dano, i fodyn olynydd iddo yn nghadair Geology Prifysgol Caergrawnt. Yr oedd yn llawenydd nid bychan gan bawb i weled givr o enwogrwydd a dysg y Proffeswr Hughes yn bresennol; ac nid yn unig wedi dyfod gyda'i gyfaill o Nedd i Aberystwyth er mwyn treulio deuddydd yn awyr y m6r, ac i weled beth a welai, ond yn taflu ei hunan, enaid a chalon, i waith; a phan yn ymadael, sicrhaai y byddai yn fraint ac yn bleser ganddo i wneyd unrhyw beth yn ei allu tuag at lwyddiant y sefydliad. Bwriedir rhyw dro yn ystod y misoedd dyfodol -yr adeg a fernir y fwyaf cyfleus a manteisiol— i wneyd I CAIS AM HELP GAN Y LLYWODRAETH ar ran y Brifysgol. Ac yn ddigon sicr, y mae gan Gymru claim cryf iawn am gymmhorth. Pur anfynych y mae hi wedi bod yn trwblo'r Llywodraeth mewn un ffordd, yn enwedig mewn gofyn unrhyw ffafrau oddi ar ei llaw. A pha. bryd bynag y bydd y deputation yn myned at y Prif Weinidog, gobeithio na cheir un aelod sen- eddol dros Gymru, bydded ef Dory, Whig, neu. Radical, na byddo iddo gymmaint a hyny o wladgarwch a chenedlgarwch fel ag i roddi ei bresennoldeb a'i gefnogaeth ar yr achlysur hwnw. Y mae nifer y students yn bresennol, a chym- meryd i'r cyfrif yr adran gerddorol, yn cyrhaedd cant. Derbyniwyd un ar ddeg o newydd y term presennol. Y mae y nifer yn llettya yn y Coleg yn bresenuol yn bed war ar ddeg; a'r nifer yn yr evening classes yn ddau a deugain. Yr ydys eisoes fwy nag unwaith wedi egluro, ond y mae yn ymddangos fod annealltwriaeth etto ynghylch y mater, fel y profa llythyrau sydd yn cael eu derbyn yn barhaus-dau wedi dyfod o wahanol barthau o'r Unol Daleithiau o fewn tuag wythnos i'w gilydd, yn gofyn y cwestiwn yma:— A ellir cael mwynhau manteision yr ADRAN GEItDDOROL o'r Coleg heb uno mewn unrhyw ddesbarthiadau ereill; ac os gellid, ar ba delerau? Yr attebiad i hyny ydyw, y gellir mwynhau yr addysg gerddorol heb ymuno ag un o'r dos- batthiadau ereill. Rhenir yr adran hon i dri neu bedwar dosbarth—1. Pianoforte. 2. Organ, neu harmonium. 3. Meithriniad y Uais. 4. Cyfan- soddiad. A'r termau ydynt" One private les- son per week and classes, £ 1 per term; two a week and classes, £ 2 per term; three private les- sons per week and classes, £ 3 per term." Wrth gymmeryd golwg gyffredinol ar y tym~ mudiad o'r sefyllfa yr ydys yn bresennol w67i ei gyrhaedd, gellir dywedyd yn ddibetrus fod I Y RHAGOLYGON YN GALONOGOL I Y mae'r sefydliad yn bresennol yn estaomneajact, ae in full working order. Un peth a barai nid ychydig o bryder i'r cyfeillion ddydd Mercher oedd fod tiia hen gyfaill sydd wedi llafurio mwy na neb aroll fvda'r s mmudiad hwn 0 I g?hwYlad, ao wed! gbY th YI' aroseI' a'i d?Mt, ..broaad, er's blvn. a er u e .th f c: yddau bellach yn U?y. gwaith 0 se fdlu y Brif. Col, sef Mr. Hugh Owen-fod ?i?heh gyfaill y ?hwn yn diodef oddi wrth ahwyd'trwm, ao yn llawer iawn ffitiaek i fod yn ei wely dan ofal nurse yn Camden Road, nag yn teithio gyda'r trains i Iawr 1 Gymru ao yn ol. Hyderwn, pa fodd bynag, yr adnewyddir ei lechyd etto gyda gofal, ac yr estynir ei oes nes gweled yr adeilad yn Aberyst- wytb. wedi ei gwblhau oddi faea ao oddi fewn, ao wedi talu am dano, gyda swm da gyda hyny wrth gefn ar gyfer y treuliau blynyd da gyda byiny wrth gefn ar gyfer y treuliau blynyddol, ao yn mhellaoh, y caiff fyw i weled Llywodraeth y wlad yn eyd. nabod hawliau y Brifysgol i Gymru.