Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

y NEWYN YN MAWDEM, BRYNIAUI…

News
Cite
Share

y NEWYN YN MAWDEM, BRYNIAU CASSIA. FY ANWYL SYR, Gyda'r mail a ddaetk i mewn y prydnawn heddyw, derbyniais oddi wrth y Parch. G, Hughes, Shillong, lythyr, dyddiedig Ebrill lleg, yn cynnwys ei adrodd- iad blynyddol am sefyHfa yr achos crefyddol yn y lle- oedd 0 fewn y cylch sydd dau ei ofal ef. Am MAWDEM dywed "Bum yn y pentref hwn bythefnos yn ol, i edrych eu hansawdd, ac i fedyddio niter oedd ar brawf er's cryn amser." Yna, wedi rhoddi hanes y cyfarfod- ydd agynnaliwyd gyda'r bobl, dywed Y mae yn ddrwg iawn genyf eich hysbysu fod y newyn yn debyg o fod yn dost iawn yno. Y mae eu hystftr o reis wedi darfod, a'r rhan fwyaf o'r bobl yn byw ar wreiddiach y maent yn eu casglu bob dydd yn y goedwig. Nid oes ganddynt ymborth eu hunain, nac arian i'w brynu. Yr oedd ganddynt Rs 75 (7p. 10s.) o gasgliad yr eglwys mewn Haw, a ihoddwyd Rs 25 o eglwys Shillong, a Rs 30 (3p.) a gasglwyd yn yr Henaduriaeth; ac felly, y mae ganddynt 13p. mewn Haw, a phennodais chwech o'r rbai mwyaf proliadol o honynt i gymmeryd gofal y rhai hyn, a phrynu reis, ac hefyd i ofalu am yr hyn a gesglir i'w cynnorthwyo etto. Pan yn cyfrif pa faint o bobl oedd eisieu eu diwallu, yr oeddym yn cyfrif y byddai yn angenrheidiol cael 70p., o leiaf, i'w diwallu, a chyfrif na fydd reis dlim yn ddrutach yn y dyfodol. Y maent yn wir wrthddrychau elusen." Gan fod yn ymddangos wrth y llythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Parch. H. Roberts na cheir cnwd reis etto yn Mawdem hyd fis Hydref, y mae yn amlwg, debygid, nad ydyw Mr. Hughes yn y cyfrif uchod yn cymineryd i mewn neb, fel rhai y gofynir cynnorthwy ar eu rhan, ond y rhai sydd yn y lie yn dwyn cyssylltiad a Christionog- aeth. Ar ol derbyn hysbysrwydd am y cyfyngder, anfonwyd at y cenhadon y gallent deimlo yn hyderus y byddai parodrwydd yn y wlad lion i'w cynnorthwyo I estyn ymwared i bawb—paganiaid a Christionogion yn hytrach na bod neb yn dioddef gan y newyn. A chan y bydd y cenhadon, y mae yn ddiau, wedi gweith- redu yn ol yr awgrym hwn, fe welir na fydd y swm a grybwyllir uchod gan Mr. Hughes agos yn ddigon. Nid ydym wedi oaei cyfrif manwl am boblogaeth y rhan olrwladlleymae prinder; ond os ydyw yn gyfyngedig i Mawdem a'r gymmydogaeth yn unig, y mae yn rhaid fod cannoedd mewn eisieu, gan nad ydyw y Oristionog- ion, er y cynnydd sydd wedi bod ar yr achos yno, ond cyfran fechan o'r boblogaeth. Yr eiddoch yn gywir, Mai lleg, 1874. Mai lleg, 1874. JOSIAH THOMAS. 169, Canning Street, Liverpool.

BYRGOFION AM "NICANDER." -

I Y WLADFA GYMREIU YN PATAGOJNIA.

LLUNDAIN A'CH "EWYRTH."

DIYSTYRWCH ETTO AR Y GENEDL…

t LLOFFION ETHOLIADOL. ';