Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MARWOLAETH Y MILWRIAD E. WATKIN…

News
Cite
Share

MARWOLAETH Y MILWRIAD E. WATKIN W. WYNN. ETIFEDD TEBYGOL WYNNSTAY. Y TRENOnOLIAD. Ddydd Iau diweddaf, bu Mr. Martin, trengholydd Windsor, yn cynnal rhaithymchwil ar y corph. Yr oedd y Milwriad Monerieff yn bresennol ar ran y fataliwn. Yr is-gadben Daman, o ail fataliwn y Scuts Guards, a ddywedodd fod y trangcedig yn swyddog yn yr un gatrawd, a'i fod yn dair ar hugain lnhvydd oed. Yr oedd efe yn gar i Syr Watkin Williams Wynn. Dydd Mercher aeth ef i fyuy yr afon, gyda'r Anrhydeddus Arnold Kep- pell a Mr. Williams \Vynn. Yr oedd ef a'r trangc- edig mewn cychod (canoes), ac aetbant i lawr yr afuu i'r Bells, ger Ouseley; a phan y daethant i Windsor, bu y tyst a'r trangcedig yn ymdrochi yn ymdrochle Eton, yn Ngored Romney. Wedi corjiticu ymdrochi, cynnygiodd y trangcedig eu bod yn "saethu y cored," a'r hyn y cydsyniodd yr Amhydeddus A. Keppell, ac aeth y diweddaf a Mr. Wynn i fyny yr afon i'r perwyl hwnw. Aeth y tyst i'r cwch oedd yn ymyl y lie ymdrochi, i'w hachub, pe digwyddai antlawd iddynt. Arosodd ei yn y cweh gyda'r dyfrwr (waterman) i estyn cym- mhorth os byddai angen. Daeth Mr. Williams Wynn, a saethodd y gored gyntaf, gan wneyd y CWi1lth yn ?wydtUannus. Dilynwyd el yn union- uyrchol gan Ke?peU, ond dymchwelodd ei gwch ef. thvyddodd i gael ei hun yn rhydd o'r is-lif, a Mtto.t t i'r lan, modd byBag. Yna aeth y traagc- edis i tyny yr afon drachefn, a cheisiodd saethu y Coreù yr ail waith, ond md yn llwyddiannus. Yr oedd y tyst y pryd hwnw gyda dau gychwr, yn uniou gyferbyn a'r pedwerydd neu y pummed jientwr, ac mewn cwch ysgwlio yn barod i roddi y cymmhorth. Aeth Wynn i'r is-lif, cwympodd o'l fad, ac yn llythyrenol, sugnwyd ef i lawr. Ar y pryd yr oedd Mr. Keppell ar y lan, ac yr oeddynt hwytliau wedi eymmeryd eu cwch i ganol yr afon, gyferbyn a'r man y daethai y trangcedig trwyddo; ac wedi gweled pa beth a ddigwyddasai, ymdrech- asaut ei achub ef, ond rhwystrwyd hwy i fyned ato mewn pryd gan nerth y llifeiriant. Aeth y tyst a dau ereill i lawr yr afon i chwilio am dano, canys gwclent ef mewn ymdrech yn y dwfr ar ol cwympo iddo am o ddeutu munyd. Ond yn sydyn diflanodd o'u golwg. Aeth y tyst i lawr yr afon, a Mr. Keppell i'r lluestty. Caed y corph yn mhen o d,lelltu hauner awr. Yr oedd y trangcedig yn notiedydd da. ac yn ddyn cryf iawn. Nid oedd efe (y tyst) crioed wedi ei weled ef yn saethu y cored o'r blaen. Sylwodd yr Anrhydeddus A. Keppell fod y trangcedig wedi gwneyd yr orchest hon ar aehlysur blaeuorol, mewn eweli gwaelod gwastad, neu punt. Dywcdodd yr Is-gadben Daman fod y dyfrwr wedi dyweyd wrthynt ddarfod i'r Milwriad Fletcher wneyd hyny lawer gwaith drosodd, ac nad oedd y jjerygl lleiaf ynglyn &g ef, gan annog y tyst i wneuthur prawf arno, a'r hyn y gwrthododd efe gydsynio. Dylai cadwyn gael ei gosod i fyny ar draws y lie; hefyd, dylai fod life buoys a rhaffau yno. Yn awr nid oes dim o'r fath i'w gweled yn oi-ms i'r lift. °Dywedodd y trengholydd fod rhybudd wedi ei roddi i fyny wrth ben y "Cobbler" i rybuddio pobl rliag myned i lawr yr afon. Yr is gadben a sylw- yn mhellach, eu bod hwy yn gwybod fod rhyw gymmaint o enbydrwydd ynglyn a saethu y cored. Yr oedd yn ammhossibl rhwyfo cwch i fyny yr afon er mwyn myned yn agos at y trangcedig- mewn gwirionedd, ni aIlasent fyned ynnesnaphum Hath id, to, gan mor gryf oedd y llif. Yrail is-gadben, yr Anrhydeddus Arnold Keppell, a gadarnhaodd yr hyn a ddywedasai yr Is-gadben Daman, gan dystio iddo ef fyned gyda'r trangcedig a'r tyst diweddaf ar yr afon. Ar gais yr is-gadbeu Wynn, aeth ef i fyny yr afon. Y trangcedig a aeth i fyny gyntaf, ac arosodd yntau (y tyst) i gael gweled a oedd pob peth yn iawn gydag ef. Wedi gweled, wrth ganfod ei rwyfau yn ail ddechreu gweithio, i Mr. Wynn fyned drosodd yn ddiogel, caulynodd y tyst ar ei ol; ond dymchwelwyd ef, a plirin y diangodd heb foddi. Rhwyfai y tyst ei fftd gyda phob brys dichonadwy, a thrwy hyny Ilwydd- odd i ymsaethu yn mhellach na'r trangcedig, yr hwn nad oedd yn gwneyd mwy na "drijftio" yn mron. Nofiodd ef i'r lan, ac achubodd ei hun heb gael cymmhorth gan neb. Wedi ei foddhau gan ei Iwyddiant, penderfynodd y trangcedig wneyd ail gynnyg; yn groes i gynghor y tyst. Aeth ifyny yr afon drachefn, tra yr oedd y tyst yn newid ei ddillad, a gwelodd yntau ef mewn pellder o ryw liauner can llath oddi wrtho yn dyfod i lawr yn nghyfciriad y cored. Yn y fan anfonodd yntau Mr. Uunau a'r dyfrwr i'r punt i fod yn barod wrth law 09 digwyddai perygl, yr hyn a ymddangosai yn annhebyg, canys dywedwyd wrthynt fod pob peth yn iawn. Dywedasai y dyfrwr nad oedd yno ddim perygl, am fod y Milwriad Fletcher wedi saethu y cored lawer gwaith. Pan welodd efe y trangcedig ya dyfod i lawr, gwnaeth y sylw y byddai yn beth ofnadwy iawn os mai boddi a wnai; ond dywedai y dyfrwr nad oedd hyny yn debyg o gwbl. Pan yn saethu y cored yr ail waith, deuai y trangcedig i lawr yn lied ai-af-y cwch yn nofio ar ei ochr, yn fwy felly o lawer na'r tro cyntaf. Cwympodd i'r dwfr gwyn," ac yn y fan efe a ddechreuodd nofio ba'r lan; ond gan nad oedd dim pwysau yn y dwfr, am mai "trochion" ydoedd, darfyddodd ei nerth cyn i'r cwch gwastad ei gyrhaedd. Rhodd- odd y trangcedig o ddeutu dwsin o strokes rhagorol tra yn y dwfr, gan gadw ei enau yn gauedig. Bu yn ymdrechu yn yr afon am tua tbri chwarter munyd; a phan y gwelodd y tyst ef ddiweddaf, yr oedd o fewn o ddeutu dwy lath i'r lan. Ammhos- sibl fuasai cael y cwch ato, a phrin y meddyliai y buasai efe yn gallu gweled rhaff pe taflesid un ato. Credai ei fod yn cael ei gadw yn yr nn man gan y dwfr llonydd yn y gwaelod. Pe buasai yno buoy neu rywbeth o'r fath wrth law, credai y gallesid gwaredu y trangcedig. Heb raff ammhossibl a fuasai i neb ymgadw i fyny yn y dwfr. Caed y corph yn y man y gwelsai efe y trangcedig ddi- Weddaf. Gwnaeth Mr. Daman yr oil a allai i estyn cymmhorth iddo, felly hefyd y dyfrwr, yr hwn oedd yn ddigalon a gofidus iawn o herwydd yr hyn a ddigwyddasai. Anfonodd y tyst am "drlrags;" a chan adael Mr. Daman yn y He, aeth i chwilio am y milwriad. Cludwyd y corph mewn cerbyd i'r lluestty gan aelodau Cymdeithas Ddyngarol Eton a Harrows. Derbyniwyd tystiolaeth John Massey, dyfrwr perthynol i Goleg Eton, ond nid oedd dim newydd yn ei dystiolaeth. Wrth symio i fyny, sylwodd y trengholydd ei bod yn dra thebyg mai ychydig o sylw a dalai y trangcedig a'i gydswyddogion i'r hyn a ddywedai y dyfrwr wrthynt, am eu bod mor gynnefin a'r afon. Yr oedd yn beth hynod iawn, pa fodd bynag, fod dynion fel hyn, a wyddent am yr enbydrwydd, yn peryglu eu bywyd. Dychwelwyd dedfryd fod y trangcedig wedi cyfarfod a'i farwolaeth trwy foddi, ac annogasant fod cadwynau yn cael eu gosod ar draws yr afon i rwystro cychod fyned drosodd, a bod yno raff yn barod i'w defnyddio. Dygwyd corph y trangcedig o Windsor i Lanelwy ddydd Gwener, a chladdwyd ef yn meddgell y teulu yn EglwyS Cefnmeiriadog ddydd Llun diweddaf.

FFESTINIOG.

LLANSANTFFRAID GLANI COiNWY.

I EGLWYSBAOH.

DOLGELLAU.

[No title]

TREN AR GOLL.o.C