Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Aelwyd y Cymry.

ANERCH Y GOLYGYDD.

HWLFFORDD.

- OLLA PODRIDA, KEU .Dipyn…

News
Cite
Share

OLLA PODRIDA, KEU Dipyn o Bobpeth i (GAX GOFIADUR). Brawychwyd byd cyfan gan y newydd am y ddaeargryn ofnadwy yn ne itaii ac ynys ijisi 11, trwy ba un y dinystri»vyd trefydd, pentrefydd, a chartreti lu, lieblaw-a dyma'r gwaetha' oil— y dyfrod ar fywydau dynol. Dyvvedir fod y iladdedigion yn rliifo dros 200,000, a'r clwyfedig- ifm uwchlaw 100.000. Fel y dygwydd yn fynych yn hanes daeargrynfau ychwanegodd tanfeydd ac ofnadwyaeth y difrod, gydag ysgelerder Uad- ron yn yspcilio y byw o'u meddianau. Y mae Prydain yn ogystal a holl wledydd Cred o dan ddyled drom i Ital4 am ei chynysgacth fawr, yn en-.vedig yn y cynoesau, i lenyddiaeth a chelf y byd, ac y mae yn dda genyf ddeall fod y cyd- ymdeimlad mwyaf byw yn cael ei arddangos tuag at lywodraeth a phobl Itali yn eu djdd blin hwn, gan cin gwlad ni a gwledydd eraiM. Y mae cronfa Arglwydd Maer Liundain er budd y dioddefwyr eisioes yn prysur gyrhaedd can- oedd o filoedd a bunau. Xis gall yr un Cristion, debvgaf, lai nag ed- rych ar y dinystr anele hwn fel ymweliad Duw ae un o arwyddion dechreu y diwedd. Ki pherthyn i ddyn meidrol wybod awr dyfodiad I Mab y dyn ond Efe a roddodd ini yn Ei Air megis cypdrem ar y cyffroadau naturiol, cym- I deithasol a gwladol a Haenorant awr Ei ddych- weliad Ef i farnu y byw a'r meirw. Y mae yr awr hono yn agoshau, neu yn agos, medd rhai a ddarllenant arwyddiun yr amserau trwy ddrych y Testament Xewydd. Un o ymadroddion cy- hoedd olaf yr ysgolor a'r sant disglaer hwnw— Esgob Westcott, o Durham—oedd yng nghylch ei gredkiiaeth ddiysgog fod y Dydd Olaf wrth y drws. Y mae sefyllla ein byd heddyw yn llawn o awgrymiadau i gefaogi y gred hon. Daeth o'r wasg yn ddiweddar lyfr gwerthfawr a dyddorol, medd y beirniaid, o waitn Dr. J. G. Moelwyn Morgan, o Aberteili, ar "Anfarwoldeb yr Enaid." Ei bris yw tri swllt a chwe' chein- iog, felly gellid meddwl fod y gyfrol yn un weddol iawr. Kid ydwyf wedi ei gweled, ond gobeithiaf ei gweled a'i darllen cyn bo hJr. A un adolygydd mor bell a dweyd "nad oes dim tebyg iddi wedi ymddangos hyd yn hyn yn y Gymraeg." Dyma ganmoliaeth lied fawr, onide, a dichon nad anhaeddianol, ond beth am "Ath- rawiaeth yr lawn" gan y Dr. Edwards, nofelau Daniel Owen, ar "Bardd Cwsg" ? -V"- Bu farw ychydig ddyddian yn ol un o ddyn- ion enwocaf, os nad hynotaf, y gaarif, sef y Tad John o Gronstadt—"Father John of Kron- stadt' fel y'i gelwid. Rwssiad o genedl ydoedd, ac offeiriaid perthynol i'r Eglwys RoegaMd- Eglwys sefydledig Rwssia. Heb athrylith na thalent, ac heb gyfoethogi o hono lenyddiaeth ei oes, efe a feddai ddylanwad aruthrol ar ei gydwladwyr ac addolyd ef yn lythyrenol gan amryw o honynt, a'r oil ar gyfrif ei dduwioldeb. Yr oedd yn sant yn ystyr iwyraf y gair, ac fel ei Waredwr a'r St. Francis o Assisi, ymbriododd a thylodi o draserch at y tlawd. Priodolid iddo allu gwyrthiol, ac nid oes amheuaeth na chyf- lawnodd lawer o wyrthiau mewn achosion o afiechyd, trwy rym gweddi-gweddi y ffydd. Cyfaill y bobl ydoedd yn ngwir ystyr y gair, I ond ceisid ei gyfarwyddyd a'i gynghor gan dyw- ysogion a mawrion y Ilys, ac hyd yn oed yr ym- herawdwr ei hun. Yr oedd ei air yn ddeddf, a chadwai yn ei ddwrn nerthoedd ymflamychol a gwrthryfelgar Rwsia. Rhyfedd yw grym duw- ioldeb I Nid wyf, hyd yn hyn, wedi gwel'd y "Genin- en" am Ionawr, os yw allan, ond os yw cystal a. rhifyn Hydref, y mae yn rhagorol iawn. Den. gys Eifionydd ei fod yn fyw i feddwl a nodweau- ion yr amserau, canys y mae y rhifyn hwn yn ymdrin a rhai o bynciau mwyaf "losgawl" y dydd, megis yn yr ysgrif ar "lesu y Sosialydd," a "Deffroad Llafur," gan y Parch. John Davies, y traethodwr digymhar o Ystalyfera. Nid wyf yn meddwl fawr, serch hyny, am yr ysgrif fiaenaf a nodais, ac onid yw y teitl yn gamar- weiniol am Un a orcliymyaodd dalu teyrnged i Cesa 1 Gan nad beth wneir, na lusger enw y Gwaredwr drwy laid ymbleidiaeth wleidyddd!. Gallaf gydsynio yn galonog a'r "paragraph" olaf yn ysgrif Sosialydd: "Y mae yn berffaith wybvddus nad oes dra-arglwyddiaeth mor or- thrymus a'r un mewn cysylltiad ag enwadaeth grefyddol; ac ambell dro byddaf yn ymholi beth fydd gan y mawrion sanctaidd hyn i'w gyfrif am sathru Ei ganlynwyr dan eu traed a dryllio gwirionedd yn chwilfriw a gwiail o haiarn." Adgofir ni gan awdwr Saesnig fod yna berth. ynas agos cydrhwng y gair glas a'r gair Saes- neg "glass'—gwydr. Tueddai ein hynafiaid i edryeh ar luwiau fe'l gwahanol fathau neu ffurf- hu ar ddisgleirder—yr hyn sydd wir, efallai, o safbwynt wyddonol. Er enghraifft, sieryd y Sais am "bright red" a "bright blue," a chawn Iwl Cesar yn yn cyfieithu glas yn. "vitrum," yr hwn a olyga Felly hefyd, gol- ygai "glancus" v gair Lladin cyfystyr a glas, ar y cyntaf disgleirio. Ac arwyddai gwreidd-air "purpureus," porphor, a gymhwysid at wrth- ryc-hau mor wahanpl a mantell ysgarlad ac alarch wen, ar y dechreu, pelydru neu ddis- gleirio. Claddwyd y gwr nerthol a da hwnw, y Parch. Dr. Lewis Probert ar yr 2il o'r mis hwn ym mynwent Eglwys Bhvyfol Llanelli, Brychein- iog, ac er gwaetha'r hin presenolodd llu mawr o weinidogion a lleygwyr eu hunain yn yr ang- ladd. Defnyddiwyd gwasanaeth clad'du Eglwys Loegr wrth y bedd, yr hwn a ddarllenwyd gan y Rheithor. Yn gysylltiedig a'r angladd cym- erodd y gweinidogion ran. sef, y Parchn. J; W. Thomas, Ton Pentre; H. A. Davies, Cwmaman; a J. J. Williams, Pentre. Gwir y sylwodd yr olaf fod y Dr. Probert yn wr mawr ym mysg cewri y genedl, ac mai priodol i'r mynyddoedd fu'n gysgod i'w gryd gysgodi ei fedd. Llanwodd gadair prifathraw Coleg Bala-Bangor gydag an- rhydedd iddo ei hun, a lies ei fyfyrwyr. -'i"'n"- Beth fydd diwedd yr anesmwythder presenol yn India? Y mae y wlad hono benbwygilydd yn fyw gan ysbryd gwrthryfel canlynol, fel achos dechreuol, i waith Arglwydd Curzon yn rhanu talaeth Bengal yn groes i ddymuniad y genedl. Gellir dweyd fod sail ein llywodraeth yn India, ar hyn o bryd, ar losg.iynydd an- foddlondeb dygu y trigolion brodorol. 0 fewn y dyddiau diweddaf bu y c-ythrwrl enbyd o <u y Mahometaniaid o herwydd gorthrymu arnynt, meddai nnwv. gan yr awdurdodau o dan ddy- lanwad yr Hindwaid, mewn cyssylltiad a de- fodau eu crefydd. Gyda Sir Edward Grey, Ar- glwyddi Morley and Minto wrth y llyw, gellir bod yn sicr y gweinyddir doethineb ac ewyllys da er tawelu a gwastadhau elfenau cynhyrfus vr India. Ym mysgy golwyth o lyfrau gyhoeddwyd yn Lloegr yr Hydref diweddaf ni chawd un o ddyd- dordeb penodol i Gymru oddigerth cyfrol Mr. Walling ar "George Borrow: The Man and his Work," cyhoeddedig gan Cassell, am chwc' swllt. Y mae yn werth ei darllen. am un rheswm oherwydd ei bod yn chwalu cnapiau y Dr. Knapp yn ei fywgraphiad eafawr i Borrow. Y mae hwnw yn gofiant anfertli, gorfanwl, ond anial ei anrhefn. Xi ddylai'r un Cymro fedr Saesneg esgeuluso darllen gweithiau Borrow— y Seis-Gymro gwladgar, awdwr 'Wild Wales" ddifyrus, "The Bible in Spain," a "Lavencro." Eio a garai ein hiaith a'n cenedl ni, a bu'n help mawr i'w gwneyd yn ddyrchafedig a dyddorol i'r Sais a ilawer cenedl arall. Y mae gan yr Eglwys Sefydledig yng Xghym- rr. wythnosolyn a thri o fisolion (I dar. ei nawdd sef, "Y Llan." "Yr Haul," "Y Cyfaill Eglwys- ig," a "Pberl y Plant." Dywedir mai yr oiaf yn unig o'r pedwar. o dan clygyddiaeth y C-mon Camber-Williams sydd yn talu ei ffordd. Xid yw y ffaith yn adlewyrchu nemawr gled i Eg lwyswyr lien a lleyg Cymru. Dylai yr Egiwys I y Genedlaethol fod yn unrhyw a'i henw ym mhob eyfeiriad. ac yn ddiesgus ym mhob-pefh betthyn i iaith frodorol y tir lie y saif. Gwir mae i'r Eglwys yr ydym yn ddyledus am ein Beibl Cymraeg, ac am rai o glasuron y genedl, ond nid gwiw iddi orphwys ar orchestion y gorph- enol. Ymac rhai o honom wedi blino ar yr apel i draddodiad han?s er cadarnhau ei hawl j'r teitl o Eglwys Genedlaethol y Cymry. Gwell fyddai genym i'w diffynwyr gyfiawnhau e: hawl i'r enw drwy waith a ffyddlondeb heddyw i iaith a defion ein cenedl. Da genyf fod ym mryd "Brvnach" i gyhoeddi ei weithiau awenydcl il. Bydd y gyfrol yn flasus fwyd. canys medd Brynaeh awen hoenus, ffres. a chyffyrddiad del y gwir fardd. Edryeh. af ym mlaen at ymddangcsiac1 y lljfr gyda dyddordeb. Un o bregethwyr hyotlaf. yn ogystal a mwyaf di-dclerbyn-wyneh ein gwlad ydyw y Parch. D. Stanley Jones, diweddar Betliesda, Penfro, ac olynydd y Dr. Herber Evans yng Xghaernarfon. Y mae yn elyn anghymodlau n i'r ddiod fedd- wol, ac nid oes dafarnwr yn aelod o'i Eglwys. Ii" A dalai wythnosolyn amaethyddol (Jyroraeg ei fiWdd. syaid g.vestiwn a awgrymir i. fy medd- wl -y (ipddiau. k«i, ac a awgrymwyd yn iieull- daol icily, r-ti blyiiyddati yn ol pari gui-ginvy er cynyrchu p.py.- o'c fath, gaai.AiiMctk-ydd ieuainc brwd a deallus. Gosod- astxn eici bwriad-gta: bron rhai o dirfeddianwyr penaf 'geaeaigol sir, a chwasom y gefaog- aet-h Íwv,f galo:«jg, -ic addewidion hu-ei mewn ystyr a-iitn«l. ond ni ddaetli dim o'r peth, o herwydd amgylehiadau auorfod. Oni ddaeth yr amsa bellach gyda ohynydd gwybodaeth j Ymneullduwyr fel corph i ymar- fer mwy o ddefosiwn yn eu lleoedd addoli? Y mae gwir anghen gweddeidd.dra p&rchus yn ein capeli, yn lle'r diweddarwch difraw, y trwstan- eiddiweh y lolian yn y seti, a'r eistedd i lawr yn ystod y weddi. "Hawed knee never soiled silk stocking," meddai George Herbert, ac ni lycldai'n waeth i bobl gymcrant arnynt dd'od yng nghyd i addoli Brenhin y brenh^nc>edd ac Arglwydd yr holl arglwyddi benlinio ger L, I fron pan elwir ar Ei enw. Nid oes dim mwy poenus, braidd, na diffyg fid-di-i vn niiv Dduw. Y fath ddydd o lawen chwedl oedd y Dydd Calan hwn i dlodion ein Teyrnas pan y der- byniasant y gyfran gyntaf o'r Blwydd-dal ben- dithiol! Y fath bryderon dawelwyd, y fath anghenion liniarwyd! Dilys ddigon fod rhai diwygiadau yn anghenrhediol oyn y bydd Deddf y Blwydd-dttliadau yn un hollol deg. Nid oes degwch mewn gwrthod ei help i bobl hen na feddant geiniog goch, tra yn estyn ei breintiau i rai feddant 900p. wrth eu henwau! O'r ochr arall y mae lie i ofni y gwnai eangiad cylch gweithrediad y ddeddf, heb y gyfundrefn gyf- ranol, gynyrchu baicn anioddefol ar ysgwyddau trethdalwyr. Yn un o drefi sir Benfro triga cyfreithiwr o'r enVv Jones-Lloyd. Pan dderbyniodd hen wraig yn y dref hono ei choron gyntaf o'r Blwydd-dal, gymaint oedd ei llav/enydd nes y gwaeddodd a'i holl nerth "God bless Jones-Lloyd"! Tebyg mai Lloyd George feddyliafr hen wraig! Yr oedd y diweddar Barch. John Roberts, o Ebenezer, Caerdydd, yn wr gonest iawn. Atewn cwrdd eglwys un tro, llefarai aelod cwerylgar hyd at flinder pawb, yn ogystal a' gweinidog. O'r diwedd pallodd amynedd Mr. Roberts, a ohan droi at yr hirwyntog ele a ddywedodd: "Mr. yr ydych wedi siarad gwerth chwech er's meityn." Chwe' cheiniog yn unig oedd ar gyfer enw y dyn yn adroddiad blynydd- ol yr eglwya. Gwelaf fod y Parch. J. Arthur Evans, diwedd- ar ficer Llanhowell, wedi graddio yn B.D., ac mai efe oedd llywydd liisteddtod Cymry bir- mingham ar yr 2il o'r mis hwn. Y mae efe ar hyn o bryd yn rheithor Newton Regis, ger Tam- worth. Cafwyd eisteddfod dra llwyddianus, ac araeth ardderchog gan Mr. Evans yn' cymhell ei gydwladwyr yn y ddinas i lynu'n dyn wrth yr hen iaith. Wele englyn Pedrog i'r llywydd: Llyw nerthol llawn yw Arthur-Cymro o ddysg, Mawr ei ddawn a'i lafur; Drwy'i iaith byw hyglyw eglur, Mae y pwnc yn emai, pur. -W&- Yr oedd dau ymwelydd o Sais yn difyru eu hunain ar draul bugail Cymreig yn y Gogledd. "Tybed, mi ellwch weled yn o bell o'r mynydd hwn ?" ebe un o honynt. "Yess, I can see fery far." A welsoch chwi erioed gyn belled a Lhmdain ?" "Do, mi welais yn mhellach na Llundain." "Mi fetiaf goron na wnaethoch." "Fery well; I will bet." "Well, how far have you seen?" "Mi welais mor belled a'r lleuad neithiwr." Rhe4thor balch yn derbyn ymgeisydd ieuane am guradiaeth. "Wel, fachgen, yr hen 'stori eto: ffwl y teulu ym myn'd yn offeiriad?" "Xage'n wir, Mr. mae'r rhod wedi fcroi oddiar eich hamser chwi!"

CONGL Y BEIRDD.

THE CHARLESWORTH MOTOR--I…

[No title]

Advertising

NEW SCHOOL FOR LLANWNDA.

STORM IN FISH GUARD BAY.

[No title]

Advertising

- HAVERFORDWSST IONS

THE VALUE OF REST.

Advertising